Nodweddir y drafodaeth gyhoeddus ar-lein ddiweddar ynghylch y Wladfa gan duedd i gollfarnu’r gwladfawyr Cymreig ar sail foesol. Â’r erthygl hon i’r afael â’r tueddiad hwn gan bwyso a mesur sut, ac i ba raddau, y mae modd inni osod y Wladfa a’i phobl yn y fantol foesol. Rhoddir sylw manwl i ymdriniaethau Geraldine Lublin a Lucy Taylor â’r hanes, fel enghreifftiau o ddadansoddi ystyrlon, amlhaenog sy’n llwyddo i gyfleu cymhlethdod a drysni’r sefyllfa. Wedi cynnig y braslun hwn, cymhwysir fframwaith moesegol Iris Marion Young i’r hanes, er mwyn amlygu ystyriaethau moesegol allweddol, sy’n dilyn ymgais Catherine Lu i gymhwyso’r un model ‘cysylltiadau cymdeithasol’ i hanes trefedigaethol Siapan. Cynigir rhai casgliadau cychwynnol ynghylch yr hyn a amlygir. Awdur: Huw L. Williams
Heb ei fai, heb ei eni: ‘Disgwrs’ a Moeseg y Wladfa
“Un o fethiannau godidocaf” puryddiaeth ieithyddol? Dadansoddiad o batrymau geirfaol Cymraeg y Wladfa heddiw m...
Amcan yr erthygl hon yw dadansoddi agwedd ar dafodiaith Gymraeg y Wladfa a esgeuluswyd, sef ei phatrymau geirfaol cyfoes. Ar sail data a gafwyd o 134 holiadur, dangosir bod yr amrywio geirfaol sydd ar waith yn yr amrywiad hwn ar y Gymraeg wedi ei gyflyru i raddau helaeth gan yr amrywiaeth o gefndiroedd ieithyddol a welir heddiw ymhlith siaradwyr Cymraeg Talaith Chubut. Mae’r canlyniadau, felly, nid yn unig yn dangos sut y mae cydgyffyrddiad tafodieithol hanesyddol wedi chwarae rôl allweddol yn esblygiad tafodiaith draddodiadol y Wladfa, ond hefyd yn archwilio am y tro cyntaf i ba raddau y mae rhaglen addysgol benodol, sef ‘Cynllun yr Iaith Gymraeg’ y Cyngor Prydeinig, yn dylanwadu ar ddefnydd o nodweddion geirfaol ymysg dysgwyr Cymraeg yn y rhanbarth. Nod arall yw ystyried rhai o oblygiadau ehangach y canlyniadau, gan gynnwys perthnasedd ideolegau ieithyddol i batrymau geirfaol hanesyddol a chyfredol Cymraeg y Wladfa. Awdur: Iwan Wyn Rees
Gweithdai Adolygu Cymdeithaseg
Dau weithdy ar-lein ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio Lefel A neu arholiadau Lefel 2 neu 3 mewn Cymdeithaseg. Mae'r Gweithdy gyntaf ar thema 'Sgiliau Ymchwil' a'r ail weithdy ar thema 'Anghyfartaledd'. Arweinir y Gweithdai gan ddarlithwyr o brifysgolion Bangor a Chaerdydd.
Darllen ac ysgrifennu gorffennol y Wladfa: dadleuon am hanes a chof yn ymsefydliad Cymreig Chubut
Bwriad yr erthygl hon yw dadansoddi’r gwahanol ddarlleniadau a gafwyd o hanes y Wladfa o fewn naratifau swyddogol o orffennol talaith Chubut yn yr Ariannin. Cynhwysa hyn gynnyrch y wladwriaeth daleithiol, ond hefyd eiddo actorion eraill yng nghymdeithas Chubut, gan gynnwys y gymuned Gymreig ei hun. Er mwyn gwneud hyn, canolbwyntir ar y deongliadau a gynhyrchwyd dros dri chyfnod: yn gyntaf, rhwng y 1930au a 1955, pan oedd Chubut yn diriogaeth genedlaethol; yn ail, cyfran o flynyddoedd cyntaf bodolaeth talaith Chubut rhwng 1958 a 1975; ac yn olaf, rhwng y 1980au a’r presennol, gyda ffocws ar ddathliadau’r canmlwyddiant a hanner (ers glaniad y gwladfawyr cyntaf) yn 2015. Ystyrir hefyd y newidiadau a welwyd rhwng naratifau hanesyddol gwahanol, yn ogystal â’r elfennau o barhad rhyngddynt. Trwy gydol y tri chyfnod hyn, dangosir bod naratifauswyddogol o orffennol Chubut wedi gosod hanes y gwladychu Cymreig yn gonglfaen ar gyfer sefydlu’r dalaith, gan roi rôl hegemonaidd i’r hanes hwn. Awdur: Guillermo Williams
Dŵr a Phŵer yn Nyffryn Camwy: heriau a gwrthdaro ynghylch sefydlu a rheoli system ddyfrhau
Bwriad yr erthygl hon yw llunio hanes y system ddyfrhau yn Nyffryn Camwy a grëwyd gan y gwladfawyr Cymreig a gyrhaeddodd Batagonia (yn yr Ariannin) ym 1865, gan gymhlethu’r berthynas a oedd yn bodoli rhwng y seilwaith hwn a’r fframwaith cymdeithasol-wleidyddol newidiol. Bydd hyn yn cynnwys rhoi sylw i’r sefydliadau a grëwyd gan y gwladfawyr eu hunain ac i’r gwrthdaro a fu rhyngddynt a gwladwriaeth yr Ariannin a ddaeth yn gyfrifol am y weinyddiaeth ddyfrhau ym 1943. Rhoddir pwys ar alluedd (agency) dŵr o fewn y broses a arweiniodd at atgyfnerthu ac ehangu’r seilwaith dyfrhau, a rhoddir sylw hefyd i ddimensiwn symbolaidd y gwrthrychau sy’n rhan o’r seilwaith hwnnw gan fyfyrio ar eu hystyr newidiol. Awdur: Fernando Williams
Tsieina Thomas Pennant
Yma, cyflwynir adroddiad gan y naturiaethwr a'r teithiwr Thomas Pennant (1726 – 98) ar Tsieina, sy'n rhan o'i lawysgrif amlgyfrol, 'Outlines of the Globe', a gedwir yn yr Amgueddfa Forwrol Genedlaethol. Ceir tair adran i'r adnodd: ysgrif yn trafod ymdriniaeth Pennant â Tsieina; atodiad yn cynnwys delweddau o'r llawysgrif wreiddiol ynghyd â thrafodaeth yn eu gosod yn eu cyd-destun; a map rhyngweithiol yn dangos y lleoliadau a enwir yn yr adroddiad gan ganolbwyntio ar bum taith hanesyddol allweddol i Tsieina, ynghyd â thaith ddychmygol Pennant ar hyd arfordir y wlad. Mae'r adnoddau'n addas ar gyfer myfyrwyr, ysgolheigion, ac unrhyw un sydd â diddordeb yn Tsieina ac ym meysydd Astudiaethau Crefyddol, Celf, Daearyddiaeth, Economeg, Gwyddorau Amgylcheddol ac Eigion, a Hanes. Cedwir yr holl adnoddau gyda'i gilydd ar wefan Teithwyr Chwilfrydig (https://curioustravellers.ac.uk/tsieina/). Yno, gellir lawrlwytho'r ysgrif a'r atodiad yn uniongyrchol, a gellir dilyn dolen i'r map rhyngweithiol. Ceir cyfarwyddiadau manwl ar sut i drin y map o fewn yr adnodd ei hun, o dan 'Canllaw i'r defnyddiwr', sydd wedi'i leoli o dan 'Gwybodaeth bellach' ar y ddewislen ar y bar llorweddol ar frig y dudalen.
UK Parliament: Dysgu
Gwefan gan Senedd y DU sy’n cynnig adnoddau addysgu dwyieithog ar-lein ar gyfer dysgwyr o 5 oed i ôl-16 a thu hwnt. Mae’r adnoddau yn cyflwyno ac yn ymdrîn â phynciau ar draws cwricwla’r DU; gan gynnwys etholiadau, dadlau, Gwerthoedd Prydeinig a gwaith a rôl Senedd y DU yn ein democratiaeth. Yn yr adran i ddysgwyr Ôl-16, ceir pecynnau fel: Sut mae'n Gweithio: Y Senedd, Llywodraeth Democratiaeth a Chi Systemau pleidleisio Eich Stori, Ein Hanes: Deddfwriaeth anabledd Eich Stori, Ein Hanes: Deddfwriaeth cysylltiadau hiliol Eich Stori, Ein Hanes: Deddfwriaeth Pobl Lesbaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol (LGBT)
Beth yw'r Gymraeg?
Dyma gyfrol atyniadol a chyfoes sy’n rhoi cyflwyniad hygyrch i ddisgyblaeth y Gymraeg, wedi ei golygu gan ddarlithwyr Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd; Dr Angharad Naylor, Dr Llion Pryderi Roberts a Dr Dylan Foster Evans. Mae’r gyfrol yn cyflwyno cyfoeth, cyffro ac ehangder y Gymraeg fel disgyblaeth academaidd, a bydd yn ysgogi diddordeb a chwilfrydedd mewn meysydd cyfarwydd a newydd – megis iaith, llenyddiaeth, cymdeithaseg iaith, beirniadaeth lenyddol, diwylliant a threftadaeth, ac ysgrifennu creadigol. Mynediad Agored Ar-lein (dolen isod) Cynnwys: Adran 1 Llenyddiaeth 1) Llenyddiaeth Plant: Siwan M. Rosser 2) Rhywedd: Cathryn A. Charnell-White 3) Y Ddrama Lwyfan a’i Gwreiddiau Llenyddol: Gareth Evans-Jones 4) Llên Bywyd:Llion Pryderi Roberts Adran 2 Iaith 5) Tafodieitheg: Iwan Wyn Rees 6) Sosioieithyddiaeth: Jonathan Morris 7) Dwyieithrwydd: Enlli Thomas 8) Newid Ymddygiad Ieithyddol: Gwenno Griffith Adran 3 Cymdeithas 9) Addysg: Alex Lovell ac Angharad Naylor 10) Yr Iaith Gymraeg a Threftadaeth: Dylan Foster Evans 11) Amlddiwylliannedd: Lisa Sheppard 12) Darllen Cyfieithiadau: Mwy na Geiriau: Rhianedd Jewell 13) Cenedligrwydd: Peredur I. Lynch 14) Y Gymraeg y tu allan i Gymru: Jerry Hunter Ceir cwestiynau trafod ar ddiwedd pob adran. Mae modd prynu'r gyfrol ar ffurf llyfr clawr meddal hefyd. Ar gael yma gan Wasg Prifysgol Cymru neu yn eich siop lyfrau leol.
Gwerslyfr Adeiladwaith Lefel 2
Gweler ddolen at wefan Gwales.com isod er mwyn prynu gwerslyfr neu e-lyfr Sylfaen Mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu - Craidd gan Mike Jones (Cymraeg). Bydd y gwerslyfr hwn yn cwmpasu'r holl gynnwys ar gyfer chwe uned graidd y cymhwyster Sylfaen ac yn paratoi myfyrwyr ar gyfer yr arholiad MCQ wedi'i farcio'n allanol, ynghyd â'r Prawf Iechyd a Diogelwch wedi'i farcio'n fewnol. Mae’r gwerslyfr yn cefnogi dysgwyr sy’n astudio’r unedau craidd yn y cymhwyster Lefel 2 hwn (Cymwysterau Cymru). Mae’n rhoi cyflwyniad eang i adeiladu a’r amgylchedd adeiledig ac yn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth hanfodol o’r diwydiant adeiladu dros chwe phennod. Mae pennod allweddol yn cynnwys egwyddorion pwysig sy’n ymwneud ag iechyd a diogelwch yn y gweithle a chyfrifoldebau lles yr holl weithwyr ar safle. Mae’r pynciau a gwmpesir gan yr unedau craidd yn darparu gwybodaeth sylfaenol hanfodol sy’n ffurfio sylfaen y gellir adeiladu arni wrth astudio arbenigeddau crefft dethol yn raddol i gwblhau’r cwrs. Ymhlith y pynciau a ystyriwyd mae: • yr adeiladau a’r strwythurau sy’n ffurfio’r amgylchedd adeiledig a sut mae newidiadau’n digwydd dros amser • y crefftau, rolau a gyrfaoedd yn y sector adeiladu ac amgylchedd adeiledig • sgiliau cyflogadwyedd sy’n berthnasol i sefyllfaoedd yn y gweithle • sut mae adeiladu a’r amgylchedd adeiledig yn effeithio ar gynaliadwyedd cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol • defnyddio a chymhwyso technolegau sy’n dod i’r amlwg.
Gwerslyfrau BTEC Cenedlaethol Chwaraeon
Addasiad Cymraeg o 'BTEC National Sports Student Book 1', 'BTEC National Sports Student Book 2', a 'BTEC National Sports Units 1 and 2 Revision Workbook' ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio BTEC y Dystysgrif, y Dystysgrif Estynedig, y Diploma Sylfaenol a'r Diploma Estynedig. Mae'r llyfr yn cefnogi'r myfyrwyr drwy'r holl unedau gorfodol a'r ystod o unedau dewisol megis: Anatomeg a Ffisioleg; Iechyd, Chwaraeon a Lles; Seicoleg Chwaraeon; Datblygiad Proffesiynol mewn Chwaraeon. Manyleb 2016.* *Noder bod manyleb newydd wedi cael ei chyhoeddi erbyn hyn, am wybodaeth bellach, edrychwch ar wefan Cymwysterau yng Nghymru.
Teclyn Iaith
Teclyn yw hwn sy'n cynnwys gwybodaeth am adnoddau, rhaglenni ac apïau ymarferol y gall staff eu defnyddio i wella'u Cymraeg a defnyddio i wella Cymraeg eu dysgwyr. Mae'r wefan yn hollol ddwyieithog ac yn addas i bawb, beth bynnag eich sgiliau iaith Gymraeg.
Astudiaethau Achos JISC: Cydweithio Digidol yn y Sector Ôl-16
Mae Jisc yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru i yrru Digidol 2030 ymlaen, sy'n ceisio gweld darparwyr dysgu yng Nghymru yn harneisio potensial technoleg ddigidol wedi'i seilio ar egwyddorion arloesi, cydweithio, cydgynhyrchu a phartneriaeth gymdeithasol. I gefnogi hyn, mae Jisc wedi dod o hyd i chwe enghraifft o fentrau cydweithredol llwyddiannus gan ddefnyddio offer a thechnoleg ddigidol mewn dysgu ac addysgu ôl-16 yng Nghymru. Amlinellwyd y ffactorau llwyddiant allweddol ar gyfer yr astudiaethau achos hyn a dangos lle gellid cynyddu pob dull cydweithredol neu ei fod yn fuddiol mynd i'r afael â materion neu bynciau penodol. Yn gyffredinol, mae'r astudiaethau achos hyn yn cynnig cipolwg ar y posibiliadau cyffrous a agorir trwy gydweithio o fewn ac ar draws sectorau, wedi'u galluogi gan dechnoleg ddigidol, pan fydd partneriaid mewn cydweithrediad yn rhannu gweledigaeth gyffredin a dull cynaliadwy. Themâu allweddol sy'n cefnogi uchelgeisiau digidol Cymru Gellir ystyried yr astudiaethau achos fel enghreifftiau o'r pedair blaenoriaeth genedlaethol allweddol a amlinellir yng ngalwad Llywodraeth Cymru i weithredu ar gyfer sefydliadau AB ym mis Rhagfyr 2022: Gweithio ar y cyd i ehangu mynediad at gyfleoedd dysgu Datblygu galluoedd digidol dysgwyr a staff a hyder ar gyfer dysgu, bywyd a gwaith Manteisio i'r eithaf ar botensial technoleg i rymuso, ennyn brwdfrydedd ac ysbrydoli dysgwyr Ymgorffori dulliau ystwyth, gwydn a chynaliadwy o gyflawni Astudiaethau achos Mae'r chwe astudiaeth achos yn cwmpasu colegau ledled Cymru a chydweithrediadau ar draws AB a chyda chweched dosbarth, AU, dysgu seiliedig ar waith a dysgu cymunedol (gweler Atodiad 1). Mae'r offer a'r dechnoleg ddigidol a ddefnyddir yn amrywio o ystafelloedd dosbarth rhithwir a thechnoleg realiti rhithwir i apiau a llwyfannau cydweithredu fel Microsoft Teams. Yn gryno, mae'r astudiaethau achos yn cynnwys: Diemwntau Digidol: cymuned ymarfer yng Nghymru sy'n helpu ymarferwyr a rheolwyr i ddarparu Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW) ar draws addysg a hyfforddiant ôl-16. Educ8 a CEMET (Prifysgol De Cymru): datblygu adnoddau realiti rhithwir ar gyfer dysgu seiliedig ar waith drwy ddull cydweithredol gydag AU a chyflogwyr. Growing Comms: Gosod mannau dysgu gweithredol cysylltiedig mewn Addysg Uwch ac AB trwy gydweithredu traws-sector, gydag effeithiau cadarnhaol cryf ar ddysgwyr. St David's WeConnect: cydweithio rhwng y chweched dosbarth i ddarparu cwricwlwm ehangach drwy ystafelloedd dosbarth rhithwir. Target Tracker: colegau yn cydweithio i ddatblygu offer digidol i gefnogi dysgwyr ag anghenion ychwanegol. Urdd Gobaith Cymru a Chynllun Gwreiddio (Coleg Cymraeg Cenedlaethol): datblygu sgiliau Cymraeg drwy ddysgu ar y cyd i brentisiaid a staff addysgu.
