Mae’r gyfres hon yn esbonio sut mae defnyddio meddalwedd Panopto, gan gynnwys sut i fynd ati i recordio, sut i olygu, sut i rannu’r clipiau fideo ag eraill a sut i ddefnyddio Panopto ar gyfer asesu. Mae'r adnodd yn cynnwys: Cyflwyniad - Cyflwyniad byr ar ffurf fideo yn esbonio beth yw’r meddalwedd recordio Panopto ac ar gyfer beth mae’n cael ei ddefnyddio. Cychwyn arni: Lawrlwytho’r recordydd Panopto -Sut i lawrlwytho’r recordydd Panopto ar gyfer Windows Paratoi eich safle Blackboard - Sut i baratoi eich safle Blackboard ar gyfer defnyddio Panopto (cwrs gwreiddiol a chwrs ultra) Creu eich recordiad cyntaf - Sut i fynd ati i recordio Golygu syml - Sut i fynd ati i olygu dechrau a diwedd recordiad a thynnu rhan o ganol recordiad Copïo recordiad o un ffolder i un arall - Sut i gopïo recordiad o un ffolder Panopto i un arall Symud recordiad o un ffolder i un arall - Sut i symud recordiad o un ffolder Panopto i un arall Is-deitlau - Sut i olygu neu ddileu’r is-deitlau Gosod y recordiad o fewn strwythur modiwl - Sut i osod dolen i recordiad Panopto o fewn Blackboard (safle yn y wedd wreiddiol) Gosod y recordiad o fewn strwythur modiwl - Sut i osod dolen i recordiad Panopto o fewn Blackboard (safle Ultra) Panopto ar gyfer asesu: Creu ffolder aseiniadau - Sut i greu ffolder aseiniadau o fewn eich safle Blackboard i alluogi myfyrwyr gyflwyno gwaith ar ffurf fideo Uwchlwytho fideo i'r ffolder aseiniadau - Fideo i fyfyrwyr ar sut i uwchlwytho ffeil i’r ffolder aseiniadau Gosod cwis o fewn recordiad - Creu a gosod cwisiau o fewn recordiad - Dogfen Sway Rhannu recordiad gydag eraill - Sut i rannu fideo ag eraill a hawliau gwylio Cyflwynydd: Bethan Wyn Jones Mae Bethan Wyn Jones yn Uwch Dechnolegydd Dysgu ym Mhrifysgol Bangor ac hefyd ar secondiad rhan-amser gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol fel technolegydd e-ddysgu. Mae ganddi dros 18 mlynedd o brofiad yn gweithio ym maes e-ddysgu ac yn benodol ar y defnydd o dechnoleg dysgu fel cyfrwng i hyrwyddo darpariaeth cyfrwng Cymraeg o fewn Addysg Uwch.
Defnyddio meddalwedd recordio Panopto
Sgiliaith: Posteri Dysgu Dwyieithog
Dyma gyfres o bosteri gan gwmni Sgiliaith ar gyfer tiwtoriaid mewn colegau ac aseswyr dysgu’n y gweithle. Maen nhw’n cynnig syniadau ar sut i ddechrau defnyddio a chyflwyno’r Gymraeg yn eich gwersi. Yn y gyfres mae posteri ar y canlynol: Taflen Cyfarchion Taflen Adborth Taflen Cwestiynau Syml Geirfa Dwyieithog i Diwtoriaid ac Aseswyr Dysgu’n y Gweithle Manteision Dwyieithrwydd Creu ethos dwyieithog yn y dosbarth Poster Adnoddau Defnyddiol Poster Dechrau Dwyieithogi Gwers
Termau technegol ar gyfer dysgu trwy’r Gymraeg
*Mae'r hyfforddiant ar waelod y dudalen hon Cyflwynwyr: Yr Athro Delyth Prys a Dr Tegau Andrews Amcanion y gweithdy hwn yw: Cyflwyno cefndir y gwaith safoni termau, yn rhyngwladol ac yn genedlaethol, gan blethu’r damcaniaethol a’r ymarferol, er mwyn egluro’r broses safoni a’i perthnasedd i waith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Rhoi gwell dealltwriaeth i staff a myfyrwyr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol o’r adnoddau geiriadurol a therminolegol sydd ar gael i’w cynorthwyo i ysgrifennu a chyfathrebu yn well mewn Cymraeg academaidd da. Datgelu dirgelwch sut mae termau Cymraeg yn cael eu bathu a’u safoni, gan drafod yr egwyddorion rhyngwladol sy’n gyrru’r broses a chyflwyno enghreifftiau penodol, fel y gall unrhyw rai sydd â diddordeb ddeall sut mae’r termau hyn yn cyrraedd ein hiaith. Rhoi arweiniad i awduron, cyfieithwyr a rheolwyr prosiectau sydd wedi cael eu hariannu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i greu adnoddau i fyfyrwyr, gan esbonio iddynt ar ddechrau’r broses o greu adnodd sut mae termau’n berthnasol iddynt a ble mae gwaith termau’n ffitio o fewn eu hamserlen. Cynnwys: Trosolwg cyffredinol o’r adnoddau geiriadurol a therminolegol sydd ar gael i staff a myfyrwyr. Cymorth ymarferol ar sut i ddefnyddio geiriaduron cyffredinol a geiriaduron termau electronig ar-lein. Esboniad o sut mae safoni termau i’r Gymraeg, a pherthnasedd safonau rhyngwladol i’r broses honno. Amlinelliad o gamau datblygu adnoddau i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, gan ganolbwyntio ar rôl termau o fewn y camau hyn. Ar ddiwedd y gweithdy hwn dylai hyfforddeion fod yn gallu: Amgyffred yn well bwysigrwydd defnyddio termau safonol mewn ysgrifennu academaidd. Defnyddio adnoddau geiriadurol a therminolegol yn fwy effeithiol yn eu gwaith, a gwella safon eu Cymraeg academaidd. Gwybod ble i droi os bydd angen cymorth ychwanegol arnynt gyda thermau technegol Cymraeg. Deall yn well sut y mae termau’n cael eu safoni ar gyfer y Gymraeg. Cynllunio adnoddau newydd i fyfyrwyr gan ystyried unrhyw waith termau hanfodol. Bywgraffiad Mae’r Athro Delyth Prys wedi bod yn Brif Olygydd y Ganolfan Safoni Termau (bellach rhan o Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr) ers 1993, ac yn Bennaeth yr Uned Technolegau Iaith ers 2001. Mae’n arwain tîm cymysg o ieithyddion ac arbenigwyr meddalwedd sy’n datblygu offer iaith digidol arloesol ar gyfer y Gymraeg. Mae’r Dr Tegau Andrews yn Derminolegydd i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ers 2009. Yn ystod y cyfnod hwn mae wedi datblygu Geiriadur Termau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i fod yn un o’r prif eiriaduron termau technegol Cymraeg, yn cynnwys diffiniadau, diagramau a lluniau esboniadol.
Cynhadledd Ymchwil Ar-lein 2021
Cynhadledd a gynhaliwyd ar 29 Mehefin 2021 ar gyfer pawb sydd yn cynnal ac sydd â diddordeb mewn ymchwil academaidd trwy gyfrwng y Gymraeg, beth bynnag yw’r maes a beth bynnag yw’r ddisgyblaeth. Gwahoddwyd gwyddonwyr, dyniaethwyr a chymdeithasegwyr o bob cwr o Gymru a thu hwnt i rannu ffrwyth eu hymchwil ac i gwrdd ag ymchwilwyr Cymraeg eraill o’r un anian. Bwriad y gynhadledd oedd rhoi cyfle i’r to nesaf o academyddion i dorri eu dannedd ar gyflwyno eu hymchwil gerbron cynulleidfa o gyfoedion. Roedd hefyd yn gyfle i rwydweithio ag ymchwilwyr Cymraeg eu hiaith ac i feithrin cymuned ehangach o academyddion sy'n hyrwyddo darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn ein prifysgolion. Cliciwch isod i weld recordiad o'r gynhadledd sy'n cynnwys sesiynau cwestiynau ac ateb ar y cyflwyniadau. Mae hefyd dolenni i weld y posteri ymchwil a gyflwynwyd.
Gweithdy Newid Ymddygiad
Mae'r adnodd hwn wedi'i adeiladu ar gyfres o weithdai newid ymddygiad. Mae'r adnodd yn recordiad o gyflwyniad sy'n cysyniadoli ymddygiad rhesymol ac afresymol, yn trafod ffactorau sydd yn effeithio ar ddewis cyfrwng addysg uwch ac yn amlinellu fframwaith newid ymddygiad (ac yn cynnwys enghraifft syml o sut i'w ddefnyddio). Mae'r adnodd yn berthnasol i unrhywun o fewn y sector addysg uwch sydd am ddefnyddio mewnwelediadau neu ymagwedd ymddygiadol i newid ymddygiad. Mae ymagwedd o'r fath yn cydnabod pwysigrwydd fframio dewisiadau a natur afresymol ein ymddygiad, ac yn boblogaidd iawn ymysg llywodraethau a gwneuthurwyr polisi. Dylid wylio'r cyflwyniad, ac mae modd defnyddio'r enghraifft fel ysbrydoliaeth i'ch defnydd chi o ymagwedd ymddygiadol neu defnydd o'r fframwaith.
Canllawiau Creu Adnoddau Dysgu Digidol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Mae'r canllawiau yma'n cyflwyno pethau i'w hystyried wrth fynd ati i greu adnoddau dysgu digidol. Mae'r canllaw yn cyfierio at yr elfennau canlynol: Ymchwilio a chynllunio Awduro'r cynnwys Hygyrchedd a hawlfraint Llwyfannu adnodd ar y Porth Adnoddau Twlcit creu adnoddau (rhestr o feddalwedd) Rhestr wirio creu adnodd Rhestr wirio hygyrchedd Yn ogystal, mae dolen i Ganllaw Dylunio Dwyieithog Comisiynydd y Gymraeg. Mae'r canllaw hwn yn sôn am sut i gwflwyno'r ddwy iaith wrth ddylunio cynnwys.
Mentimeter
Dyma weithdy i'ch rhoi chi ar ben ffordd wrth ddefnyddio gwefan Mentimeter yn hyderus yn eich addysgu fel ffordd o ymgysylltu a'ch myfyrwyr. www.mentimeter.com Bydd y gweithdy hwn o fudd i unrhyw un sydd am ddatblygu ac adeiladu ar ddulliau addysgu ar-lein, dysgu arloesol, cyflwyno ar-lein ac ymgysylltu gyda myfyrwyr. Cefndir Hyfforddwr: Mae'r sesiwn hon yn cael ei harwain gan Dyddgu Hywel. Astudiodd Dyddgu gwrs ‘BSc (Anrh.) Dylunio a Thechnoleg Addysg Uwchradd yn arwain at Statws Athro Cymwysedig’ ym Mhrifysgol Bangor, graddiodd gyda gradd dosbarth cyntaf. Bu’n ddarlithydd a thiwtor pwnc Dylunio a Thechnoleg Lefel A yng Ngholeg Meirion Dwyfor, cyn cael ei phenodi’n athrawes Dylunio a Thechnoleg yn Ysgol Gyfun Rhydywaun. Mae wrth ei bodd yn gweithio fel uwch ddarlithydd Addysg ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd erbyn hyn, ac yno ers dros saith mlynedd bellach, gyda’i arbenigedd mewn defnydd effeithiol o ddulliau addysgu, ymgysylltu a myfyrwyr a’r defnydd o dechnoleg.
Rheoli amser a phwysau gwaith
Yn ystod yr amser ansicr hwn gall fod yn dasg a hanner i reoli amser yn effeithiol. Wrth i nifer ohonom addasu i weithio o bell, tra bod eraill yn dysgu addasu i weithio mewn awyrgylch wahanol ar y campws, gall reoli amser fod yn heriol. Dyma gyfle ymarferol i adolygu eich steil personol yn nhermau sut fyddwch chi'n rheoli eich gwaith, pobl, gweinyddiaeth, cydbwysedd bywyd a gwaith ac ati. Cynnwys: Mae gweithio yn rhithiol a rheoli pwysau gwaith amrywiol ynghyd â sialensiau gofal yn y cartref wedi herio y rhan fwyaf ohonom yn ddiweddar. Bydd y gweithdy hwn yn gyfle i feddwl am y pwysau newydd a’r effaith ar ein hamser, a bydd cyfle i ystyried ffyrdd o weithio yn fwy effeithiol yn unigol ac fel tîm. Ar ddiwedd y gweithdy hwn dylai hyfforddeion fod yn gallu: Adnabod problemau a chynhyrchu rhaglen weithredu. Adnabod y ffyrdd amlycaf o wastraffu amser. Gweithio yn well trwy gynllunio a blaenoriaethu. Gwneud defnydd effeithiol o’r dyddiadur/trefnydd personol. Cael gwared â phentwr o waith papur a negeseuon e-bost. Gwneud defnydd effeithiol o amser gydag eraill. Bywgraffiad Mari Ellis Roberts Mae Mari yn Swyddog Adnoddau Dynol ym Mhrifysgol Bangor ac yn gyfrifol am y ddarpariaeth Datblygu Staff mewnol. Yn ogystal mae hi’n rheoli cynllun Cymhelliant a Mentora'r Brifysgol ac yn rhedeg gweithdai effeithiolrwydd personol megis sgiliau rheoli amser, gosod nodau effeithiol ayb.
Gwerddon Fach ar Golwg 360 - cyfrannu erthygl
Mae Gwerddon Fach yn cyhoeddi erthyglau academaidd byrion i roi blas i gynulleidfa eang o’r ymchwil ddiweddaraf gan academyddion blaenllaw o Gymru a thu hwnt Yn ogystal â chyhoeddi fersiynau poblogaidd o erthyglau hirach sy’n cael eu cyhoeddi yn e-gyfnodolyn Gwerddon ei hun, mae croeso i bobl gyfrannu erthyglau byrion oddeutu 600 – 1,000 o eiriau am unrhyw ymchwil sydd o ddiddordeb i gynulleidfa ehangach – boed yn adroddiad ar eu gwaith ymchwil diweddaraf nhw a’u cydweithwyr, yn ymateb i ddarganfyddiadau o bwys neu drafodaethau polisi cyhoeddus a materion cyfoes, yn adroddiad ar drafodion cynhadledd academaidd, neu’n gyflwyniad syml i bynciau ymchwil dyrys. Os oes gennych ddiddordeb mewn cyfrannu erthygl, gallwch lawrlwytho copi o'r canllawiau (gweler isod), ac yna cysylltwch â Dr Hywel Griffiths, Is-olygydd Gwerddon: hmg@aber.ac.uk. Gwefan: https://golwg.360.cymru/gwerddon
Gwerddon - cyfrannu erthygl
Mae Gwerddon yn e-gyfnodolyn sy’n cyhoeddi ymchwil Cymraeg gwreiddiol mewn ystod eang o feysydd academaidd. Ei nod yw symbylu a chynnal trafodaeth academaidd, a chreu cronfa o waith ysgolheigaidd at ddefnydd myfyrwyr ymchwil ac academyddion cyfrwng Cymraeg. Cyllidir a chyhoeddir Gwerddon gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. A oes gennych ddiddordeb cyfrannu erthygl i Gwerddon? Cyhoeddir Gwerddon o leiaf ddwywaith y flwyddyn a chroesawir erthyglau gan unrhyw ymchwilydd sy’n creu gwaith o safon ryngwladol. Gwneir penderfyniad golygyddol p’un ai derbynnir erthygl i'w chyhoeddi ai peidio yn dilyn proses arfarnu annibynnol. Disgwylir i erthyglau fod rhwng 5,000 ac 8,000 o eiriau ond ystyrir pob erthygl yn unigol. Gofynnir i gyfranwyr sicrhau bod eu herthygl yn cydymffurfio â'r canllawiau golygyddol a’r canllaw iaith ar y dudalen ganlynol cyn cyflwyno: gwerddon.cymru/cyfrannu-erthygl/ Dylid anfon erthyglau ac ymholiadau at gwybodaeth@gwerddon.cymru. Pam cyhoeddi yn Gwerddon? 1. Mae modd cyhoeddi ar unrhyw bwnc academaidd. Mae Gwerddon yn cyhoeddi erthyglau academaidd ar draws ystod eang o bynciau yn y Celfyddydau, y Dyniaethau, a’r Gwyddorau. 2. Barn arbenigol ar eich gwaith a chefnogaeth termau ac iaith. Bydd dau arbenigwr yn rhoi barn ysgolheigaidd ar safon eich gwaith ac mae gennym broses arfarnu dwbl-ddall. Pryderu am safon eich Cymraeg? Dilynwch ein canllawiau golygyddol ac fe wnawn ni eich helpu gyda'r gweddill. 3. Mae Gwerddon yn gydnaws â gofynion y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF). 4. Llwyfan rhad ac am ddim i gyhoeddi gwaith academaidd. Mae Gwerddon hefyd yn agored ac am ddim i'r darllenydd. Mae erthyglau yn cael eu defnyddio ar restrau darllen a'u dyfynnu mewn ymchwil academaidd eraill. 5. Cyfle i gyhoeddi drwy gyfrwng y Gymraeg. Nid pob cyfnodolyn sy'n derbyn erthyglau drwy gyfrwng y Gymraeg ac mae cyhoeddi yn Gwerddon yn gyfle i gyfrannu tuag at ddiwylliant academaidd cyfoethog Cymru.
Y Fframwaith Ymarfer Goruchwyliol Da
Mae’r Fframwaith Ymarfer Goruchwyliol Da yn cydnabod, am y tro cyntaf ar lefel genedlaethol, y set eang, hynod gymhleth a heriol o rolau a gyflawnir gan oruchwylwyr ymchwil modern Mae’r fframwaith wedi'i gynllunio i bennu disgwyliadau ar gyfer pob goruchwyliwr ac i gefnogi rhaglenni datblygu goruchwylwyr. Mae'r fframwaith wedi'i ysgrifennu gan yr Athro Stan Taylor o Brifysgol Durham, ac mae'n seiliedig ar ystod eang o ymchwil academaidd i oruchwyliaeth. Ceir wybodaeth bellach am y Rhaglen Cydnabod Goruchwyliaeth Ymchwil a'r llwybr tuag at derbyn cydnabyddiaeth isod. Cysylltwch â Lois McGrath i drafod ymehllach: l.mcgrath@colegcymraeg.ac.uk Gwefan UKCGE
Osgoi llên-ladrad: Ysgrifennu academaidd effeithiol [canllaw i addysgwyr], Dr Leila Griffiths
Mae’r adnodd hwn yn cefnogi’r sawl sy'n rhoi arweiniad i fyfyrwyr ynghylch arferion academaidd da y gallent roi ar waith wrth ymateb i'w ffynonellau ac ysgrifennu amdanynt gan osgoi llên-ladrad. Wedi’i gynnwys o fewn yr adnodd hwn ceir y canlynol: Arweiniad ar ffurf canllaw i addysgwyr ynghylch cyflwyno arferion academaidd da sy’n gysylltiedig ag osgoi llên-ladrad; Deunyddiau ar-lein (cyflwyniadau Sway a chwisiau) y gellir eu rhannu yn uniongyrchol gyda myfyrwyr; a Thaflenni gwaith y gellir eu rhannu gyda myfyrwyr. Nod canolog yr adnodd hwn yw darparu man hwylus i addysgwyr fedru troi ato am gymorth ac arweiniad sy’n fodd o’u harfogi â syniadau ymarferol ar gyfer gweithdai yn ogystal â deunyddiau rhyngweithiol i’w rhannu â myfyrwyr. Dr Leila Griffiths Mae Dr Leila Griffiths yn Gynghorwr Astudio (cyfrwng Cymraeg) yng Nghanolfan Sgiliau Astudio, Prifysgol Bangor. Mae wedi bod yn gweithio fel rhan o dîm sy’n anelu at gynorthwyo israddedigion a myfyrwyr ôl-raddedig i ddatblygu’r strategaethau a’r prosesau a fydd yn gymorth i fyfyrwyr fanteisio i’r eithaf ar eu hastudiaethau. Mae gan Leila brofiad o gydweithio’n agos gydag adrannau academaidd i gefnogi ac ategu’r ddarpariaeth pwnc-benodol o fewn y disgyblaethau, ac i ledaenu arferion da. Mae ffrwyth ei phrofiad o gydweithio gydag adrannau i ddatblygu’r cwricwlwm a datblygu modiwl sgiliau i’r Coleg Cymraeg wedi cael ei gyhoeddi yma yn ddiweddar. Yn ychwanegol i’r ddarpariaeth o fewn adrannau, mae’r Ganolfan hefyd yn darparu apwyntiadau unigol wyneb-yn-wyneb (fel arfer), dros y ffôn neu dros Teams, cymorth mathemateg ac ystadegau, yn ogystal â gweithdai generig a chanllawiau astudio ar-lein i fyfyrwyr ar bob lefel astudio.
