Wyt ti eisiau dysgu sut i fachu sylw ar y cyfryngau cymdeithasol? Beth am greu cynnwys fydd yn cael ei rannu i bob cwr o'r ryngrwyd? Eisiau tips gan yr arbenigwyr? Mae Sbia ar Hwn yn gwrs digidol newydd i dy helpu i lwyddo ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae'r cwrs digidol hwn wedi'i ddylunio i helpu myfyrwyr a disgyblion ysgol i baratoi ar gyfer gweithio ym myd y cyfryngau cymdeithasol. Byddwn yn edrych ar sut i fachu a hoelio sylw, creu cynnwys gafaelgar, sut i gyflwyno straeon newyddion a defnyddio'r Gymraeg yn effeithiol i gyfathrebu â chynulleidfaoedd amrywiol.
Cynhadledd Technoleg a Dwyieithrwydd
Recordiadau o'r sesiynau a gynhaliwyd yn y Gynhadledd Technoleg a Dwyieithrywdd eleni. Roedd y gynhadledd yn ymdrin ag agweddau yn ymwneud â ddefnyddio technoleg i ddarparu’n ddwyieithog ac yn Gymraeg yn y sectorau addysg uwch, addysg bellach a phrentisiaethau.
BLC Unedau Chwaraeon Lefel 3 (B)
25 o sesiynau dysgu cyfunol ychwanegol ar gyfer dysgwyr sy’n astudio cwrs Chwaraeon (lefel 3). Mae modd gweld y sesiynau yn eich porwr drwy ddilyn y dolenni isod. Mae hefyd modd i golegau lawrlwytho'r cynnwys er mwyn eu gosod o fewn eu llwyfannau dysgu lleol. Mae ffeil zip yma yn cynnwys y ffeiliau SCORM ar gyfer yr holl unedau. Mae cynnwys y sesiynau hyn yn ddwyieithog, ond dim ond yn Gymraeg mae modd ateb y cwestiynau. Hawlfraint Heart of Worcestershire College ar ran The Blended Learning Consortium a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae’r adnoddau hyn i gael eu defnyddio mewn sefydliadau addysgiadol yn unig ac ni ddylid eu haddasu na’u hailwerthu.
Priodi ac ysbïo: teithio arloesol Georges Dufaud o Nevers i Ferthyr Tudful ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar b...
Mae’r erthygl hon yn ymdrin â chysylltiadau personol a diwydiannol y teulu Crawshay ym Merthyr Tudful â’r teulu Dufaud yn Ffrainc. Trafodir dyddiaduron taith, nodiadau a llythyron Georges Dufaud a’i fab Achille Dufaud wrth iddynt ymweld â Merthyr. Datgelir drwy’r testunau hynny argraffiadau’r Ffrancwyr o Ferthyr a goruchafiaeth ddiwydiannol y dref honno, yn ogystal ag agweddau ymarferol teithio a chyllido yn y cyfnod hwnnw. Ceir awgrym yn ogystal o hyd a lled y trosglwyddo technolegol o Gymru i Ffrainc ar y pryd, a thystiolaeth fod y diwydianwyr yng Nghymru yn gofidio am ysbïo diwydiannol. Yn dilyn priodas Louise Dufaud a George Crawshay, allforiwyd gweithlu a pheiriannau o Gymru (Abaty Nedd) i Ffrainc, a chwaraeodd hyn ran allweddol yn natblygiad gweithfeydd haearn Fourchambault ger Nevers. Awdur: Heather Williams
10 mlynedd o JOMEC Cymraeg
Dyma bodlediad yn cynnwys 10 o raddedigion JOMEC Cymraeg ac enwau adnabyddus o'r cyfryngau yng Nghymru. Mae'r gyfres yn cynnwys unigolion o gefndiroedd gwahanol, gydag agweddau amrywiol at yr iaith sydd yn gweithio mewn gwahanol feysydd. Mae yna gynnwys diddorol, perthnasol a defnyddiol i fyfyrwyr prifysgolion Cymru, disgyblion ysgol a chynulleidfaoedd ehangach. Millie Stacey o’r drydedd flwyddyn yn sgwrsio gyda Tirion Davies, newyddiadurwraig radio i Global News. Carys Williams yn cyfweld a Dafydd Wyn Orritt sydd yn swyddog gweithredol cyfrif yn Equinox Communications. Efa Ceiri o’r drydedd flwyddyn yn sgyrsio gyda Catrin Lewis, Golwg 360. Lois Campbell o flwyddyn 3 yn sgwrsio gyda Ciara Conlon a Jess Clayton o dîm cynhyrchu Hamsh Dim Sbin/ITV Cymru Lena Mohammed, sydd yn ei blwyddyn olaf, yn sgwrsio gyda'r cyflwynydd Melanie Owen. Hanna Morgans Bowen o flwyddyn 1 sydd yn cyfweld â'r newyddiadurwr Aled Biston, S4C. Jack Thomas o flwyddyn 2 sydd yn cyfweld â Tegan Rees a raddiodd o JOMEC yn 2024. Jack Thomas o flwyddyn 2 sydd yn cyfweld â Megan Taylor (cyn-fyfyriwr JOMEC) sydd bellach yn gweithio fel swyddog cyfathrebu i Undeb Myfyrwyr Prifysgol De Cymru. Jack Thomas o flwyddyn 2 sydd yn cyfweld â Molly Sedgemore (cyn-fyfyriwr JOMEC), sydd erbyn hyn yn gweithio fel newyddiadurwr i S4C. Hannah Williams o flwyddyn 1 sydd yn cyfweld â Jess Clayton (cyn-fyfyriwr JOMEC), sydd erbyn hyn yn gweithio fel newyddiadurwr i ITV.
Cerddi cwsg y Ficer Rhys Prichard
Mae’r erthygl hon yn archwilio’r ystyriaethau ynghylch cwsg mewn llenyddiaeth Gymraeg gan ddadansoddi cerddi poblogaidd y Ficer Rhys Prichard (1579–1644). Dadansoddir ystyriaethau crefyddol a diwylliannol ynghylch cwsg fel y’u ceir yng ngherddi’r Ficer. Manylir ar brif nodweddion cerddi cwsg y Ficer a chawn gipolwg ar sut roedd rhai pobl yn cysgu, neu sut yr oedd y Ficer yn credu neu’n dymuno eu bod yn cysgu. O ganlyniad, dengys yr erthygl hon bwysigrwydd cwsg yn y cyfnod a bod pobl yn ei gymryd o ddifri. Wrth wneud hyn, pwysleisir y dylid cofio mai pobl go iawn, o gig a gwaed, a astudir, ac er eu bod yn bodoli mewn testunau yn unig o’n safbwynt ni, dylid eu trin fel bodau dynol a oedd, yng nghyd-destun yr erthygl hon, yn cysgu. Awdur: Dewi Alter
Unedau Diwydiannau Creadigol
Mae'r casgliad hwn yn cynnwys chwech pecyn e-ddysgu ar y meysydd canlynol: Busnes o fewn y Diwydiannau Creadigol Celf a Dylunio o fewn y Diwydiannau Creadigol Cyfathrebu ac ymchwil ym maes y Cyfryngau Creadigol Archwilio’r Celfyddydau Perfformio ac Ymarfer Proffesiynol Llwybrau Gyrfa a chyfleoedd o fewn y Diwydiannau Creadigol yng Nghymru Y diwydiant cerddoriaeth ac ymarfer proffesiynol Mae'r pecynnau yn addas ar gyfer dysgwyr sy'n astudio'r cymwysterau perthnasol ar lefelau 2 a 3 mewn colegau addysg bellach.
Dulliau Ymchwil ac Ystadegau
E-werslyfr am gynllunio a gwneud ymchwil meintiol yw hwn. Mae'n gyflwyniad cyflawn a manwl i'r broses o gynllunio ymchwil, casglu data a dadansoddi ystadegau. Wedi'i anelu'n bennaf at israddedigion sy'n astudio Seicoleg, mae'r e-werslyfr yn mynd law yn llaw â modiwlau dulliau ymchwil a'r traethawd hir. Mae hefyd yn adnodd defnyddiol i israddedigion ac ôlraddedigion sy'n astudio dulliau ymchwil ac yn cynnal ymchwil meintiol mewn ystod eang o bynciau eraill. Yr awduron yw Dr Awel Vaughan-Evans, Dr Gwennant Evans-Jones ac Emma Hughes-Parry. Ymysg y pynciau a drafodir mae: Moeseg Cynllunio ymchwil meintiol Samplu, dilysrwydd a dibynadwyedd Cyflwyniad i ystadegau Dosraniadau a thebygolrwydd Ystadegau casgliadol Cydberthyniad Atchweliad llinol Y prawf t Dadansoddi atchweliad SPSS Dadansoddi cyfrannau a'r prawf chi sgwar Profion amharametrig amgen
Paratoi ar gyfer y Viva
Canllaw i ymgeiswyr doethurol ar baratoi ar gyfer yr arholiad Viva. Mae'r pecyn yn cynnwys gwybodaeth ar sut i baratoi at yr arholiad, beth i'w ddisgwyl ar y diwrnod, a chwestiynau cyffredin a ofynnir mewn arholiad Viva. Cyfieithwyd y wybodaeth gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol mewn cydweithrediad â UKCGE.
Sgwrs Adnoddau Cymdeithaseg
Adnoddau Cymdeithaseg Cymraeg ar-lein Sgwrs 20 munud yn cyflwyno adnoddau a grewyd gan ddarlithwyr Cymdeithaseg. Mae'r adnoddau sy'n cael eu cyflwyno yn ystod y sgwrs yn ddefnyddiol i athrawon, disgyblion, dysgwyr a darlithwyr i gefnogi eu dysgu ac addysgu. Mae'r adnoddau i gyd ar wefan Porth Adnoddau'r Coleg Cymraeg. Mae'r rhain yn cynnwys: Adnoddau 'PAAC' sydd ar themâu: Cyflwyniad i Gymdeithaseg, Addysg, Y Teulu, Sgiliau Ymchwil, ac Anghydraddoldeb Cymdeithasol. Modiwl Astudio Cymru Gyfoes Modiwl Theori Gymdeithasegol Esboniadur Gwyddorau Cymdeithasol.
Cyflwyniad i Droseddeg
Bwriad pennaf y llyfr hwn yw rhoi cyflwyniad i droseddeg fel maes astudio pwnc gradd academaidd i fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf mewn sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru. Dyma’r symbyliad i ddatblygu gwerslyfr academaidd cynhwysfawr yn y Gymraeg a fyddai’n cyflwyno myfyrwyr i agweddau beirniadol o ddilyn ac astudio troseddeg drostynt eu hunain. Yn ogystal â chynnig yr adnodd yn yr iaith Gymraeg, mae’r gyfrol hefyd yn gofyn i fyfyrwyr berthnasu damcaniaethau troseddeg o fewn cyd-destun troseddu yn y Gymru gyfoes.
“Un o fethiannau godidocaf” puryddiaeth ieithyddol? Dadansoddiad o batrymau geirfaol Cymraeg y Wladfa heddiw m...
Amcan yr erthygl hon yw dadansoddi agwedd ar dafodiaith Gymraeg y Wladfa a esgeuluswyd, sef ei phatrymau geirfaol cyfoes. Ar sail data a gafwyd o 134 holiadur, dangosir bod yr amrywio geirfaol sydd ar waith yn yr amrywiad hwn ar y Gymraeg wedi ei gyflyru i raddau helaeth gan yr amrywiaeth o gefndiroedd ieithyddol a welir heddiw ymhlith siaradwyr Cymraeg Talaith Chubut. Mae’r canlyniadau, felly, nid yn unig yn dangos sut y mae cydgyffyrddiad tafodieithol hanesyddol wedi chwarae rôl allweddol yn esblygiad tafodiaith draddodiadol y Wladfa, ond hefyd yn archwilio am y tro cyntaf i ba raddau y mae rhaglen addysgol benodol, sef ‘Cynllun yr Iaith Gymraeg’ y Cyngor Prydeinig, yn dylanwadu ar ddefnydd o nodweddion geirfaol ymysg dysgwyr Cymraeg yn y rhanbarth. Nod arall yw ystyried rhai o oblygiadau ehangach y canlyniadau, gan gynnwys perthnasedd ideolegau ieithyddol i batrymau geirfaol hanesyddol a chyfredol Cymraeg y Wladfa. Awdur: Iwan Wyn Rees