Adnodd fideo newydd sy’n cyflwyno ac yn crynhoi prif gynnwys, themâu a chymeriadau’r nofel Llyfr Glas Nebo gan Manon Steffan Ros ar gyfer astudiaeth Uned 2 TGAU CBAC Llenyddiaeth Gymraeg. Pwrpas yr adnodd yw cyflwyno’r nofel mewn ffordd fachog a syml, gan sbarduno’r dysgwyr i fynd ati i astudio ymhellach. Dolen i'r fideo ar YouTube - gllir dewis isdeitlau (Cymraeg) ar y fideo yn YouTube. Ariannir gan Lywodraeth Cymru.






Adnoddau Dan Sylw
Llyfr Glas Nebo mewn 3 munud
Beth yw'r Gymraeg?
Dyma gyfrol atyniadol a chyfoes sy’n rhoi cyflwyniad hygyrch i ddisgyblaeth y Gymraeg, wedi ei golygu gan ddarlithwyr Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd; Dr Angharad Naylor, Dr Llion Pryderi Roberts a Dr Dylan Foster Evans. Mae’r gyfrol yn cyflwyno cyfoeth, cyffro ac ehangder y Gymraeg fel disgyblaeth academaidd, a bydd yn ysgogi diddordeb a chwilfrydedd mewn meysydd cyfarwydd a newydd – megis iaith, llenyddiaeth, cymdeithaseg iaith, beirniadaeth lenyddol, diwylliant a threftadaeth, ac ysgrifennu creadigol. Mynediad Agored Ar-lein (dolen isod) Cynnwys: Adran 1 Llenyddiaeth 1) Llenyddiaeth Plant: Siwan M. Rosser 2) Rhywedd: Cathryn A. Charnell-White 3) Y Ddrama Lwyfan a’i Gwreiddiau Llenyddol: Gareth Evans-Jones 4) Llên Bywyd:Llion Pryderi Roberts Adran 2 Iaith 5) Tafodieitheg: Iwan Wyn Rees 6) Sosioieithyddiaeth: Jonathan Morris 7) Dwyieithrwydd: Enlli Thomas 8) Newid Ymddygiad Ieithyddol: Gwenno Griffith Adran 3 Cymdeithas 9) Addysg: Alex Lovell ac Angharad Naylor 10) Yr Iaith Gymraeg a Threftadaeth: Dylan Foster Evans 11) Amlddiwylliannedd: Lisa Sheppard 12) Darllen Cyfieithiadau: Mwy na Geiriau: Rhianedd Jewell 13) Cenedligrwydd: Peredur I. Lynch 14) Y Gymraeg y tu allan i Gymru: Jerry Hunter Ceir cwestiynau trafod ar ddiwedd pob adran. Mae modd prynu'r gyfrol ar ffurf llyfr clawr meddal hefyd. Ar gael yma gan Wasg Prifysgol Cymru neu yn eich siop lyfrau leol.
Teclyn Iaith
Teclyn yw hwn sy'n cynnwys gwybodaeth am adnoddau, rhaglenni ac apïau ymarferol y gall staff eu defnyddio i wella'u Cymraeg a defnyddio i wella Cymraeg eu dysgwyr. Mae'r wefan yn hollol ddwyieithog ac yn addas i bawb, beth bynnag eich sgiliau iaith Gymraeg.
Am Filiwn: Podlediad
Podlediad sy’n trin a thrafod agweddau ar fyd addysg sy’n datblygu disgyblion i fod yn siaradwyr Cymraeg yng nghyd-destun anelu at filiwn o siaradwyr. Bydd y podlediad yn apelio at unrhyw un sy’n dilyn cwrs hyfforddi athrawon, yn athro newydd gymhwyso, neu’n aelod o’r gweithlu addysg. Bydd o ddiddordeb hefyd i unrhyw un sydd eisiau gwybod mwy am rôl byd addysg wrth anelu at gyrraedd miliwn o siaradwyr. Mae'n adnodd arbennig o dda i gydfynd â'r Fframwaith Cymwyseddau Iaith i Ymarferwyr Addysg.
Fferm Ddiogel
*Mae angen penwisg 'Oculus Quest 2' i ddefnyddio fersiwn VR yr adnodd hwn. Mae fersiwn AR ar gael hefyd ac mae modd lawrlwytho a defnyddio'r fersiwn hon ar ffôn neu dabled.* Y profiad VR gorau i unrhyw un sydd â diddordeb mewn diogelwch fferm! Mae Fferm Ddiogel wedi’i dylunio i helpu dysgwyr i nodi a deall peryglon posibl ar y fferm, yn ogystal â dysgu sut i’w hosgoi mewn ffyrdd diogel ac ymarferol. Archwiliwch iard y fferm, lle byddwch yn dysgu am y peryglon sy'n gysylltiedig â lleoliadau amaethyddol ac offer a geir yn gyffredin ar y fferm. Ymwelwch â'n canolfan hyfforddi ATV, lle byddwch yn dysgu am beryglon reidio ATVs. Yn olaf, gallwch gael profiad o weithio gydag anifeiliaid mewn amgylchedd diogel a rheoledig, gan ddysgu am y risgiau sy'n gysylltiedig â thrin da byw. Mae ein ap yn cynnwys pum avatar cyfeillgar, Ceri, Bevan, Jack, Yana, a Geth, a fydd yn eich arwain trwy bob senario, gan roi awgrymiadau a chyngor defnyddiol ar hyd y ffordd. Byddant yn eich helpu i nodi peryglon, deall y risgiau posibl y maent yn eu hachosi, a sut i osgoi'r risgiau hynny. Perffaith ar gyfer darlithwyr ac aseswyr sydd eisiau addysgu elfennau ymarferol o'r cwricwlwm mewn amgylchedd diogel a rheoledig. Mae sain yr adnodd hwn yn Gymraeg gydag is-deitlau Saesneg a Chymraeg. *Mae angen penwisg 'Oculus Quest 2' i ddefnyddio fersiwn VR yr adnodd hwn. Mae fersiwn AR ar gael hefyd ac mae modd lawrlwytho a defnyddio'r fersiwn hon ar ffôn neu dabled.*
Mwy na Geiriau: Cyfathrebu mewn Iechyd a Gofal
Nod yr adnodd hwn yw cyflwyno ymwybyddiaeth iaith mewn iechyd a gofal i fyfyrwyr addysg uwch ac ymarferwyr proffesiynol. Ei brif amcan yw meithrin hyder myfyrwyr i ddefnyddio eu Cymraeg gyda chleifion a chydweithwyr yn y GIG. Datblygwyd yr adnodd hwn ar gyfer myfyrwyr addysg uwch (lefel 4+) sydd yn astudio unrhyw bwnc iechyd a gofal ac yn bwriadu mynd ymlaen i ddilyn gyrfa yn y maes. Mae hefyd yn addas ar gyfer ymarferwyr proffesiynol a gellir ei ddefnyddio fel rhan o ddatblygiad proffesiynol parhaus. Ac eithrio Uned 1, mae pob uned yn dilyn llwybr claf penodol er mwyn dangos sut mae gwahanol broffesiynau yn cydblethu ac yn cael effaith ar brofiad y claf neu ddefnyddiwr gwasanaeth. Gellir gweithio drwy’r pecyn cyfan yn ôl ei drefn neu ddewis a dethol unedau penodol. Mae modd addysgu’r unedau yn yr ystafell ddosbarth neu eu hastudio’n annibynnol. Mae rhan fwyaf o’r unedau yn cyflwyno geiriau, ymadroddion a therminoleg Cymraeg i’w defnyddio gyda chleifion a staff. Er y bydd yr eirfa hon yn gyfarwydd i fyfyrwyr sydd eisoes yn siarad Cymraeg, fe’u hanogir i ystyried sut i rannu a dysgu’r eirfa i’w cyfoedion. Yn sgil hyn, mae’r cynnwys hwn yn addas i bob myfyriwr, beth bynnag fo’u gallu Cymraeg.
Dewisa Lefel A Cymraeg: Ymgyrch ac adnoddau
Ymgyrch a ariennir gan Lywodraeth Cymru yw Dewisa Lefel A Cymraeg sy'n ceisio annog rhagor o ddysgwyr ifanc i astudio Lefel A Cymraeg drwy ddarparu adnoddau hyrwyddo i godi ymwybyddiaeth o’r manteision di-ben-draw sydd gan yr iaith i fywyd academaidd, gwaith a chyfleoedd diwylliannol. Mae gan yr ymgyrch, a lansiwyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru, gynnwys y gall athrawon ac ysgolion ei ddefnyddio fel ffordd o ennyn diddordeb dysgwyr, rhieni a gofalwyr yn y Gymraeg drwy’r canlynol: Tynnu sylw at y ffaith bod Lefel A Cymraeg yn agor drysau i gyfoeth o lwybrau prifysgol Pwysleisio’r amrywiaeth o yrfaoedd a diwydiannau lle mae’r Gymraeg yn sgil gwerthfawr iawn Rhoi cipolwg ar ehangder ac amrywiaeth cwricwlwm Lefel A Cymraeg Arddangos Lefel A Cymraeg fel pwnc modern, creadigol a pherthnasol Gwahodd dysgwyr i ymuno â chymuned lewyrchus o siaradwyr Cymraeg sy’n angerddol am eu diwylliant, eu treftadaeth a’r iaith Mae'r adnoddau yn cynnwys: Cynnwys gweledol: instazines, cardiau proffil, dyfyniadau, negeseuon holi ac ateb, negeseuon chwilio Fideos Posteri amrywiol Asedau cyfryngau cymdeithasol (GIFs) Pecyn cymorth athrawon Gellir defnyddio a rhannu'r adnoddau yn ddigidol neu mewn print, ar y cyfryngau cymdeithasol neu drwy eu hymgorffori mewn cyflwyniadau a phrospectws. Mae'r holl gynnwys ar gael yn ddwyieithog i'w lawrlwytho drwy'r ddolen Dropbox isod. I gael rhagor o wybodaeth am yr ymgyrch neu am y Gymraeg fel pwnc yn gyffredinol, cysylltwch â Dr Ffion Eluned Owen, Swyddog Hyrwyddo’r Gymraeg fel Pwnc y Coleg: ff.owen@colegcymraeg.ac.uk.
Dwyieithrwydd ar gyfer y gweithle: Sgiliau proffesiynol
Pwrpas yr adnodd hwn yw helpu datblygu hyder i weithio'n ddwyieithog. Twy gyfres o ymarferion bydd cyfle i ymarfer nifer o sgiliau perthnasol ar gyfer defnyddio'r Gymraeg yn y gweithle gan gynnwys: drafftio e-bost paratoi CV gwneud cyflwyniad yn Gymraeg. Datblygwyd yr adnodd hwn gan Goleg Sir Benfro.
Astudiaethau Achos Busnes
Mae’r pecynnau hunan astudio yma’n defnyddio astudiaeth achos Cymreig i gyflwyno damcaniaethau busnes i ddysgwyr mewn colegau addysg bellach. Mae’r pecynnau wedi cael eu hanelu at ddysgwyr ar lefel tri ond gallant fod yn berthnasol i ddysgwyr ar lefelau is ac uwch hefyd. Mae’r adnoddau yn cyflwyno: Nodweddion gwasanaeth cwsmer da Nodweddion busnes mân-werthu Rheoli cadwyn gyflenwi Rheoli digwyddiad Adeiladu tîm mewn busnes Yn ogystal â’r pecynnau, ceir dolen at yr astudiaethau achos ar ffurf fideo ar wahân.
Gweminar Astudio Cymraeg yn y brifysgol (2022)
Ym mlwyddyn 12 neu 13? Eisiau gwybod mwy am astudio Cymraeg fel pwnc yn y brifysgol? Dewch i gael mwy o wybodaeth am yr hyn sydd ar gael, ac i glywed barn ein llysgenhadon sy'n astudio'r pwnc am eu cyrsiau a'u bywyd fel myfyrwyr y Gymraeg. Cyflwyniad a recordiwyd ym mis Tachwedd 2022. Mae'n cynnwys: Cyflwyniad am astudio Cymraeg yn y brifysgol (hyd at 29 munud) e.e. Lle mae modd astudio? Beth sydd modd ei astudio - o ran cyrsiau a modiwlau? Pa gymorth ariannol sydd ar gael? Sgwrs rhwng ein interniaid (Aled a Hari) â'n llysgenhadon cyfredol am astudio Cymraeg yn y brifysgol (19 munud ymlaen) Cyflwyniad cyfrwng Cymraeg yng nghwmni Aled (Prifysgol Bangor); Hari a Deio (Prifysgol Caerdydd); Elain (Prifysgol Aberystwyth); a Cara ac Elen (Prifysgol Abertawe).
Seicoleg: Dulliau Ymchwil
Nod y gyfres hon o adnoddau yw cyflwyno gwybodaeth am rai o'r prif egwyddorion a thechnegau sy’n cael eu defnyddio wrth gynnal ymchwil ym maes seicoleg. Mae pob uned yn cynnwys: crynodeb darlith ar ffurf cyflwyniadau fideo cwis aml-ddewis cwestiynau seminar llyfryddiaeth Mae’r holl unedau a restrir isod i’w cael yma mewn un pecyn. Cyfranwyr y thema hon yw: Emma Hughes-Parry Dr Mirain Rhys Dr Hanna Binks Dr Kyle Jones Dr Gwennant Evans Dr Rachel Rahman. Cynhyrchwyd y deunyddiau hyn â chefnogaeth Cronfa Adfer a Buddsoddi Addysg Uwch Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.
Cwrs Codi Hyder i Aseswyr
Diben y cwrs hunanastudio ar-lein hwn yw rhoi’r adnoddau a’r wybodaeth i aseswyr weithio yn ddwyieithog yn hyderus gyda’u dysgwyr. Mae'r cwrs yn ystyried rhai o’r buddion a'r heriau o weithio'n ddwyieithog ac mae'n cyflwyno gwybodaeth, adnoddau a chymhelliant i allu datblygu darpariaeth a gweithio yn hyderus trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r cwrs yn ddwyieithog, ond mae wedi ei anelu at godi hyder aseswyr sy'n siarad Cymraeg wrth iddynt ddarparu eu hyfforddiant trwy gyfrwng y Gymraeg.
Doctoriaid Yfory 5.1
Cynllun i gefnogi disgyblion blwyddyn 12 a dysgwyr a myfyrwyr ym mlwyddyn olaf o'u hastudiaethau yn y coleg/prifysgol gyda'u ceisiadau i astudio Meddygaeth. Mawrth: Cyflwyniad i'r rhaglen Ebrill: Profiad gwaith Mai: C21 Cwricwlwm Ysgol Feddygol Prifysgol Caerdydd Mai: Sgyrsiau gyda nifer o feddygon proffesiynol Mehefin: Cwricwlwm Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe Mehefin: Astudio drwy gyfrwng y Gymraeg ac Ysgoloriaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol Gorffennaf: Llwybrau amgen i feddygaeth Awst: Egwyl yr haf Medi: Sesiwn cwestiwn ac ateb ar Ddatganiad Personol Hydref: Ceyfweliadau meddygol traddodiadol Tachwedd: Cyfweliadau MMI Rhagfyr: Cyfweliadau COFRESTRWCH ISOD (Dyddiad Cau cofrestru - 4 Chwefror 2022):
PAAC: Dulliau Ymchwil
DULLIAU YMCHWIL Mae'r e-lyfr hwn yn cynnig trosolwg cryno o rai o brif hanfodion y broses ymchwil. Gall fod o ddefnydd i fyfyrwyr Lefel A Cymdeithaseg a hefyd i unigolion sydd yn cychwyn astudio'r maes yn y brifysgol. MANYLION AM Y GYFRES PAAC (Pecyn Adnoddau Amlgyfrwng Cymraeg): Pecyn o e-lyfrau a fideos i gefnogi dysgu cymdeithaseg drwy gyfrwng y Gymraeg. Cynulleidfa’r deunyddiau hyn yw disgyblion sy’n astudio Lefel A Cymdeithaseg mewn ysgolion ledled Cymru, a myfyrwyr blwyddyn gyntaf sydd am astudio’r pwnc yn y brifysgol. Mae pecyn yn cynnwys adnoddau ar gyfer y themau canlynol: DULLIAU YMCHWIL CYFLWYNIAD I GYMDEITHASEG Y TEULU ADDYSG ANGHYDRADDOLDEB CYMDEITHASOL Datblygwyd yr e-lyfrau gan Dr Cynog Prys a Dr Rhian Hodges o Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas Prifysgol Bangor.