Cyfres o adnoddau i addysgu’r Cyfryngau Newydd, Ieithoedd Modern a Gwleidyddiaeth cyfrwng Cymraeg. Mae tair prif adran: Byd Bach, Pedwar Ban ac Adnoddau Addysgu. Mae Byd Bach yn gyfres o ddarllediadau, gyda'r cyfranwyr yn crynhoi mewn cwta 7-10 munud brif straeon y wasg mewn gwlad arbennig, gan roi sylw penodol i straeon rhyngwladol. Mae Pedwar Ban hefyd yn cynnwys darllediadau: gwahoddwyd y cyfranwyr i ddarllen drwy bapurau gwahanol wledydd y byd, gan ddod at ei gilydd i drafod rhai o’r prif straeon. Ceir hefyd gyfres o ymarferion rhyngweithiol, taflenni gwaith traddodiadol a rhestrau geirfa, ynghyd â fideos gyrfa.
Esboniadur Ffilm a Theledu Cymru
Manylion ar ffilmiau a rhaglenni Cymraeg a Saesneg, a bywgraffiadau a chlipiau fideo o rai o ffigyrau allweddol y maes. Aderyn Papur, Yr Alcoholig Llon, Stephen Bayly, Branwen, Byw Yn Dy Groen, Caerdydd, Cameleon, Ceri Sherlock, Con Passionate, Dafydd, Dal:Yma/Nawr, Dinas, Diwrnod Hollol Mindblowing Heddiw, Peter Edwards, Eldra, Elenya, Endaf Emlyn, Aron Evans, Marc Evans, Y Fargen, Fondue, Rhyw a Deinosors, Karl Francis, Gadael Lenin, Gelert, Gogs, Grand Slam, Gwenoliaid, William Haggar, Hedd Wyn, John Hefin, House of America, How Green Was My Valley, Rhys Ifans, Jabas, Sue Jeffries, Naomi Jones, Paul Jones, Joni Jones, Little White Lies, Y Mabinogi, Y Mapiwr, Milwr Bychan, Y Mynydd Grug, Newid Ger, O'r Ddaear Hen, Oed Yr Addewid, Felicity 'Fizzy' Oppe, Pam Fi Duw?, Siân Phillips, Meic Povey, Rhys Powys, The Proud Valley, Joanna Quinn, Rhosyn a Rhith, A Run For Your Money, Sam Tân, Separado!, Sleep Furiously, Solomon a Gaenor, Streetlife, SuperTed, Tair Chwaer, Talcen Caled, Teisennau Mair, Teulu, Traed Mewn Cyffion, Treflan, Paul Turner, Un Nos Ola' Leuad, Under Milk Wood, A Way of Life, Emlyn ..
Dramâu wedi'u digideiddio
Mae’r adnodd hwn yn cynnwys casgliad o ddramâu a ddigideiddiwyd mewn cydweithrediad â Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Datblygwyd y casgliad er mwyn sicrhau bod testunau sydd allan o brint ar gael yn hwylus i fyfyrwyr a darlithwyr. Mae rhai o'r dramâu ar gael ar gyfer defnydd addysg yn unig oherwydd rhesymau hawlfraint a bydd angen mewngofnodi er mwyn cael mynediad iddynt.
Alan Llwyd yn trafod y ffilm 'Hedd Wyn'
Cyfweliad gydag Alan Llwyd ynglŷn â'r ffilm Hedd Wyn a'r grefft o sgriptio ar gyfer y sgrin. Ceir sesiwn holi ac ateb ar y diwedd. Recordiwyd y sesiwn yn Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau, Prifysgol Bangor, ym mis Mawrth 2012.Cyfweliad gydag Alan Llwyd ynglŷn â'r ffilm Hedd Wyn a'r grefft o sgriptio ar gyfer y sgrin. Ceir sesiwn holi ac ateb ar y diwedd. Recordiwyd y sesiwn yn Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau, Prifysgol Bangor, ym mis Mawrth 2012.
Llinell Amser Celf
Mae Llinell Amser yn ffenestr i ddyfeisgarwch creadigol Cymru drwy hanes ar draws pob genre a chyfrwng. Gweithiwyd ar y Llinell Amser gan dîm o artistiaid/dylunwyr gweithiol ac academyddion, sy'n ymwneud â dysgu, ymchwil a chreu yng Nghymru heddiw. Ym mhob adran ceir delweddau a dolenni at wybodaeth, lle bo honno ar gael, i roi'r lluniau yn eu cyd-destun. Bydd tudalen adnoddau'n cynnwys llyfryddiaeth a gwefannau buddiol a fydd yn caniatáu i'r myfyrwyr ddatblygu eu gwybodaeth ymhellach.
Gair am Gelf
Mae'r casgliad hwn o ysgrifau gan artistiaid cyfoes sydd yn byw ac yn gweithio yng Nghymru yn rhoi cip-olwg i ddarpar fyfyrwyr Celf a Dylunio ar y ffordd y bu i rai o'n hartistiaid ddarganfod eu creadigrwydd drwy addysg, a thrwy ymroddiad yn eu gyrfa.
Lleisiau o'r Lludw: Her yr Holocost i'r Cristion – Gareth Lloyd Jones
Trafodaeth ar agwedd Cristnogion tuag at Iddewon ar hyd y canrifoedd a chyfraniad posib yr Eglwys Gristnogol at gyflafan yr Holocost. Gellir lawrlwytho'r e-lyfr ar ffurf PDF, ePub neu Mobi.
CAEA Gwaith Ieuenctid
Cwrs rhyngweithiol sy'n cyflwyno nifer o agweddau ar waith ieuenctid yng Nghymru.
Sgiliau Iaith i Athrawon
Mae'r adnodd rhyngweithiol hwn yn cynnwys cyfres o adnoddau a ddatblygwyd i unrhyw un sy’n dymuno datblygu eu sgiliau iaith ar gyfer y dosbarth. Mae'r adnoddau i'w cael yn llawn ar-lein, neu gellir lawrlwytho'r ap i'ch dyfais symudol er mwyn cael blas arnynt.
Cyfaill Celfyddyd
Mae Cyfaill Celfyddyd yn cynnig gwybodaeth i ddisgyblion ysgol a myfyrwyr coleg a phrifysgol am fyd proffesiynol y celfyddydau yng Nghymru a’r posibiliadau o astudio pellach ar ôl gadael yr ysgol. Yn ogystal â hynny, mae’r adnodd yn dangos posibiliadau proffesiynol trwy gynnig cipolwg ar arbenigwyr ar draws ystod eang o feysydd gwaith ym myd creadigol Cymru.
Algebra Llinol - Alun O. Morris
Cyfieithiad gan yr Athro Emeritws Alun O. Morris yw'r llyfr hwn o'i gyfrol Linear Algebra - An Introduction a ymddangosodd gyntaf yn 1978 ac a gyhoeddwyd gan y cwmni Van Nostrand Reinhold. Cafwyd ail argraffiad yn 1982 a dros y blynyddoedd bu nifer o ailargraffiadau. Yn y cyfamser cyfieithiwyd y llyfr i'r Groeg a Thwrceg. Er bod y llyfr wedi bod allan o brint yn y Saesneg ers rhai blynyddoedd yn awr, mae'n amlwg ei fod yn dal i gael ei gymeradwyo mewn nifer o brifysgolion ac felly penderfynwyd ei gyfieithu i'r Gymraeg.
Enw Casgliad e.g Cefnogi Pob Plentyn - Name of collection e.g Cefnogi Pob Plentyn
Dim disgrifiad ar gael