Dyma gasgliad o fatiau iaith sy’n gallu eu defnyddio gan athrawon profiadol, athrawon newydd gymhwyso, a myfyrwyr TAR i ddatblygu geirfa ac iaith disgyblion o fewn pynciau uwchradd. Bwriad y matiau iaith yw codi hyder a chynyddu capasiti unigolion i ddefnyddio’r Gymraeg yn hyderus wrth addysgu eu pwnc yn yr ysgol uwchradd. Mae matiau wedi eu datblygu ar gyfer y pynciau canlynol: Cymraeg Ail Iaith Ieithoedd: Ffrangeg Bioleg Cemeg Ffiseg Technoleg Digidol Dylunio a Thechnoleg
Cynllunio ar gyfer Dyfodol Cymru
Crëwyd yr adnodd ar-lein hwn gan ddarlithwyr o Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio (GEOPL) Prifysgol Caerdydd ar gyfer myfyrwyr cynllunio sy’n siarad Cymraeg. Y nod yw rhoi rhywfaint o wybodaeth bellach a chipolwg ar fod yn gynllunydd yng Nghymru. Mae'n cynnwys pedwar fideo o siaradwyr Cymraeg yn trafod gwahanol agweddau o fod yn gynllunydd; gweithio yng Nghymru a/neu ddefnyddio'r Gymraeg yn y gweithle. Yn ogystal â hynny, mae rhai dolenni at adnoddau ysgrifenedig a allai fod yn ddefnyddiol. Mae'r tîm prosiect yn gobeithio parhau i ddatblygu’r adnodd yn y dyfodol.
Cynhadledd Gwaith Cymdeithasol 2024
Cynhadledd Gwaith Cymdeithasol 2024 - Y Gorau o Ddau Fyd: Cyfuno Ymchwil ag Ymarfer Casgliad o gyflwyniadau o'r gynhadledd Gwaith Cymdeithasol a chynhaliwyd ar y cyd gan Brifysgol Bangor a Phrifysgol Abertawe ym mis Mawrth 2024. Prif ffocws y gynhadledd oedd ar ymchwil cyfredol ac ymarfer da o fewn Gwaith Cymdeithasol yng Nghymru.
Cynhyrchu Cig
Gwefan cynhyrchu cig oen a chig eidion ar gyfer dysgwyr sy’n astudio cymwysterau Amaethyddiaeth Lefelau 2 a 3. Yma, cewch ddysgu am wahanol agweddau o’r diwydiant gynhyrchu cig, o faterion rheoli cyllid a busnes i fridiau addas a systemau gwahanol. Ewch ati i bori! Mae'r wefan yn cynnwys saith uned ar gynhyrchu cig eidion: Trosolwg o Ddiwydiant Cig Eidion y DU Bridiau Gwartheg Cig Eidion System Buchod Sugno a Ffynonellau Gwartheg Stôr Cyflwyniad i Systemau Pesgi Gwartheg Cig Eidion Rheoli Ffrwythlondeb Buches a Buchod Cyfnewid Iechyd a Lles Gwartheg Cig Eidion Ystyriaethau Busnes Wrth Ffermio Cig Eidion a saith uned cynhyrchu cig oen: Trosolwg o Ddiwydiant Cig Oen y DU Bridiau a’r System Haenedig Dysgu am Ddefaid Blwyddyn y Bugail Y Farchnad Ŵyn Prif Dasgau Hwsmonaeth Defaid Ystyriaethau Busnes Wrth Ffermio Defaid
Rhannu arferion da ar gyfer rheolwyr canol
Sgwrs banel: Rhannu arferion da ar gyfer rheolwyr canol (addysg bellach a phrentisiaethau) Recordiad o drafodaeth banel gyda phedwar rheolwr maes cwricwlwm Addysg Bellach wrth iddynt drafod eu hymagwedd at gynyddu’r ddarpariaeth ddwyieithog / Gymraeg o fewn eu hadrannau. Maent yn trafod eu harferion da yn ogystal â sut maent wedi goresgyn heriau: Yusuf Ibrahim, Pennaeth Cynorthwyol – Addysg Uwch, Astudiaethau Academaidd, Dysgu Sylfaenol ac Oedolion - Coleg Caerdydd a'r Fro (Cadeirio) Lucy Breckon, Rheolwr Dysgu Seiliedig ar Waith (Iechyd, Gofal a Mentrau Masnachol) – Coleg Sir Benfro Rhian Pardoe, Rheolwr Maes Dysgu Iechyd a Gofal – Coleg Gwyr Abertawe Amy Thomson, Rheolwr Maes Rhaglen Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus – Grŵp Llandrillo Menai Rachel Lewis, Rheolwr Cwricwlwm Adeiladwaith – Coleg Pen y Bont Cynhaliwyd y digwyddiad yn ar y 5ed o Chwefror 2025.
Dysgwrdd TAR AHO
Wyt ti'n astudio'r cwrs TAR AHO? (Tystysgrif Addysg i Raddedigion, Addysg a Hyfforddiant Ol-orfodol). Yn siarad Cymraeg, neu eisiau cynyddu dy hyder wrth ddefnyddio'r Gymraeg? Dalia i fyny gyda'r sesiwn yma! Ymunodd Sgiliaith â ni i roi cyngor ar sut i annog a chefnogi myfyrwyr i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg, ac amlygodd aelod profiadol o staff sydd bellach yn addysgu’n ddwyieithog yn y sector rai adnoddau defnyddiol. Cynhaliwyd y sesiwn hon ar 29 Ionawr 2025.
Fideos Rhannu Arfer Dda – Cynllun Mentora TAR AHO
Wyt ti’n astudio cwrs TAR AHO (Tystysgrif Addysg i Raddedigion, Addysg a Hyfforddiant Ol-orfodol) ar hyn o bryd, yn siarad Cymraeg, ac yn awyddus i ddefnyddio’r Gymraeg yn dy yrfa? Mae’r fideos hyn i ti! Mae’r gyfres yn cynnwys chwe fideo gan staff sy’n addysgu’n ddwyieithog yn y sector addysg bellach a phrentisiaethau, ac sydd wedi cwblhau’r TAR AHO yn ddiweddar. Mae’n gyfle i chi glywed am eu profiadau ac i gael tips ac arferion da wrth i chi gychwyn eich gyrfa yn y sector.
TestunRhydd
Mae TestunRhydd yn eich helpu i ddadansoddi a delweddu data testun rhydd yn Gymraeg a Saesneg, megis data o arolygon a holiaduron. Mae TestunRhydd yn eich galluogi i gynnal hyd at chwe math gwahanol o ddadansoddi data testunol ar gyfer pob ffeil. Nid oes angen i chi allu codio nac i ddysgu sut i greu graffiau, chwaith - mae TestunRhydd yn gwneud y gwaith caled ar eich cyfer! Datblygwyd yr adnodd hwn fel rhan o brosiect ymchwil ar y cyd rhwng cydweithwyr o Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Caerhirfryn
PodCon 2025 Y Myfyrwyr
Recordiadau o'r gynhadledd bodlediadau gyntaf i fyfyrwyr yng Nghymru a gynhaliwyd gan Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Abertawe, gyda chefnogaeth Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Cynhaliwyd cyfres o weithdai, paneli a sesiynau hyfforddi gan arbenigwyr o fewn y byd podlediadau yng Nghymru yn cynnwys: Aled Jones 'Y Pod' Mel Owen Elin a Celyn (Paid Ymddiheuro) Rhannodd y cyflwynwyr a chyfranwyr o'r diwydiant cyfryngau straeon a chyngor gyda'r myfyrwyr. Gwyliwch yr uchafbwyntiau islaw.
Llesiant Ymchwilydd Cymru
Adnodd ar-lein yw Llesiant Ymchwilydd Cymru (RWC) a gynlluniwyd i alluogi ymchwilwyr doethurol i feithrin ymdeimlad o lesiant iach. Gall eich helpu i lywio eich taith ddoethurol, dod yn fwy gwydn a nodi ffyrdd buddiol o weithio. Gallwch ddisgwyl enghreifftiau a adnoddau am weithio gyda’ch goruchwylwyr, rheoli’ch amser, a chadw’ch cymhelliant. Bu ymchwilwyr doethurol o brifysgolion ar draws Cymru yn ymwneud â chreu adnoddau. Datblygwyd yr adnodd hwn gan academyddion a staff gwasanaethau proffesiynol sy’n ymwneud ag addysg ddoethurol ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd a Phrifysgol Aberystwyth mewn cydweithrediad gyda phrifysgolion eraill Cymru.
Celf a Dylunio ar y MAP 2024
Nod ‘Celf a Dylunio ar y Map’ yw cynnig cyfle unigryw i fyfyrwyr Celf a Dylunio cyfrwng Cymraeg ddod at ei gilydd mewn un lle i rannu a thrafod eu gwaith ac i elwa o brofiad artistiaid ac eraill sy’n gweithio yn y diwydiant. Mae'r myfyrwyr hefyd yn cymryd rhan mewn archwilio lleoliad penodol ac ymateb yn greadigol i'r lleoliad hwnnw ac i friff. Y lleoliad eleni oedd Abertawe a thema’r ŵyl oedd ‘Yr Hyll a’r Hyfryd’. Gwahoddwyd tri ymarferydd Celf i’r ŵyl eleni i rannu eu taith gelfyddydol, sef Kath Ashill, Rhian Jones a Vivien Roule. Mae’r fideos a ddarperir yma yn rhoi blas o’r ŵyl yn ogystal â rhoi cipolwg ar fenter ymarferwyr celfyddydol a’u teithiau yn y byd celf.
Llond Ceg - Bwyd Cymreig Cynaliadwy
Mae Llond Ceg yn cynnig adnodd hyblyg a hygyrch i unrhyw un sy'n dymuno deall a dysgu mwy am gynaliadwyedd. Mae’r wefan wedi ei chreu er mwyn cael ei defnyddio mewn ffordd hyblyg ar gyfer cychwyn sgyrsiau am fwyd Cymreig, am drefniant presennol y system fwyd, am wastraff bwyd ac yn fwyaf pwysig am sut mae nifer fawr o ffermwyr Cymru yn ceisio cynhyrchu bwyd drwy ddulliau cynaliadwy. Mae'r cynnwys yn cyflwyno a thrafod 10 rheswm pam fod bwyd lleol Cymreig yn fwy cynaliadwy o’i gymharu â bwyd a gynhyrchir dramor. Ceir hefyd cyfres o 3 podlediad sy'n cyflwyno gwahanol agweddau o'r gadwyn fwyd Cymreig. Mae'r adnodd yn addas ar gyfer y cyhoedd, grwpiau BACC ôl 16 a dysgwyr lefel gradd.