Croeso i Gynhadledd Ymchwil rithiol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Yma cewch fynediad i bopeth sy’n ymwneud a’r Gynhadledd: Mae dwy ran i’r gynhadledd: 1. Cyflwynir 4 papur byw ar 1 Gorffennaf (10:00-12:30) - bydd recordiadau'r gynhadledd yn cael eu hychwnegu isod yn fuan. 2. Yn ogystal â’r cyflwyniadau byw y byddwch chi’n eu gweld ar 1 Gorffennaf, mae 13 o fyfyrwyr ymchwil ac academyddion Cymraeg wedi mynd ati i recordio cyflwyniadau ymlaen llaw. Isod, cewch fynediad at y cyfan a gofynnwn i chi eu gwylio a’u mwynhau yn eich amser eich hun cyn y Gynhadledd. Ewch ati i baratoi cwestiynau os gwelwch yn dda! Bydd cyfle i chi holi eich cwestiwn rhwng 2 a 3:30 ar 1 Gorffennaf. Gofynnwn i chi gyflwyno eich cwestiynau ar Twitter trwy ddefnyddio #cynhadleddymchwil20 ac mae cyfrifon Twitter y cyfranwyr i’w gweld wrth i chi edrych ar y cyflwyniadau. Os nad ydych chi’n defnyddio Twitter, holwch eich cwestiynau yn y blwch perthnasol sydd i’w weld o dan bob cyflwyniad. Mwynhewch a chyfrannwch!
Cynhadledd Ymchwil Rithiol 2020
Gwybodaeth am Swyddi
Bwletinau Gwybodaeth am Swyddi gan Gyrfa Cymru ar gyfer dysgwyr ac addysgwyr.
Clipiau fideo Amaeth
Clipiau fideo yn trafod gwahanol agweddau ar Amaethyddiaeth. Addas ar gyfer hyd at Lefel 4.
Opsiynau 16 Oed
Adnoddau gan Gyrfa Cymru i helpu dysgwyr blwyddyn 11 i ddeall beth yw eich opsiynau dysgu ôl-16.
Daearyddiaeth - Astudio a Dehongli'r Byd a'i Bobl
Enillydd Adnodd Cyfrwng Cymraeg 2020 (gwobrau Darlithwyr Cysylltiol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol). Mae'r llyfr digidol, cyffrous a chynhwysfawr hwn yn ymdrin ag amrediad eang o themâu a astudir fel rhan o bwnc Daearyddiaeth, gan gynnwys prosesau dynol, ffisegol ac amgylcheddol. Mae'n addas i fyfyrwyr Safon Uwch, ynghyd â'r rheiny sy'n astudio Daearyddiaeth yn y Brifysgol.
Y Geiriadur Celf
Wrth astudio Celf a Dylunio ar gyfer Safon Uwch Gyfrannol a Safon Uwch bydd y myfyriwr angen dod o hyd i ystyr geiriau arbenigol a darganfod mwy am fudiadau celf. Mae'r Geiriadur Celf wedi ei lunio ar gyfer ateb y gofyn hwn. Mae'n cynnwys esboniadau clir a chynhwysfawr ar gyfer cofnodion sy'n allweddol ar gyfer myfyrwyr Celf a Dylunio yng Nghymru.
Gweithdy Doctoriaid Yfory 2020
Adnodd ar gyfer aelodau o gynllun Doctoriaid Yfory 3. Mae’n trafod awgrymiadau ar gyfer sicrhau profiad gwaith yn y maes iechyd a gofal. Mae hefyd yn trafod beth i'w gynnwys yn y datganiad personol. Cyflwyniad ydyw gan Sara Whittam o Brifysgol Caerdydd.
Adnoddau Dysgu CBAC ar wefan Dysgu Iechyd a Gofal Cymru
Mae'r adnoddau digidol ar wefan dysguiechydagofal.cymru yn cefnogi dysgu yn y sectorau: Iechyd a Gofal Cymdeithasol Gofal Plant O fis Medi 2019 City & Guilds / CBAC fydd unig ddarparwr cyfres newydd o gymwysterau Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant wedi'i hariannu yng Nghymru. Mae gan gwefan Dysgu a Iechyd Gofal Cymru cyfres o adnoddau digidol rhad ac am ddim i wella’r ffordd mae gwybodaeth yn cael ei gyflwyno sy’n sail i’r cymwysterau, ynghyd â’r canllawiau addysgu/cyflwyno, deunyddiau asesu a chanllawiau myfyrwyr sydd ar gael ar gyfer y rhan fwyaf o’r cymwysterau. Gallant gefnogi dysgu annibynnol drwy ddal sylw dysgwyr a’u cyfeirio at adnoddau eraill a allai fod yn ddefnyddiol iddyn nhw.
Problemau a Datrysiadau yn y Gwyddorau Ffisegol
Mae'r adnodd hwn yn cynnwys chwe pecyn o adnoddau yn ymwneud ag egwyddorion craidd sylfaenol Mathemateg a Ffiseg. Maent yn cynnwys problemau a datrysiadau, gyda’r amcan o gynyddu'r derminoleg Gymraeg yn y pynciau a chodi hyder myfyrwyr i ymdrin â'r pynciau yn y Gymraeg. Ceir set o esiamplau ac ymarferion theoretig ac ymarferol ar gyfer pob un o'r chwe phwnc dan sylw.
Adolygu Mathemateg
Mae mathemateg.com a ddatblygwyd gan Dr Gareth Evans yn cynnwys llond trol o adnoddau ar gyfer astudio mathemateg o flwyddyn 7 i flwyddyn 13. Defnyddiwch y ddewislen ar dop y dudalen i lywio'r safle. Cliciwch "Mewngofnodi fel ymwelydd" i gael mynediad i unrhyw gwrs. Ar y safle cewch lawrlwytho pecynnau gwaith, wylio fideos adolygu, ceisio cwisiau adolygu neu geisio hen bapurau arholiad.
Adnoddau Chwaraeon Lefel 3 BTEC
Anatomeg a Ffisioleg (L3): sesiynau dysgu cyfunol 30 o sesiynau dysgu cyfunol ar Anatomeg a Ffisioleg ar gyfer dysgwyr sy’n astudio cwrs Chwaraeon (lefel 3). Mae modd gweld y sesiynau yn eich porwr drwy ddilyn y dolenni isod. Mae hefyd modd i golegau lawrlwytho'r cynnwys er mwyn eu gosod o fewn eu llwyfannau dysgu lleol. Mae ffeil zip yma yn cynnwys y ffeiliau SCORM ar gyfer yr holl unedau. Mae cynnwys y sesiynau hyn yn ddwyieithog, ond dim ond yn Gymraeg mae modd ateb y cwestiynau. Hawlfraint Heart of Worcestershire College ar ran The Blended Learning Consortium a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae’r adnoddau hyn i gael eu defnyddio mewn sefydliadau addysgiadol yn unig ac ni ddylid eu haddasu na’u hailwerthu.
Mathemateg â Swigod
Mae’r wefan yma’n cynnwys cyflwyniad ar sut y gellir defnyddio swigod er mwyn datrys problem fathemategol mewn optimeiddiaeth, a adnabyddir fel Problem Steiner. Yn y broblem hon, y nod yw ceisio darganfod y ffordd byrraf o gysylltu n pwynt (all ddynodi dinasoedd neu drefi er enghraifft) ar y plân gyda’i gilydd. Er mwyn datrys y broblem yma, byddwn yn gwneud cysylltiadau â’r broblem o ddarganfod arwynebau minimol (e.e. gan ddefnyddio swigod). Mae’r wefan yn cynnwys dau set o ymarferion, y naill wedi’i anelu at ddysgwyr ym mlynyddoedd 10-11 a’r llall yn addas ar gyfer dysgwyr ym mlynyddoedd 12-13. Mae’r set cyntaf o ymarferion yn cynnwys cyfrifiadau geometreg (ac yn bennaf trigonometreg), tra bod yr ail set hefyd yn cynnwys problemau sy’n ymwneud â darganfod terfannau a differu.
