Dau weithdy ar-lein ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio Lefel A neu arholiadau Lefel 2 neu 3 mewn Cymdeithaseg. Mae'r Gweithdy gyntaf ar thema 'Sgiliau Ymchwil' a'r ail weithdy ar thema 'Anghyfartaledd'. Arweinir y Gweithdai gan ddarlithwyr o brifysgolion Bangor a Chaerdydd. Gweithdy 1 - 16 Ebrill 2024 Anghenion Sgiliau Ymchwil ym maes Cymdeithaseg (Dr Rhian Hodges, Prifysgol Bangor a Dr Siôn Llewelyn Jones (Prifysgol Caerdydd) Gweithdy 2 - 30 Ebrill 2024 'Anghydraddoleb': Dr Cynog Prys (Prifysgol Bangor) a Dr Siôn Llewelyn Jones (Prifysgol Caerdydd) sy'n rhoi cyflwyniad ar brif themâu astudio anghydraddoldeb (inequality).
Gweithdai Adolygu Cymdeithaseg
Cyflwyniad i Droseddeg
Bwriad pennaf y llyfr hwn yw rhoi cyflwyniad i droseddeg fel maes astudio pwnc gradd academaidd i fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf mewn sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru. Dyma’r symbyliad i ddatblygu gwerslyfr academaidd cynhwysfawr yn y Gymraeg a fyddai’n cyflwyno myfyrwyr i agweddau beirniadol o ddilyn ac astudio troseddeg drostynt eu hunain. Yn ogystal â chynnig yr adnodd yn yr iaith Gymraeg, mae’r gyfrol hefyd yn gofyn i fyfyrwyr berthnasu damcaniaethau troseddeg o fewn cyd-destun troseddu yn y Gymru gyfoes.
Cardiau Gêm Gwrthfiotig i fyfyrwyr meddygol
Cardiau gêm 'trumps' yn cynnwys gwybodaeth am wrthfiotigau cyffredin. Gellir defnyddio'r cardiau fel adnodd i addysgu myfyrfwyr meddygol. Gallent hefyd fod yn addas i fyfyrwyr mewn proffesiynau iechyd eraill ee fferylliaeth.
Prosiect Pūtahitanga: Cerddoriaeth, Iaith, a Hunaniaeth
Pūtahitanga: gair te reo Māori (yr iaith Māori) sy’n disgrifio cymuned yn dod at ei gilydd er mwyn cydweithio ar syniad, pwnc, neu her benodol. Mae’r gair yn ymgorffori ethos y prosiect ymchwil sy’n ei ddefnyddio fel teitl: Prosiect Pūtahitanga. Dyma brosiect sy’n archwilio cerddoriaeth boblogaidd, iaith a hunaniaeth yn y cyd-destun Cymreig a’r cyd-destun Māori. Fel rhan o’r prosiect, cafodd Dr Elen Ifan o Brifysgol Caerdydd Grant Arloesi gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i redeg gweithdai yn Aotearoa (Seland Newydd) a Chymru gyda cherddorion sy’n defnyddio’r iaith Māori a’r iaith Gymraeg yn eu gwaith. Mae’r adnodd hwn yn rhannu clipiau o’r gweithdy yng Nghaerdydd ac yn cynnwys gweithgareddau i’ch cynnwys chi yn ein ymchwil hefyd. Mae wedi’i gynllunio ar gyfer myfyrwyr addysg uwch yn bennaf, ond mae hefyd yn berthnasol i unrhyw un sy’n ymddiddori mewn cerddoriaeth boblogaidd Gymraeg ac mae’r daflen waith yn addas ar gyfer lefel UG a Safon Uwch hefyd. Bwriad y prosiect yn ei hanfod yw dod o hyd i bwyntiau cyswllt rhwng profiadau cerddorion sy’n defnyddio dwy iaith leiafrifol (y Gymraeg a te reo (yr iaith) Māori), gan geisio deall yr heriau amrywiol sy’n wynebu’r cymunedau cerddorol hyn, ond heb gymharu’n uniongyrchol. Mae’r prosiect yn defnyddio dulliau ymchwil creadigol ac yn cynnwys cynulleidfaoedd yn yr ymchwil. Mae’r adnodd hwn yn rhan o’r gwaith hwnnw. Mae’r ffeiliau fideo yn cynnwys cyflwyniad gan y prif ymchwilydd a chlipiau o weithdy a gynhaliwyd yng Nghaerdydd ym mis Tachwedd 2023. Mae’r daflen waith yn arwain y sawl sy'n defnyddio'r adnodd drwy'r gweithgareddau, eu hannog i ymwneud gyda themâu’r prosiect, meddwl am beth sy’n berthnasol neu’n bwysig iddyn nhw, ac yn gwahodd ymatebion creadigol i’r ymchwil.
Dulliau Ymchwil ac Ystadegau
E-werslyfr am gynllunio a gwneud ymchwil meintiol yw hwn. Mae'n gyflwyniad cyflawn a manwl i'r broses o gynllunio ymchwil, casglu data a dadansoddi ystadegau. Wedi'i anelu'n bennaf at israddedigion sy'n astudio Seicoleg, mae'r e-werslyfr yn mynd law yn llaw â modiwlau dulliau ymchwil a'r traethawd hir. Mae hefyd yn adnodd defnyddiol i israddedigion ac ôlraddedigion sy'n astudio dulliau ymchwil ac yn cynnal ymchwil meintiol mewn ystod eang o bynciau eraill. Yr awduron yw Dr Awel Vaughan-Evans, Dr Gwennant Evans-Jones ac Emma Hughes-Parry. Ymysg y pynciau a drafodir mae: Moeseg Cynllunio ymchwil meintiol Samplu, dilysrwydd a dibynadwyedd Cyflwyniad i ystadegau Dosraniadau a thebygolrwydd Ystadegau casgliadol Cydberthyniad Atchweliad llinol Y prawf t Dadansoddi atchweliad SPSS Dadansoddi cyfrannau a'r prawf chi sgwar Profion amharametrig amgen
Arferion Da o Ran Datblygu Darpariaeth Addysgol ac Addysgu mewn Iaith Leiafrifiedig mewn Prifysgolion: Enghrei...
Pwrpas y llyfryn yma yw rhannu arferion da o ran datblygu darpariaeth addysgol ac addysgu mewn iaith leiafrifiedig mewn prifysgolion. Mae’r arferion da sydd yn cael eu trafod yn y llyfryn hwn yn dod o grwpiau ffocws a gynhaliwyd gyda darlithwyr a myfyrwyr yn edrych ar eu profiadau o addysg gyfrwng Gymraeg a chyfrwng Wyddeleg mewn prifysgolion yng Nghymru ac Iwerddon. Mae'r llyfryn yn trafod: arferion da o ran annog myfyrwyr i astudio mewn iaith leiafrifiedig datblygu darpariaeth mewn iaith leiafrifiedig addysgu mewn iaith leiafrifiedig cefnogi myfyrwyr mewn iaith leiafrifiedig asesiadau mewn iaith leiafrifiedig normaleiddio defnydd o’r iaith leiafrifiedig ymysg myfyrwyr. Rydyn ni’n rhagweld bydd y llyfryn yma’n ddefnyddiol nid yn unig i ddarlithwyr a darparwyr addysg uwch yn y gwledydd yma, ond hefyd i ddarlithwyr, ddarparwyr addysg uwch a darparwyr mewn sectorau addysg eraill yn rhannau eraill o’r byd sy’n datblygu darpariaeth addysgol ac yn addysgu mewn iaith leiafrifiedig.
Sgwrs Adnoddau Cymdeithaseg
Adnoddau Cymdeithaseg Cymraeg ar-lein Sgwrs 20 munud yn cyflwyno adnoddau a grewyd gan ddarlithwyr Cymdeithaseg. Mae'r adnoddau sy'n cael eu cyflwyno yn ystod y sgwrs yn ddefnyddiol i athrawon, disgyblion, dysgwyr a darlithwyr i gefnogi eu dysgu ac addysgu. Mae'r adnoddau i gyd ar wefan Porth Adnoddau'r Coleg Cymraeg. Mae'r rhain yn cynnwys: Adnoddau 'PAAC' sydd ar themâu: Cyflwyniad i Gymdeithaseg, Addysg, Y Teulu, Sgiliau Ymchwil, ac Anghydraddoldeb Cymdeithasol. Modiwl Astudio Cymru Gyfoes Modiwl Theori Gymdeithasegol Esboniadur Gwyddorau Cymdeithasol.
Cynhyrchu cnydau yng Nghymru
Mae'r adnodd hwn yn edrych ar gynhyrchu cnydau yng Nghymru. Mae’n addas ar gyfer dysgwyr mewn addysg bellach ac uwch sy’n astudio rhaglenni o lefelau 2 i 6. Mae yna wyth uned, pob un yn cynnwys gwybodaeth am wahanol agweddau ar gynhyrchu cnydau. Mae'r rhain yn cynnwys agweddau ar drin, sefydlu, tyfu, gwrteithio, gwarchod, cynaeafu a storio cnydau. Mae'r adnodd yn cynnwys yr unedau canlynol: Cyflwyniad i gynhyrchu cnydau yng Nghymru Trin y tir Sefydlu cnwd Tyfiant a datblygiad cnydau Teilo cnwd Diogelu cnydau Cynaefu cnwd Storio cnydau Mae'r adnodd hwn wedi'i lwyfannu a'i gyhoeddi ar wefan HWB Llywodraeth Cymru.
Am Iechyd
Cyfres o bodlediadau lle mae darlithwyr o Brifysgol Bangor a gweithwyr proffesiynol yn y maes iechyd yn dod at ei gilydd i drafod materion cyfoes o fewn y byd iechyd sy'n effeithio ar bob un ohonon ni. Mae podlediad 'Am Iechyd' yn cynnig platfform proffesiynol i weithwyr rheng flaen ac academyddion i drafod yn y Gymraeg. Mae'r gyfres yn trafod nifer o bynciau megis: Iechyd Meddwl Pobl Ifanc Modelau Genediaeth Byw Efo Dementia Beth yw ystyr gofalu? Y berthynas rhwng iechyd a gofal Bronfwydo Pa effaith gaiff sefydlu Ysgol Feddygol ym Mhrifysgol Banor ar iechyd pobl gogledd Cymru?
Gwefan Meddwl.org
Sefydlwyd gwefan meddwl.org fis Tachwedd 2016, a chaiff ei redeg gan grŵp bach o wirfoddolwyr, er mwyn ceisio mynd i’r afael â’r diffyg gwybodaeth cyfrwng Cymraeg sydd ar gael i helpu pobol sy’n byw gyda chyflwr iechyd meddwl, a’u teuluoedd a’u ffrindiau. Dyma’r wefan gyntaf o’i math sy’n cynnwys gwybodaeth ar faterion iechyd meddwl drwy gyfrwng y Gymraeg yn unig. Mae gan bawb iechyd meddwl. Mae meddwl.org yn lle i gael cefnogaeth a gwybodaeth, ac i ddarllen a rhannu profiadau iechyd meddwl – i gyd drwy gyfrwng y Gymraeg.
Sesiynau Holi 'Pa Yrfa?' Gradd Cyfraith neu Droseddeg
Recordiadau o ddau sesiwn ar-lein i ddisgyblion sydd yn ystyried astudio'r gyfraith neu droseddeg yn y brifysgol. Mae'n gyfle da i ddarpar-fyfyrwyr gael syniad o'r math o yrfa gall rhywun ddilyn gyda gradd yn y pynciau hynny. Gall hefyd apelio at fyfyrwyr prifysgol sy'n ystyried eu gyrfa a chamau nesaf wedi graddio. Yn y sesiwn gyntaf mae gennym siaradwyr sydd wedi graddio mewn Cyfraith neu Droseddeg ac sydd nawr yn gweithio yn y maes. Mae'r ail sesiwn yn cynnwys cyfranwyr sydd wedi graddio mewn Cyfraith neu Droseddeg ond aeth ymlaen i ddilyn gyrfa tu hwnt i'r pynciau hynny.
Llyfr Glas Nebo mewn 3 munud
Adnodd fideo newydd sy’n cyflwyno ac yn crynhoi prif gynnwys, themâu a chymeriadau’r nofel Llyfr Glas Nebo gan Manon Steffan Ros ar gyfer astudiaeth Uned 2 TGAU CBAC Llenyddiaeth Gymraeg. Pwrpas yr adnodd yw cyflwyno’r nofel mewn ffordd fachog a syml, gan sbarduno’r dysgwyr i fynd ati i astudio ymhellach. Dolen i'r fideo ar YouTube - gllir dewis isdeitlau (Cymraeg) ar y fideo yn YouTube. Ariannir gan Lywodraeth Cymru.