Amlinelliad o arferion da wrth weithio gyda Sipsiwn, Roma a theithwyr.
Ymarfer Gorau wrth weithio gyda Sipsiwn, Roma a theithwyr yng Nghymru
Cyngor i Reolwyr: Cefnogi Defnydd o’r Gymraeg o fewn Addysg Drydyddol
Mae’r ddogfen hon yn cyflwyno canfyddiadau ac argymhellion ymarferol ar sut y gall sefydliadau addysg iechyd a gofal gynyddu defnydd myfyrwyr o’r Gymraeg. Yn seiliedig ar dystiolaeth ymchwil, mae’n archwilio’r ffactorau sy’n dylanwadu ar ddewis iaith myfyrwyr, gan gynnwys hyder ieithyddol, ymdeimlad o berthyn, profiadau dysgu a chymorth sefydliadol. Mae’r ddogfen yn cynnig cyfres o gamau i reolwyr ac arweinwyr strategol eu hystyried wrth ddatblygu darpariaeth Gymraeg a dwyieithog, gan ganolbwyntio ar ymyriadau sy’n debygol o gael yr effaith fwyaf ar ddefnydd o’r Gymraeg ac ar ddatblygu gweithluoedd dwyieithog i Gymru.
Cyngor i Addysgwyr: Cefnogi Defnydd o’r Gymraeg o fewn Addysg Drydyddol
Mae’r ddogfen hon yn cyflwyno canfyddiadau ymchwil ac awgrymiadau ymarferol i addysgwyr sy’n dymuno cynyddu defnydd myfyrwyr o’r Gymraeg o fewn eu dysgu a’u hasesu. Gan dynnu ar dystiolaeth am hyder ieithyddol, perthyn, profiadau dysgu a dewisiadau iaith, mae’n amlinellu ffyrdd o integreiddio’r Gymraeg yn effeithiol i weithgareddau addysgu, asesu a chefnogaeth academaidd. Mae’r canllaw yn pwysleisio pwysigrwydd creu cyfleoedd ystyrlon a chefnogol i ddefnyddio’r Gymraeg, gan helpu myfyrwyr i ddatblygu’r hyder a’r sgiliau sydd eu hangen i’w defnyddio yn eu hastudiaethau ac yn y gweithle yn y dyfodol.
Cynefino Gyda Hanes Cymru
Pwrpas y Llawlyfr ydy: rhoi gorolwg o themâu yn Hanes Cymru sy’n plethu gyda chysyniad eangfrydig o ‘Gynefin’, yn arbennig mewn cyswllt â’r Cwricwlwm i Gymru yn y Dyniaethau cyflwyno syniadau a thechnegau i athrawon, disgyblion a myfyrwyr am sut i fynd ati i ymchwilio ‘Cynefin’ o bersbectif hanesyddol. Datblygwyd yr adnodd gan Dr Mari Wiliam, Dr Lowri Ann Rees, a Dr Leona Huey.
Nabod Stori
Adnodd yw hwn i helpu myfyrwyr a disgyblion TGAU a Lefel Uwch sut i adnabod llinell dop stori newyddion afaelgar. Mae’r adnodd yn un digidol rhyngweithiol lle gall defnyddwyr ddysgu oddi wrth un o newyddiadurwyr gorau Cymru, Will Hayward, yn ogystal â newyddiadurwr digidol Reach, Ben Peris a Golygydd Tafod Prifysgol Caerdydd 2025/26 Hannah Williams. Mae cyfarwyddiadau ar bob cam am sut i ddefnyddio’r adnodd.
Ynni Adnewyddol - manteision i weithio ar y tir
Cyflwyniad gan Dr Paula Roberts ar sut mae ynni adnewyddol fod o fudd i ffermwyr a chymunedau cefn gwlad Cymru. Mae Paula yn esbonio manteisio ynni solar, hydro, gwynt, ac ailgylchu er mwyn arbed arian i fusnesau amaethyddol a chreu incwm drwy werthu ynni i'r Grid Cenedlaethol. Mae Paula yn gyn-ddarlithydd ym Mhrifysgol Bangor a bellach yn gadeirydd cwmni nid-er-elw, 'Ynni Cymru'.
Cyflwyniad Arloesedd mewn Bwyd ac Amaeth
Cyflwyniad gan Dr Robert Bowen o Adran Fusnes Prifysgol Caerdydd, ar sut mae, a sut gall, y sector bwyd ac amaeth yng Nghymru fanteisio ar farchnata eu cynnyrch. Mae'r cyflwyniad yn edrych ar y cyd-destun, heriau, arloesedd, ac entrepreneuriaeth yn y maes gan gynnwys enghreifftiau. Mae'n ystyried heriau megis Deallusrwydd Artiffisial, a'r angen i gynnig gwerth ychwanegol i'r cynnyrch.
Beth yw ystyr bywyd? ... a chwestiynau mawr eraill
Dyma bodlediad yn y Gymraeg sydd ychydig yn wahanol i’r arfer, a sydd – fel mae’r teitl yn ei awgrymu – yn mynd i’r afael â rhai o gwestiynau mawr bywyd. Ariennir y podlediad gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a chyflwynir y gyfres gan Dr Huw Williams, darllenydd mewn Athroniaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, sydd yn cynnal sgyrsiau bywiog a ffraeth â chyfeillion amrywiol, gan gynnwys arbenigwyr a rhai academyddion blaenllaw Cymraeg. Rhagdybiaeth y gyfres yw bod pob un ohonom yn hel meddyliau ar faterion dwys sy’n rhan o fywyd pob dydd, ac mae trafod a myfyrio ar y themâu hyn yn beth iach a phwysig. Mae’r sgyrsiau yn cyflwyno’r trafodaethau drwy gyfrwng iaith bob dydd mewn ffordd hygyrch; dylai apelio at ddysgwyr y 6ed dosbarth, myfyrwyr prifysgol, ac oedolion eraill nad oes ganddynt wybodaeth flaenorol o’r pynciau dan sylw. Felly ymunwch â ni (a pharatowch hefyd am daith fach i Roswell!) Cynhyrchir y gyfres, gyda cherddoriaeth wreiddiol, gan Osian Gwynedd.
Straeon Cariad Pur?: Adnoddau Adolygu
Adnoddau adolygu'r ddwy stori fer yn y gyfrol Cariad Pur? sydd ar fanyleb Cymraeg Ail Iaith UG/Safon Uwch (U2 Uned 6: Defnyddio Iaith a'r Stori Fer). Y ddwy stori yw Beth Os? gan Llio Mai Hughes a Trŵ Lyf gan Marlyn Samuel. Mae'r casgliad yn cynnwys: Copi Digidol Beth Os? (PDF + Word) Copi Digidol Trŵ Lyf (PDF) Taflenni Adolygu (PDF) Darlith Fideo a chyflwyniad PowerPoint Adolygu Cariad Pur? gan Dr Miriam Elin Jones Trawsgrifiad o'r ddarlith adolygu ar ffurf Word Fideo Cyfweliad Awdur Llio Mai Hughes + thrawsgrifiad Fideo Cyfweliad Awdur Marlyn Samuel + thrawsgrifiad Adnoddau wedi eu creu gan Adran y Gymraeg, Prifysgol Abertawe, o dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Astudiaethau Busnes
Yn yr adnodd hwn byddwch yn cael y cyfle i ddatblygu eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth o fusnesau a’u marchnadoedd. Mae’r adnodd wedi ei rannu’n chwe uned: Archwilio Busnes Marchnata Cyllid Personol a Busnes Busnes Rhyngwladol Egwyddorion Rheolaeth Gwneud Penderfyniadau Busnes Yma cewch wybodaeth ynglŷn â busnesau a chwmnïau yng Nghymru y gallwch ei defnyddio i ymchwilio ymhellach neu er mwyn cwblhau aseiniadau. Byddwch hefyd yn dod ar draws ymarferion byr ac astudiaethau achos a fydd yn profi eich dealltwriaeth yn fras. Mae'r adnodd hwn yn targedu dysgwyr sy'n astudio cyrsiau busnes ar lefel 3.
Matiau Iaith
Dyma gasgliad o fatiau iaith sy’n gallu eu defnyddio gan athrawon profiadol, athrawon newydd gymhwyso, a myfyrwyr TAR i ddatblygu geirfa ac iaith disgyblion o fewn pynciau uwchradd. Bwriad y matiau iaith yw codi hyder a chynyddu capasiti unigolion i ddefnyddio’r Gymraeg yn hyderus wrth addysgu eu pwnc yn yr ysgol uwchradd. Mae matiau wedi eu datblygu ar gyfer y pynciau canlynol: Cymraeg Ail Iaith Ieithoedd: Ffrangeg Bioleg Cemeg Ffiseg Technoleg Digidol Dylunio a Thechnoleg
Cynllunio ar gyfer Dyfodol Cymru
Crëwyd yr adnodd ar-lein hwn gan ddarlithwyr o Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio (GEOPL) Prifysgol Caerdydd ar gyfer myfyrwyr cynllunio sy’n siarad Cymraeg. Y nod yw rhoi rhywfaint o wybodaeth bellach a chipolwg ar fod yn gynllunydd yng Nghymru. Mae'n cynnwys pedwar fideo o siaradwyr Cymraeg yn trafod gwahanol agweddau o fod yn gynllunydd; gweithio yng Nghymru a/neu ddefnyddio'r Gymraeg yn y gweithle. Yn ogystal â hynny, mae rhai dolenni at adnoddau ysgrifenedig a allai fod yn ddefnyddiol. Mae'r tîm prosiect yn gobeithio parhau i ddatblygu’r adnodd yn y dyfodol.
