Bu datblygiad addysg feithrin Cymraeg yn stori o lwyddiant arbennig dros y blynyddoedd diwethaf. Gyda sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol yn 2000, gwelwyd Cymru’n symud ymhellach yn ei dyheadau ar gyfer ei phlant ifanc. Un o flaenoriaethau cyntaf y Llywodraeth Gymreig gyntaf oedd y Cyfnod Sylfaen gyda’i hymagweddiad radical. Bydd y papur hwn yn ymdrin â datblygiad addysg feithrin yng Nghymru gyda thrafodaeth ar yr hanes cyn ac ar ôl datganoli. Gosodir polisïau Cymraeg oddi mewn i gyd-destun dylanwadau ymchwil a phedagogaidd ehangach ar addysg blynyddoedd cynnar, er enghraifft y dystiolaeth ynghylch arfer dda o du EPPE (The Effective Provision of Pre-School Education Project). Edrychir yn benodol ar ddarpariaeth Gymraeg a chyfraniad Mudiad Meithrin ynghyd â thrafodaeth ar y damcaniaethau ynghylch dwyieithrwydd, gyda golwg ar ddwyieithrwydd cynnar yn benodol. Ceir amlinelliad a beirniadaeth ddadansoddol o’r heriau sy’n wynebu’r maes yn sgil datblygiadau gwleidyddol cyfoes a pholisïau cyfredol. Er dibenion y papur hwn, diffinnir addysg feithrin fel gwasanaethau addysg a gofal ar gyfer plant ifanc o 3–5+ oed, a defnyddir y term ‘blynyddoedd cynnar’ i’r un diben.
Siân Wyn Siencyn, 'Darpariaeth Gymraeg i blant ifanc: hanes a heriau datblygiad addysg feithrin yng Nghymru' (...
Dafydd Sills-Jones ac Anne Marie Carty, 'Y Gors: archwilio'r ffin rhwng awduraeth a chyfranogiad yn y ffilm dd...
Mewn ateb i alwad gan yr Arts and Humanities Research Council, a chyda chymorth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, gwnaethpwyd ffilm ddogfen farddonol/arbrofol fer yn 2016 gan Anne Marie Carty, Nick Jones a Dafydd Sills-Jones ar destun Cors Fochno, ger Y Borth. Mae Cors Fochno yn un o brif gorsydd mawn gorllewin Ewrop, ac yn gartref pwysig i fyd natur unigryw, ynghyd ag i astudiaethau gwyddonol pwysig, gan gynnwys astudiaethau hinsawdd. Mae'r gors felly'n drosiad ffilmig defnyddiol er mwyn trafod man cyfarfod nifer o bynciau a phersbectifau, gan gynnwys teimladau'r gymuned leol tuag at wylltir, cynaliadwraeth ffermio lleol, ac yn fwy eang hanes a dyfodol y berthynas rhwng dyn a'i amgylchedd. Mae'r erthygl hon yn olrhain y dynesiadau a'r cysyniadau y tu ôl i'r ffilm, gan roi'r ffilm yn nhraddodiad ymchwil-fel-ymarfer.
Cronfa Cyfieithiadau'r Gymraeg
Yn anffodus, nid yw'r gronfa ar gael ar hyn o bryd oherwydd problemau technegol. Rydym yn gweithio ar ddatrysiad er mwyn cael y wefan yn fyw cyn gynted â phosib. Mae'r gronfa yn gatalog disgrifiadol o destunau a gyfieithwyd i'r Gymraeg o ddechrau'r ugeinfed ganrif ymlaen ym meysydd y dyniaethau, y celfyddydau a'r gwyddorau cymdeithasol. Detholwyd yn bennaf o blith testunau rhyddiaith a drama all fod o ddiddordeb ar gyfer ymchwil a dysgu ar lefel addysg uwch. Mewn ambell achos y mae cofnod yn arwain at y testun llawn ar-lein.
Rôl ataliad mewn dwyieithrwydd
Mae'r prosiect yma yn anelu at edrych ar sut mae pobl ddwyieithog (sy'n rhugl neu yn datblygu eu Cymraeg) yn cael gafael ar ac yn defnyddio pob un o'u hieithoedd. Ar ben hynny, bydd yn edrych ar y rhyngweithio rhwng y ddwy iaith ac, yn benodol, sut mae cael ail iaith (Cymraeg) yn dylanwadu ar berfformiad yn eu hiaith gyntaf (Saesneg). Mae hyn yn bwysig nid yn unig achos bydd yn rhoi mewnwelediad i rôl ataliad mewn prosesu iaith ddwyieithog, ond bydd hefyd yn taflu golau ar sut mae siaradwyr Cymraeg yn dysgu'r iaith ac integreiddio i mewn i'r geiriadur meddwl mewnol, a allai, yn ei dro, yn arwain at strategaethau addysgol a all gynyddu effeithlonrwydd dysgu Cymraeg fel ail iaith. Yr astudiaeth hon yw'r cyntaf i archwilio rôl ataliad mewn pobl ddwyieithog Cymraeg/Saesneg a'r rhai sy'n dysgu Cymraeg fel ail iaith a disgwylir iddo fod yr astudiaeth gyntaf mewn rhaglen ymchwil barhaus. Ariannwyd y gwaith gyda chymorth grant bach gan y Coleg Cymraeg
Cau canghennau banc yng Nghymru – Tueddiadau a chymariaethau
Gwaith ymchwil gan Dr Edward Jones o Ysgol Busnes Bangor sy'n dangos nad oes gwahaniaeth arwyddocaol rhwng y gyfran o gau canghennau banc yng Nghymru a Lloegr ar gyfartaledd. Cyllidwyd yr ymchwil drwy Gronfa Grantiau Bach y Coleg Cymraeg Cenedlethol. Crëwyd set ddata unigryw ar gyfer y prosiect sydd yn cynnwys lleoliad canghennau pob un o'r pedwar banc mwyaf ym Mhrydain yn 1999 a 2016. Mae'r wybodaeth yn caniatáu i'r prosiect wneud cymariaethau rhwng niferoedd y canghennau banc a gaewyd yng Nghymru â gweddill y DU, rhwng ardaloedd gwledig a threfol, a rhwng ardaloedd cyfoethog a thlawd. Mae'r canlyniadau'n cefnogi'r farn fod cau canghennau wedi digwydd yn bennaf mewn ardaloedd trefol llai cefnog. Mae lleoliadau gwledig mwy cyfoethog ar y cyfan wedi profi cyfraddau cau is na'r cyfartaledd.
Cyflwyno Tafodieithoedd y Wladfa
Croeso i Cyflwyno Tafodieithoedd y Wladfa, adnodd gan Dr Iwan Wyn Rees, Prifysgol Caerdydd. Yr amcan yn syml yw cyflwyno am y tro cyntaf amrywiadau tafodieithol cyfoes y Wladfa Gymreig ym Mhatagonia. Cewch gyfle yma i wrando ar Gymraeg llafar gwahanol fathau o siaradwyr o’r Wladfa, ac i gyd-fynd â’r clipiau hynny, ceir nodiadau manwl yn tynnu sylw at amrywiaeth o nodweddion tafodieithol.
Cist Offer Newyddiaduraeth
Mae angen i newyddiadurwyr feistroli ystod eang o sgiliau. Mae Cist Offer yn darparu cyngor ymarferol mewn meysydd allweddol i gyw newyddiadurwyr. Mewn cyfres o fideos mae rhai o ymarferwyr mwyaf profiadol y diwydiant yng Nghymru yn rhannu ‘tips’ a chyngor ar rai o brif agweddau’r gwaith. Cyfranwyr: Bethan Rhys Roberts, Catrin Heledd, Gwyn Loader, Dylan Iorwerth Ffilmio a Golygu: Gwenda Richards Cynhyrchwyr: Gwenda Richards, Sian Morgan Lloyd @jomeccymraeg Cynhyrchwyd yr adnoddau gyda chymorth grant bach gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Iechyd a’r modelau biofeddygol a bioseicogymdeithasol
Cyfres o glipiau fideo sy'n cael eu defnyddio ar y modiwl Iechyd a’r modelau biofeddygol a bioseicogymdeithasol (MED16001), Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd, Prifysgol Bangor.
Modiwl Cyflwyniad i Gynllunio Gofodol (CP0110)
Datblygwyd y deunydd yma i gydfynd â modiwl CP0110 Cyflwyniad i Gynllunio Gofodol, modiwl lefel 4 ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae'r modiwl yn edrych ar darddiad cynllunio gofodol ym Mhrydain ac yn esbonio sut mae'r system bresennol wedi esblygu. Rhoddir sylw arbennig i'r themâu allweddol sy’n dod i'r amlwg o gynllunio Prydeinig: ei ymddangosiad fel gweithgaredd llywodraeth leol; effaith proffesiynoldeb a meddylwyr 'llawn gweledigaeth'; newid ideolegau gwleidyddol; a newidiadau yng nghraddfeydd gofodol cynllunio.
Tirwedd Symudol
Darlith ar dirwedd symudol Ynys Môn a draddodwyd gan Dr Dei Huws, Ysgol Eigioneg Prifysgol Bangor, i Gymdeithas Wyddonol Gwynedd ym mis Rhagfyr 2017. Gellir gwylio'r ddarlith ar Panopto drwy
Trin data gyda MS Excel
Mae'r ddogfen fer hon gan Dr Hywel Griffiths yn cynnig cyflwyniad cryno i ddatblygu sgiliau trin a thrafod a chyflwyno data ystadegol o fewn Excel, ac yn addas ar gyfer myfyrwyr yn ystod tymor cyntaf eu hastudiaeth israddedig pan efallai y bydd gofyn iddynt ddefnyddio Excel am y tro cyntaf, cyn ei ddefnyddio er mwyn gwneud dadansoddiadau mwy manwl. Sgiliau TG sylfaenol yw ffocws y ddogfen felly, a'r gobaith yw y gall fod yn sail ar gyfer tasg fer mewn seminar neu diwtorial. Ar ddiwedd y ddogfen, nodir rhai cwestiynau a phwyntiau trafod y gellir ymhelaethu arnyn nhw yn y sesiynau hyn. Cliciwch ar 'Cyfryngau Cysylltiedig' i lawrlwytho'r data . Mae gallu trin data ystadegol yn sgil greiddiol o fewn y gwyddorau amgylcheddol, boed hynny ym maes daearyddiaeth ffisegol, daearyddiaeth dynol neu wyddor amgylcheddol. Defnyddir ystod o ddulliau casglu, cyflwyno a dadansoddi data ystadegol mewn ymchwil academaidd a gan gyrff ac asiantaethau sydd yn rheoli'r amgylchedd yng Nghymru. Mae sawl meddalwedd ar gael er mwyn trin a thrafod data, ac mae rhai yn fwy defnyddiol ar gyfer gwahanol bwrpasau (arddangos, dadansoddi ac ati). Un o'r rhai mwyaf cyffredin yw MS Excel.
Adeiladu Rhithwir
20 tiwtorial animeiddiedig ynghyd â gweithgareddau rhyngweithiol i helpu dysgwyr i weld pa sgiliau crefft sydd eu hangen i adeiladu tŷ. Mae'r animeiddiadau wedi rhannu i 4 crefft: Adeiladu sylfeini a waliau, Gwaith saer, Plastro a Peintio ac addurno. Ar gyfer myfyrwyr Adeiladwaith Lefelau 1 a 2. Datblygwyd yr adnodd gan Cwmni Cynnal ar ran Llywodraeth Cymru ac mae'r adnodd hefyd ar gael drwy wefan HWB.