Golyga pwysau ar Wasanaeth Iechyd Genedlaethol (GIG) Cymru fod angen ffyrdd newydd o ddarparu safonau uchel o ofal gan ddefnyddio’r adnoddau sydd ar gael. Un dull yw gweithio’n agosach â chleifion, gan gasglu Mesurau Canlyniad a Adroddir gan Gleifion (Patient Reported Outcome Measures (PROMs) a Mesurau Profiad a Adroddir gan Gleifion (Patient Reported Experience Measures) (PREMs). Gobeithir y bydd casglu data o’r fath yn helpu wrth geisio darparu gofal iechyd darbodus. Rhy’r erthygl hon arolwg o ddatblygu’r system gasglu genedlaethol gyntaf yng Nghymru. Casglodd y system 66,000 PROMs a PREMs gan 25,000 claf dros dair blynedd, a dengys defnydd cynnar o’r data hyn y potensial i wella gwasanaethau. Y bwriad hir-dymor yw gwneud casglu data o’r fath yn rhan reolaidd o ofal iechyd eilaidd yng Nghymru.
Robert Ieuan Palmer, Kathleen Withers, Amanda Willacott a Grace Carolan-Rees, Gwella gwasanaethau gofal iechyd...
Peredur Webb-Davies a Christopher Shank, Defnydd hanesyddol a chyfoes o ‘mynd i’ yn y Gymraeg: Astudiaeth o ra...
Adwaenir y defnydd o ferfau symud i gyfleu’r dyfodol yn drawsieithyddol fel enghraifft o ramadegoli (grammaticalization), sef lle bo strwythur yn newid dros amser i fod yn llai diriaethol ac yn fwy gramadegol. Dadansoddir nifer o gorpora hanesyddol a chyfoes o’r Gymraeg mewn modd ansoddol er mwyn adnabod datblygiad diacronig o ‘mynd i’ er mwyn cyfleu’r dyfodol yn yr iaith Gymraeg. Gwelir rhai enghreifftiau o’r ffurf ramadegoledig o ‘mynd i’mewn testunau o’r unfed ganrif ar bymtheg a’r ail ganrif ar bymtheg, gan ddangos bod y broses o ramadegoli wedi dechrau o leiaf 500 mlynedd yn ôl, ond ni ddaeth y strwythur yn flaenllaw tan yr ugeinfed ganrif. Dadleuir bod hyn yn enghraifft o ddylanwad gramadeg y Saesneg, sydd â’r ymadrodd BE + going to a fu hefyd drwy broses o ramadegoli hanesyddol, ac y bu cynnydd mewn dwyieithrwydd yn ystod yr ugeinfed ganrif yng Nghymru yn ffactor yn y broses o normaleiddio’r ffurf wedi ei ramadegoli. Trafodir sut mae sefyllfa’r strwythur Cymraeg hwn yn datblygu ein gwybodaeth o effaith cydgyffwrdd ieithyddol (language contact) ar ramadegoli.
Dafydd Sills-Jones, 'Gogwydd hanesyddol ar astudiaethau cynhyrchu: ail gyfnod cwmni Teliesyn drwy fframweithia...
Dros y deng mlynedd diwethaf, mae ‘astudiaethau cynhyrchu cyfryngau’ wedi tyfu’n sylweddol fel is-ddisgyblaeth. Yn sgil hyn, mae’r drafodaeth arferol ar y ddynameg rhwng technoleg, economi, ffurfiau diwylliannol, creadigrwydd a gyrfaoedd proffesiynol wedi eu trawsnewid, gan herio hen begynau disgyrsiol economi gwleidyddol ac astudiaethau diwylliannol. Er hynny, mae gogwydd cyfoes i’r datblygiadau hyn, sy’n aml yn anwybyddu hanes y cyfryngau. Mae’r erthygl hon yn ceisio defnyddio agwedd ‘astudiaethau cynhyrchu cyfryngau’ (wrth ddefnyddio fframweithiau cysyniadol Simon Cottle, Pierre Bourdieu ac Eric Berne) er mwyn olrhain hanes un o brif gwmnïau teledu Cymru, Teliesyn.
Anwen Jones, Perfformio dinasyddiaeth: Sisters, cynhyrchiad ar y cyd rhwng National Theatre Wales a Junoon The...
Prif amcan yr erthygl hon yw gofyn sut mae dinasyddion Cymru fodern yn defnyddio’r adnoddau theatraidd sydd ar gael iddynt er mwyn archwilio a mynegi eu hunaniaethau a’u profiadau cenedlaethol. Man cychwyn y drafodaeth fydd cynhyrchiad o’r enw Sisters, prosiect ar y cyd rhwng National Theatre Wales a Junoon Theatre Mumbai. Mae Sisters yn ysgogi trafodaeth am ddulliau newydd o greu ac o gyfranogi o theatr sydd yn ymateb yn greadigol i heriau cymdeithas fyd-eang, ddigidol ac ôl-gyfalafol yr unfed ganrif ar hugain. Wrth drin a thrafod y cynhyrchiad a’i gyd-destun, defnyddir gweledigaeth gignoeth Johannes Birringer o theatr gyfoes fel gweithgarwch trawsffurfiannol sy’n canolbwyntio ar gyd-greu anhysbys a dadwreiddiedig fel canllaw i fesur llwyddiant ac arwyddocâd Sisters. Dadleuir hefyd fod yr union amgylchedd cymdeithasol a ysgogodd weledigaeth Birringer yn rhoi pwysigrwydd ffres ar ddadl Amelia Jones am werth ymateb i gynhyrchiad neu berfformiad trwy gyfrwng tystiolaeth eilaidd, neu falurion, chwedl Matthew Reason.