Mae’r erthygl hon yn archwilio’r ystyriaethau ynghylch cwsg mewn llenyddiaeth Gymraeg gan ddadansoddi cerddi poblogaidd y Ficer Rhys Prichard (1579–1644). Dadansoddir ystyriaethau crefyddol a diwylliannol ynghylch cwsg fel y’u ceir yng ngherddi’r Ficer. Manylir ar brif nodweddion cerddi cwsg y Ficer a chawn gipolwg ar sut roedd rhai pobl yn cysgu, neu sut yr oedd y Ficer yn credu neu’n dymuno eu bod yn cysgu. O ganlyniad, dengys yr erthygl hon bwysigrwydd cwsg yn y cyfnod a bod pobl yn ei gymryd o ddifri. Wrth wneud hyn, pwysleisir y dylid cofio mai pobl go iawn, o gig a gwaed, a astudir, ac er eu bod yn bodoli mewn testunau yn unig o’n safbwynt ni, dylid eu trin fel bodau dynol a oedd, yng nghyd-destun yr erthygl hon, yn cysgu. Awdur: Dewi Alter
Cerddi cwsg y Ficer Rhys Prichard
Cyfreithusrwydd Gwleidyddol a’r Gyhoeddfa Gymreig: Dadansoddiad Habermasaidd
Dywedir yn aml fod sefydliadau gwleidyddol datganoledig Cymru’n dioddef o ‘ddiffyg democrataidd’, sydd yn gysylltiedig â ‘diffyg cyfryngau’. Mae’r erthygl yma’n defnyddio athroniaeth wleidyddol Jürgen Habermas i ddadansoddi’r honiadau hyn. Dechreuir trwy drafod y broblem ganolog a chymhwyso damcaniaeth Habermas ynghylch cyfreithusrwydd ati (1), cyn troi at gysyniad allweddol y ddamcaniaeth, sef y gyhoeddfa (2). Mae rhan 3 yn dadlau bod diffyg cyhoeddfa wleidyddol anffurfiol yng Nghymru heddiw a bod hyn yn tanseilio cyfreithusrwydd y drefn wleidyddol ddatganoledig, gan gefnogi’r ddadl yma gyda data (3). Mae rhan olaf yr erthygl yn gosod achos Cymru mewn cyd-destun ehangach, ac yn agor trafodaeth ar atebion posib (4). Awdur: Dafydd Huw Rees
Dulliau Ymchwil ac Ystadegau
E-werslyfr am gynllunio a gwneud ymchwil meintiol yw hwn. Mae'n gyflwyniad cyflawn a manwl i'r broses o gynllunio ymchwil, casglu data a dadansoddi ystadegau. Wedi'i anelu'n bennaf at israddedigion sy'n astudio Seicoleg, mae'r e-werslyfr yn mynd law yn llaw â modiwlau dulliau ymchwil a'r traethawd hir. Mae hefyd yn adnodd defnyddiol i israddedigion ac ôlraddedigion sy'n astudio dulliau ymchwil ac yn cynnal ymchwil meintiol mewn ystod eang o bynciau eraill. Yr awduron yw Dr Awel Vaughan-Evans, Dr Gwennant Evans-Jones ac Emma Hughes-Parry. Ymysg y pynciau a drafodir mae: Moeseg Cynllunio ymchwil meintiol Samplu, dilysrwydd a dibynadwyedd Cyflwyniad i ystadegau Dosraniadau a thebygolrwydd Ystadegau casgliadol Cydberthyniad Atchweliad llinol Y prawf t Dadansoddi atchweliad SPSS Dadansoddi cyfrannau a'r prawf chi sgwar Profion amharametrig amgen
Sgwrs Adnoddau Cymdeithaseg
Adnoddau Cymdeithaseg Cymraeg ar-lein Sgwrs 20 munud yn cyflwyno adnoddau a grewyd gan ddarlithwyr Cymdeithaseg. Mae'r adnoddau sy'n cael eu cyflwyno yn ystod y sgwrs yn ddefnyddiol i athrawon, disgyblion, dysgwyr a darlithwyr i gefnogi eu dysgu ac addysgu. Mae'r adnoddau i gyd ar wefan Porth Adnoddau'r Coleg Cymraeg. Mae'r rhain yn cynnwys: Adnoddau 'PAAC' sydd ar themâu: Cyflwyniad i Gymdeithaseg, Addysg, Y Teulu, Sgiliau Ymchwil, ac Anghydraddoldeb Cymdeithasol. Modiwl Astudio Cymru Gyfoes Modiwl Theori Gymdeithasegol Esboniadur Gwyddorau Cymdeithasol.
“Un o fethiannau godidocaf” puryddiaeth ieithyddol? Dadansoddiad o batrymau geirfaol Cymraeg y Wladfa heddiw m...
Amcan yr erthygl hon yw dadansoddi agwedd ar dafodiaith Gymraeg y Wladfa a esgeuluswyd, sef ei phatrymau geirfaol cyfoes. Ar sail data a gafwyd o 134 holiadur, dangosir bod yr amrywio geirfaol sydd ar waith yn yr amrywiad hwn ar y Gymraeg wedi ei gyflyru i raddau helaeth gan yr amrywiaeth o gefndiroedd ieithyddol a welir heddiw ymhlith siaradwyr Cymraeg Talaith Chubut. Mae’r canlyniadau, felly, nid yn unig yn dangos sut y mae cydgyffyrddiad tafodieithol hanesyddol wedi chwarae rôl allweddol yn esblygiad tafodiaith draddodiadol y Wladfa, ond hefyd yn archwilio am y tro cyntaf i ba raddau y mae rhaglen addysgol benodol, sef ‘Cynllun yr Iaith Gymraeg’ y Cyngor Prydeinig, yn dylanwadu ar ddefnydd o nodweddion geirfaol ymysg dysgwyr Cymraeg yn y rhanbarth. Nod arall yw ystyried rhai o oblygiadau ehangach y canlyniadau, gan gynnwys perthnasedd ideolegau ieithyddol i batrymau geirfaol hanesyddol a chyfredol Cymraeg y Wladfa. Awdur: Iwan Wyn Rees
Am Iechyd
Cyfres o bodlediadau lle mae darlithwyr o Brifysgol Bangor a gweithwyr proffesiynol yn y maes iechyd yn dod at ei gilydd i drafod materion cyfoes o fewn y byd iechyd sy'n effeithio ar bob un ohonon ni. Mae podlediad 'Am Iechyd' yn cynnig platfform proffesiynol i weithwyr rheng flaen ac academyddion i drafod yn y Gymraeg. Mae'r gyfres yn trafod nifer o bynciau megis: Iechyd Meddwl Pobl Ifanc Modelau Genediaeth Byw Efo Dementia Beth yw ystyr gofalu? Y berthynas rhwng iechyd a gofal Bronfwydo Pa effaith gaiff sefydlu Ysgol Feddygol ym Mhrifysgol Banor ar iechyd pobl gogledd Cymru?
Sesiynau Holi 'Pa Yrfa?' Gradd Cyfraith neu Droseddeg
Recordiadau o ddau sesiwn ar-lein i ddisgyblion sydd yn ystyried astudio'r gyfraith neu droseddeg yn y brifysgol. Mae'n gyfle da i ddarpar-fyfyrwyr gael syniad o'r math o yrfa gall rhywun ddilyn gyda gradd yn y pynciau hynny. Gall hefyd apelio at fyfyrwyr prifysgol sy'n ystyried eu gyrfa a chamau nesaf wedi graddio. Yn y sesiwn gyntaf mae gennym siaradwyr sydd wedi graddio mewn Cyfraith neu Droseddeg ac sydd nawr yn gweithio yn y maes. Mae'r ail sesiwn yn cynnwys cyfranwyr sydd wedi graddio mewn Cyfraith neu Droseddeg ond aeth ymlaen i ddilyn gyrfa tu hwnt i'r pynciau hynny.
Beth yw'r Gymraeg?
Dyma gyfrol atyniadol a chyfoes sy’n rhoi cyflwyniad hygyrch i ddisgyblaeth y Gymraeg, wedi ei golygu gan ddarlithwyr Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd; Dr Angharad Naylor, Dr Llion Pryderi Roberts a Dr Dylan Foster Evans. Mae’r gyfrol yn cyflwyno cyfoeth, cyffro ac ehangder y Gymraeg fel disgyblaeth academaidd, a bydd yn ysgogi diddordeb a chwilfrydedd mewn meysydd cyfarwydd a newydd – megis iaith, llenyddiaeth, cymdeithaseg iaith, beirniadaeth lenyddol, diwylliant a threftadaeth, ac ysgrifennu creadigol. Mynediad Agored Ar-lein (dolen isod) Cynnwys: Adran 1 Llenyddiaeth 1) Llenyddiaeth Plant: Siwan M. Rosser 2) Rhywedd: Cathryn A. Charnell-White 3) Y Ddrama Lwyfan a’i Gwreiddiau Llenyddol: Gareth Evans-Jones 4) Llên Bywyd:Llion Pryderi Roberts Adran 2 Iaith 5) Tafodieitheg: Iwan Wyn Rees 6) Sosioieithyddiaeth: Jonathan Morris 7) Dwyieithrwydd: Enlli Thomas 8) Newid Ymddygiad Ieithyddol: Gwenno Griffith Adran 3 Cymdeithas 9) Addysg: Alex Lovell ac Angharad Naylor 10) Yr Iaith Gymraeg a Threftadaeth: Dylan Foster Evans 11) Amlddiwylliannedd: Lisa Sheppard 12) Darllen Cyfieithiadau: Mwy na Geiriau: Rhianedd Jewell 13) Cenedligrwydd: Peredur I. Lynch 14) Y Gymraeg y tu allan i Gymru: Jerry Hunter Ceir cwestiynau trafod ar ddiwedd pob adran. Mae modd prynu'r gyfrol ar ffurf llyfr clawr meddal hefyd. Ar gael yma gan Wasg Prifysgol Cymru neu yn eich siop lyfrau leol.
Tsieina Thomas Pennant
Yma, cyflwynir adroddiad gan y naturiaethwr a'r teithiwr Thomas Pennant (1726 – 98) ar Tsieina, sy'n rhan o'i lawysgrif amlgyfrol, 'Outlines of the Globe', a gedwir yn yr Amgueddfa Forwrol Genedlaethol. Ceir tair adran i'r adnodd: ysgrif yn trafod ymdriniaeth Pennant â Tsieina; atodiad yn cynnwys delweddau o'r llawysgrif wreiddiol ynghyd â thrafodaeth yn eu gosod yn eu cyd-destun; a map rhyngweithiol yn dangos y lleoliadau a enwir yn yr adroddiad gan ganolbwyntio ar bum taith hanesyddol allweddol i Tsieina, ynghyd â thaith ddychmygol Pennant ar hyd arfordir y wlad. Mae'r adnoddau'n addas ar gyfer myfyrwyr, ysgolheigion, ac unrhyw un sydd â diddordeb yn Tsieina ac ym meysydd Astudiaethau Crefyddol, Celf, Daearyddiaeth, Economeg, Gwyddorau Amgylcheddol ac Eigion, a Hanes. Cedwir yr holl adnoddau gyda'i gilydd ar wefan Teithwyr Chwilfrydig (https://curioustravellers.ac.uk/tsieina/). Yno, gellir lawrlwytho'r ysgrif a'r atodiad yn uniongyrchol, a gellir dilyn dolen i'r map rhyngweithiol. Ceir cyfarwyddiadau manwl ar sut i drin y map o fewn yr adnodd ei hun, o dan 'Canllaw i'r defnyddiwr', sydd wedi'i leoli o dan 'Gwybodaeth bellach' ar y ddewislen ar y bar llorweddol ar frig y dudalen.
Dŵr a Phŵer yn Nyffryn Camwy: heriau a gwrthdaro ynghylch sefydlu a rheoli system ddyfrhau
Bwriad yr erthygl hon yw llunio hanes y system ddyfrhau yn Nyffryn Camwy a grëwyd gan y gwladfawyr Cymreig a gyrhaeddodd Batagonia (yn yr Ariannin) ym 1865, gan gymhlethu’r berthynas a oedd yn bodoli rhwng y seilwaith hwn a’r fframwaith cymdeithasol-wleidyddol newidiol. Bydd hyn yn cynnwys rhoi sylw i’r sefydliadau a grëwyd gan y gwladfawyr eu hunain ac i’r gwrthdaro a fu rhyngddynt a gwladwriaeth yr Ariannin a ddaeth yn gyfrifol am y weinyddiaeth ddyfrhau ym 1943. Rhoddir pwys ar alluedd (agency) dŵr o fewn y broses a arweiniodd at atgyfnerthu ac ehangu’r seilwaith dyfrhau, a rhoddir sylw hefyd i ddimensiwn symbolaidd y gwrthrychau sy’n rhan o’r seilwaith hwnnw gan fyfyrio ar eu hystyr newidiol. Awdur: Fernando Williams
Darllen ac ysgrifennu gorffennol y Wladfa: dadleuon am hanes a chof yn ymsefydliad Cymreig Chubut
Bwriad yr erthygl hon yw dadansoddi’r gwahanol ddarlleniadau a gafwyd o hanes y Wladfa o fewn naratifau swyddogol o orffennol talaith Chubut yn yr Ariannin. Cynhwysa hyn gynnyrch y wladwriaeth daleithiol, ond hefyd eiddo actorion eraill yng nghymdeithas Chubut, gan gynnwys y gymuned Gymreig ei hun. Er mwyn gwneud hyn, canolbwyntir ar y deongliadau a gynhyrchwyd dros dri chyfnod: yn gyntaf, rhwng y 1930au a 1955, pan oedd Chubut yn diriogaeth genedlaethol; yn ail, cyfran o flynyddoedd cyntaf bodolaeth talaith Chubut rhwng 1958 a 1975; ac yn olaf, rhwng y 1980au a’r presennol, gyda ffocws ar ddathliadau’r canmlwyddiant a hanner (ers glaniad y gwladfawyr cyntaf) yn 2015. Ystyrir hefyd y newidiadau a welwyd rhwng naratifau hanesyddol gwahanol, yn ogystal â’r elfennau o barhad rhyngddynt. Trwy gydol y tri chyfnod hyn, dangosir bod naratifauswyddogol o orffennol Chubut wedi gosod hanes y gwladychu Cymreig yn gonglfaen ar gyfer sefydlu’r dalaith, gan roi rôl hegemonaidd i’r hanes hwn. Awdur: Guillermo Williams
Heb ei fai, heb ei eni: ‘Disgwrs’ a Moeseg y Wladfa
Nodweddir y drafodaeth gyhoeddus ar-lein ddiweddar ynghylch y Wladfa gan duedd i gollfarnu’r gwladfawyr Cymreig ar sail foesol. Â’r erthygl hon i’r afael â’r tueddiad hwn gan bwyso a mesur sut, ac i ba raddau, y mae modd inni osod y Wladfa a’i phobl yn y fantol foesol. Rhoddir sylw manwl i ymdriniaethau Geraldine Lublin a Lucy Taylor â’r hanes, fel enghreifftiau o ddadansoddi ystyrlon, amlhaenog sy’n llwyddo i gyfleu cymhlethdod a drysni’r sefyllfa. Wedi cynnig y braslun hwn, cymhwysir fframwaith moesegol Iris Marion Young i’r hanes, er mwyn amlygu ystyriaethau moesegol allweddol, sy’n dilyn ymgais Catherine Lu i gymhwyso’r un model ‘cysylltiadau cymdeithasol’ i hanes trefedigaethol Siapan. Cynigir rhai casgliadau cychwynnol ynghylch yr hyn a amlygir. Awdur: Huw L. Williams