Adnodd ar-lein yw Llesiant Ymchwilydd Cymru (RWC) a gynlluniwyd i alluogi ymchwilwyr doethurol i feithrin ymdeimlad o lesiant iach. Gall eich helpu i lywio eich taith ddoethurol, dod yn fwy gwydn a nodi ffyrdd buddiol o weithio. Gallwch ddisgwyl enghreifftiau a adnoddau am weithio gyda’ch goruchwylwyr, rheoli’ch amser, a chadw’ch cymhelliant. Bu ymchwilwyr doethurol o brifysgolion ar draws Cymru yn ymwneud â chreu adnoddau. Datblygwyd yr adnodd hwn gan academyddion a staff gwasanaethau proffesiynol sy’n ymwneud ag addysg ddoethurol ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd a Phrifysgol Aberystwyth mewn cydweithrediad gyda phrifysgolion eraill Cymru.
Llesiant Ymchwilydd Cymru
PodCon 2025 Y Myfyrwyr
Recordiadau o'r gynhadledd bodlediadau gyntaf i fyfyrwyr yng Nghymru a gynhaliwyd gan Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Abertawe, gyda chefnogaeth Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Cynhaliwyd cyfres o weithdai, paneli a sesiynau hyfforddi gan arbenigwyr o fewn y byd podlediadau yng Nghymru yn cynnwys: Aled Jones 'Y Pod' Mel Owen Elin a Celyn (Paid Ymddiheuro) Rhannodd y cyflwynwyr a chyfranwyr o'r diwydiant cyfryngau straeon a chyngor gyda'r myfyrwyr. Gwyliwch yr uchafbwyntiau islaw.
TestunRhydd
Mae TestunRhydd yn eich helpu i ddadansoddi a delweddu data testun rhydd yn Gymraeg a Saesneg, megis data o arolygon a holiaduron. Mae TestunRhydd yn eich galluogi i gynnal hyd at chwe math gwahanol o ddadansoddi data testunol ar gyfer pob ffeil. Nid oes angen i chi allu codio nac i ddysgu sut i greu graffiau, chwaith - mae TestunRhydd yn gwneud y gwaith caled ar eich cyfer! Datblygwyd yr adnodd hwn fel rhan o brosiect ymchwil ar y cyd rhwng cydweithwyr o Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Caerhirfryn
Fideos Rhannu Arfer Dda – Cynllun Mentora TAR AHO
Wyt ti’n astudio cwrs TAR AHO (Tystysgrif Addysg i Raddedigion, Addysg a Hyfforddiant Ol-orfodol) ar hyn o bryd, yn siarad Cymraeg, ac yn awyddus i ddefnyddio’r Gymraeg yn dy yrfa? Mae’r fideos hyn i ti! Mae’r gyfres yn cynnwys chwe fideo gan staff sy’n addysgu’n ddwyieithog yn y sector addysg bellach a phrentisiaethau, ac sydd wedi cwblhau’r TAR AHO yn ddiweddar. Mae’n gyfle i chi glywed am eu profiadau ac i gael tips ac arferion da wrth i chi gychwyn eich gyrfa yn y sector.
Dulliau Ymchwil ac Ystadegau
E-werslyfr am gynllunio a gwneud ymchwil meintiol yw hwn. Mae'n gyflwyniad cyflawn a manwl i'r broses o gynllunio ymchwil, casglu data a dadansoddi ystadegau. Wedi'i anelu'n bennaf at israddedigion sy'n astudio Seicoleg, mae'r e-werslyfr yn mynd law yn llaw â modiwlau dulliau ymchwil a'r traethawd hir. Mae hefyd yn adnodd defnyddiol i israddedigion ac ôlraddedigion sy'n astudio dulliau ymchwil ac yn cynnal ymchwil meintiol mewn ystod eang o bynciau eraill. Yr awduron yw Dr Awel Vaughan-Evans, Dr Gwennant Evans-Jones ac Emma Hughes-Parry. Ymysg y pynciau a drafodir mae: Moeseg Cynllunio ymchwil meintiol Samplu, dilysrwydd a dibynadwyedd Cyflwyniad i ystadegau Dosraniadau a thebygolrwydd Ystadegau casgliadol Cydberthyniad Atchweliad llinol Y prawf t Dadansoddi atchweliad SPSS Dadansoddi cyfrannau a'r prawf chi sgwar Profion amharametrig amgen
Llond Ceg - Bwyd Cymreig Cynaliadwy
Mae Llond Ceg yn cynnig adnodd hyblyg a hygyrch i unrhyw un sy'n dymuno deall a dysgu mwy am gynaliadwyedd. Mae’r wefan wedi ei chreu er mwyn cael ei defnyddio mewn ffordd hyblyg ar gyfer cychwyn sgyrsiau am fwyd Cymreig, am drefniant presennol y system fwyd, am wastraff bwyd ac yn fwyaf pwysig am sut mae nifer fawr o ffermwyr Cymru yn ceisio cynhyrchu bwyd drwy ddulliau cynaliadwy. Mae'r cynnwys yn cyflwyno a thrafod 10 rheswm pam fod bwyd lleol Cymreig yn fwy cynaliadwy o’i gymharu â bwyd a gynhyrchir dramor. Ceir hefyd cyfres o 3 podlediad sy'n cyflwyno gwahanol agweddau o'r gadwyn fwyd Cymreig. Mae'r adnodd yn addas ar gyfer y cyhoedd, grwpiau BACC ôl 16 a dysgwyr lefel gradd.
Cerddi cwsg y Ficer Rhys Prichard
Mae’r erthygl hon yn archwilio’r ystyriaethau ynghylch cwsg mewn llenyddiaeth Gymraeg gan ddadansoddi cerddi poblogaidd y Ficer Rhys Prichard (1579–1644). Dadansoddir ystyriaethau crefyddol a diwylliannol ynghylch cwsg fel y’u ceir yng ngherddi’r Ficer. Manylir ar brif nodweddion cerddi cwsg y Ficer a chawn gipolwg ar sut roedd rhai pobl yn cysgu, neu sut yr oedd y Ficer yn credu neu’n dymuno eu bod yn cysgu. O ganlyniad, dengys yr erthygl hon bwysigrwydd cwsg yn y cyfnod a bod pobl yn ei gymryd o ddifri. Wrth wneud hyn, pwysleisir y dylid cofio mai pobl go iawn, o gig a gwaed, a astudir, ac er eu bod yn bodoli mewn testunau yn unig o’n safbwynt ni, dylid eu trin fel bodau dynol a oedd, yng nghyd-destun yr erthygl hon, yn cysgu. Awdur: Dewi Alter
Heb ei fai, heb ei eni: ‘Disgwrs’ a Moeseg y Wladfa
Nodweddir y drafodaeth gyhoeddus ar-lein ddiweddar ynghylch y Wladfa gan duedd i gollfarnu’r gwladfawyr Cymreig ar sail foesol. Â’r erthygl hon i’r afael â’r tueddiad hwn gan bwyso a mesur sut, ac i ba raddau, y mae modd inni osod y Wladfa a’i phobl yn y fantol foesol. Rhoddir sylw manwl i ymdriniaethau Geraldine Lublin a Lucy Taylor â’r hanes, fel enghreifftiau o ddadansoddi ystyrlon, amlhaenog sy’n llwyddo i gyfleu cymhlethdod a drysni’r sefyllfa. Wedi cynnig y braslun hwn, cymhwysir fframwaith moesegol Iris Marion Young i’r hanes, er mwyn amlygu ystyriaethau moesegol allweddol, sy’n dilyn ymgais Catherine Lu i gymhwyso’r un model ‘cysylltiadau cymdeithasol’ i hanes trefedigaethol Siapan. Cynigir rhai casgliadau cychwynnol ynghylch yr hyn a amlygir. Awdur: Huw L. Williams
Cefnogi iechyd meddwl a lles ymchwilwyr ôl-raddedig
Canllaw i oruchwylwyr doethuriaethau ar sut i gefnogi iechyd meddwl a lles eich myfyrwyr ymchwil. Mae'r canllaw yn cynnwys yr heriau y gallai ymchwilwyr eu hwynebu yn ystod pob cam o'u doethuriaeth, a datrysiadau posib. Cyfieithwyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol mewn cydweithrediad â UKCGE.
Coel Gwrach
Ni fu erlid gwrachod yng Nghymru. Nifer syfrdanol fychan o ‘wrachod’ a gafodd eu canfod yn euog a’u crogi yng Nghymru. Dim ond pump, o’i gymharu â mwy na 200,000 o fenywod a’u crogwyd neu eu llosgi yng ngorllewin Ewrop ar ôl cael eu cyhuddo o ‘witchcraft’ rhwng 1484 a 1750. Mae sawl ‘coel gwrach’ neu ofergoel am wrachod lle mae’r profiad Cymreig yn cael ei gyfuno ar gam neu ei ddrysu gan lên a hanes Saesneg neu Brydeinig. Ymgais yw prosiect Coel Gwrach i sicrhau fod Gwen, Rhydderch, Lowri, Agnes a Margaret yn cael eu lle mewn hanes drwy gyfrwng y Gymraeg, eu hiaith hwythau yn hytrach nag iaith y llys, ond hefyd bod eu straeon yn cael ail-gyfle i’w clywed mewn cymdeithas.
Gosod nodau ac amcanion ar gyfer ymchwilwyr
Cyflwyniad gan Dr Hanna Hopwood i fyfyrwyr ôl-radd i rannu cyngor ar sut i wneud y gorau o dy amser a dy egni wrth ymchwilio. Mae Dr Hanna Hopwood yn ddarlithydd yn Adran Ieithyddiaeth, Prifysgol Rhydychen. Mae hi hefyd yn rheolydd prosiectau ac ar fin cwblhau'r ILM Lefel 7 mewn coetsio a mentora gweithredol. At hyn, mae hi wedi dilyn sawl cwrs ar Therapi Tosturi (Compassion Focused Therapy) ac yn plethu'r modelau o'r ddysgeidiaeth honno ar bob cyfle posib i'w gwaith bob dydd. Mae’r cyflwyniad hwn yn dy annog i ystyried: Pa fath o ddysgwr wyt ti? Beth sydd yn mynd i dy helpu yn bersonol wrth osod dy nodau ac amcanion ymchwilio? Pa fath o awyrgylch a phatrwm astudio sy’n gweithio i ti? Beth sy’n medru helpu gosod arferion da? Sut y galli di strwythuro dy amser yn effeithiol? Pa strategaethau sy’n medru gweithio wrth osod nodau ac amcanion? Sut y galli di wneud y gorau o dy amser a dy egni? I gyd-fynd â’r adnodd hwn, cynhelir gweithdy byw ar-lein Gosod Nodau ac Amcanion ar gyfer Ymchwilwyr gyda Dr Hanna Hopwood ar 20 Mai am 11:00 i fynd yn ddyfnach i’r cwestiynau uchod a chael cyfle i rannu arferion da a chynghorion pellach.
Adolygiad integredig o’r dull ysgol gyfan o gefnogi iechyd a lles emosiynol a meddyliol dysgwyr yng Nghymru
Arweiniodd y dirywiad mewn perthynas â materion sy’n ymwneud ag iechyd meddwl plant a phobl ifanc yng Nghymru (Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Mewn Ysgolion [SHRN] 2023) a diwygiadau diweddar i’r cwricwlwm at gyflwyno canllawiau statudol i hybu dull ysgol gyfan i gefnogi lles emosiynol a meddyliol positif holl randdeiliaid y gymuned ysgol (Llywodraeth Cymru [LlC] 2021). Mae’r ‘Fframwaith ar sefydlu dull ysgol gyfan ar gyfer llesiant emosiynol a meddyliol’ (y Fframwaith) (LlC 2021) yn canolbwyntio ar sefydlu’r gwerthoedd craidd o ‘berthyn’, ‘effeithlonrwydd’ a ‘llais’ ar draws pob agwedd ar ddarpariaeth yr ysgol er mwyn creu cymuned gymdeithasol ac emosiynol gadarnhaol. Bydd yr adolygiad integredig hwn yn archwilio llenyddiaeth sy’n canolbwyntio ar y dulliau ysgol gyfan hyn, ac yn mynd i’r afael â rhai materion sy’n hwyluso ac yn rhwystro gweithredu’r rhain yn llwyddiannus. Dengys y canfyddiadau nad yw nifer o ysgolion wedi ymrwymo’n llawn i’r Fframwaith (LlC 2021) hyd yma, yn enwedig felly o safbwynt y dull ysgol gyfan, felly terfynir yr erthygl trwy gynnig argymhellion ar gyfer y ffordd ymlaen. Awduron: Nanna Ryder, Charlotte Greenway, Siobhan Eleri