Gwefan Addysgwyr Cymru sy'n cynnwys manylion am y gwahanol yrfaoedd sydd ar gael mewn: Ysgolion Addysg Bellach Dysgu Seiliedig ar Waith Gwaith Ieuenctid Addysg Oedolion Hyrwyddwyr Addysg
Dylunio a datblygu eich ymarfer dysgu cyfunol
Mae’r rhestr chwarae yma yn cynnwys 5 cwrs ar-lein ar gyfer ymarferwyr addysgu ôl-16 i archwilio’r defnydd o fodelau a damcaniaethau technoleg dysgu i’w helpu i ddatblygu eu dulliau dysgu cyfunol. Mae’r cyrsiau byr hyn wedi’u cynllunio mewn modd hyblyg i’ch galluogi i ‘blymio i mewn ac allan’. Mae’r cyrsiau wedi’u datblygu gan arbenigwyr Jisc, yn dilyn argymhellion gan Estyn, ac wedi’u hariannu gan Lywodraeth Cymru.
Banc Brawddegau
Mae'r Banc Brawddegau yn adnodd ar gyfer unrhyw un sy'n ysgrifennu yn academaidd drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'n cynnig enghreifftiau o frawddegau y gallwch eu defnyddio wrth ysgrifennu, wedi'u trefnu yn ôl prif adrannau traethawd neu bapur academaidd. Datblygwyd gan yr Athro Enlli Thomas a Bethan Wyn Jones, Prifysgol Bangor, ar sail Academic Phrasebank (https://www.phrasebank.manchester.ac.uk).
Cymru’r 18fed ganrif hir
'Cymru’r 18fed ganrif hir. Adnoddau Cymraeg o Gasgliad Salisbury Prifysgol Caerdydd' Ceir yma arolwg ac ambell eitem digidol o Gasgliadau Arbennig Llyfrgell Dyniaethau Prifysgol Caerdydd i gasglu, disgrifio a chategoreiddio ffynonellau gwreiddiol yn y Gymraeg o’r ddeunawfed ganrif hir. Mae’r adnodd digidol hwn yn addas i ystod eang o ymchwilwyr – o athrawon CA4 a CA5 a’u disgyblion, myfyrwyr ac ymchwilwyr ar gyfer doethuriaeth a thu hwnt. Y categorïau a ddyfeisiwyd ac sy’n weladwy ar dabiau ar frig bob tudalen yw: Crefydd Cymdeithas Addysg Ofergoelion Gwrachyddiaeth Chwedlau Yr Iaith Gymraeg Cymru a’r Byd Gwleidyddiaeth. Ceir is-gategorïau ym mhob un o’r categorïau, wedi eu lleoli ar ochr chwith tudalen pob categori. O dan ‘Crefydd’, e. e., ceir gweithiau wedi eu rhestru o dan: Yr Eglwys Sefydledig, Methodistiaid, Bedyddwyr, Annibynwyr, Crynwyr, Undodwyr, Y Nefoedd ac Uffern, a Pregethau Gwleidyddol. O dan ‘Cymdeithas’, e. e., ceir: Y Werin, Crefftwyr, Y Dosbarth Canol, Merched, Boneddigion. Yn ychwanegol, digideiddiwyd eitemau pwysig nodweddiadol o gategori a’u gwelyo yn y rhestr mewn ffordd i’r (d)defnyddiwr(aig) eu chwyddhau heb golli’r manylder, gwneud anodiadau, a’u lawrlwytho. Defnyddiwyd y rhaglen Alma newydd sbon ar gyfer hyn, sydd yn caniatáu defnydd llawn. Dynodir eitemau sydd wedi eu ddigideiddio drwy gynnwys dolen.
Antur Arlwyo
Mae'r fideos 'Antur Arlwyo' yn dangos profiad chwe pherson sy'n gweithio yn y sector arlwyo a lletygarwch. Mae'r fideos yn canolbwyntio ar wahanol adrannau yng ngweithle’r diwydiant bwyd gan ddangos yr unigolion yn gweithio yn eu hadran arbenigol. Cawn glywed am ei angerdd at y proffesiwn a’r pleser maent yn cael allan o’r gwaith; mae pwyslais ar eu balchder o weithio yng Nghymru a gweithredu yn ddwyieithog. Mae chwe fideo yn y gyfres: Alun Evans, Pizza Llan Bryn Williams, Bryn Williams at Porth Eirias Cadi Ellis: Siwgr a Sbeis Helen Hollans, Môn ar Lwy Liza , Halen Môn Megan: Ffika Coffee Os ydych chi'n dilyn cyrsiau Arlwyo a Lletygarwch yna byddwch yn dysgu pam mor werthfawr ydi'r sgil o ddefnyddio'r Gymraeg yn y maes yma yng Nghymru.
Am Blant - podlediad
Podlediad sy’n trin a thrafod pynciau sy'n effeithio ar blant a phobl ifanc yng Nghymru heddiw yn ogystal a chael gwybod barn plant a phobl ifanc Podlediad #1: Beth yw Plentyndod? Yn y podlediad cyntaf hwn mae Dr Nia Young, Dr Sian Wyn Siencyn, Rowena Hughes Jones a Ceryl Davies yn trafod beth ydy ystyr plentyndod, beth mae'n olygu i fod yn blentyn yng Nghymru heddiw ac a ydy cymdeithas yn gwrando ar lais y plentyn. Podlediad #2: Beth yw ieuenctid? Yn y bennod yma Dr Nia Young, Dr Sian Wyn Siencyn, Owain Gethin Davies, a Ceryl Davies yn trafod beth yw ieuenctid? Sut beth ydy bod yn berson ifanc yng Nghymru heddiw? Podlediad #3: Beth sydd ei angen ar blentyn...? Beth sydd ei angen ar blentyn er mwyn tyfu, datblygu a ffynnu? Yn y podlediad hwn mae Ian Keith Jones (Pennaeth Ysgol San Sior, Llandudno) yn ymuno efo Dr Nia Young, Dr Siwan Roberts, Dr Margiad William a Rowena Hughes Jones o Ysgol Gwyddorau Addysg, Prifysgol Bangor i drafod beth sydd ei angen ar blentyn i ddatblygu a ffynnu. Pa mor bwysig ydy modelau rol, cysondeb a sefydlogrwydd? Beth ydy bod yn riant da? Podlediad #4: Hawliau Plant Yn y podlediad yma mae Rowena Hughes Jones, Dr Ceryl Davies, Gwenan Prysor, Arwyn Roberts a Chomisiynydd Plant Cymru, Yr Athro Sally Holland, yn ymuno efo Rhian Tomos i drafod hawliau plant a phobol ifanc. Ydy plant yn gwybod pa hawliau sydd ganddyn nhw? A oes angen ychwanegu at yr hawliau yng ngoleuni Cofid 19? Podlediad #5: Llais Rhieni A ydy agweddau cymdeithas wedi newid tuag at blant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu neu anableddau corfforol a sut mae'r cyfnod Cofid wedi effeithio arnyn nhw? Ydan ni'n gwrando digon ar y rhieni a'r gofalwyr? I gael gwybod mwy gwrandewch ar Elin Llwyd Morgan (mam Joel sydd ag awtistiaeth), Siôn Meredith, tad Huw (sydd a Syndrom Down), Dr Nia Young (darlithydd ym Mhrifysgol Bangor), Bethan Morris Jones, (Pennaeth Ysgol Pendalar, Caernarfon) a Lora Glynwen Williams, Swyddog Ansawdd, Gwasanaeth ADYaCH Gwynedd a Môn. Podlediad #6: Beth ydy chwarae? Beth ydy chwarae? Pa bryd rydan ni'n rhoi'r gorau i chwarae? Beth ydy pwrpas chwarae? Gwrandewch ar y 6ed podlediad yn y gyfres o bodlediadau AM BLANT i glywed y drafodaeth gan aelodau'r panel a sylwadau pobl ifanc am eu profiadau nhw o chwarae. Podlediad #7: Sut mae cerddoriaeth, celf a drama yn cyfrannu at ddatblygiad plentyn? Podlediad wedi recordio’n fyw ar faes Eisteddfod Tregaron gyda Dr Gwenllian Lansdown Davies, Cerys Edwards, Elen ap Robert, Dr Mair Edwards a Dr Nia Young.
Cynhadledd Undydd: 'Heddwch ac Iechyd'
Bydd Academi Heddwch Cymru’n cynnal cynhadledd undydd (ar-lein) ar y thema Heddwch ac Iechyd – Mawrth 31ain 2022. Mewn partneriaeth â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Phrifysgol Aberystwyth, mae’r alwad am bapurau wedi denu cyfraniadau sy’n archwilio heddwch ac iechyd o sawl cyfeiriad. Drwy gydol y dydd bydd paneli’n trafod heddwch ac iechyd yng nghyd-destun e.e.: cynllunio trefol cynllunio iaith peirianneg dŵr llesiant grwpiau sydd wedi eu gwthio i’r cyrion creadigrwydd Siaradwyr agoriadol: Yr Athro Rowan Williams, Cadeirydd Academi Heddwch Yr Athro Colin McInnes, Prifysgol Aberystwyth
Cwrs Biocemeg Cymraeg
Cwrs Biocemeg Ar-lein Astudio Bioleg neu Gemeg Safon Uwch/UG? Dere i gymryd rhan yn y cwrs Biocemeg Cymraeg ar-lein cyntaf am ddim sydd wedi cael ei ddatblygu gan Brifysgol Abertawe a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol Dechrau ar dy daith drwy’r byd Biocemeg gydag Elin Rhys a chriw Prifysgol Abertawe Mae hwn yn gwrs Biocemeg ar-lein cyfrwng Cymraeg wedi’i anelu at fyfyrwyr 16-18 oed sy’n astudio Safon Uwch/UG mewn Bioleg neu Gemeg. Datblygwyd yr adnodd gan Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Gellir ei ddefnyddio fel adnodd i gyfoethogi dysgu manyleb Bioleg a Chemeg CBAC. Yn arwain ni drwy’r cwrs y mae Elin Rhys. Mae’n cynnwys fideos a chartwnau addysgiadol, cwisiau, tudalennau gwybodaeth a chyfweliadau gyda gwyddonwyr sy’n arwain y ffordd yn eu meysydd ymchwil. Gwybodaeth bellach: Dr Alwena Morgan a.h.morgan@colegcymraeg.ac.uk
Gweithdy Cymdeithaseg a'r Fagloriaeth Gymraeg ar ddulliau ymchwil
Gweithdy sgiliau ymchwil myfyrwyr Cymdeithaseg a’r Fagloriaeth ar gyfer Lefel A ac Uwch-Gyfrannol. Cyflwyniad ar brif elfennau gwaith ymchwil – dadansoddi data cynradd a data eilaidd. Cyflwyniadau gan Dr Rhian Hodges, Prifysgol Bangor (Data Cynradd) a Dr Siôn Llewelyn Jones, Prifysgol Caerdydd (Data Eilaidd).
Cwrs Codi Hyder i Aseswyr
Diben y cwrs hunanastudio ar-lein hwn yw rhoi’r adnoddau a’r wybodaeth i aseswyr weithio yn ddwyieithog yn hyderus gyda’u dysgwyr. Mae'r cwrs yn ystyried rhai o’r buddion a'r heriau o weithio'n ddwyieithog ac mae'n cyflwyno gwybodaeth, adnoddau a chymhelliant i allu datblygu darpariaeth a gweithio yn hyderus trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r cwrs yn ddwyieithog, ac wedi ei anelu at godi hyder aseswyr wrth iddynt ddarparu eu hyfforddiant trwy gyfrwng y Gymraeg.
Astudiaethau Busnes - Entrepreneuriaeth a Strategaeth Busnes
Mae’r adnoddau hyn yn diffinio ac yn archwilio’r thema ‘entrepreneuriaeth’, gan roi sylw manwl i’r elfennau sy’n rhaid eu hystyried wrth gynllunio, dechrau, datblygu a llwyddo mewn busnes. Mae pob uned yn cynnwys: crynodeb darlith ar ffurf cyflwyniadau fideo cwis aml-ddewis cwestiynau seminar llyfryddiaeth Cyfranwyr y thema hon yw: Dr Robert Bowen Dr Eleri Rosier Dr Kelly Young Nerys Fuller-Love Jonathan Fry Gareth Hall Williams Mae’r holl unedau a restrir isod i’w cael yma mewn un pecyn: Cynhyrchwyd y deunyddiau hyn â chefnogaeth Cronfa Adfer a Buddsoddi Addysg Uwch Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.
Cynhadledd Ymchwil 2022
Cynhaliwyd y Gynhadledd hon ar ffurf hybrid eleni, gyda chynulleidfa mewn person yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth, ac fe’i darlledwyd yn fyw i gynulleidfa rithiol. Mae Cynhadledd Ymchwil flynyddol y Coleg ar gyfer pawb sydd yn cynnal ac sydd â diddordeb mewn ymchwil academaidd trwy gyfrwng y Gymraeg, beth bynnag yw’r maes a beth bynnag yw’r ddisgyblaeth. Gwahoddir gwyddonwyr, dyniaethwyr a chymdeithasegwyr o bob cwr o Gymru a thu hwnt i rannu ffrwyth eu hymchwil ac i drafod gydag ymchwilwyr Cymraeg eraill o’r un anian. Bwriad y gynhadledd yw rhoi cyfle i’r to nesaf o academyddion i dorri eu dannedd ar gyflwyno eu hymchwil gerbron cynulleidfa o gyfoedion. Mae’r gynhadledd hefyd yn gyfle i rwydweithio ag ymchwilwyr Cymraeg eu hiaith ac i feithrin cymuned ehangach o academyddion sy'n hyrwyddo darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn ein prifysgolion. Cliciwch isod i weld cyflwyniadau byrion a recordiwyd yn arbennig ar gyfer y gynhadledd. Mae hefyd dolenni i weld y posteri ymchwil a arddangoswyd yn ystod y gynhadledd. Bydd recordiadau o'r prif gyflwyniadau a roddwyd yn fyw yn ystod y gynhadledd, a’r sesiynau cwestiwn ac ateb a gafwyd ar ôl pob cyflwyniad yn cael eu hychwanegu isod yn fuan.
