Casgliad o adnoddau e-ddysgu Chwaraeon wedi'u teilwra ar gyfer dysgwyr ar Lefel 2. Ceir gwybodaeth ymarferol am sut i gynllunio a rhedeg sesiwn, y gwahanol swyddi a chyfrifoldebau yn y byd chwaraeon, cyngor defnyddiol a chip ar fywyd bob dydd amrywiaeth o bobl broffesiynol yn y maes. Mae'r adnodd wedi'i rannu yn dair uned: Cynllunio a Chyflawni Sesiwn Chwaraeon Rolau a chyfrifoldebau Staff Chwaraeon a Hamdden Gweithio yn y Diwydiant Chwaraeon
Pecyn Prentis
Siop un stop ar gyfer cyflogwyr i gefnogi prentisiaid dwyieithog a’r Gymraeg. Mae Pecyn Prentis yn adnodd digidol cynhwysfawr wedi’i lunio er mwyn helpu cyflogwyr i recriwtio, datblygu a chefnogi prentisiaid sy’n defnyddio’r Gymraeg. Yma, cewch gyfuniad gwerthfawr o wybodaeth gyfredol, cyngor arbenigol ac adnoddau ymarferol sy’n addas ar gyfer pob cam o’r daith brentisiaeth. O ddarparwyr prentisiaethau i gymorth gyda’r iaith Gymraeg a chyngor gyrfa, mae’r adnodd yn cwmpasu’r cyfan. Mae'n cynnwys astudiaethau achos ysbrydoledig, clipiau fideo bywiog a storïau o lwyddiant gan brentisiaid cyfredol neu sydd newydd gymhwyso, yn ogystal â chan eu cyflogwyr. Boed yn gyflogwr newydd i fyd prentisiaethau neu’n sefydliad profiadol, mae Pecyn Prentis yn cynnig gwir fewnwelediad go-iawn, enghreifftiau o arfer dda, a chefnogaeth benodol er mwyn galluogi pob prentis i ffynnu mewn amgylchedd dwyieithog.
Cyflwyniad i yrfa mewn Therapi Iaith a Lleferydd
Bwriad yr adnodd hwn yw: Rhoi gwybodaeth i fyfyrwyr am broffesiwn Therapi Iaith a Lleferydd Egluro beth yw cyfathrebu a phwysigrwydd y proffesiwn wrth gefnogi unigolion gydag anghenion cyfathrebu Rhoi blas ar seminar lefel blwyddyn gyntaf yn y brifysgol Mae’r adnodd hwn wedi ei ddatblygu ar y cyd gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd a Phrifysgol Wrecsam gyda chefnogaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Cydweithio trwy’r Gymraeg: Aseswyr a Chyflogwyr
Mae’r recordiad hwn yn cynnwys trafodaeth banel fywiog sy’n canolbwyntio ar rôl aseswyr wrth weithio gyda chyflogwyr a phrentisiaid i amlygu gwerth y Gymraeg fel sgil allweddol yn y gweithle. Berni Tyler - Cyfarwyddwr Consortiwm B-wbl (Cadeirydd) Dafydd Bowen - Cyfarwyddwr Pobl a Llefydd, Mentera Gwyn-Arfon Williams – Aseswr yn y gwaith, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Grŵp Llandrillo Menai Rhian Williams – Aseswr, Sgil Cymru Sue Jeffries – Rheolwr Gyfarwyddwr, Sgil Cymru Angharad Elfyn – Prentis, Sgil Cymru Helen Davies – Swyddog Addysg Bellach a Phrentisiaethau, Coleg Cymraeg Uchafbwyntiau’r Gweminar: - Lansiad swyddogol yr adnodd ‘Pecyn Prentis’, gyda chyfranwyr o’r adnodd yn rhannu eu profiadau uniongyrchol. - Trafodaeth rhwng aseswyr a chyflogwyr ar sut gall y pecyn gefnogi eu gwaith o ddydd i ddydd. - Arferion da yn cael eu rhannu ar sut i argyhoeddi prentisiaid a chyflogwyr o fanteision defnyddio’r Gymraeg. - Sgwrs agored ar sut i gynyddu hyder aseswyr yn y Gymraeg, gan rannu heriau, llwyddiannau ac enghreifftiau ysbrydoledig. Cynhaliwyd y sesiwn ar y 18fed o Fehefin 2025.
Matiau Iaith
Dyma gasgliad o fatiau iaith sy’n gallu eu defnyddio gan athrawon profiadol, athrawon newydd gymhwyso, a myfyrwyr TAR i ddatblygu geirfa ac iaith disgyblion o fewn pynciau uwchradd. Bwriad y matiau iaith yw codi hyder a chynyddu capasiti unigolion i ddefnyddio’r Gymraeg yn hyderus wrth addysgu eu pwnc yn yr ysgol uwchradd. Mae matiau wedi eu datblygu ar gyfer y pynciau canlynol: Cymraeg Ail Iaith Ieithoedd: Ffrangeg Bioleg Cemeg Ffiseg Technoleg Digidol Dylunio a Thechnoleg
Fideos Rhannu Arfer Dda – Cynllun Mentora TAR AHO
Wyt ti’n astudio cwrs TAR AHO (Tystysgrif Addysg i Raddedigion, Addysg a Hyfforddiant Ol-orfodol) ar hyn o bryd, yn siarad Cymraeg, ac yn awyddus i ddefnyddio’r Gymraeg yn dy yrfa? Mae’r fideos hyn i ti! Mae’r gyfres yn cynnwys chwe fideo gan staff sy’n addysgu’n ddwyieithog yn y sector addysg bellach a phrentisiaethau, ac sydd wedi cwblhau’r TAR AHO yn ddiweddar. Mae’n gyfle i chi glywed am eu profiadau ac i gael tips ac arferion da wrth i chi gychwyn eich gyrfa yn y sector.
Dysgwrdd TAR AHO
Wyt ti'n astudio'r cwrs TAR AHO? (Tystysgrif Addysg i Raddedigion, Addysg a Hyfforddiant Ol-orfodol). Yn siarad Cymraeg, neu eisiau cynyddu dy hyder wrth ddefnyddio'r Gymraeg? Dalia i fyny gyda'r sesiwn yma! Ymunodd Sgiliaith â ni i roi cyngor ar sut i annog a chefnogi myfyrwyr i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg, ac amlygodd aelod profiadol o staff sydd bellach yn addysgu’n ddwyieithog yn y sector rai adnoddau defnyddiol. Cynhaliwyd y sesiwn hon ar 29 Ionawr 2025.
Rhannu arferion da ar gyfer rheolwyr canol
Sgwrs banel: Rhannu arferion da ar gyfer rheolwyr canol (addysg bellach a phrentisiaethau) Recordiad o drafodaeth banel gyda phedwar rheolwr maes cwricwlwm Addysg Bellach wrth iddynt drafod eu hymagwedd at gynyddu’r ddarpariaeth ddwyieithog / Gymraeg o fewn eu hadrannau. Maent yn trafod eu harferion da yn ogystal â sut maent wedi goresgyn heriau: Yusuf Ibrahim, Pennaeth Cynorthwyol – Addysg Uwch, Astudiaethau Academaidd, Dysgu Sylfaenol ac Oedolion - Coleg Caerdydd a'r Fro (Cadeirio) Lucy Breckon, Rheolwr Dysgu Seiliedig ar Waith (Iechyd, Gofal a Mentrau Masnachol) – Coleg Sir Benfro Rhian Pardoe, Rheolwr Maes Dysgu Iechyd a Gofal – Coleg Gwyr Abertawe Amy Thomson, Rheolwr Maes Rhaglen Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus – Grŵp Llandrillo Menai Rachel Lewis, Rheolwr Cwricwlwm Adeiladwaith – Coleg Pen y Bont Cynhaliwyd y digwyddiad yn ar y 5ed o Chwefror 2025.
Cynhyrchu Cig
Gwefan cynhyrchu cig oen a chig eidion ar gyfer dysgwyr sy’n astudio cymwysterau Amaethyddiaeth Lefelau 2 a 3. Yma, cewch ddysgu am wahanol agweddau o’r diwydiant cynhyrchu cig, o faterion rheoli cyllid a busnes i fridiau addas a systemau gwahanol. Ewch ati i bori! Mae'r wefan yn cynnwys saith uned ar gynhyrchu cig eidion: Trosolwg o Ddiwydiant Cig Eidion y DU Bridiau Gwartheg Cig Eidion System Buchod Sugno a Ffynonellau Gwartheg Stôr Cyflwyniad i Systemau Pesgi Gwartheg Cig Eidion Rheoli Ffrwythlondeb Buches a Buchod Cyfnewid Iechyd a Lles Gwartheg Cig Eidion Ystyriaethau Busnes Wrth Ffermio Cig Eidion a saith uned cynhyrchu cig oen: Trosolwg o Ddiwydiant Cig Oen y DU Bridiau a’r System Haenedig Dysgu am Ddefaid Blwyddyn y Bugail Y Farchnad Ŵyn Prif Dasgau Hwsmonaeth Defaid Ystyriaethau Busnes Wrth Ffermio Defaid
Gweithdai Adolygu Cymdeithaseg
Dau weithdy ar-lein ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio Lefel A neu arholiadau Lefel 2 neu 3 mewn Cymdeithaseg. Mae'r Gweithdy gyntaf ar thema 'Sgiliau Ymchwil' a'r ail weithdy ar thema 'Anghyfartaledd'. Arweinir y Gweithdai gan ddarlithwyr o brifysgolion Bangor a Chaerdydd.
Unedau Diwydiannau Creadigol
Mae'r casgliad hwn yn cynnwys chwech pecyn e-ddysgu ar y meysydd canlynol: Busnes o fewn y Diwydiannau Creadigol Celf a Dylunio o fewn y Diwydiannau Creadigol Cyfathrebu ac ymchwil ym maes y Cyfryngau Creadigol Archwilio’r Celfyddydau Perfformio ac Ymarfer Proffesiynol Llwybrau Gyrfa a chyfleoedd o fewn y Diwydiannau Creadigol yng Nghymru Y diwydiant cerddoriaeth ac ymarfer proffesiynol Mae'r pecynnau yn addas ar gyfer dysgwyr sy'n astudio'r cymwysterau perthnasol ar lefelau 2 a 3 mewn colegau addysg bellach.
BLC Unedau Chwaraeon Lefel 3 (B)
25 o sesiynau dysgu cyfunol ychwanegol ar gyfer dysgwyr sy’n astudio cwrs Chwaraeon (lefel 3). Mae modd gweld y sesiynau yn eich porwr drwy ddilyn y dolenni isod. Mae hefyd modd i golegau lawrlwytho'r cynnwys er mwyn eu gosod o fewn eu llwyfannau dysgu lleol. Mae ffeil zip yma yn cynnwys y ffeiliau SCORM ar gyfer yr holl unedau. Mae cynnwys y sesiynau hyn yn ddwyieithog, ond dim ond yn Gymraeg mae modd ateb y cwestiynau. Hawlfraint Heart of Worcestershire College ar ran The Blended Learning Consortium a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae’r adnoddau hyn i gael eu defnyddio mewn sefydliadau addysgiadol yn unig ac ni ddylid eu haddasu na’u hailwerthu.
