Cyfres o ddeg gweithdy ar seicoleg chwaraeon ar gyfer hyfforddwyr. Cafodd y gweithdai eu creu gan Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer Prifysgol Bangor fel rhan o brosiect a ariannwyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Gweithdai Seicoleg Chwaraeon
Torri Newyddion Drwg
Fideo 'Torri Newyddion Drwg' sy'n darparu cymorth i weithwyr iechyd proffesiynol sy'n siarad Cymraeg. Mae sgiliau cyfathrebu yn hanfodol wrth ofalu am bobl fregus. Os ydynt yn siarad Cymraeg fel iaith gyntaf, mae'n hanfodol ein bod yn rhoi offer dysgu i fyfyrwyr a gweithwyr proffesiynol yn y maes iechyd a gofal iddynt allu rhoi newyddion drwg yn iaith frodorol y person.O ganlyniad, llwyddodd Janine Wyn Davies i ennill grant ariannol er mwyn datblygu ffilm yma. Mae'r ffilm yn seiliedig ar fam yn cael gwybod iddi ddioddef 'erthyliad coll', oedd yn golygu nad oedd ei beichiogrwydd yn hyfyw mwyach.Mae'r rhan fwyaf o'r actorion yn y ffilm yn aelodau staff Prifysgol De Cymru.
Gwenallt: Bardd Crefyddol – J. E. Meredith
Darlith a draddodwyd yn wreiddiol ym Mhrifysgol Caerdydd yn Mehefin 1970 gan J. E. Meredith yn ystyried dylanwad Cristnogaeth yng ngherddi Gwenallt. Mae ysgrif nodedig Gwenallt, Credaf, o'r gyfrol o'r un enw wedi ei hailgyhoeddi yma hefyd.
Rhaglen Ffau'r Ddraig Aberystwyth
Cystadleuaeth i ddisgyblion busnes blwyddyn 12 ac 13, gan ddilyn fformat y rhaglen deledu boblogaidd Dragons’ Den. Bydd angen mewngofnodi i weld yr adnoddau yma.
Blodeugerdd Barddas o Ganu Caeth y G18 – A. Cynfael Lake (gol.)
Blodeugerdd yng nghyfres Cerddi'r Canrifoedd, Barddas, yn casglu ynghyd am y tro cyntaf weithiau enwogion fel Lewis Morris, Ieuan Fardd a Goronwy Owen. Nid yw llawer o'r cerddi sydd yn y casgliad wedi gweld golau dydd er pan gyhoeddwyd Diddanwch Teuluaidd yn 1763 gan Hugh Jones o Langwm.
Craig Owen Jones, 'Papurau bro cynnar gogledd Cymru a cherddoriaeth roc Gymraeg' (2016)
Ers dyfodiad y papurau bro yn y 1970au, mae cannoedd o erthyglau ar gerddoriaeth roc wedi ymddangos yn eu tudalennau, yn rhoi cyhoeddusrwydd i fandiau roc lleol, gigiau, recordiau newydd, ac ati. Fodd bynnag, ni dderbyniodd y rhain unrhyw sylw academaidd. Mae'r erthygl bresennol yn ymdrin â natur a dylanwad y casgliad di-sôn-amdano hwn o ffynonellau, yn awgrymu bod y deunydd hwn yn taflu golau ar weithgareddau yn y byd cerddorol ar lefel rhanbarthol a lleol, a hefyd bod cywair yr ysgrifau yn datgelu rhywbeth am agenda'r cyfranwyr. Dangosir bod pwyslais ar gyfiawnhau nid bodolaeth ond gwerth diwylliannol cerddoriaeth roc Gymraeg ar ran y genhedlaeth hÅ·n yn dylanwadu ar ymatebion ysgrifenwyr ifainc a chefnogwyr y byd pop i'r perwyl hwnnw. Craig Owen Jones, 'Papurau bro cynnar gogledd Cymru a cherddoriaeth roc Gymraeg', Gwerddon, 22, Hydref 2016, 11–30.
Geiriadur Prifysgol Cymru
Mae ap Geiriadur Prifysgol Cymru yn cynnwys holl ddata Geiriadur Prifysgol Cymru, geiriadur Cymraeg cynhwysfawr tebyg i’r Oxford English Dictionary. Yn wahanol i GPC Ar Lein (http://gpc.cymru), mae modd lawrlwytho holl gynnwys y Geiriadur i’ch dyfais fel nad oes angen cysylltiad â’r Rhyngrwyd i’w ddefnyddio. Diffinnir pob gair yn Gymraeg gyda chyfystyron Saesneg ac enghreifftiau o’i ddefnydd o bob cyfnod ynghyd â tharddiad (etymoleg) i bob gair. Rhoddir gwybodaeth ramadegol fel cenedl a ffurfiau lluosog enwau.
Prosiect Ymchwil Llyngyr
Nod y prosiect hwn oedd deall gwasgariad y parasit llyngyr y rwmen yng Nghymru. Gweithiodd gwyddonwyr o IBERS, Prifysgol Aberystwyth, gydag aelodau CFfI ar draws Cymru i ddarganfod ym mha ffermydd yr oedd llyngyr y rwmen yn bresennol.
Iwan Wyn Rees, '"Dim Sôn am Dduw na Dyn": Ar drywydd yr 'U Ogleddol' yng nghanolbarth Cymru' (2016)
Y mae'r llafariaid caeedig canol, neu'r 'u ogleddol' fel y'u gelwir yn aml, yn nodweddiadol o amrywiadau gogleddol ar y Gymraeg. Yn gyffredinol yng ngogledd Cymru, felly, ceir cyferbyniad rhwng parau o eiriau megis 'sur' / 'sir'. Yn y de ar y llaw arall, collir y cyferbyniad hwn, ac yno y mae'r parau hyn o eiriau yn homoffonau wrth iddynt gael eu hynganu ag 'i ddeheuol' yn gyson. Prif amcan yr astudiaeth hon, felly, yw cynnig dadansoddiad meintiol am y tro cyntaf o'r modd y collir y cyferbyniad rhwng 'u ogleddol' ac 'i ddeheuol' mewn rhannau o ganolbarth Cymru. Dangosir gan hynny fod strwythur cymhleth i amrywiadau un 'ardal drawsnewid' benodol, sef Bro Dysynni, a bod defnydd siaradwyr yr ardal hon o'r 'u ogleddol' wedi ei gyflyru gan sawl ffactor ieithyddol gwahanol. Yn olaf, cynigir yma ddamcaniaeth newydd, sef bod ymgyfnewid rhwng 'u ogleddol' ac 'i ddeheuol' yn gysylltiedig ag amrywiaeth yn hyd deuseiniaid, a thrafodir goblygiadau hyn. Iwan Wyn Rees, '“Dim Sôn am Dduw na Dyn”: Ar drywydd yr “U Ogleddol” yng nghanolbarth Cymru', Gwerddon, 22, Hydref 2016, 47–74. Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn
Darlith Flynyddol 2016: Y Gymraeg, y Wenhwyseg ac Addysg yn y De-ddwyrain
Darlith Flynyddol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol 2016: Y Gymraeg, y Wenhwyseg ac Addysg Gymraeg yn y De-ddwyrain gan Dylan Foster Evans. Traddodwyd y ddarlith yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a'r Cyffiniau ar ddydd Mawrth 2 Awst 2016.
Y Meddwl Modern: Lenin – W. J. Rees
Lenin oedd y gwleidydd cyntaf mewn unrhyw wlad i greu chwyldro ar sail egwyddorion Karl Marx. Ai llwyddiant ai methiant fu'r hyn a gyflawnodd ef rhwng 1917 a'i farw ym 1924? Cyn y gellir gosod llinyn mesur ar yr hyn a wnaeth, y mae angen deall yr amgylchiadau y digwyddodd y Chwyldro Comiwnyddol ynddynt, amgylchiadau a oedd yn bur wahanol i'r rhai lle disgwyliasai Marx weld gweithredu ei syniadau. Disgrifir yn y gyfrol hon gyflwr pethau yn Rwsia cyn y Chwyldro, gan amlinellu'n gryno ddatblygiad y gymdeithas a'i sefydliadau. Eir ymlaen i roi braslun o yrfa gyffrous Lenin ac olrheinir rhediad ei syniadau wrth iddo ymlafnio i droi dadansoddiad Marx yn rhaglen o weithredu ymarferol.
Dulliau Ymchwil ar gyfer Myfyrwyr Busnes, Rheolwyr ac Entrepreneuriaid
Cyhoeddwyd Dulliau Ymchwil ar gyfer Myfyrwyr Busnes, Rheolwyr ac Entrepreneuriaid gan Brifysgol De Cymru ac mae'n llyfr rhyngweithiol, aml-gyfrwng sy'n sail ar gyfer ymchwil academaidd ac ar gyfer defnydd ymarferol mewn amgylchedd busnes. I fanteisio'n llawn ar holl nodweddion rhyngweithiol y llyfr, dylid ei lawrlwytho o safle iBooks Store