Adnodd i ddysgwyr Cyfnod Allweddol 3 ddarganfod mwy am yrfa yn y sector gofal cymdeithasol (blynyddoedd cynnar). Bydd dysgwyr yn gallu gwylio gweminar ac yn cwblhau llyfr gwaith
Gyrfa Cymru: Gweminar a llyfr gwaith Gofal Cymdeithasol (Blynyddoedd Cynnar)
Gyrfa Cymru: Gweminar a llyfr gwaith Gyrfaoedd Gofal Iechyd
Adnodd i ddysgwyr Cyfnod Allweddol 3 ddarganfod mwy am yrfa yn y sector iechyd. Bydd dysgwyr yn gallu gwylio gweminar ac yn cwblhau llyfr gwaith.
Cynhadledd Seicoleg Ar-lein
Cynhadledd a gynhaliwyd ar 28 Ebrill 2021 ar gyfer myfyrwyr Seicoleg israddedig ac ôl-raddedig a phynciau cysylltiedig megis iechyd ac addysg. Croesawyd dysgwyr 17-18 oed yn y Gynhadledd.
Roedd cyflwyniadau'r bore yn dilyn themâu:
- Iechyd a Lles;
- Iaith, Datblygiad, ac Addysg
- Sylfeini Seicolegol Darllen, Dr Manon Jones, Prifysgol Bangor
- Ffactorau sy’n effeithio ar gaffael cyflawn o systemau gramadegol y Gymraeg, Dr Hanna Binks, Prifysgol Aberystwyth
- Iechyd meddwl rhieni sydd â phlentyn awtistig, Dr Ceri Ellis, Prifysgol Manceinion
- Dwyieithrwydd ac Anableddau Datblygiadol, Dr Rebecca Ward, Prifysgol Bangor
- Defnyddio technoleg i gefnogi iechyd a lles cleifion gwledig, Dr Rachel Rahman, Prifysgol Aberystwyth
Yn y prynhawn, roedd Panel Gyrfaoedd gyda phobl yn cynrychioli’r gyrfaoedd canlynol:
- Seicolegydd Addysg
- Seicolegydd Clinigol
- Seicolegydd Dadansoddi Ymddygiad Cymhwysol
- Therapydd Iaith a Lleferydd
- Darlithydd Addysg Uwch
Roedd hefyd cyfle i ofyn cwestiynau.
Adnoddau Dysgu ar wefan Gofal Cymdeithasol Cymru
Isod ceir ddolen i'r adran adnoddau ar wefan Gofal Cymdeithasol Cymru. Mae'r adnoddau yma'n berthnasol ar gyfer addysgwyr a dysgwyr yn y meysydd Iechyd a Gofal Plant.
Yn ogystal, mae dolen i ddogfen sy'n nodi'r adnoddau ar wefan Gofal Cymdeithasol Cymru sy’n berthnasol ar gyfer unedau penodol o fewn y cyrsiau Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant Lefel 2 a 3.
Mathau o gyfathrebu yn y sector iechyd a gofal
Adnodd sy’n uwcholeuo mathau o gyfathrebu ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol yw hwn. Mae’r adnodd yn berthnasol i fyfyrwyr sy’n astudio cyrsiau lefel 3 yn y maes megis Egwyddorion a Chyd-Destunau neu Safon Uwch.
Oherwydd ei fod yn bwnc cyffredin, gall y wybodaeth yma fod yn ddefnyddiol i unrhyw fyfyriwr sy’n astudio yn y maes iechyd e.e. Therapi Galwedigaethol, Ffisiotherapi neu yn gweithio ym maes gofal cymdeithasol yn y gymuned.
Addaswyd yr adnodd hwn gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Diolch i Grŵp Llandrillo Menai am rannu’r cynnwys gwreiddiol.
Cyfathrebu (Egwyddorion a Chyd-destunau Lefel 3)
Adnodd i annog a chefnogi cyfathrebu effeithiol ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol yw hwn. Mae’r adnodd yn addas ar gyfer myfyrwyr sy’n astudio cysriau lefel 3 megis Egwyddorion a Chyd-destunau (Lefel 3).
Oherwydd ei fod yn bwnc cyffredin, gall y wybodaeth yma for yn ddefnyddiol i unrhyw fyfyriwr sy’n astudio yn y maes iechyd, e.e. Therapi Galwedigaethol, Ffisiotherapi neu yn gweithio ym maes gofal cymdeithasol yn y gymuned.
Addaswyd yr adnodd hwn gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Diolch i Grŵp Llandrillo Menai am rannu’r cynnwys gwreiddiol.
Symudiad i mewn ac allan o gelloedd
Cafodd yr adnodd ei greu ar gyfer myfyrwyr Gwyddorau Meddygol Lefel 3 ond mae’r wybodaeth yn berthnasol i unrhyw fyfyriwr sy’n astudio bioleg ar lefel 3 megis Iechyd a Gofal neu Safon Uwch. Mae’n canolbwyntio ar rannau’r gelliben a sut mae elfennau yn symud i mewn ac allan o gelloedd. O fewn y cyflwyniad mae gweithgareddau i wirio eich dysgu.
Addaswyd yr adnodd gan Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Diolch i Goleg Sir Gâr am rannu'r cynnwys gwreiddiol.
Maeth mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol​
Adnodd yw hwn sy'n cyflwyno cydrannau diet cytbwys. Mae wedi ei anelu at staff a dysgwyr ar gyrsiau Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae'r adnodd dwyieithog hwn yn cyflwyno gwybodaeth ac yn rhoi cyfle i ddefnyddwyr i wirio dysgu wrth weithio drwy'r cynnwys. Mae'n trafod y rôl mae gwahanol faetholion yn eu chwarae mewn diet. Mae hefyd yn ymdrin â'r Gyfradd Fetabolig Waelodol, Mynegai Màs y Corff ac yn helpu'r dysgwr i greu cynllun maeth ar gyfer unigolion.
Addaswyd yr adnodd hwn gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Diolch i Goleg Sir Benfro am rannu’r cynnwys gwreiddiol.
Adnoddau Dysgu CBAC ar wefan Dysgu Iechyd a Gofal Cymru
Mae'r adnoddau digidol ar wefan dysguiechydagofal.cymru yn cefnogi dysgu yn y sectorau:
- Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Gofal Plant
O fis Medi 2019 City & Guilds / CBAC fydd unig ddarparwr cyfres newydd o gymwysterau Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant wedi'i hariannu yng Nghymru.
Mae gan gwefan Dysgu a Iechyd Gofal Cymru cyfres o adnoddau digidol rhad ac am ddim i wella’r ffordd mae gwybodaeth yn cael ei gyflwyno sy’n sail i’r cymwysterau, ynghyd â’r canllawiau addysgu/cyflwyno, deunyddiau asesu a chanllawiau myfyrwyr sydd ar gael ar gyfer y rhan fwyaf o’r cymwysterau. Gallant gefnogi dysgu annibynnol drwy ddal sylw dysgwyr a’u cyfeirio at adnoddau eraill a allai fod yn ddefnyddiol iddyn nhw.
Bywyd Newydd: Rhoi Organau (2015)
Bob blwyddyn yng Nghymru mae tua 30 o bobl yn marw wrth aros am drawsblaniad organ, ond mae rheolau newydd wedi dod i rym yma a fydd yn golygu o bosib y daw mwy o organau ar gael. Yn y rhaglen hon cawn gwrdd â'r rhai sydd yn aros am drawsblaniad, y rhai sydd wedi cael, a'r bobl sydd yn gweithio yn y maes yn cefnogi'r rhoddwyr a'r rhai sydd yn derbyn. Cawn wybod yn union sut beth yw byw ar y rhestr aros, a sut beth yw cael trawsblaniad - a'r cyfle am fywyd newydd. Cwmni Da, 2015.
Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Prentis-Iaith Lefel Ymwybyddiaeth
Mae'r cyrsiau byr hyn ar gyfer prentisiaid sydd sydd â rhywfaint neu ddim sgiliau iaith Gymraeg ac sydd am ehangu'u dealltwriaeth o sut y gellir defnyddio'u Cymraeg yn y gweithle. Maent yn galluogi'r prentisiaid i gwblhau rhywfaint o'u cwrs yn y Gymraeg.
SUT I DDEFNYDDIO'R ADNODDAU?
Mae'r pum uned gyntaf yn cyflwyno pwysigrwydd yr iaith Gymraeg fel sgìl ar gyfer y gweithle tra bod cynnwys unedau 6 wedi’i deilwra ar gyfer gwahanol feysydd. Hynny yw felly, bydd pawb yn cwblhau Uned 1-5 Cyffredinol ac yna'n dewis y fersiwn sy'n addas iddyn nhw ar gyfer Uned 6.
Dyma’r pump llwybr galwedigaethol penodol y mae uned 6 wedi’i deilwra ar ei gyfer (os nad ydych yn dilyn un o'r rhain, yna byddwch yn gallu cwblhau Uned 6 Cyffredinol):
- Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Gofal Plant
- Gwasanaethau Cyhoeddus
- Amaethyddiaeth
- Adeiladwaith
PA LEFEL SY'N ADDAS?
Mae Prentis-iaith ar gael ar ddwy lefel:
- Prentis- iaith: Lefel Ymwybyddiaeth (ar gyfer prentisiais sydd ond gyda rhywfaint neu ddim sgiliau iaith Gymraeg)
- Prentis-iaith: Lefel Dealltwiraeth (ar gael ar gyfer prentisiaid sydd eisoes â pheth dealltwriaeth o'r Gymraeg)
Os nad ydych chi’n siŵr pa adnodd sy’n addas ar eich cyfer, defnyddiwch y Cwis Adnabod Lefel
DARPARWYR A CHOLEGAU
Mae'r cyrsiau hyn hefyd ar gael drwy byrth dysgu y prif ddarparwyr prentisiaethau yng Nghymru ac mae modd i ddarparwyr lawr lwytho'r cynnwys fel ffolder zip i fedru gwneud hyn (gweler y ddolen isod).
Mae modd argraffu tystysgrif yn awtomatig ar ôl cwblhau yr unedau unigol ond gellir hefyd lawr-lwytho tystysgrifau i gyd fynd â'r unedau isod.