Recordiadau o'r gynhadledd bodlediadau gyntaf i fyfyrwyr yng Nghymru a gynhaliwyd gan Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Abertawe, gyda chefnogaeth Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Cynhaliwyd cyfres o weithdai, paneli a sesiynau hyfforddi gan arbenigwyr o fewn y byd podlediadau yng Nghymru yn cynnwys: Aled Jones 'Y Pod' Mel Owen Elin a Celyn (Paid Ymddiheuro) Rhannodd y cyflwynwyr a chyfranwyr o'r diwydiant cyfryngau straeon a chyngor gyda'r myfyrwyr. Gwyliwch yr uchafbwyntiau islaw.
PodCon 2025 Y Myfyrwyr
Matiau Iaith
Dyma gasgliad o fatiau iaith sy’n gallu eu defnyddio gan athrawon profiadol, athrawon newydd gymhwyso, a myfyrwyr TAR i ddatblygu geirfa ac iaith disgyblion o fewn pynciau uwchradd. Bwriad y matiau iaith yw codi hyder a chynyddu capasiti unigolion i ddefnyddio’r Gymraeg yn hyderus wrth addysgu eu pwnc yn yr ysgol uwchradd. Mae matiau wedi eu datblygu ar gyfer y pynciau canlynol: Cymraeg Ail Iaith Ieithoedd: Ffrangeg Bioleg Cemeg Ffiseg Technoleg Digidol Dylunio a Thechnoleg
Cardiau Gêm Gwrthfiotig i fyfyrwyr meddygol
Cardiau gêm 'trumps' yn cynnwys gwybodaeth am wrthfiotigau cyffredin. Gellir defnyddio'r cardiau fel adnodd i addysgu myfyrfwyr meddygol. Gallent hefyd fod yn addas i fyfyrwyr mewn proffesiynau iechyd eraill ee fferylliaeth.
Gweithdai Adolygu Cymdeithaseg
Dau weithdy ar-lein ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio Lefel A neu arholiadau Lefel 2 neu 3 mewn Cymdeithaseg. Mae'r Gweithdy gyntaf ar thema 'Sgiliau Ymchwil' a'r ail weithdy ar thema 'Anghyfartaledd'. Arweinir y Gweithdai gan ddarlithwyr o brifysgolion Bangor a Chaerdydd.
Cefnogi iechyd meddwl a lles ymchwilwyr ôl-raddedig
Canllaw i oruchwylwyr doethuriaethau ar sut i gefnogi iechyd meddwl a lles eich myfyrwyr ymchwil. Mae'r canllaw yn cynnwys yr heriau y gallai ymchwilwyr eu hwynebu yn ystod pob cam o'u doethuriaeth, a datrysiadau posib. Cyfieithwyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol mewn cydweithrediad â UKCGE.
10 mlynedd o JOMEC Cymraeg
Dyma bodlediad yn cynnwys 10 o raddedigion JOMEC Cymraeg ac enwau adnabyddus o'r cyfryngau yng Nghymru. Mae'r gyfres yn cynnwys unigolion o gefndiroedd gwahanol, gydag agweddau amrywiol at yr iaith sydd yn gweithio mewn gwahanol feysydd. Mae yna gynnwys diddorol, perthnasol a defnyddiol i fyfyrwyr prifysgolion Cymru, disgyblion ysgol a chynulleidfaoedd ehangach. Millie Stacey o’r drydedd flwyddyn yn sgwrsio gyda Tirion Davies, newyddiadurwraig radio i Global News. Carys Williams yn cyfweld a Dafydd Wyn Orritt sydd yn swyddog gweithredol cyfrif yn Equinox Communications. Efa Ceiri o’r drydedd flwyddyn yn sgyrsio gyda Catrin Lewis, Golwg 360. Lois Campbell o flwyddyn 3 yn sgwrsio gyda Ciara Conlon a Jess Clayton o dîm cynhyrchu Hamsh Dim Sbin/ITV Cymru Lena Mohammed, sydd yn ei blwyddyn olaf, yn sgwrsio gyda'r cyflwynydd Melanie Owen. Hanna Morgans Bowen o flwyddyn 1 sydd yn cyfweld â'r newyddiadurwr Aled Biston, S4C. Jack Thomas o flwyddyn 2 sydd yn cyfweld â Tegan Rees a raddiodd o JOMEC yn 2024. Jack Thomas o flwyddyn 2 sydd yn cyfweld â Megan Taylor (cyn-fyfyriwr JOMEC) sydd bellach yn gweithio fel swyddog cyfathrebu i Undeb Myfyrwyr Prifysgol De Cymru. Jack Thomas o flwyddyn 2 sydd yn cyfweld â Molly Sedgemore (cyn-fyfyriwr JOMEC), sydd erbyn hyn yn gweithio fel newyddiadurwr i S4C. Hannah Williams o flwyddyn 1 sydd yn cyfweld â Jess Clayton (cyn-fyfyriwr JOMEC), sydd erbyn hyn yn gweithio fel newyddiadurwr i ITV.
Offer-Astro (Cipwyr Comedau)
Offer ar gyfer symleiddio’r holl broses arsylwi gyda rhwydwaith telesgopau LCO trwy'r prosiect Cipwyr Comedau. Ceir offer ar gyfer cynllunio a threfnu arsylwadau, gwneud cais am yr arsylwadau, a chreu animeiddiad o’r lluniau telesgop. Mae’r adnoddau yma yn cael eu hanelu at ddisgyblion ysgol gynradd ac uwchradd sydd yn cymryd rhan yn y prosiect Cipwyr Comedau – ond mae’n ddefnyddiol i fyfyrwyr is- ac ôl-radd ar gyfer gwneud ceisiadau am luniau o gomedau/asteroidau o LCO. Mae cyfarwyddiadau ar gael ar y wefan am ddau offeryn, bydd mwy yn cael eu creu ar gyfer pob offeryn yn y dyfodol.
“Un o fethiannau godidocaf” puryddiaeth ieithyddol? Dadansoddiad o batrymau geirfaol Cymraeg y Wladfa heddiw m...
Amcan yr erthygl hon yw dadansoddi agwedd ar dafodiaith Gymraeg y Wladfa a esgeuluswyd, sef ei phatrymau geirfaol cyfoes. Ar sail data a gafwyd o 134 holiadur, dangosir bod yr amrywio geirfaol sydd ar waith yn yr amrywiad hwn ar y Gymraeg wedi ei gyflyru i raddau helaeth gan yr amrywiaeth o gefndiroedd ieithyddol a welir heddiw ymhlith siaradwyr Cymraeg Talaith Chubut. Mae’r canlyniadau, felly, nid yn unig yn dangos sut y mae cydgyffyrddiad tafodieithol hanesyddol wedi chwarae rôl allweddol yn esblygiad tafodiaith draddodiadol y Wladfa, ond hefyd yn archwilio am y tro cyntaf i ba raddau y mae rhaglen addysgol benodol, sef ‘Cynllun yr Iaith Gymraeg’ y Cyngor Prydeinig, yn dylanwadu ar ddefnydd o nodweddion geirfaol ymysg dysgwyr Cymraeg yn y rhanbarth. Nod arall yw ystyried rhai o oblygiadau ehangach y canlyniadau, gan gynnwys perthnasedd ideolegau ieithyddol i batrymau geirfaol hanesyddol a chyfredol Cymraeg y Wladfa. Awdur: Iwan Wyn Rees
Dulliau Ymchwil ac Ystadegau
E-werslyfr am gynllunio a gwneud ymchwil meintiol yw hwn. Mae'n gyflwyniad cyflawn a manwl i'r broses o gynllunio ymchwil, casglu data a dadansoddi ystadegau. Wedi'i anelu'n bennaf at israddedigion sy'n astudio Seicoleg, mae'r e-werslyfr yn mynd law yn llaw â modiwlau dulliau ymchwil a'r traethawd hir. Mae hefyd yn adnodd defnyddiol i israddedigion ac ôlraddedigion sy'n astudio dulliau ymchwil ac yn cynnal ymchwil meintiol mewn ystod eang o bynciau eraill. Yr awduron yw Dr Awel Vaughan-Evans, Dr Gwennant Evans-Jones ac Emma Hughes-Parry. Ymysg y pynciau a drafodir mae: Moeseg Cynllunio ymchwil meintiol Samplu, dilysrwydd a dibynadwyedd Cyflwyniad i ystadegau Dosraniadau a thebygolrwydd Ystadegau casgliadol Cydberthyniad Atchweliad llinol Y prawf t Dadansoddi atchweliad SPSS Dadansoddi cyfrannau a'r prawf chi sgwar Profion amharametrig amgen
Priodi ac ysbïo: teithio arloesol Georges Dufaud o Nevers i Ferthyr Tudful ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar b...
Mae’r erthygl hon yn ymdrin â chysylltiadau personol a diwydiannol y teulu Crawshay ym Merthyr Tudful â’r teulu Dufaud yn Ffrainc. Trafodir dyddiaduron taith, nodiadau a llythyron Georges Dufaud a’i fab Achille Dufaud wrth iddynt ymweld â Merthyr. Datgelir drwy’r testunau hynny argraffiadau’r Ffrancwyr o Ferthyr a goruchafiaeth ddiwydiannol y dref honno, yn ogystal ag agweddau ymarferol teithio a chyllido yn y cyfnod hwnnw. Ceir awgrym yn ogystal o hyd a lled y trosglwyddo technolegol o Gymru i Ffrainc ar y pryd, a thystiolaeth fod y diwydianwyr yng Nghymru yn gofidio am ysbïo diwydiannol. Yn dilyn priodas Louise Dufaud a George Crawshay, allforiwyd gweithlu a pheiriannau o Gymru (Abaty Nedd) i Ffrainc, a chwaraeodd hyn ran allweddol yn natblygiad gweithfeydd haearn Fourchambault ger Nevers. Awdur: Heather Williams
Cerddi cwsg y Ficer Rhys Prichard
Mae’r erthygl hon yn archwilio’r ystyriaethau ynghylch cwsg mewn llenyddiaeth Gymraeg gan ddadansoddi cerddi poblogaidd y Ficer Rhys Prichard (1579–1644). Dadansoddir ystyriaethau crefyddol a diwylliannol ynghylch cwsg fel y’u ceir yng ngherddi’r Ficer. Manylir ar brif nodweddion cerddi cwsg y Ficer a chawn gipolwg ar sut roedd rhai pobl yn cysgu, neu sut yr oedd y Ficer yn credu neu’n dymuno eu bod yn cysgu. O ganlyniad, dengys yr erthygl hon bwysigrwydd cwsg yn y cyfnod a bod pobl yn ei gymryd o ddifri. Wrth wneud hyn, pwysleisir y dylid cofio mai pobl go iawn, o gig a gwaed, a astudir, ac er eu bod yn bodoli mewn testunau yn unig o’n safbwynt ni, dylid eu trin fel bodau dynol a oedd, yng nghyd-destun yr erthygl hon, yn cysgu. Awdur: Dewi Alter
Amserlen Fideo: Hanes yr Iaith
Adnodd fideo newydd sy’n dod â hanes yr iaith Gymraeg yn fyw mewn 4 munud. O’r Frythoneg, geni’r Gymraeg a’r fersiynau ysgrifenedig cynharaf yn Oes y Tywysogion drwy’r Deddfau Uno a’r Chwyldro Diwydiannol i sefydlu’r Urdd ac ysgolion cyfrwng Cymraeg yn yr ugeinfed ganrif, dyma fideo sy’n mynd o’r flwyddyn 40 i 2022, pan ddefnyddiwyd y Gymraeg am y tro cyntaf ar y llwyfan chwaraeon mwyaf un, sef yng Nghwpan pêl-droed y Byd. “Heddiw, mae dros hanner miliwn yn siarad yr iaith ac mae Llywodraeth Cymru am gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 fel bod y Gymraeg yn dod yn rhan annatod o fywyd bob dydd, mewn cymunedau, ysgolion, yn y gwaith a thechnoleg ddigidol.” Adnodd i’w ddefnyddio’n eang gyda dosbarthiadau Cymraeg o bob oed, ac yn benodol ar gyfer Cymraeg Ail Iaith Safon Uwch Uned 5 (Y Gymraeg yn y Gymdeithas.) Dolen i'r fideo ar YouTube - gllir dewis isdeitlau (Cymraeg) ar y fideo yn YouTube (bydd isdeitlau Saesneg ar gael yn fuan). Ariannir gan Lywodraeth Cymru.