Yma, cyflwynir adroddiad gan y naturiaethwr a'r teithiwr Thomas Pennant (1726 – 98) ar Tsieina, sy'n rhan o'i lawysgrif amlgyfrol, 'Outlines of the Globe', a gedwir yn yr Amgueddfa Forwrol Genedlaethol. Ceir tair adran i'r adnodd: ysgrif yn trafod ymdriniaeth Pennant â Tsieina; atodiad yn cynnwys delweddau o'r llawysgrif wreiddiol ynghyd â thrafodaeth yn eu gosod yn eu cyd-destun; a map rhyngweithiol yn dangos y lleoliadau a enwir yn yr adroddiad gan ganolbwyntio ar bum taith hanesyddol allweddol i Tsieina, ynghyd â thaith ddychmygol Pennant ar hyd arfordir y wlad. Mae'r adnoddau'n addas ar gyfer myfyrwyr, ysgolheigion, ac unrhyw un sydd â diddordeb yn Tsieina ac ym meysydd Astudiaethau Crefyddol, Celf, Daearyddiaeth, Economeg, Gwyddorau Amgylcheddol ac Eigion, a Hanes. Cedwir yr holl adnoddau gyda'i gilydd ar wefan Teithwyr Chwilfrydig (https://curioustravellers.ac.uk/tsieina/). Yno, gellir lawrlwytho'r ysgrif a'r atodiad yn uniongyrchol, a gellir dilyn dolen i'r map rhyngweithiol. Ceir cyfarwyddiadau manwl ar sut i drin y map o fewn yr adnodd ei hun, o dan 'Canllaw i'r defnyddiwr', sydd wedi'i leoli o dan 'Gwybodaeth bellach' ar y ddewislen ar y bar llorweddol ar frig y dudalen.
Tsieina Thomas Pennant
Dŵr a Phŵer yn Nyffryn Camwy: heriau a gwrthdaro ynghylch sefydlu a rheoli system ddyfrhau
Bwriad yr erthygl hon yw llunio hanes y system ddyfrhau yn Nyffryn Camwy a grëwyd gan y gwladfawyr Cymreig a gyrhaeddodd Batagonia (yn yr Ariannin) ym 1865, gan gymhlethu’r berthynas a oedd yn bodoli rhwng y seilwaith hwn a’r fframwaith cymdeithasol-wleidyddol newidiol. Bydd hyn yn cynnwys rhoi sylw i’r sefydliadau a grëwyd gan y gwladfawyr eu hunain ac i’r gwrthdaro a fu rhyngddynt a gwladwriaeth yr Ariannin a ddaeth yn gyfrifol am y weinyddiaeth ddyfrhau ym 1943. Rhoddir pwys ar alluedd (agency) dŵr o fewn y broses a arweiniodd at atgyfnerthu ac ehangu’r seilwaith dyfrhau, a rhoddir sylw hefyd i ddimensiwn symbolaidd y gwrthrychau sy’n rhan o’r seilwaith hwnnw gan fyfyrio ar eu hystyr newidiol. Awdur: Fernando Williams
Darllen ac ysgrifennu gorffennol y Wladfa: dadleuon am hanes a chof yn ymsefydliad Cymreig Chubut
Bwriad yr erthygl hon yw dadansoddi’r gwahanol ddarlleniadau a gafwyd o hanes y Wladfa o fewn naratifau swyddogol o orffennol talaith Chubut yn yr Ariannin. Cynhwysa hyn gynnyrch y wladwriaeth daleithiol, ond hefyd eiddo actorion eraill yng nghymdeithas Chubut, gan gynnwys y gymuned Gymreig ei hun. Er mwyn gwneud hyn, canolbwyntir ar y deongliadau a gynhyrchwyd dros dri chyfnod: yn gyntaf, rhwng y 1930au a 1955, pan oedd Chubut yn diriogaeth genedlaethol; yn ail, cyfran o flynyddoedd cyntaf bodolaeth talaith Chubut rhwng 1958 a 1975; ac yn olaf, rhwng y 1980au a’r presennol, gyda ffocws ar ddathliadau’r canmlwyddiant a hanner (ers glaniad y gwladfawyr cyntaf) yn 2015. Ystyrir hefyd y newidiadau a welwyd rhwng naratifau hanesyddol gwahanol, yn ogystal â’r elfennau o barhad rhyngddynt. Trwy gydol y tri chyfnod hyn, dangosir bod naratifauswyddogol o orffennol Chubut wedi gosod hanes y gwladychu Cymreig yn gonglfaen ar gyfer sefydlu’r dalaith, gan roi rôl hegemonaidd i’r hanes hwn. Awdur: Guillermo Williams
Heb ei fai, heb ei eni: ‘Disgwrs’ a Moeseg y Wladfa
Nodweddir y drafodaeth gyhoeddus ar-lein ddiweddar ynghylch y Wladfa gan duedd i gollfarnu’r gwladfawyr Cymreig ar sail foesol. Â’r erthygl hon i’r afael â’r tueddiad hwn gan bwyso a mesur sut, ac i ba raddau, y mae modd inni osod y Wladfa a’i phobl yn y fantol foesol. Rhoddir sylw manwl i ymdriniaethau Geraldine Lublin a Lucy Taylor â’r hanes, fel enghreifftiau o ddadansoddi ystyrlon, amlhaenog sy’n llwyddo i gyfleu cymhlethdod a drysni’r sefyllfa. Wedi cynnig y braslun hwn, cymhwysir fframwaith moesegol Iris Marion Young i’r hanes, er mwyn amlygu ystyriaethau moesegol allweddol, sy’n dilyn ymgais Catherine Lu i gymhwyso’r un model ‘cysylltiadau cymdeithasol’ i hanes trefedigaethol Siapan. Cynigir rhai casgliadau cychwynnol ynghylch yr hyn a amlygir. Awdur: Huw L. Williams
Paradocs wrth bortreadu Patagonia yn y Gymru ddatganoledig: Archwiliad cychwynnol o Separado! (Gruff Rhys a Dy...
Mae’r erthygl hon yn archwilio elfennau o’r portread o’r Wladfa a gyflwynir yn Separado! (2010), sef rhaglen ddogfen arbrofol o ran arddull gan Gruff Rhys a Dylan Goch. Saif y portread dan sylw yng nghyd-destun ystod o weithiau ffeithiol a ffuglennol am y Wladfa o safbwynt Cymru a gynhyrchwyd ers y 1940au. Trwy gyfrwng cysyniadau a ddeillia o theori lenyddol (Linda Hutcheon), cymdeithaseg diwylliant (Pierre Bourdieu), theori wleidyddol (Ernesto Laclau), theori llenyddiaeth taith (Graham Huggan a Patrick Holland; Peter Hulme), a theori ôl-drefedigaethol (Mary Louise Pratt), bydd yn bosib olrhain yn y rhaglen ddogfen dueddiadau a fodolai eisoes mewn portreadau eraill yng Nghymru, sef troi at Batagonia mewn cyfnodau heriol yn wleidyddol er mwyn datrys pryderon am Gymreictod yn ogystal ag am orffennol a dyfodol y wlad. Awdur: Sara Borda Green
Tasgau Asesu a Datblygu Sgiliau Iaith Athrawon
Dyma gasgliad o dasgau sy’n gallu cael eu defnyddio i ddatblygu ac asesu sgiliau iaith ymarferwyr addysg yn erbyn y Fframwaith Cymwyseddau Iaith i Ymarferwyr Addysg. Mae’r casgliad yn cynnwys tasgau ar gyfer pob sgil a phob lefel yn y Fframwaith. Mae'r llyfrynnau PDF sy'n cynnwys holl dasgau'r lefel dan sylw, ar gael ar gyfer bob lefel o'r Framwaith. Yn ogystal, mae'r tasgau ar gael i'w lawrlwytho yn unigol ar ffurf dogfennau Word. Os na fydd y dolenni yn agor y ddogfen mewn tab newydd, yna bydd y ddogfen wedi ei lawrlwytho (edrychwch yn y ffolder lawrlwythiadau ar eich cyfrifiadur).
Am Filiwn: Podlediad
Podlediad sy’n trin a thrafod agweddau ar fyd addysg sy’n datblygu disgyblion i fod yn siaradwyr Cymraeg yng nghyd-destun anelu at filiwn o siaradwyr. Bydd y podlediad yn apelio at unrhyw un sy’n dilyn cwrs hyfforddi athrawon, yn athro newydd gymhwyso, neu’n aelod o’r gweithlu addysg. Bydd o ddiddordeb hefyd i unrhyw un sydd eisiau gwybod mwy am rôl byd addysg wrth anelu at gyrraedd miliwn o siaradwyr. Mae'n adnodd arbennig o dda i gydfynd â'r Fframwaith Cymwyseddau Iaith i Ymarferwyr Addysg.
Amrywio ffonolegol (ai) yn y sillaf olaf ddiacen yng Nghymraeg Caerdydd
Yn yr erthygl hon, cyflwynir dadansoddiad meintiol o amrywio ffonolegol (ai) yn y sillaf olaf ddiacen mewn perthynas â’r orgraffynnau, ac yng Nghymraeg Caerdydd. O ganlyniad i ddiffyg ymchwil ar Gymraeg Caerdydd, nid yw’n glir pa ffurf neu ffurfiau sy’n gyffredin ar gyfer (ai) yng Nghaerdydd erbyn hyn, a bydd yr erthygl hon yn cyflwyno darlun cyfredol o’r nodwedd hon trwy archwilio effaith cyffyrddiad tafodieithol a safoni ar Gymraeg Caerdydd. Ceir hefyd ddadansoddiad o ystod o ffactorau ieithyddol a chymdeithasol sy’n effeithio ar amrywio (ai) yn y sillaf olaf ddiacen yng Nghymraeg Caerdydd. Mae’r erthygl hefyd yn ystyried goblygiadau ffurfio tafodiaith newydd yng nghyd-destun adfywio ieithyddol. Awdur: Ianto Gruffydd
Fferm Ddiogel
*Mae angen penwisg 'Oculus Quest 2' i ddefnyddio fersiwn VR yr adnodd hwn. Mae fersiwn AR ar gael hefyd ac mae modd lawrlwytho a defnyddio'r fersiwn hon ar ffôn neu dabled.* Y profiad VR gorau i unrhyw un sydd â diddordeb mewn diogelwch fferm! Mae Fferm Ddiogel wedi’i dylunio i helpu dysgwyr i nodi a deall peryglon posibl ar y fferm, yn ogystal â dysgu sut i’w hosgoi mewn ffyrdd diogel ac ymarferol. Archwiliwch iard y fferm, lle byddwch yn dysgu am y peryglon sy'n gysylltiedig â lleoliadau amaethyddol ac offer a geir yn gyffredin ar y fferm. Ymwelwch â'n canolfan hyfforddi ATV, lle byddwch yn dysgu am beryglon reidio ATVs. Yn olaf, gallwch gael profiad o weithio gydag anifeiliaid mewn amgylchedd diogel a rheoledig, gan ddysgu am y risgiau sy'n gysylltiedig â thrin da byw. Mae ein ap yn cynnwys pum avatar cyfeillgar, Ceri, Bevan, Jack, Yana, a Geth, a fydd yn eich arwain trwy bob senario, gan roi awgrymiadau a chyngor defnyddiol ar hyd y ffordd. Byddant yn eich helpu i nodi peryglon, deall y risgiau posibl y maent yn eu hachosi, a sut i osgoi'r risgiau hynny. Perffaith ar gyfer darlithwyr ac aseswyr sydd eisiau addysgu elfennau ymarferol o'r cwricwlwm mewn amgylchedd diogel a rheoledig. Mae sain yr adnodd hwn yn Gymraeg gydag is-deitlau Saesneg a Chymraeg. *Mae angen penwisg 'Oculus Quest 2' i ddefnyddio fersiwn VR yr adnodd hwn. Mae fersiwn AR ar gael hefyd ac mae modd lawrlwytho a defnyddio'r fersiwn hon ar ffôn neu dabled.*
Mwy na Geiriau: Cyfathrebu mewn Iechyd a Gofal
Nod yr adnodd hwn yw cyflwyno ymwybyddiaeth iaith mewn iechyd a gofal i fyfyrwyr addysg uwch ac ymarferwyr proffesiynol. Ei brif amcan yw meithrin hyder myfyrwyr i ddefnyddio eu Cymraeg gyda chleifion a chydweithwyr yn y GIG. Datblygwyd yr adnodd hwn ar gyfer myfyrwyr addysg uwch (lefel 4+) sydd yn astudio unrhyw bwnc iechyd a gofal ac yn bwriadu mynd ymlaen i ddilyn gyrfa yn y maes. Mae hefyd yn addas ar gyfer ymarferwyr proffesiynol a gellir ei ddefnyddio fel rhan o ddatblygiad proffesiynol parhaus. Ac eithrio Uned 1, mae pob uned yn dilyn llwybr claf penodol er mwyn dangos sut mae gwahanol broffesiynau yn cydblethu ac yn cael effaith ar brofiad y claf neu ddefnyddiwr gwasanaeth. Gellir gweithio drwy’r pecyn cyfan yn ôl ei drefn neu ddewis a dethol unedau penodol. Mae modd addysgu’r unedau yn yr ystafell ddosbarth neu eu hastudio’n annibynnol. Mae rhan fwyaf o’r unedau yn cyflwyno geiriau, ymadroddion a therminoleg Cymraeg i’w defnyddio gyda chleifion a staff. Er y bydd yr eirfa hon yn gyfarwydd i fyfyrwyr sydd eisoes yn siarad Cymraeg, fe’u hanogir i ystyried sut i rannu a dysgu’r eirfa i’w cyfoedion. Yn sgil hyn, mae’r cynnwys hwn yn addas i bob myfyriwr, beth bynnag fo’u gallu Cymraeg.
Celf a Dylunio ar y MAP 2023
"MYFYRWYR ARLOESI PERFFORMIO" Nod ‘Celf a Dylunio ar y MAP’ yw cynnig cyfle unigryw i fyfyrwyr Celf a Dylunio cyfrwng Cymraeg i ddod ynghyd mewn un man i rannu a thrafod eu gwaith ac i elwa ar brofiad artistiaid ac eraill sy’n gweithio yn y diwydiant. Thema’r ŵyl a chynhaliwyd yng Nghaerdydd oedd ‘Ail dehongli traddodiad’. Mae’r fideo isod yn rhoi blas o’r ŵyl i chi.
Cynhadledd Ymchwil 2023
Cynhelir y Gynhadledd hon ar ffurf hybrid eleni eto, ar 30 Mehefin, gyda chynulleidfa wyneb yn wyneb yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth, ac fe’i darlledir yn fyw i gynulleidfa rithiol. Mae rhagor o wybodaeth am y Gynhadledd yn y calendr digwyddiadau ar wefan y Coleg Cymraeg.
