Podlediad sy’n rhoi llwyfan i ymchwilwyr ledled Cymru rannu eu gwaith a’u syniadau. Bob pennod, mae Jonathan Davies, deiliad ysgoloriaeth ymchwil y Coleg Cymraeg, yn siarad gyda gwestai newydd i archwilio eu maes ymchwil, y cwestiynau sy’n eu hysgogi, a’r effaith ar gymdeithas. O’r gwyddorau naturiol i’r celfyddydau creadigol, mae’r podlediad yn cynnig cipolwg hygyrch ac ysbrydoledig ar ystod eang o bynciau. P'un ai ydych chi'n ymchwilydd, yn fyfyriwr neu’n syml yn mwynhau darganfod syniadau newydd, mae croeso i chi ymuno â’r sgwrs.
Podlediad Ymchwil ar y Gweill
Pecyn technegau newid ymddygiad
Comisiynwyd asiantaeth newid ymddygiad Claremont i greu'r Pecyn Technegau Newid Ymddygiad. Bwriad y pecyn yw rhoi arweiniad a chyngor i ymarferwyr sy'n gweithio gyda dysgwyr sydd wrthi'n gwneud penderfyniadau am eu haddysg. Mae'r daith i'r brifysgol yn gyfnod cyffrous i fyfyrwyr ond gall hefyd fod yn gyfnod ansicr, yn llawn cwestiynau ynghylch gyrwyr a rhwystrau canfyddedig sy'n ymwneud ag astudio'n Gymraeg. Gyda'n gilydd, gallwn helpu darpar fyfyrwyr a myfyrwyr i wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch eu camau nesaf wrth astudio'n Gymraeg yn y brifysgol. Mae’r fideo isod yn cyflwyno trosolwg o’r Pecyn gan gynnwys: Sut i ddeall ein cynulleidfa? Y rhwystrau a'r ysgogiad sy'n dylanwadu ar benderfyniadau myfyrwyr ynghylch astudio drwy gyfrwng y Gymraeg. Y strategaethau negeseuon sy'n gallu helpu i leihau ansicrwydd, meithrin hyder a dangos manteision astudio yn Gymraeg
Beth yw ystyr bywyd? ... a chwestiynau mawr eraill
Dyma bodlediad yn y Gymraeg sydd ychydig yn wahanol i’r arfer, a sydd – fel mae’r teitl yn ei awgrymu – yn mynd i’r afael â rhai o gwestiynau mawr bywyd. Ariennir y podlediad gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a chyflwynir y gyfres gan Dr Huw Williams, darllenydd mewn Athroniaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, sydd yn cynnal sgyrsiau bywiog a ffraeth â chyfeillion amrywiol, gan gynnwys arbenigwyr a rhai academyddion blaenllaw Cymraeg. Rhagdybiaeth y gyfres yw bod pob un ohonom yn hel meddyliau ar faterion dwys sy’n rhan o fywyd pob dydd, ac mae trafod a myfyrio ar y themâu hyn yn beth iach a phwysig. Mae’r sgyrsiau yn cyflwyno’r trafodaethau drwy gyfrwng iaith bob dydd mewn ffordd hygyrch; dylai apelio at ddysgwyr y 6ed dosbarth, myfyrwyr prifysgol, ac oedolion eraill nad oes ganddynt wybodaeth flaenorol o’r pynciau dan sylw. Felly ymunwch â ni (a pharatowch hefyd am daith fach i Roswell!) Cynhyrchir y gyfres, gyda cherddoriaeth wreiddiol, gan Osian Gwynedd.
Adnoddau Sgiliau Hanfodol Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant
Mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi gweithio gyda’r sector i ddatblygu adnoddau Sgiliau Hanfodol Cymru i gynorthwyo gyda’r addysgu a’r dysgu ar gyfer Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu ar Lefel 1 a 2. Mae’r adnoddau wedi’u cynllunio i adlewyrchu sefyllfaoedd gwaith go iawn y gallech chi ddod ar eu traws mewn gofal plant a'r blynyddoedd cynnar, ac maen nhw'n ymdrin â gwahanol ganlyniadau dysgu y mae angen i chi eu gwybod i gwblhau eich cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru. Nid yw’r adnoddau’n orfodol. Gallwch chi eu gwneud i gyd neu ddewis y rhai fydd yn eich helpu fwyaf. Mae’r adnoddau hyn wedi’u bwriadu i gefnogi dysgu ac felly nid ydyn nhw'n disodli gweithgareddau addysgu nac asesu. Maen nhw wedi’u cynllunio i ddangos lle mae sgiliau Sgiliau Hanfodol Cymru yn cael eu cymhwyso mewn lleoliadau ymarfer, ac efallai na fyddan nhw'n ymdrin â’r holl ganlyniadau dysgu yn llawn.
Adnoddau Sgiliau Hanfodol Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi gweithio gyda’r sector i ddatblygu adnoddau Sgiliau Hanfodol Cymru i gynorthwyo gyda’r addysgu a’r dysgu ar gyfer Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu ar Lefel 1 a 2. Mae’r adnoddau wedi’u cynllunio i adlewyrchu sefyllfaoedd gwaith go iawn y gallech chi ddod ar eu traws mewn gofal cymdeithasol, ac maen nhw'n ymdrin â gwahanol ganlyniadau dysgu y mae angen i chi eu gwybod i gwblhau eich cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru. Nid yw’r adnoddau’n orfodol. Gallwch chi eu gwneud i gyd neu ddewis y rhai fydd yn eich helpu fwyaf. Mae’r adnoddau hyn wedi’u bwriadu i gefnogi dysgu ac felly nid ydyn nhw'n disodli gweithgareddau addysgu nac asesu. Maen nhw wedi’u cynllunio i ddangos lle mae sgiliau Sgiliau Hanfodol Cymru yn cael eu cymhwyso mewn lleoliadau ymarfer, ac efallai na fyddan nhw'n ymdrin â’r holl ganlyniadau dysgu yn llawn.
Sôn am Sgwennu: Ysgrifennu Creadigol Cyfoes
Croeso i ‘Sôn am Sgwennu’, adnodd gan Dr Llion Pryderi Roberts, Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, sy’n cyflwyno cyfres o drafodaethau am ysgrifennu creadigol cyfoes. Mae’r adnodd yn cynnwys: Podlediad ‘Sôn am Sgwennu’ – recordiadau o sgyrsiau â 4 awdur profiadol sy’n canolbwyntio ar y broses ymarferol o ysgrifennu ac ar agweddau perthnasol i’w gwaith ac i astudio’r maes: Caryl Lewis Ifor ap Glyn Annes Glynn Llŷr Gwyn Lewis Mae'r adnodd hefyd yn cynnwys dogfen i bob recordiad sy’n nodi’r cwestiynau a ofynnwyd ac sy’n nodi’n fras y codau amser perthnasol ar gyfer pob cwestiwn (fel bod modd gwrando ar y recordiad o’i gwr neu symud o un cwestiwn i’r llall) Ysgrifau ‘Sôn am Sgwennu’ – 8 ysgrif fer sy’n trafod agweddau perthnasol i’r broses o ysgrifennu’n greadigol ac i astudio’r maes: ‘Ysgrifennu Creadigol: Dechrau arni a datblygu syniad’, Llion Pryderi Roberts ‘Sgrifennu’, Elinor Wyn Reynolds ‘Cymeriadu’, Megan Angharad Hunter ‘Creu Cerdd’, Mari George ‘Perlau mân Llwyd Owen’ ‘Annwyl Leo, Annwyl Iestyn: Proses gydweithredol cyfres Y Pump’, Iestyn Tyne a Leo Drayton ‘Sgwennu Nofel’, Marlyn Samuel ‘Ysgrifennu i Blant’, Casia Wiliam Adnodd ar gyfer myfyrwyr Addysg Uwch yn bennaf yw ‘Sôn am Sgwennu’, ond gall fod yn berthnasol i ddisgyblion UG a Safon Uwch, athrawon, ac unrhyw un sy’n ymddiddori ym maes ysgrifennu creadigol. Dyfarnwyd nawdd ar gyfer yr adnodd hwn drwy gyfrwng cynllun Grantiau Bach y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Hoffwn ddiolch i’r Coleg, i’r holl awduron am eu parodrwydd i gymryd rhan yn y prosiect ac i’m cydweithwyr yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd am eu cymorth parod.
Cydweithio trwy’r Gymraeg: Aseswyr a Chyflogwyr
Mae’r recordiad hwn yn cynnwys trafodaeth banel fywiog sy’n canolbwyntio ar rôl aseswyr wrth weithio gyda chyflogwyr a phrentisiaid i amlygu gwerth y Gymraeg fel sgil allweddol yn y gweithle. Berni Tyler - Cyfarwyddwr Consortiwm B-wbl (Cadeirydd) Dafydd Bowen - Cyfarwyddwr Pobl a Llefydd, Mentera Gwyn-Arfon Williams – Aseswr yn y gwaith, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Grŵp Llandrillo Menai Rhian Williams – Aseswr, Sgil Cymru Sue Jeffries – Rheolwr Gyfarwyddwr, Sgil Cymru Angharad Elfyn – Prentis, Sgil Cymru Helen Davies – Swyddog Addysg Bellach a Phrentisiaethau, Coleg Cymraeg Uchafbwyntiau’r Gweminar: - Lansiad swyddogol yr adnodd ‘Pecyn Prentis’, gyda chyfranwyr o’r adnodd yn rhannu eu profiadau uniongyrchol. - Trafodaeth rhwng aseswyr a chyflogwyr ar sut gall y pecyn gefnogi eu gwaith o ddydd i ddydd. - Arferion da yn cael eu rhannu ar sut i argyhoeddi prentisiaid a chyflogwyr o fanteision defnyddio’r Gymraeg. - Sgwrs agored ar sut i gynyddu hyder aseswyr yn y Gymraeg, gan rannu heriau, llwyddiannau ac enghreifftiau ysbrydoledig. Cynhaliwyd y sesiwn ar y 18fed o Fehefin 2025.
Cyflwyniad i yrfa mewn Therapi Iaith a Lleferydd
Bwriad yr adnodd hwn yw: Rhoi gwybodaeth i fyfyrwyr am broffesiwn Therapi Iaith a Lleferydd Egluro beth yw cyfathrebu a phwysigrwydd y proffesiwn wrth gefnogi unigolion gydag anghenion cyfathrebu Rhoi blas ar seminar lefel blwyddyn gyntaf yn y brifysgol Mae’r adnodd hwn wedi ei ddatblygu ar y cyd gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd a Phrifysgol Wrecsam gyda chefnogaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Pecyn Prentis
Siop un stop ar gyfer cyflogwyr i gefnogi prentisiaid dwyieithog a’r Gymraeg. Mae Pecyn Prentis yn adnodd digidol cynhwysfawr wedi’i lunio er mwyn helpu cyflogwyr i recriwtio, datblygu a chefnogi prentisiaid sy’n defnyddio’r Gymraeg. Yma, cewch gyfuniad gwerthfawr o wybodaeth gyfredol, cyngor arbenigol ac adnoddau ymarferol sy’n addas ar gyfer pob cam o’r daith brentisiaeth. O ddarparwyr prentisiaethau i gymorth gyda’r iaith Gymraeg a chyngor gyrfa, mae’r adnodd yn cwmpasu’r cyfan. Mae'n cynnwys astudiaethau achos ysbrydoledig, clipiau fideo bywiog a storïau o lwyddiant gan brentisiaid cyfredol neu sydd newydd gymhwyso, yn ogystal â chan eu cyflogwyr. Boed yn gyflogwr newydd i fyd prentisiaethau neu’n sefydliad profiadol, mae Pecyn Prentis yn cynnig gwir fewnwelediad go-iawn, enghreifftiau o arfer dda, a chefnogaeth benodol er mwyn galluogi pob prentis i ffynnu mewn amgylchedd dwyieithog.
Cit Chwaraeon
Casgliad o adnoddau e-ddysgu Chwaraeon wedi'u teilwra ar gyfer dysgwyr ar Lefel 2. Ceir gwybodaeth ymarferol am sut i gynllunio a rhedeg sesiwn, y gwahanol swyddi a chyfrifoldebau yn y byd chwaraeon, cyngor defnyddiol a chip ar fywyd bob dydd amrywiaeth o bobl broffesiynol yn y maes. Mae'r adnodd wedi'i rannu yn dair uned: Cynllunio a Chyflawni Sesiwn Chwaraeon Rolau a chyfrifoldebau Staff Chwaraeon a Hamdden Gweithio yn y Diwydiant Chwaraeon
Cynhadledd Ymchwil 2025
Cynhaliwyd y Gynhadledd Ymchwil ar 26–27 Mehefin ym Mhrifysgol Aberystwyth a'r Llyfrgell Genedlaethol, ac fe’i ffrydiwyd ar sianel YouTube y Coleg. Mae modd gweld recordiadau o'r sesiynau a chopiau o'r posteri ymchwil drwy glicio ar y dolenni isod.
Straeon Cariad Pur?: Adnoddau Adolygu
Adnoddau adolygu'r ddwy stori fer yn y gyfrol Cariad Pur? sydd ar fanyleb Cymraeg Ail Iaith UG/Safon Uwch (U2 Uned 6: Defnyddio Iaith a'r Stori Fer). Y ddwy stori yw Beth Os? gan Llio Mai Hughes a Trŵ Lyf gan Marlyn Samuel. Mae'r casgliad yn cynnwys: Copi Digidol Beth Os? (PDF + Word) Copi Digidol Trŵ Lyf (PDF) Taflenni Adolygu (PDF) Darlith Fideo a chyflwyniad PowerPoint Adolygu Cariad Pur? gan Dr Miriam Elin Jones Trawsgrifiad o'r ddarlith adolygu ar ffurf Word Fideo Cyfweliad Awdur Llio Mai Hughes + thrawsgrifiad Fideo Cyfweliad Awdur Marlyn Samuel + thrawsgrifiad Adnoddau wedi eu creu gan Adran y Gymraeg, Prifysgol Abertawe, o dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
