Bwletinau Gwybodaeth am Swyddi gan Gyrfa Cymru ar gyfer dysgwyr ac addysgwyr.
Dysgu sut i ddefnyddio'r rhyngrwyd (Learn my Way)
Cyrsiau am ddim gan Learn My Way ar sut i ddefnyddio cyfrifiadur, pori'r we, anfon e-bost a dod o hyd i swydd ar-lein ar gyfer dysgwyr sydd â sgiliau sylfaenol. Cyrsiau megis: Defnyddio'ch cyfrifiadur neu ddyfais Diogelwch ar-lein Hanfodion ar-lein Rhaglenni Swyddfa Gwella'ch iechyd ar-lein Rheoli'ch arian ar-lein
Porth Adnoddau: Beth yw e? Sut i ychwanegu adnodd newydd?
Mae gwefan y Porth Adnoddau yn cynnig un lle canolog i rannu ystod eang o adnoddau cyfrwng Cymraeg ar gyfer y sectorau Ôl-16 a Galwedigaethol ac Addysg Uwch. Isod, ceir fideos yn cyflwyno beth yw'r Porth a sut i'w ddefnyddio. Ceir hefyd ddolen i ffurflen ar gyfer ychwanegu adnodd newydd i'r Porth a chanllawiau manwl ar sut i'w llenwi.
Gohebu ar ..... Y Newyddion
Dyma wefan rhyngweithiol sy'n gyflwyniad i ysgrifennu newyddiadurol. Mae'r adnodd ar gyfer myfyrwyr newyddiaduraeth ac unrhyw un sydd â diddordeb mewn ysgrifennu stori dda. Mae yma ganllaw ar sut i ysgrifennu ar gyfer papurau newydd, radio, teledu, ar-lein ac ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol yn ogystal â chyflwyniad i'r hyn sy'n dylanwadu ar benderfyniadau golygyddol newyddiadurwyr a'u golygyddion. Mae'n cynnwys fideos, cwis ac ymarferion ar-lein. Mae'r adnodd yma yn un o dri a chyrhaeddodd y rhestr fer yn 2020 ar gyfer gwobrau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am greu Adnodd Cyfrwng Cymraeg.
Mathemateg â Swigod
Mae’r wefan yma’n cynnwys cyflwyniad ar sut y gellir defnyddio swigod er mwyn datrys problem fathemategol mewn optimeiddiaeth, a adnabyddir fel Problem Steiner. Yn y broblem hon, y nod yw ceisio darganfod y ffordd byrraf o gysylltu n pwynt (all ddynodi dinasoedd neu drefi er enghraifft) ar y plân gyda’i gilydd. Er mwyn datrys y broblem yma, byddwn yn gwneud cysylltiadau â’r broblem o ddarganfod arwynebau minimol (e.e. gan ddefnyddio swigod). Mae’r wefan yn cynnwys dau set o ymarferion, y naill wedi’i anelu at ddysgwyr ym mlynyddoedd 10-11 a’r llall yn addas ar gyfer dysgwyr ym mlynyddoedd 12-13. Mae’r set cyntaf o ymarferion yn cynnwys cyfrifiadau geometreg (ac yn bennaf trigonometreg), tra bod yr ail set hefyd yn cynnwys problemau sy’n ymwneud â darganfod terfannau a differu.
Y Geiriadur Celf
Wrth astudio Celf a Dylunio ar gyfer Safon Uwch Gyfrannol a Safon Uwch bydd y myfyriwr angen dod o hyd i ystyr geiriau arbenigol a darganfod mwy am fudiadau celf. Mae'r Geiriadur Celf wedi ei lunio ar gyfer ateb y gofyn hwn. Mae'n cynnwys esboniadau clir a chynhwysfawr ar gyfer cofnodion sy'n allweddol ar gyfer myfyrwyr Celf a Dylunio yng Nghymru.
Tiwtorial recordio Powerpoint â throslais
Dyma weithdy byr sy’n dangos sut mae mynd ati i ddefnyddio PowerPoint i recordio troslais a llun fideo ar gyfer cyflwyniadau a sesiynau hyfforddi.
Adnoddau Rhaglennu
Cyfres o adnoddau aml-gyfrwng i ddysgu rhaglennu trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’n cynnwys 28 fideo sy’n cwmpasu lawrlwytho, gosod a rhedeg Python; cystrawen sylfaenol; a meddwl algorithmig trwy ddatrys problemau enghreifftiol. Yn ogystal ceir gwefan cyfrwng Cymraeg sy’n cynnwys adnoddau datblygu meddalwedd ymchwil a sgiliau ymchwil cyfrifiadurol.
Dafydd Sills-Jones, 'Gogwydd hanesyddol ar astudiaethau cynhyrchu: ail gyfnod cwmni Teliesyn drwy fframweithia...
Dros y deng mlynedd diwethaf, mae ‘astudiaethau cynhyrchu cyfryngau’ wedi tyfu’n sylweddol fel is-ddisgyblaeth. Yn sgil hyn, mae’r drafodaeth arferol ar y ddynameg rhwng technoleg, economi, ffurfiau diwylliannol, creadigrwydd a gyrfaoedd proffesiynol wedi eu trawsnewid, gan herio hen begynau disgyrsiol economi gwleidyddol ac astudiaethau diwylliannol. Er hynny, mae gogwydd cyfoes i’r datblygiadau hyn, sy’n aml yn anwybyddu hanes y cyfryngau. Mae’r erthygl hon yn ceisio defnyddio agwedd ‘astudiaethau cynhyrchu cyfryngau’ (wrth ddefnyddio fframweithiau cysyniadol Simon Cottle, Pierre Bourdieu ac Eric Berne) er mwyn olrhain hanes un o brif gwmnïau teledu Cymru, Teliesyn.
Gohebu ar...Wleidyddiaeth Cymru
Dyma gasgliad o adnoddau ar gyfer darpar newyddiadurwyr neu unrhywun sydd eisiau deall mwy am wleidyddiaeth Cymru. Mae'n cynnwys: Gwefan rhyngweithiol sy’n gyflwyniad i wleidyddiaeth Cymru. Fideo yn cyflwyno gwaith Senedd Cymru. Fideo yn son am y diffyg democrataidd yn Nghymru Podlediad yn trafod gohebu ar etholiad Datblygwyd yr adnoddau gan adran JOMEC (Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant, Prifysgol Caerdydd). Mae'r adnodd yma yn un o dri a chyrhaeddodd y rhestr fer yn 2020 ar gyfer gwobrau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am greu Adnodd Cyfrwng Cymraeg.
Ymgorffori sgiliau astudio mewn addysgu
Bydd y gweithdy hwn o ddiddordeb i staff sy’n dymuno archwilio dulliau o ymdrin â sgiliau astudio, a’r posibiliadau o integreiddio a chyflwyno elfennau o sgiliau astudio i mewn i raglenni/modiwlau/cyrsiau academaidd. Cyflwynydd: Dr Leila Griffiths Mae Leila Griffiths yn Gynghorwr Astudio yng Nghanolfan Sgiliau Astudio, Prifysgol Bangor, ac yn rhinwedd ei swydd mae wedi bod yn gweithio fel rhan o dîm sy’n anelu at gynorthwyo israddedigion a myfyrwyr ôl-radd yn ystod y broses o bontio i Brifysgol a symud ymlaen trwyddi. Gweithia’r Ganolfan yn agos gydag adrannau academaidd i gefnogi ac ategu’r ddarpariaeth bwnc benodol o fewn y disgyblaethau, ac i ledaenu arferion gorau. Mae gan Leila brofiad o gydweithio’n agos gyda staff mewn nifer o wahanol adrannau academaidd ym maes datblygu dysgu ac addysgu. Amcanion y gweithdy Datblygu ymwybyddiaeth o ddulliau o ymdrin â sgiliau astudio ar lefel pynciol; Rhannu arferion gorau mewn perthynas ag ysgolion academaidd ym maes sgiliau astudio; Archwilio’r posibiliadau o gyflwyno sgiliau astudio fel elfen integredig o fodiwl neu gwrs academaidd. Deilliannau Dysgu Cyflwyno agweddau ar sgiliau astudio ar lefel pynciol i fyfyrwyr (gan sicrhau fod y ddarpariaeth sgiliau astudio a gynigir gan yr ysgol yn berthnasol i astudiaethau pwnc benodol eu myfyrwyr); Adnabod arferion gorau ym maes sgiliau astudio wrth gynllunio modiwlau/cyrsiau; Bod yn ymwybodol o fodelau a dulliau o gyflwyno sgiliau astudio o fewn modiwlau/cyrsiau.
Gohebu ar...Covid-19
Dyma wefan rhyngweithiol sy'n adnodd defnyddiol i ddarpar newyddiadurwyr ar ohebu ar Covid-19. Mae'n cynnwys gwybodaeth ar sut mae'r newyddion yn cael ei greu yn ystod y pandemig a gwybodaeth ar y galw am newyddion dibynadwy yn ystod yr argyfwng. Mae yma hefyd ganllaw ar ba Lywodraeth sy'n gyfrifol am beth wrth ymateb i Covid-19. Yn ogystal, mae'n cynnwys fideos i'w gwylio a cwis. Mae'r adnodd yma yn un o dri a chyrhaeddodd y rhestr fer yn 2020 ar gyfer gwobrau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am greu Adnodd Cyfrwng Cymraeg.