Mae’r erthygl hon yn archwilio’r rhesymau dros y nifer bychan o ddysgwyr sy’n astudio trwy’r Gymraeg ac yn ddwyieithog yn y sector Addysg Bellach, gan ganolbwyntio ar ddysgwyr galwedigaethol. Cynigia argymhellion i wella’r sefyllfa yng nghyd-destun targed Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Seilir yr ymchwil ar gyfweliadau lled-strwythuredig â staff mewn ysgolion a cholegau Addysg Bellach ac ar grwpiau ffocws â disgyblion Blwyddyn 11, mewn pedair ardal ar draws Cymru. Canfuwyd bod ffactorau economaidd, diwylliannol ac addysgol yn dylanwadu ar ddewisiadau dysgwyr. Dadleuir dros gynnig rhaglen ymwybyddiaeth iaith er mwyn ehangu disgwrs y Gymraeg fel offeryn cyflogadwyedd, a disgwrs manteision dwyieithrwydd i gynnwys manteision cymdeithasol.
Laura Beth Davies, 'Cyflogadwyedd, cyfrifoldeb, cael digon o’r Gymraeg? Dewisiadau ieithyddol dysgwyr Addysg B...
Adnodd Cefnogi Addysg Ôl-16
Mae'r adnodd yn cynnwys adnoddau cynllunio ym ymwneud â gweithredu’r Cynllun Gweithredu Addysg Bellach a Phrentisiaethau Cyfrwng Cymraeg. Mae’r adnoddau yn eich helpu chi i gynllunio ar sail y themâu isod: Cynllunio Strategol Dysgwyr Staff Darpariaeth Adnoddau Dysgu Cymwysterau Cyflogwyr Adnoddau Sgiliaith Cewch hefyd fynediad at galendr, fforymau trafod a system negeseuon. Mae'r deunydd yn byw ar Blackboard y Coleg Cymraeg, ac felly bydd angen creu cyfrif Blackboard arnoch i gael mynediad (dolen isod). Gweler hefyd fideo sy'n disgrifio sut i ddefnyddio'r adnodd isod.
Gwybodaeth am Swyddi
Bwletinau Gwybodaeth am Swyddi gan Gyrfa Cymru ar gyfer dysgwyr ac addysgwyr.
Opsiynau 16 Oed
Adnoddau gan Gyrfa Cymru i helpu dysgwyr blwyddyn 11 i ddeall beth yw eich opsiynau dysgu ôl-16.
Cwis Paru Swyddi
Adnodda gan Gyrfa Cymru ar gyfer pob ystod oedran a gallu i gael syniadau gyrfa sy’n paru â’ch sgiliau a diddordebau.
Cwis Personoliaeth - Cwis Buzz
Adnodd gan Gyrfa Cymru i ddysgwyr 11-19 i gael cyfle i ganfod pa fath o bersonoliaeth sydd gennych a pha swyddi allai fod yn gweddu i chi
Canllaw E-Fathodynnau (Gwobrwyo Sgiliau Cymraeg)
Canllaw: Defnyddio E-Fathodynnau fel dull o gydnabod a gwobrwyo datblygu Sgiliau Cymraeg. Datblygwyd y canllaw hwn gan Coleg Sir Benfro. Mae'n disgrifio sut wnaethant ddatblygu cynllun E-Fathodynnau i gydnabod cynnydd a datblygiad ieithyddol (Cymraeg) dysgwyr. Os hoffech ddatblygu cynllun tebyg o fewn eich coleg chi, gellir wneud cais i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am gopi electonig o'r adnoddau (ar gyfer Moodle) drwy lenwi'r ffurflen isod.
Prentis-iaith
Mae'r cyrsiau byr hyn ar gyfer prentisiaid sydd yn awyddus i fagu eu hyder i ddefnyddio'u Cymraeg yn y gweithle. Maent yn galluogi'r prentisiaid i gwblhau rhywfaint o'u cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r cyrsiau ar gael ar bedwar lefel: Ymwybyddiaeth, Dealltwriaeth, Hyder, Rhuglder ac mae cwis ar gael i ganfod pa lefel sy'n addas ar eich cyfer.
Ap Gofalu Trwy'r Gymraeg
Crewyd yr ap hwn ar gyfer Prifysgol Abertawe a'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i helpu myfyrwyr i fagu hyder wrth ddefnyddio'r Gymraeg yn y gweithle neu wrth astudio. Mae'r eirfa wedi ei rhannu i 21 o adrannau gan gynnwys Ososteopathi, Bydwreigiaeth a Thechnoleg Glinigol. Gall defnyddwyr ddewis cuddio neu ddangos y Saesneg ar y tudalennau wrth i'w Cymraeg wella. Dyluniwyd, datblygwyd a recordiwyd sain yr ap gan Galactig. Y gyflwynwraig Nia Parry leisiodd yr ap.