Croeso i Gynhadledd Ymchwil rithiol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Yma cewch fynediad i bopeth sy’n ymwneud a’r Gynhadledd: Mae dwy ran i’r gynhadledd: 1. Cyflwynir 4 papur byw ar 1 Gorffennaf (10:00-12:30) - bydd recordiadau'r gynhadledd yn cael eu hychwnegu isod yn fuan. 2. Yn ogystal â’r cyflwyniadau byw y byddwch chi’n eu gweld ar 1 Gorffennaf, mae 13 o fyfyrwyr ymchwil ac academyddion Cymraeg wedi mynd ati i recordio cyflwyniadau ymlaen llaw. Isod, cewch fynediad at y cyfan a gofynnwn i chi eu gwylio a’u mwynhau yn eich amser eich hun cyn y Gynhadledd. Ewch ati i baratoi cwestiynau os gwelwch yn dda! Bydd cyfle i chi holi eich cwestiwn rhwng 2 a 3:30 ar 1 Gorffennaf. Gofynnwn i chi gyflwyno eich cwestiynau ar Twitter trwy ddefnyddio #cynhadleddymchwil20 ac mae cyfrifon Twitter y cyfranwyr i’w gweld wrth i chi edrych ar y cyflwyniadau. Os nad ydych chi’n defnyddio Twitter, holwch eich cwestiynau yn y blwch perthnasol sydd i’w weld o dan bob cyflwyniad. Mwynhewch a chyfrannwch!
Cynhadledd Ymchwil Rithiol 2020
Yr Almaen 1945-1970
Dyma gyflwyniad i hanes yr Almaen 1945-1970. Mae'n cynnwys naw o ddarlithoedd, amlinelliad tair seminar, cwestiynau traethawd a llyfryddiaeth fanwl. Lluniwyd yr adnodd gan Dr Arddun Arwyn, Darlithydd Hanes Modern (cyfrwng Cymraeg) ym Mhrifysgol Aberystwyth, gyda chymorth Grant Bach gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Darlithoedd: Darlithoedd Diwedd y Drydedd Reich Gorchfygiad, Alltudiaeth a Meddiannaeth, 1945-8 Datnatsieiddio a Gwleidyddiaeth y Feddiannaeth Sefydlu’r ddwy Almaen Gweriniaeth Ffederal yr Almaen (GFfA): Adenauer, y Wirtschaftswunder a Westbindung (gweler Cyfryngau Cysylltiedig uchod) Gweriniaeth Ddemocrataidd yr Almaen (GDdA): Yr Undeb Sofietaidd ar yr Elbe Argyfwng Wal Berlin, 1958-1962 1960au: Cydgyfnerthiad y system o ddwy wladwriaeth Almaenig Brandt ac Ostpolitik: Dwy wladwriaeth, Un Genedl (gweler Cyfryngau Cysylltiedig uchod) Seminarau Sefydlu’r Ddwy Wladwriaeth Ailadeiladu, chydgyfnerthu a’r Almaen yn y Rhyfel Oer Y Wladwriaeth a Chymdeithas yn y Weriniaeth Ffedral
Yr Argyfwng Gwacter Ystyr – J. R. Jones
J. R. Jones yn ymateb i argyfyngau dynol y ceir sôn amdanynt yn y Beibl. Cyhoeddwyd hefyd fel rhan o gyfrol Ac Onide
Yr Athro J. R. Jones (Llên y Llenor) – E. R. Lloyd-Jones
Cyfrol deyrnged i'r athronydd, pregethwr, heddychwr a'r cenedlaetholwr, J. R. Jones. Er mai cyfrol yng nghyfres Llên y Llenor yw hon, nid astudiaeth o arddull a mynegiant a geir yma, ond yn hytrach edrychir ar gynnwys gweithiau J. R. Jones.
Yr Ewyllys i Barhau – J. R. Jones
Araith a draddodwyd gan yr athronydd J. R. Jones yn Eisteddfod y Barri 1968 yn trafod y Cymry Cymraeg fel pobl a'u hawydd i oroesi.
Ysgrifau a Chanllawiau Cyfieithu – Delyth Prys a Robat Trefor
Cyfres o saith erthygl gan arbenigwyr yn y maes, yn trafod agweddau ar gyfieithu, technolegau cyfieithu a hanes a sefyllfa'r diwydiant yng Nghymru. Mae'r cyfraniadau yn seiliedig ar waith ymchwil y cyfranwyr, ac ar gyflwyniadau a roddwyd ganddynt wrth hyfforddi myfyrwyr a chyfieithwyr mewn sesiynau ar gyfer Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a chwrs Tystysgrif Ôl-radd Astudiaethau Cyfieithu a Thechnoleg Cyfieithu Prifysgol Bangor. Cyfrol wreiddiol sydd ar gael ar ffurf e-lyfr yn unig.Mae'r penodau fel a ganlyn: Pennod 1: Cyd-destun gwleidyddol a chymdeithasol cyfieithu yn y Gymru gyfoes – Tegau Andrews, Pennod 2: Cyweiriau Iaith y Gymraeg – Robat Trefor, Pennod 3: Geiriaduron, termiaduron ac adnoddau defnyddiol eraill – Delyth Prys, Pennod 4: Meddalwedd a Thechnoleg Cyfieithu – Gruffudd Prys, Delyth Prys, Pennod 5: Golygu a Phrawfddarllen – Mared Roberts, Pennod 6: Theori ac ymarfer cyfieithu yng Nghymru heddiw – Sylvia Prys Jones,Pennod 7: Oes Rhywun yn Darllen? – Heini Gruffudd.
Ysgrifau ar Ffilm a'r Cyfryngau – Elin Haf Gruffydd Jones (gol.)
Dyma gasgliad o deuddeg o ysgrifau ar wahanol agweddau ar ffilm a'r cyfryngau. Mae rhai wedi eu lleoli'n ddiamwys ym myd y diwydiannau Cymreig a Chymraeg, ac eraill yn drafodaethau a fyddai'n nodweddu astudiaethau o'r fath mewn sawl rhan o'r byd. Prif bwrpas y gyfrol yw darparu deunydd addas ar gyfer myfyrwyr sydd yn dilyn modiwlau a graddau yn y meysydd hyn drwy gyfrwng y Gymraeg, ac fe ddatblygwyd y gyfrol gan ddarlithwyr o nifer o brifysgolion Cymru. Cefnogwyd y gyfrol gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a dyma un o gyhoeddiadau cyntaf y sefydliad hwnnw.Mae'r gyfrol electronig hon yn manteisio ar dechnoleg sydd yn ychwanegol at yr hyn a geir mewn cyfrol brint: mae yma hyperddolenni sydd yn arwain y darllenydd at dudalen derminoleg wrth glicio ar rai geiriau all fod yn anghyfarwydd yn y testun. Gobeithio y bydd hyn yn hwyluso'r darllen ac yn cyfrannu at ddatblygu, ehangu a sefydlogi terminoleg yn y meysydd hyn.Er nad all un gyfrol ddarparu deunydd cyflawn i gyrsiau prifysgolion mewn unrhyw bwnc, gobeithir y bydd y casgliad hwn yn cyfrannu at ddysg ac yn ysgogi rhagor o astudio, ymchwilio a chyhoeddi ym meysydd astudiaethau ffilm a'r cyfryngau drwy gyfrwng y ..
Ysgrifau ar Ieithyddiaeth a Geiriaduraeth Gymraeg – Delyth Prys (gol.)
Cyfres o saith erthygl gan arbenigwyr yn y maes, yn trafod agweddau ar ramadeg y Gymraeg, gwahanol gyweiriau, geiriadura, a datblygiad iaith. Traddodwyd yn wreiddiol fel cyfres darlithoedd y Gîcs Gramadeg dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Ysgrifau Dydd Mercher – Saunders Lewis
Casgliad o adolygiadau ac ysgrifau cofiannol gan Saunders Lewis a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn Y Faner rhwng 1939 ac 1945. Noda Saunders Lewis yn y cyflwyniad iddo ddewis casgliad ar thema llên a hanes y gorffennol, a dyna sy'n clymu'r ysgrifau heriol hyn.
Y Gwyddonydd – cyfrol 33, 2013
Y Gwyddonydd, Cyfrol 33 – Rhifyn Hanner Canmlwyddiant, 1963-2013 Ymddangosodd Y Gwyddonydd, cyfnodolyn gwyddonol Cymraeg, am y tro cyntaf yn 1963, ac fe'i cyhoeddwyd yn gyson hyd at 1996. I ddathlu'r achlysur fe wnaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ariannu a chydlynu rhifyn dathlu arbennig, gan hefyd redeg cystadleuaeth gwyddonydd ifanc. Lansiwyd y rhifyn arbennig yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych, 2013.
Y Llofrudd Iaith – Gwyneth Lewis
Nofel dditectif ar ffurf barddoniaeth, sy'n gyfraniad gwreiddiol a beiddgar i'r ddadl am ddyfodol yr iaith. Enillodd y casgliad wobr Llyfr y Flwyddyn Cyngor Celfyddydau Cymru yn y flwyddyn 2000. Os gall iaith farw, gall rhywun ei lladd. Pwy sy'n gyfrifol am y corff ar y grisiau a thranc ein mamiaith? Y bardd? Yr archifydd? Y ffermwr? Mae'r pentre'n llawn o sibrydion a chymhellion tywyll, ac mae bwystfil peryglus yn crwydro'r mynyddoedd. At bwy y bydd Carma, y Ditectif, yn pwyntio bys? Ydych chi'n siwr nad chi sydd ar fai?
Y Meddwl Modern: Darwin – R. Elwyn Hughes
Charles Darwin, ym marn llawer, oedd y biolegydd mwyaf erioed. Ef a fu'n bennaf cyfrifol am gyflwyno i'r byd un o'r syniadau pwysicaf yn holl hanes bioleg – Theori Esblygiad. Disgrifir yn yr e-lyfr hwn sut y daeth i lunio'i ddamcaniaeth enwog am darddiad pethau byw a sut yr ehangodd arni, yng nghwrs ei yrfa, i gofleidio holl weithgareddau dyn ei hun. Trafodir ei le yng ngwyddoniaeth ei gyfnod, a'r ymateb i'w syniadau. Ystyrir hefyd i ba raddau y bu i amgylchiadau personol a chymdeithasol ei gynorthwyo a'i lesteirio yn ei waith.