Bydd y gweithdy hwn o ddefnydd i unrhyw un sydd am gyflwyno gwybodaeth mewn ffyrdd amgen, a rhyngweithiol, boed fel rhan o gyflwyniad ymchwil neu wrth ddarlithio. Amcanion y gweithdy Datblygu dealltwriaeth uwch o feddalwedd adnabyddus Gwybod bod mabwysiadu technegau syml yn gallu arwain at gynnyrch o safon uwch, sy’n wahanol i’r arfer Llwyddo i gael y meddalwedd i weithio i chi, ac nid eich ‘caethiwo’ Cynnwys Dylunio templedi unigryw i siwtio eich cyflwyniadau chi Cyflwyno yn hydrus ac arloesol Adnabod offer newydd tu allan i’r rhai cyffredin Defnyddio PowerPoint yn effeithiol ar gyfer aml-bwrpas Ar ddiwedd y gweithdy hwn dylai hyfforddeion fod yn gallu: Creu cyflwyniadau rhyngweithiol sy’n edrych ac yn gweithio’n wahanol i’r cyffredin gydag hyder Deall technegau estynedig ar gyfer creu projectau, traethodau hir ac adroddiadau effeithiol Ystyried clymu elfennau pob project ar ei gilydd mewn portffolio rhyngweithiol, a gwybod sut i wneud hyn. Cyflwynydd: Dyddgu Hywel Astudiodd Dyddgu gwrs ‘BSc (Anrh.) Dylunio a Thechnoleg Addysg Uwchradd yn arwain at Statws Athro Cymwysedig’ ym Mhrifysgol Bangor, graddiodd gyda gradd dosbarth cyntaf. Bu’n ddarlithydd a thiwtor pwnc Dylunio a Thechnoleg Lefel A yng Ngholeg Meirion Dwyfor, cyn cael ei phenodi’n athrawes Dylunio a Thechnoleg yn Ysgol Gyfun Rhydywaun. Mae wrth ei bodd yn gweithio fel uwch ddarlithydd Addysg ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd erbyn hyn, ac yno ers dros saith mlynedd bellach, gyda’i arbenigedd mewn defnydd effeithiol o ddulliau addysgu, y defnydd o dechnoleg, ymgysylltiad a iechyd a lles myfyrwyr.
MS PowerPoint ar gyfer Ymchwilwyr
Sgwrs Iach
Cyfres o glipiau fideo i addysgu pobl ifanc am y gwahanol ddewisiadau gyrfa sydd ar gael o fewn y sector iechyd a gofal yng Nghymru gyda'r bwriad o sbarduno diddordeb myfyrwyr yn y sector, a chodi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd y Gymraeg o fewn y sector. Datblygwyd yr adnoddau gan Goleg Cambria.
Cyflwyniad i Gyhoeddi Mynediad Agored ‘open access’
Nod y gweithdy hwn yw datblygu gwell dealltwriaeth o'r hyn y mae cyhoeddi mynediad agored yn ei olygu, dysgu am sut mae'n cael ei weithredu mewn gwahanol meysydd a pham. Mae'r gweithdy hwn yn cynnwys trafodaeth am ddiffiniadau cystadleuol o fynediad agored a'r mathau o drwyddedau a ddefnyddir yn gyhoeddiadau mynediad agored. Mae'n ystyried buddion ac effeithiau mynediad agored dros ddulliau cyhoeddi traddodiadol, yn enwedig mewn cyd-destun yr iaith Gymraeg, ac yn defnyddio enghreifftiau penodol i ddangos effeithiau mewn gwahanol sectorau ac ar gyfer gwahanol randdeiliaid. Yn olaf, bydd y gweithdy'n ystyried y newid cynyddol tuag at fynediad agored a'r hyn y gallai hynny ei olygu i ddyfodol cyhoeddi yng Nghymru a thu hwnt. Bydd cyfranogwyr yn ennill dealltwriaeth o sut mae cyhoeddi mynediad agored yn gweithio, sut mae hawlfraint yn effeithio ar hygyrchedd a sut mae gwahanol drwyddedau agored yn cyfyngu neu'n caniatáu defnydd. Byddant yn datblygu gwell dealltwriaeth o pam y gall cyhoeddi mynediad agored fod yn fwy buddiol na modelau masnachol traddodiadol, mewn rhai achosion, a sut mae mynediad agored yn hyrwyddo cydraddoldeb ac yn cynyddu ymgysylltiad â'r Gymraeg. Cyflwynir yr adnodd gan Jason Evans, Wicimediwr Cenedlaethol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae wedi hyrwyddo Mynediad Agored o fewn y sefydliad ac yn ehangach yn y sector diwylliant. Mae Jason yn gweithio gyda phrosiectau Wikimedia, gan gynnwys Wikipedia, i rannu casgliadau digidol y Llyfrgell yn agored ac i annog ymgysylltu a chyfranogiad mewn prosiectau torfoli agored. Gan weithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru mae wedi arwain nifer o brosiectau i ddatblygu cynnwys a data mynediad agored Cymraeg.
Dŵr, Haul, Gwynt, Golau (rhan o brosiect Seiniau Uchel, Carbon Isel)
Mae prosiect 'Seiniau Uchel, Carbon Isel', sef prosiect Prifysgol Bangor mewn partneriaeth gyda Phontio ag M-SParc, ac wedi ei noddi gan y Coleg Cymraeg, yn trefnu perfformiad cerddorol/fideo fydd yn cael ei ffrydio yn fyw ar sianel AM. Fel rhan o'r prosiect, fe fydd y pianydd a'r cyfansoddwr Tristian Evans yn perfformio’r gwaith aml-gyfrwng 30 munud ‘Dŵr, Haul, Gwynt, Golau’. Wedi’i ysbrydoli gan eiriau hen a newydd yn ymwneud â’r amgylchedd, mae Tristian wedi cyfansoddi darnau i’r piano mewn ymateb i’r argyfwng hinsawdd sydd yn ein gwynebu. Gan fabwysiadu’r broses o ailgylchu mewn cyd-destun creadigol, mae’n plethu hen alawon crefyddol, deunydd gweledol o’r archif, testunau o’r Beibl, a lleisiau ieuenctid, ac fe ddaw’r cyfan yn fyw mewn dau waith amlgyfrwng i’r piano. Mae Dŵr, Haul, Gwynt, Golau yn integreiddio geiriau amgylcheddol gan blant a phobl ifanc, yn ogystal â delweddau sy’n cyd-fynd hefo sgôr i’r piano. Yna perfformir Tir (Creadigaeth/Etifeddiaeth), sydd yn ymateb i’r syniad o greadigaeth ac etifeddiaeth o’r ddaear, wedi’i ddylanwadu gan gyfeiriadau Beiblaidd a chefndir teuluol y pianydd ym Môn yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Fe fydd y perfformiad yn para oddeutu hanner awr ar 25 Tachwedd 2020 (19:30) Cliciwch isod am fwy o wybodaeth
Esboniadur Newyddiaduraeth
Mae’r Esboniadur Newyddiaduraeth yn dod â gwahanol ddiffiniadau a chysyniadau newyddion, newyddiaduraeth a’r cyfryngau yng Nghymru a thu hwnt ynghyd mewn adnodd hawdd i'w ddefnyddio.
Laura Beth Davies, 'Cyflogadwyedd, cyfrifoldeb, cael digon o’r Gymraeg? Dewisiadau ieithyddol dysgwyr Addysg B...
Mae’r erthygl hon yn archwilio’r rhesymau dros y nifer bychan o ddysgwyr sy’n astudio trwy’r Gymraeg ac yn ddwyieithog yn y sector Addysg Bellach, gan ganolbwyntio ar ddysgwyr galwedigaethol. Cynigia argymhellion i wella’r sefyllfa yng nghyd-destun targed Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Seilir yr ymchwil ar gyfweliadau lled-strwythuredig â staff mewn ysgolion a cholegau Addysg Bellach ac ar grwpiau ffocws â disgyblion Blwyddyn 11, mewn pedair ardal ar draws Cymru. Canfuwyd bod ffactorau economaidd, diwylliannol ac addysgol yn dylanwadu ar ddewisiadau dysgwyr. Dadleuir dros gynnig rhaglen ymwybyddiaeth iaith er mwyn ehangu disgwrs y Gymraeg fel offeryn cyflogadwyedd, a disgwrs manteision dwyieithrwydd i gynnwys manteision cymdeithasol.
Huw L. Williams, 'Y Llwybr tuag at Heddwch Parhaol: John Rawls a’r Athrawiaeth Rhyfel Cyfiawn'
Mae athrawiaeth John Rawls ynghylch rhyfel cyfiawn yn cael ei dehongli’n bennaf fel estyniad ar ddamcaniaeth Walzer. Fodd bynnag, o’i ystyried yng ngoleuni ymrwymiad Rawls i feirniadaeth Kant, a natur iwtopaidd ei fyfyrdodau ar gysylltiadau rhyngwladol yn The Law of Peoples, ymddengys ei safbwynt ar ryfel yn un nodedig a beiddgar. Mae dylanwad Kant yn amlwg ar ei athrawiaeth soffistigedig, sydd wedi ei nodweddu gan heddwch fel egwyddor lywodraethol rhyfel, ac egwyddorion rhyfel cyfiawn sydd yn gyfystyr â chyfiawnder dros dro, nad ydynt byth yn gwbl gyfiawn. Daw persbectif sgeptigol i’r amlwg felly sy’n gwrthod estyn ei athrawiaeth ar ryfel cyfiawn i ryfela dyngarol. Colomen yn hytrach na hebog fyddai’r gwladweinydd Rawlsaidd, wedi’i ymrwymo i’r gred fod rhyfel yn ddrygioni i’w osgoi a’i orchfygu, a bod modd gweithio tuag at heddwch parhaol.
MS Word ar gyfer Ymchwilwyr
Bydd y gweithdy hwn o ddefnydd i unrhyw un sydd am gyflwyno gwybodaeth mewn ffyrdd amgen, a rhyngweithiol, boed fel rhan o gyflwyniad ymchwil neu wrth ddarlithio. Amcanion y gweithdy Datblygu dealltwriaeth uwch o feddalwedd adnabyddus Gwybod bod mabwysiadu technegau syml yn gallu arwain at gynnyrch o safon uwch, sy’n wahanol i’r arfer Llwyddo i gael y meddalwedd i weithio i chi, ac nid eich ‘caethiwo’ Cynnwys Word: Creu tudalen cynnwys rhyngweithiol Cyflwyno offer at ddefnydd yr iaith Gymraeg Offer perthnasol ar gyfer cymorth cyfeirio Ar ddiwedd y gweithdy hwn dylai hyfforddeion fod yn gallu: Creu cyflwyniadau rhyngweithiol sy’n edrych ac yn gweithio’n wahanol i’r cyffredin gydag hyder Deall technegau estynedig ar gyfer creu projectau, traethodau hir ac adroddiadau effeithiol Ystyried clymu elfennau pob project ar ei gilydd mewn portffolio rhyngweithiol, a gwybod sut i wneud hyn. Cyflwynydd: Dyddgu Hywel Astudiodd Dyddgu gwrs ‘BSc (Anrh.) Dylunio a Thechnoleg Addysg Uwchradd yn arwain at Statws Athro Cymwysedig’ ym Mhrifysgol Bangor, graddiodd gyda gradd dosbarth cyntaf. Bu’n ddarlithydd a thiwtor pwnc Dylunio a Thechnoleg Lefel A yng Ngholeg Meirion Dwyfor, cyn cael ei phenodi’n athrawes Dylunio a Thechnoleg yn Ysgol Gyfun Rhydywaun. Mae wrth ei bodd yn gweithio fel uwch ddarlithydd Addysg ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd erbyn hyn, ac yno ers dros saith mlynedd bellach, gyda’i arbenigedd mewn defnydd effeithiol o ddulliau addysgu, y defnydd o dechnoleg, ymgysylltiad a iechyd a lles myfyrwyr.
Problemau a Datrysiadau yn y Gwyddorau Ffisegol
Mae'r adnodd hwn yn cynnwys chwe pecyn o adnoddau yn ymwneud ag egwyddorion craidd sylfaenol Mathemateg a Ffiseg. Maent yn cynnwys problemau a datrysiadau, gyda’r amcan o gynyddu'r derminoleg Gymraeg yn y pynciau a chodi hyder myfyrwyr i ymdrin â'r pynciau yn y Gymraeg. Ceir set o esiamplau ac ymarferion theoretig ac ymarferol ar gyfer pob un o'r chwe phwnc dan sylw.
Cyflwyniad i ieithyddiaeth
Mae "Cyflwyniad i Ieithyddiaeth" yn gyflwyniad i hanfodion Ieithyddiaeth ar gyfer myfyrwyr sydd heb gefndir, neu heb fawr o gefndir, mewn astudio iaith a phynciau ieithyddol (e.e seiniau iaith, morffoleg a chystrawen, ystyr, amlieithrwydd a sosioieithyddiaeth).
PAAC - Pecyn Adnoddau Amlgyfrwng Cymraeg
Pecyn o e-lyfrau a fideos i gefnogi dysgu cymdeithaseg drwy gyfrwng y Gymraeg. Cynulleidfa’r deunyddiau hyn yw disgyblion sy’n astudio Lefel A Cymdeithaseg mewn ysgolion ledled Cymru, a myfyrwyr blwyddyn gyntaf sydd am astudio’r pwnc yn y brifysgol.
Dadansoddi data gydag ‘R’ a 'Python'
Amcan y gweithdy hwn yw cyflwyno technegau dadansoddi data effeithiol ac ailgynhyrchiadwy mewn dwy iaith rhaglennu ffynhonnell agored boblogaidd, R a Python. Cyflwynir yr adnodd gan Dr Geraint Palmer, darlithydd cyfrwng Cymraeg yn Ysgol Mathemateg Prifysgol Caerdydd. Mae ei ymchwil ym maes Ymchwil Gweithrediadol yn bennaf yn ymwneud â modelu gwasanaethau cyhoeddus fel systemau ciwio yn analytig a trwy efelychiadau cyfrifiadurol. Mae’r gwaith hwn yn defnyddio pynciau megis tebygolrwydd, damcaniaeth graffiau, dadansoddi data, a datblygiad meddalwedd. Cyflwyniad Mae defnyddio meddalwedd ystadegol arbenigol er mwyn dadansoddi data yn helpu cywirdeb ac effeithlonrwydd eich gwaith. Yn y cwrs hwn byddwn yn edrych ar naill ai R neu Python (eich dewis chi), dwy iaith rhaglennu boblogaidd iawn ar gyfer dadansoddi data a thasgau cysylltiedig. Mae defnyddio côd, ac yn enwedig côd ffynhonnell agored, hefyd yn helpu gyda ailgynhyrchadwyedd - mae mwy o wybodaeth ar y cysyniadau i’w gweld yma: https://sgiliauymchwilcyfrifiadurol.github.io/. Cynnwys: Cyfres o 10 fideo (5 yn R a 5 yn Python), ar y pynciau canlynol: Lawrlwytho, gosod, a dechrau’r meddalwedd Darllen data a chynhyrchu ystadegau disgrifiadol Plotio Cyfuno ac ail-siapio data Profi rhagdybiaethau Set data enghreifftiol Tasg ymarferol i gyd-fynd â phob fideo Ar ddiwedd y gweithdy hwn dylai hyfforddeion fod yn gallu: gweithio trwy’r gyfres fideos a gweithgareddau - byddwch yn medru dechrau a dadansoddi data gyda naill ai R neu Python. Yn benodol, byddwch yn gwybod sut i ddarllen data gyda’r meddalwedd, cynhyrchu ystadegau disgrifiadol, plotio, cyfuno ac ail-siapio data, a phrofi rhagdybiaethau.
