Dyma ddolen i adran benodol ar wefan Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru sy’n cynnwys adnoddau i gynorthwyo unigolion sy’n dymuno datblygu eu sgiliau Cymraeg. Mae pob rôl o fewn Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn gofyn am lefel o sgil Cymraeg. Fel rhan o’r broses ymgeisio, bydd unigolion yn cael eu hasesu ar eu gallu Cymraeg llafar. Mae’r adnoddau ar y wefan yn cynorthwyo unigolion i baratoi am yr asesiad. Mae’r adnoddau yma’n berthnasol i unigolion sydd â diddordeb mewn cychwyn gyrfa yn y Gwasanaeth Tân ac Achub.
Adnoddau Ymwybyddiaeth Iaith Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru
Adnoddau Dysgu ar wefan Gofal Cymdeithasol Cymru
Isod ceir ddolen i'r adran adnoddau ar wefan Gofal Cymdeithasol Cymru. Mae'r adnoddau yma'n berthnasol ar gyfer addysgwyr a dysgwyr yn y meysydd Iechyd a Gofal Plant. Yn ogystal, mae dolen i ddogfen sy'n nodi'r adnoddau ar wefan Gofal Cymdeithasol Cymru sy’n berthnasol ar gyfer unedau penodol o fewn y cyrsiau Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant Lefel 2 a 3.
Cynhadledd Seicoleg Ar-lein
Cynhadledd a gynhaliwyd ar 28 Ebrill 2021 ar gyfer myfyrwyr Seicoleg israddedig ac ôl-raddedig a phynciau cysylltiedig megis iechyd ac addysg. Croesawyd dysgwyr 17-18 oed yn y Gynhadledd. Roedd cyflwyniadau'r bore yn dilyn themâu: Iechyd a Lles; Iaith, Datblygiad, ac Addysg Sylfeini Seicolegol Darllen, Dr Manon Jones, Prifysgol Bangor Ffactorau sy’n effeithio ar gaffael cyflawn o systemau gramadegol y Gymraeg, Dr Hanna Binks, Prifysgol Aberystwyth Iechyd meddwl rhieni sydd â phlentyn awtistig, Dr Ceri Ellis, Prifysgol Manceinion Dwyieithrwydd ac Anableddau Datblygiadol, Dr Rebecca Ward, Prifysgol Bangor Defnyddio technoleg i gefnogi iechyd a lles cleifion gwledig, Dr Rachel Rahman, Prifysgol Aberystwyth Yn y prynhawn, roedd Panel Gyrfaoedd gyda phobl yn cynrychioli’r gyrfaoedd canlynol: Seicolegydd Addysg Seicolegydd Clinigol Seicolegydd Dadansoddi Ymddygiad Cymhwysol Therapydd Iaith a Lleferydd Darlithydd Addysg Uwch Roedd hefyd cyfle i ofyn cwestiynau.
Gyrfa Cymru: Gweminar a llyfr gwaith Gyrfaoedd yn y Gwasanaeth Tân ac Achub
Adnodd i ddysgwyr Cyfnod Allweddol 3 gan Gyrfa Cymru i ddarganfod mwy am yrfa yn y Gwasanaeth Tân. Bydd dysgwyr yn gwylio gweminar ac yn cwblhau llyfr gwaith.
Gweithdai Iechyd 2021 (Mai 2021)
Cyfres o bedwar gweithdy rhithiol i fyfyrwyr blwyddyn 12, neu flwyddyn gyntaf mewn colegau addysg bellach, sydd â diddordeb mewn Nyrsio, Bydwreigiaeth, Therapi Iaith a Lleferydd, Ffisiotherapi a Fferylliaeth. Dyma gyfle i ddysgu mwy am y swyddi hyn, a'r gwasanaeth iechyd yn gyffredinol, yn ogystal â derbyn cyngor ar sut i ymgeisio'n llwyddiannus. Bydd y gweithdai yn cael eu cynnal yn wythnosol ym mis Mai rhwng 4.30-6.00 pm. 5 Mai 2021 - Taith Iechyd teulu Brynglas (cyflwyniad i'r gwasanaeth iechyd) 12 Mai 2021 - Nyrsio a Bydwreigiaeth 19 Mai 2021 - Therapi Iaith a Lleferydd, Ffisiotherapi a Fferylliaeth 26 Mai 2021 - Sut i ymgeisio'n llwyddiannus ar gyrsiau iechyd I gofrestru, cliciwch isod:
Gyrfa Cymru: Gweminar a llyfr gwaith Gyrfaoedd Gofal Iechyd
Adnodd i ddysgwyr Cyfnod Allweddol 3 ddarganfod mwy am yrfa yn y sector iechyd. Bydd dysgwyr yn gallu gwylio gweminar ac yn cwblhau llyfr gwaith.
Gyrfa Cymru: Gweminar a llyfr gwaith Gofal Cymdeithasol (Blynyddoedd Cynnar)
Adnodd i ddysgwyr Cyfnod Allweddol 3 ddarganfod mwy am yrfa yn y sector gofal cymdeithasol (blynyddoedd cynnar). Bydd dysgwyr yn gallu gwylio gweminar ac yn cwblhau llyfr gwaith
Posteri Geirfa Dwyieithog Gwasanaethau Cyhoeddus
Mae'r casgliad hwn yn cynnwys cyfres o bosteri sy'n cynnwys geirfa allweddol ddwyieithog gyffredinol i fyfyrwyr Gwasanaethau Cyhoeddus. Datblygwyd y gyfres hon o bosteri gan Coleg Sir Gâr. Mae'r gyfres yn cynnwys 9 pdf y gellir eu lawr lwytho a'u hargraffu i gefnogi cyflwyno'r Gymraeg yn y maes gwasanaethau cyhoeddus. Gall y posteri gael eu rhoi ar wal y dosbarth. Mae'r casgliad hefyd yn cynnwys cyfres o bosteri sy’n cynnwys geirfa allweddol benodol ar gyfer unedau Cwrs Lefel 3 Gwasanaethau Amddiffyn sydd â Gwisg Swyddogol. Mae poster geirfa allweddol ar gael ar gyfer y 7 uned sef: Uned 1: Dinasyddiaeth ac Amrywiaeth Uned 2: Ymddygiad a Disgyblaeth yn y Gwasanaethau Amddiffyn sydd â Gwisg Swyddogol Uned 3: Materion Byd-eang, y Cyfryngau a’r Gwasanaethau Amddiffyn sydd â Gwisg Swyddogol Uned 4: Paratoad Corfforol, Iechyd a Llesiant Uned 5: Gwaith Tîm, Arweinyddiaeth a Chyfathrebu yn y Gwasanaethau Amddiffyn sydd â Gwisg Swyddogol Uned 6: Y Llywodraeth a’r Gwasanaethau Amddiffyn Uned 7: Cynllunio ar gyfer Digwyddiadau Brys ac Ymateb iddynt Noder bod fersiynau hygyrch Word ar gael ar gyfer y ddau adnodd ar wahân.
Mathau o gyfathrebu yn y sector iechyd a gofal
Adnodd sy’n uwcholeuo mathau o gyfathrebu ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol yw hwn. Mae’r adnodd yn berthnasol i fyfyrwyr sy’n astudio cyrsiau lefel 3 yn y maes megis Egwyddorion a Chyd-Destunau neu Safon Uwch. Oherwydd ei fod yn bwnc cyffredin, gall y wybodaeth yma fod yn ddefnyddiol i unrhyw fyfyriwr sy’n astudio yn y maes iechyd e.e. Therapi Galwedigaethol, Ffisiotherapi neu yn gweithio ym maes gofal cymdeithasol yn y gymuned. Addaswyd yr adnodd hwn gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Diolch i Grŵp Llandrillo Menai am rannu’r cynnwys gwreiddiol.
Adnoddau Iaith Gymraeg Heddlu Gogledd Cymru
Dyma ddolen i adran benodol ar wefan Heddlu Gogledd Cymru sy’n cynnwys adnoddau i gynorthwyo unigolion sy’n dymuno datblygu eu sgiliau Cymraeg. Mae pob rôl o fewn HGC yn gofyn am lefel o sgil Cymraeg. Fel rhan o’r broses ymgeisio, bydd unigolion yn cael eu hasesu ar eu gallu Cymraeg llafar. Mae’r adnoddau ar y wefan yn cynorthwyo unigolion i baratoi am yr asesiad. Mae’r adnoddau yma’n berthnasol i unigolion sydd â diddordeb mewn cychwyn gyrfa gyda’r Heddlu.
Termau technegol ar gyfer dysgu trwy’r Gymraeg
*Mae'r hyfforddiant ar waelod y dudalen hon Cyflwynwyr: Yr Athro Delyth Prys a Dr Tegau Andrews Amcanion y gweithdy hwn yw: Cyflwyno cefndir y gwaith safoni termau, yn rhyngwladol ac yn genedlaethol, gan blethu’r damcaniaethol a’r ymarferol, er mwyn egluro’r broses safoni a’i perthnasedd i waith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Rhoi gwell dealltwriaeth i staff a myfyrwyr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol o’r adnoddau geiriadurol a therminolegol sydd ar gael i’w cynorthwyo i ysgrifennu a chyfathrebu yn well mewn Cymraeg academaidd da. Datgelu dirgelwch sut mae termau Cymraeg yn cael eu bathu a’u safoni, gan drafod yr egwyddorion rhyngwladol sy’n gyrru’r broses a chyflwyno enghreifftiau penodol, fel y gall unrhyw rai sydd â diddordeb ddeall sut mae’r termau hyn yn cyrraedd ein hiaith. Rhoi arweiniad i awduron, cyfieithwyr a rheolwyr prosiectau sydd wedi cael eu hariannu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i greu adnoddau i fyfyrwyr, gan esbonio iddynt ar ddechrau’r broses o greu adnodd sut mae termau’n berthnasol iddynt a ble mae gwaith termau’n ffitio o fewn eu hamserlen. Cynnwys: Trosolwg cyffredinol o’r adnoddau geiriadurol a therminolegol sydd ar gael i staff a myfyrwyr. Cymorth ymarferol ar sut i ddefnyddio geiriaduron cyffredinol a geiriaduron termau electronig ar-lein. Esboniad o sut mae safoni termau i’r Gymraeg, a pherthnasedd safonau rhyngwladol i’r broses honno. Amlinelliad o gamau datblygu adnoddau i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, gan ganolbwyntio ar rôl termau o fewn y camau hyn. Ar ddiwedd y gweithdy hwn dylai hyfforddeion fod yn gallu: Amgyffred yn well bwysigrwydd defnyddio termau safonol mewn ysgrifennu academaidd. Defnyddio adnoddau geiriadurol a therminolegol yn fwy effeithiol yn eu gwaith, a gwella safon eu Cymraeg academaidd. Gwybod ble i droi os bydd angen cymorth ychwanegol arnynt gyda thermau technegol Cymraeg. Deall yn well sut y mae termau’n cael eu safoni ar gyfer y Gymraeg. Cynllunio adnoddau newydd i fyfyrwyr gan ystyried unrhyw waith termau hanfodol. Bywgraffiad Mae’r Athro Delyth Prys wedi bod yn Brif Olygydd y Ganolfan Safoni Termau (bellach rhan o Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr) ers 1993, ac yn Bennaeth yr Uned Technolegau Iaith ers 2001. Mae’n arwain tîm cymysg o ieithyddion ac arbenigwyr meddalwedd sy’n datblygu offer iaith digidol arloesol ar gyfer y Gymraeg. Mae’r Dr Tegau Andrews yn Derminolegydd i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ers 2009. Yn ystod y cyfnod hwn mae wedi datblygu Geiriadur Termau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i fod yn un o’r prif eiriaduron termau technegol Cymraeg, yn cynnwys diffiniadau, diagramau a lluniau esboniadol.
Gwefan Profion Ffitrwydd - Canllaw Gweithredu
Gwefan sy'n cynnwys fideos a chyfarwyddiadau ysgrifenedig ar sut i gynnal asesiadau ffitrwydd sy'n gysylltiedig ag iechyd, yn unol â Chanllawiau ACSM. Bydd yr adnodd yn ddefnyddiol hyd at lefel 4 yn gyffredinol. Nod yr adnodd hwn yw darparu cyngor ac arweiniad ar gynnal sgrinio iechyd cychwynnol ac asesiadau ffitrwydd, yn unol â phrotocolau ACSM. Mae fideo sy'n egluro ac yn dangos y protocol yn ogystal â dogfen ategol yn dangos y protocol mewn fformat ysgrifenedig ar gyfer bob un o'r agweddau canlynol: Sgrinio iechyd Cyfarwyddiadau i'r cyfranogwyr Mesur pwysau gwaed Mesur cyflymder y galon wrth orffwys Mynegai mass y corff (BMI) Cwmpas y wasg a'r cluniau Ffitrwydd cardio anadlol Cryfder yr afael Gwasgu byrfraich Prawf eistedd ac ymestyn Mae dolen i'r wefan isod:
