Yn yr erthygl hon, ceir trosolwg beirniadol o faes ymchwil astudiaethau geiriau a cherddoriaeth, neu astudiaethau cerddo-lenyddol, yng Nghymru. Mae’r maes hwn yn ymdrin â’r berthynas rhwng llenyddiaeth a cherddoriaeth yn ei amryw ffyrdd. Cwmpas yr erthygl hon yw astudiaethau beirniadol a gyhoeddwyd yn ystod ail hanner yr ugeinfed ganrif yn y Gymraeg, a’r bwriad yma yw cyflwyno’r prif weithiau a syniadau dylanwadol, gan gydnabod hefyd nad yw’n bosib ymdrin â phob cyhoeddiad yn yr astudiaeth bresennol. Gosodir y maes yn ei gyd-destun beirniadol drwy ddarparu amlinelliad o’r ddisgyblaeth yn ehangach, a chynigir trywyddau ymchwil posib ar gyfer datblygu a ffurfioli’r maes yng Nghymru.
Dr Elen Ifan, ‘Gwerddon: Astudiaethau cerddo-lenyddol yng Nghymru: y diffyg a’r galw' (2021)
Carwyn Jones, Meilyr Jones, Daisie Mayes, 'Adnabod y peryglon – dadansoddiad cychwynnol o gamblo ymysg myfyrwy...
Bwriad yr ymchwil hwn oedd ceisio dod i ddeall natur y perygl sy’n gysylltiedig ag arferion gamblo myfyrwyr sy’n cystadlu mewn chwaraeon. Mae’r myfyrwyr hyn, fel pawb arall, yn agored i’r peryglon amlwg sy’n gysylltiedig â gamblo, ond hefyd yn gorfod dilyn rheolau uniondeb gamblo (gambling integrity rules) sy’n cyfyngu ar eu hymddygiad gamblo. Drwy ddefnyddio grwpiau ffocws gyda myfyrwyr chwaraeon – aelodau o dimau rygbi a phêl-droed (bechgyn a merched) – darganfuwyd bod gamblo yn arfer cyffredin. Yn bwysicach na hynny, darganfuwyd bod diffyg dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth ynglÅ·n â natur a symptomau dibyniaeth a’r broses o golli rheolaeth. Yn ogystal, gwelwyd nad oedd myfyrwyr yn cymryd y rheolau gamblo o ddifri a bod rhai yn torri’r rheolau.
Hywel Turner Evans, Aled Isaac, ‘Cronni Plasma o Bositronau’ (2021)
Cyflwynir adolygiad o'r broses o gronni plasma o bositronau (gwrthelectronau). Disgrifir ffynonellau positronau a'r technegau a ddefnyddir i'w cymedroli, eu cronni a'u nodweddu, gydag enghreifftiau o'r data a gesglir gan ddefnyddio llinell baladr positronau Prifysgol Abertawe. Rhoddir cyfiawnhad dros astudio gwrthfater er mwyn egluro cyfansoddiad y bydysawd, yn ogystal ag ychydig o gyd-destun hanesyddol. Sonnir hefyd am y defnydd o bositronau y tu hwnt i ymchwil ffiseg sylfaenol.
Philip Jonathan, ‘Cynrychioliad amharamedrig ar gyfer cyd-newidynnau amlddimensiynol mewn model gwerthoedd eit...
Cyflwynir methodoleg ystadegol er mwyn modelu gwerthoedd eithaf amgylcheddol prosesau anunfan. Seilir y fethodoleg ar fodel Pareto cyffredinoledig ar gyfer brigau dros drothwy o'r broses amgylcheddol, â chynrychioliad Voronoi ar gyfer amrywiad paramedrau'r model gwerthoedd eithaf gyda chyd-newidynnau amlddimensiynol. Defnyddir rhesymu Bayesaidd MCMC naid wrthdroadwy, yn ymgorffori samplu Metropolis-Hastings mewn Gibbs, i amcangyfrif cyd-ol-ddosraniad holl baramedrau'r cynrychioliad Voronoi. Cymhwysir y fethodoleg i ganfod nodweddion gerwinder stormydd morol eithafol gyda chyfeiriad a thymor. Dilysir bod efelychiadau yn ôl y model a amcangyfrifwyd yn cyfateb yn dda i'r data gwreiddiol. Ymhellach, defnyddir y model i amcangyfrif uchafwerthoedd brigau dros drothwy sy'n cyfateb i gyfnodau dychwelyd llawer hwy na chyfnod y data gwreiddiol.
Gweithdai Mathemateg 2021/22
Gweithdai byw ar-lein ar gyfer myfyrwyr blwyddyn 12 a 13 a dysgwyr mewn Colegau Addysg Bellach sy'n astudio Mathemateg Safon Uwch/UG.
Arweinir y gweithdai gan ddarlithwyr mathemateg o brifysgolion Abertawe, Aberystwyth a Chaerdydd ac fe’u cefnogir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Eu bwriad yw cyfoethogi maes llafur Mathemateg Safon Uwch/UG a rhoi cyfle i chi ddod i nabod y darlithwyr.
Eleni, rhennir y gweithdai dros ddau dymor, un cyfres ym mis Tachwedd 2021 a'r ail gyfres ym mis Mawrth 2022 ac fe’u cynhelir ar nos Fercher am 7.00-8.00pm. Bydd y sesiynau yn wahanol i 2020/21. Am y tro cyntaf eleni, bydd sesiwn dynodedig lle bydd modd i chi ofyn cwestiynau i fyfyrwyr sy'n astudio mathemateg.
2021
- 10 Tachwedd - Theori Setiau: i anfeidredd a thu hwnt, Dr Gwion Evans, Prifysgol Aberystwyth
- 17 Tachwedd - Graffiau a Rhwydweithiau, Dr Geraint Palmer, Prifysgol Caerdydd
- 24 Tachwedd - Y Gymhareb Euraidd (The Golden Ratio), Dr Kristian Evans, Prifysgol Abertawe
2022
- 09 Mawrth - Astudio Mathemateg yn y Brifysgol - safbwynt myfyrwyr sy'n astudio yn y Gymraeg
- 16 Mawrth - Calcwlws Differol, Dr Tudur Davies, Prifysgol Aberystwyth
- 23 Mawrth - Y Plân Cymlyg, Dr Mathew Pugh, Prifysgol Caerdydd,
Sylfeini'r Gyfraith Gyhoeddus – Keith Bush
E-lyfr cynhwysfawr yn egluro Cyfraith Gyhoeddus a Chyfraith Cyfansoddiadol Cymru a'r DU. Mae'r fersiwn diwygiedig hwn o'r gyfrol wreiddiol a gyhoeddwyd yn 2016, yn adlewyrchu'r newidiadau pwysig a ddaeth yn sgil Deddf Cymru 2017, yn ogystal ag effaith 'Brexit' ar ddeddfwriaeth ac ar ddatganoli. Adnodd angenrheidiol i fyfyrwyr y gyfraith yng Nghymru a chyfrol anhepgor i unrhyw un sydd â diddordeb yn y maes. Cyhoeddwyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, 2021.
Adnoddau Iechyd a Lles
Yma, cewch fynediad at adnoddau iechyd a lles y gellid eu defnyddio mewn darlith, seminar neu mewn cyfarfod tiwtora personol.
Yn cyd-fynd a phob adnodd, mae taflen cyfarwyddiadau i'r darlithydd
Mae'r adnoddau yn cynnwys:
- Gweithgaredd 1: Yr Olwyn Lles
- Cyfarwyddiadau: Yr Olwyn Lles
- Gweithgaredd 2: Yr arf hunan-asesu lles
- Cyfarwyddiadau: Yr arf hunan-asesu lles
Paratowyd y gwaith gan Dyddgu Hywel, Uwch Ddarlithydd Addysg, Prifysgol Metropolitan Caerdydd.
Ffynonellau Cymorth
Os oes gennych argyfwng meddygol, problem ddifrifol neu sy’n fygythiad i fywyd, ffoniwch 999
Os ydych yn gofidio am eich iechyd meddwl, y cam cyntaf i gael help yw dweud hyn wrth eich meddyg teulu.
Ceir rhestr o linellau cymorth, elusennau a gwybodaeth defnyddiol ar wefan meddwl.org
Prentis-iaith Lefel Dealltwriaeth
Mae'r cyrsiau byr hyn ar gyfer prentisiaid sydd eisoes â pheth dealltwriaeth o'r Gymraeg ac sydd am ehangu'u dealltwriaeth o sut y gellir defnyddio'u Cymraeg yn y gweithle. Maent yn galluogi'r prentisiaid i gwblhau rhywfaint o'u cwrs yn y Gymraeg.
SUT I DDEFNYDDIO'R ADNODDAU?
Mae'r pum uned gyntaf yn cyflwyno pwysigrwydd yr iaith Gymraeg fel sgìl ar gyfer y gweithle tra bod cynnwys unedau 6 wedi’i deilwra ar gyfer gwahanol feysydd. Hynny yw felly, bydd pawb yn cwblhau Uned 1-5 Cyffredinol ac yna'n dewis y fersiwn sy'n addas iddyn nhw ar gyfer Uned 6.
Dyma’r pump llwybr galwedigaethol penodol y mae uned 6 wedi’i deilwra ar ei gyfer:
- Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Gofal Plant
- Gwasanaethau Cyhoeddus
- Amaethyddiaeth
- Adeiladwaith
Os nad ydych yn dilyn un o'r llwybrau uchod, yna byddwch yn gallu cwblhau Uned 6 (Cyffredinol).
PA LEFEL SY'N ADDAS?
Mae Prentis-iaith ar gael ar ddwy lefel:
- Prentis- iaith: Lefel Ymwybyddiaeth (ar gyfer prentisiais sydd ond gyda rhywfaint neu ddim sgiliau iaith Gymraeg)
- Prentis-iaith: Lefel Dealltwiraeth (ar gael ar gyfer prentisiaid sydd eisoes â pheth dealltwriaeth o'r Gymraeg)
Os nad ydych chi’n siŵr pa adnodd sy’n addas ar eich cyfer, defnyddiwch y Cwis Adnabod Lefel
DARPARWYR A CHOLEGAU
Mae'r cyrsiau hyn hefyd ar gael drwy byrth dysgu y prif ddarparwyr prentisiaethau yng Nghymru ac mae modd i ddarparwyr lawr lwytho'r cynnwys fel ffolder zip i fedru gwneud hyn (gweler y ddolen isod).
Mae modd argraffu tystysgrif yn awtomatig ar ôl cwblhau yr unedau unigol ond gellir hefyd lawr-lwytho tystysgrifau i gyd fynd â'r unedau isod.
Ffocws ar Ddiwydiant: Adeiladu
Mae’r casgliad hwn yn cynnwys sgyrsiau a recordiwyd â chyflogwyr adeiladwaith amlwg yng Nghymru. Mae’r sgyrsiau yn cynnwys cyflwyniadau i’r sector adeiladu a’r dulliau amrywiol a ddefnyddir wrth ddatblygu strwythurau newydd a diogelu hen adeiladau. Nod y casgliad hwn yw cefnogi ysgolion a cholegau a fydd yn addysgu cymwysterau TGAU a Sylfaen newydd mewn adeiladu, a fydd ar gael i’w haddysgu o fis Medi 2022.
Mae’r gweminarau oddeutu 20 munud o hyd yn dilyn cynnwys y ddau gymhwyster adeiladwaith newydd. Rhennir gwybodaeth dechnegol am y maes a chyflwynir y diwydiant adeiladu’n fyw yn yr Ystafell ddosbarth neu’r coleg drwy gyfeirio at brosiectau go iawn sydd ar y gweill neu wedi’u cwblhau’n ddiweddar.
Paratowyd y gweminarau hyn mewn cydweithrediad â CITB Cymru.
Gweithdai Cyfraith a Throseddeg yr Hydref 2021
Beth bynnag eich pynciau Lefel A, neu os ydych yn ddisgybl Bl12 neu Bl13, os oes diddordeb gennych astudio neu gael blas ar y Gyfraith neu Droseddeg (Criminology) fel pynciau prifysgol, byddai'n werth i chi ddod i'r sesiynau blasu isod.
Bydd cyfres o chwech gweithdy byr yn cael eu cynnal yn wythnosol rhwng 7.00-7.40pm bob nos Fercher gan ddechrau ar nos Fercher 29 Medi 2021. Bydd darlithwyr o wahanol brifysgolion yn cynnal y sesiynau ac yn rhoi cyflwyniad a thrafodaeth am rhyw 40 munud ar thema gyfreithiol neu droseddeg.
- 29 Medi - “You can’t speak Welsh here!” Oes gen ti hawl i siarad Cymraeg? Yr Athro Emyr Lewis, Pennaeth Ysgol y Gyfraith a Throseddeg, Prifysgol Aberystwyth
- 6 Hydref - 'Lladd yw lladd.... mor syml a hyn? Beth yw'r prif gwahaniaeth rhwng Llofruddiaeth fel cyhuddiad a Dynladdiad?' Cerys Davies, Prifysgol Abertawe
- 13 Hydref - 'Yr Hawl i Brotest' Dr Huw Pritchard, Prifysgol Caerdydd
- 3 Tachwedd - 'Y frwydr am Fairbourne – astudiaeth o droseddau amgylcheddol a’i ddioddefwyr' Dr Lowri Cunnington Wynn, Prifysgol Aberystwyth
- 10 Tachwedd - 'Camwedd: Atebolrwydd mewn esgeulustod am anaf i bobl a difrod i eiddo' Holly Evans, Prifysgol De Cymru
- 17 Tachwedd - 'Difrodi Cyrff Meirw a'r Gyfraith: Achos Parchedig Emyr Owen' Dr Hayley Roberts, Ysgol y Gyfraith, Prifysgol Bangor
Cliciwch isod i gofrestru:
Cyflwyniadau Gofal Plant Lefel 2
Dyma 6 cyflwyniadau ar gyfer cwrs Lefel 2: Gofal, Chwarae, Dysgu, a Datblygiad Plant: Craidd.
Mae'r cyflwyniadau yn cwmpasu'r themâu isod yn unol â manyleb y cwrs:
- Llesiant
- Cefnogi ymddygiad cadarnhaol plant
- Egwyddorion gwaith chwarae
- Anghenion dysgu ychwanegol
- Gweithio mewn partneriaeth gydag asiantaethau allanol
- Gweithio fel tîm
Addysgeg Dysgu ac Addysgu Dwyieithog yn y Cyfnod Normal Newydd
Dyma gyfres o adnoddau e-ddysgu rhyngweithiol a ddatblygwyd i gefnogi tiwtoriaid i fewnosod y Gymraeg ac addysgu'n ddwyieithog mewn amgylchedd dysgu ar-lein. Mae dewis o chwe uned gwahanol, ac mae pob uned tua awr o hyd.
- Addysgeg dysgu ac addysgu dwyieithog yn y cyfnod normal newydd
- Addysgeg dysgu ac addysgu dwyieithog ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn y cyfnod normal newydd
- Addysgeg dysgu ac addysgu dwyieithog ym maes Gofal Plant yn y cyfnod normal newydd
- Addysgeg dysgu ac addysgu dwyieithog ym maes Gwasanaethau Cyhoeddus yn y cyfnod normal newydd
- Addysgeg dysgu ac addysgu dwyieithog ym maes y Gymraeg fel sgil ar gyfer byd gwaith yn y cyfnod normal newydd
- Addysgeg dysgu ac addysgu dwyieithog ym maes Dysgu Oedolion yn y cyfnod normal newydd.