Nod Rhaglen Datblygu Staff Cenedlaethol Sgiliaith yw darparu hyfforddiant arloesol a chyngor ymarferol ar adnoddau ac arferion da i staff yn y sectorau addysg bellach a phrentisiaethau. Bwriad hynny yw cefnogi ymarferwyr i gynnig darpariaeth Gymraeg a dwyieithog i ddysgwyr a phrentisiaid. Ceir cyfleoedd hyfforddiant Sgiliaith sy’n addas i bawb yn y sector, beth bynnag eu sgiliau Cymraeg neu brofiad blaenorol. Mae Rhaglen Hyfforddiant Datblygu Staff Sgiliaith yn cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd hyfforddiant i gefnogi dilyniant sgiliau dwyieithog ymarferwyr, a chynigia Cynllun Fentora Staff Sgiliaith gefnogaeth i ymarferwyr mewn sefyllfaoedd dysgu go iawn i fewnosod y Gymraeg/dwyieithrwydd yn y dosbarth neu yn y gweithle. Comisiynwyd rhaglen datblygu staff a rhaglen fentora cenedlaethol ar gyfer y sector ôl-16. Mae'r rhaglen yn cael ei ddarparu gan Sgiliaith ar ran y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Rhaglen Datblygu Staff Cenedlaethol Sgiliaith
Sgwrs Iach
Cyfres o glipiau fideo i addysgu pobl ifanc am y gwahanol ddewisiadau gyrfa sydd ar gael o fewn y sector iechyd a gofal yng Nghymru gyda'r bwriad o sbarduno diddordeb myfyrwyr yn y sector, a chodi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd y Gymraeg o fewn y sector. Datblygwyd yr adnoddau gan Goleg Cambria.
Amaeth Amdani
Profiad Gwaith yn y Diwydiant Amaeth Adnodd i gynorthwyo myfyrwyr amaeth i adnabod y sgiliau sydd eu hangen arnynt wrth adnabod a chymryd rhan mewn cyfnod o brofiad gwaith perthnasol i’r diwydiant. Mae’r adnodd yn yn cynorthwyo dysgwyr sydd yn paratoi am gyflogaeth o fewn y sector amaethyddol drwy; adnabod cyfleoedd cyflogaeth o fewn y diwydiant amaethyddol egluro’r broses o ymgeisio am swydd. egluro sgiliau rhyngbersonol da sydd yn angenrheidiol o fewn y diwydiant. Adran 1 - yn cynnwys cyfres o glipiau fidio sy’n adnabod cyfleoedd gwaith o fewn y sector amaethyddol. Adran 2 - yn cynnwys cyflwyniad sydd yn disgrifio’r broses o ymgeisio am swydd gan gynnwys sut mae darganfod swyddi gwag, creu CV, ysgrifennu llythyr cais. Adran 3 - yn cynnwys clip fidio gan gyflogwr yn egluro y sgiliau rhyngbersonol da sydd yn angenrheidiol ac yn ddisgwyliedig o fewn gweithle. Mae’r adnodd hwn wedi cael ei greu neu ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru ac mae ar gael wefan HWB.
Y Broses Bidio Digwyddiadau
Mae'r adnoddau yma yn cyflwyno'r broses bidio digwyddiadau gan gynnwys ystyriaeth o safbwyntiau Llywodraeth Seland Newydd a chymhwyso'r broses bidio digwyddiadau ar gyfer Cwpan Y Byd FIFA 2026. Mae sleidiau PowerPoint, recordiad Panopto a chwis ar gael. Maent yn addas ar gyfer myfyrwyr Prifysgol, addysg bellach neu disgyblion ysgolion uwchradd. Datblygwyd yr adnoddau gan Jonathan Fry - Darlithydd mewn Busnes a Rheolaeth, Prifysgol Aberystwyth
Dŵr, Haul, Gwynt, Golau (rhan o brosiect Seiniau Uchel, Carbon Isel)
Mae prosiect 'Seiniau Uchel, Carbon Isel', sef prosiect Prifysgol Bangor mewn partneriaeth gyda Phontio ag M-SParc, ac wedi ei noddi gan y Coleg Cymraeg, yn trefnu perfformiad cerddorol/fideo fydd yn cael ei ffrydio yn fyw ar sianel AM. Fel rhan o'r prosiect, fe fydd y pianydd a'r cyfansoddwr Tristian Evans yn perfformio’r gwaith aml-gyfrwng 30 munud ‘Dŵr, Haul, Gwynt, Golau’. Wedi’i ysbrydoli gan eiriau hen a newydd yn ymwneud â’r amgylchedd, mae Tristian wedi cyfansoddi darnau i’r piano mewn ymateb i’r argyfwng hinsawdd sydd yn ein gwynebu. Gan fabwysiadu’r broses o ailgylchu mewn cyd-destun creadigol, mae’n plethu hen alawon crefyddol, deunydd gweledol o’r archif, testunau o’r Beibl, a lleisiau ieuenctid, ac fe ddaw’r cyfan yn fyw mewn dau waith amlgyfrwng i’r piano. Mae Dŵr, Haul, Gwynt, Golau yn integreiddio geiriau amgylcheddol gan blant a phobl ifanc, yn ogystal â delweddau sy’n cyd-fynd hefo sgôr i’r piano. Yna perfformir Tir (Creadigaeth/Etifeddiaeth), sydd yn ymateb i’r syniad o greadigaeth ac etifeddiaeth o’r ddaear, wedi’i ddylanwadu gan gyfeiriadau Beiblaidd a chefndir teuluol y pianydd ym Môn yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Fe fydd y perfformiad yn para oddeutu hanner awr ar 25 Tachwedd 2020 (19:30) Cliciwch isod am fwy o wybodaeth
Fideos 'Ar Frys' - defnyddio'r Gymraeg mewn swyddi Gwasanaethau Cyhoeddus
Mae'r fideos 'Ar Frys' hyn yn dangos profiad saith person sy'n gweithio mewn swyddi pwysig, sydd o dan llawer o straen ac sy'n gweld y fantais o allu siarad â phobl yn y Gymraeg. Os ydych chi'n dilyn cyrsiau Gwasanaethau Cyhoeddus neu Iechyd a Gofal, yna byddwch yn dysgu sut i ddelio â'r cyhoedd – yn enwedig mewn sefyllfa o argyfwng neu berygl. Gan ddefnyddio'r Gymraeg a'r Saesneg, rydych yn rhoi'r dewis i'r person sydd mewn argyfwng i siarad yr iaith y maen nhw fwyaf cyfforddus yn ei siarad. O ganlyniad, byddwch yn cyflawni’ch gwaith i safon uwch. Cynhyrchwyd y fideos yma gan Coleg Cambria.
Adnoddau Dysgu CBAC ar wefan Dysgu Iechyd a Gofal Cymru
Mae'r adnoddau digidol ar wefan dysguiechydagofal.cymru yn cefnogi dysgu yn y sectorau: Iechyd a Gofal Cymdeithasol Gofal Plant O fis Medi 2019 City & Guilds / CBAC fydd unig ddarparwr cyfres newydd o gymwysterau Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant wedi'i hariannu yng Nghymru. Mae gan gwefan Dysgu a Iechyd Gofal Cymru cyfres o adnoddau digidol rhad ac am ddim i wella’r ffordd mae gwybodaeth yn cael ei gyflwyno sy’n sail i’r cymwysterau, ynghyd â’r canllawiau addysgu/cyflwyno, deunyddiau asesu a chanllawiau myfyrwyr sydd ar gael ar gyfer y rhan fwyaf o’r cymwysterau. Gallant gefnogi dysgu annibynnol drwy ddal sylw dysgwyr a’u cyfeirio at adnoddau eraill a allai fod yn ddefnyddiol iddyn nhw.
Llygredd a gwastraff mewn amaeth
Mae’r adnodd hwn yn cefnogi uned 316 sef ‘Pollution and waste control management’ o’r cymhwyster City and Guilds: ‘Advanced Technical Extended Diploma’ in Agriculture (Lefel 3). Bydd yn gwella dealltwriaeth y dysgwyr am y llygredd mae’r diwydiant amaethyddol yn ei greu a sut mae modd rheoli gwastraff yn effeithiol ac ymarferol. Mae’r deunydd yn dangos sut i ddelio gyda gwastraff amaethyddol, mae’n helpu myfyrwyr i ddeall beth yw ystyr gwastraff organig ac anorganig, ac mae’n helpu myfyrwyr i adnabod y deddfwriaethau a’r cod ymarfer perthnasol ar gyfer rheoli gwastraff amaethyddol. Mae’r adnodd hwn wedi cael ei greu neu ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru.
Iechyd a diogelwch ar y fferm
O fewn fframwaith City & Guilds mae’n hanfodol i fyfyrwyr astudio’r uned ‘Principles of health and safety’. Pwrpas yr adnodd yma galluogi’r myfyrwyr i ddeall egwyddorion iechyd a diogelwch a sut y medrir gweithredu safonau iechyd a diogelwch o fewn y sector amaeth. Mae’r adnodd yn tanlinellu’n glir ac yn weledol bwysigrwydd iechyd a diogelwch ar y fferm trwy gyflwyno ystadegau a deddfwriaethau iechyd a diogelwch sy’n berthnasol i’r diwydiant amaeth, gwerthuso goblygiadau damweiniau ar y fferm a dangos enghreifftiau o arfer dda er mwyn lleihau nifer o ddamweiniau. Mae’r adnodd hwn wedi cael ei greu neu ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru.
Adnodd hyfforddi i gefnogi gweithio dwyieithog: Urddas, iaith a gofal
Mae’r pecyn canlynol ar gyfer unigolion sy’n dymuno cyflwyno sesiwn hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith i’w dysgwyr. Hyd y sesiwn yw un awr. Mae’r cwrs yn addas ar gyfer: myfyrwyr Lefel 1, 2, 3, 4 a 5 iechyd a gofal cymdeithasol neu ofal plant tiwtoriaid ac aseswyr mewn colegau myfyrwyr gofal/gwaith cymdeithasol neu ofal plant mewn prifysgolion. Mi allai hefyd gael ei ddefnyddio fel rhan o hyfforddiant mewn swydd ar gyfer gweithwyr yn y meysydd uchod a gweithlu Gofal Cymdeithasol Cymru. Nod y pecyn yw arfogi hyfforddwyr i gyflwyno gwybodaeth am iaith a thrafod sut i weithio’n ddwyieithog gyda’u dygwyr. Cyflwynir y pecyn ar ffurf PowerPoint gyda nodiadau hyfforddwr i gefnogi pob sleid. Mae’r nodiadau hyfforddwr yn cyflwyno sgript arweiniol, yn ogystal ag yn cynnig ambell i syniad am sut i gyflwyno tasgau ac annog y dysgwyr i fod yn rhagweithiol yn y sesiwn. Datblygwyd yr adnoddau gan Gofal Cymdeithasol Cymru.
Adnodd Cefnogi Addysg Ôl-16
Mae'r adnodd yn cynnwys adnoddau cynllunio ym ymwneud â gweithredu’r Cynllun Gweithredu Addysg Bellach a Phrentisiaethau Cyfrwng Cymraeg. Mae’r adnoddau yn eich helpu chi i gynllunio ar sail y themâu isod: Cynllunio Strategol Dysgwyr Staff Darpariaeth Adnoddau Dysgu Cymwysterau Cyflogwyr Adnoddau Sgiliaith Cewch hefyd fynediad at galendr, fforymau trafod a system negeseuon. Mae'r deunydd yn byw ar Blackboard y Coleg Cymraeg, ac felly bydd angen creu cyfrif Blackboard arnoch i gael mynediad (dolen isod). Gweler hefyd fideo sy'n disgrifio sut i ddefnyddio'r adnodd isod.
Mathemateg Pob Dydd 2
Mae bod â sgiliau da mewn mathemateg yn bwysig mewn bywyd beunyddiol. Yn wir, mae’n bosibl nad ydych wedi sylwi pa mor aml rydych yn defnyddio mathemateg o ddydd i ddydd. Mae’r cwrs hwn, sydd am ddim, yn gyflwyniad i Sgiliau Hanfodol Lefel 2 mewn mathemateg, ac mae wedi’i gynllunio i’ch ysbrydoli i wella eich sgiliau mathemateg presennol ac i’ch helpu i gofio unrhyw feysydd y gallech fod wedi’u hanghofio. Bydd gweithio drwy’r enghreifftiau a’r gweithgareddau rhyngweithiol yn y cwrs hwn yn eich helpu, ymhlith pethau eraill, i gyfrifo faint o baent y bydd ei angen arnoch ar gyfer addurno, a throsi arian, neu symud ymlaen yn eich gyrfa neu addysg bellach. I gwblhau’r cwrs hwn, bydd angen i chi ddefnyddio cyfrifiannell, papur a phen, a phrotractor. Bydd cofrestru ar y cwrs hwn yn cynnig y cyfle ichi ennill bathodyn digidol y Brifysgol Agored. Mae’r bathodyn yn ffordd dda o ddangos eich diddordeb yn y pwnc. Bydd yr hyn a ddysgwch drwy gwblhau’r cwrs o fudd mawr os hoffech gofrestru am gymhwyster ffurfiol. Pan fyddwch wedi cofrestru, gallwch reoli’ch bathodynnau digidol ar lein ar eich proffil OpenLearn. Hefyd, gallwch lawrlwytho ac argraffu eich Datganiad Cyfranogi OpenLearn, sydd hefyd yn dangos eich bathodyn. Mae’r cwrs hwn wedi’i lunio fel rhan o Gronfa Dysgu Hyblyg yr Adran Addysg, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru a gyda chymorth caredig Dangoor Education, cangen addysgol The Exilarch’s Foundation. Ysgrifennwyd y cwrs hwn, sydd am ddim, gan Kerry Lloyd, Frances Hughes a Tracy Mitchell yng Ngholeg Cambria, mewn partneriaeth ag Addysg Oedolion Cymru, Coleg Gwent, Grŵp Coleg Castell-nedd Port Talbot a’r Brifysgol Agored, ac mewn cydweithrediad ag Joanne Davies, West Herts College, gan ddefnyddio deunyddiau o eiddo’r Open School Trust Ltd (yn masnachu fel y National Extension College) ac mewn partneriaeth â’r Bedford College Group a Middlesborough College. Trwydded OGL (Llywodraeth Agored: Mae'r Brifysgol Agored yn falch o ryddhau'r cwrs rhad ac am ddim hwn o dan drwydded Llywodraeth Agored.) sydd wedi ei nodi ar gyfer yr adnodd yma.