Fe esgorodd Gwrthryfel y Pasg yn Nulyn yn 1916 ar gyfres o ddigwyddiadau a arweiniodd at annibyniaeth rhan sylweddol o’r ynys, ond ar y pryd nid oedd gwerthfawrogiad o’i arwyddocâd yng Nghymru. I fwyafrif helaeth y Cymry, roedd hon yn weithred fradwrol, gan ei bod yn digwydd ar adeg pan oedd Iwerddon (fel gweddill y Deyrnas Gyfunol) yng nghanol rhyfel gwaedlyd na welwyd ei fath o’r blaen. Mae’r erthygl hon yn olrhain sut yr edrychwyd ar ddigwyddiadau yn Iwerddon yng nghyd-destun y rhyfel yn erbyn yr Almaen, a’r modd yr oedd y cysyniad ei bod yn fuddiol i Iwerddon (fel Cymru) aros yng nghôl yr Ymerodraeth Brydeinig wedi ei wreiddio mor ddwfn fel nad oedd modd ei herio. Awdur: Gethin Matthews
'Cythryblus a thrychinebus’: Gwrthryfel y Pasg, 1916, a’r Wasg Gymreig
Cerddi cwsg y Ficer Rhys Prichard
Mae’r erthygl hon yn archwilio’r ystyriaethau ynghylch cwsg mewn llenyddiaeth Gymraeg gan ddadansoddi cerddi poblogaidd y Ficer Rhys Prichard (1579–1644). Dadansoddir ystyriaethau crefyddol a diwylliannol ynghylch cwsg fel y’u ceir yng ngherddi’r Ficer. Manylir ar brif nodweddion cerddi cwsg y Ficer a chawn gipolwg ar sut roedd rhai pobl yn cysgu, neu sut yr oedd y Ficer yn credu neu’n dymuno eu bod yn cysgu. O ganlyniad, dengys yr erthygl hon bwysigrwydd cwsg yn y cyfnod a bod pobl yn ei gymryd o ddifri. Wrth wneud hyn, pwysleisir y dylid cofio mai pobl go iawn, o gig a gwaed, a astudir, ac er eu bod yn bodoli mewn testunau yn unig o’n safbwynt ni, dylid eu trin fel bodau dynol a oedd, yng nghyd-destun yr erthygl hon, yn cysgu. Awdur: Dewi Alter
Cyfreithusrwydd Gwleidyddol a’r Gyhoeddfa Gymreig: Dadansoddiad Habermasaidd
Dywedir yn aml fod sefydliadau gwleidyddol datganoledig Cymru’n dioddef o ‘ddiffyg democrataidd’, sydd yn gysylltiedig â ‘diffyg cyfryngau’. Mae’r erthygl yma’n defnyddio athroniaeth wleidyddol Jürgen Habermas i ddadansoddi’r honiadau hyn. Dechreuir trwy drafod y broblem ganolog a chymhwyso damcaniaeth Habermas ynghylch cyfreithusrwydd ati (1), cyn troi at gysyniad allweddol y ddamcaniaeth, sef y gyhoeddfa (2). Mae rhan 3 yn dadlau bod diffyg cyhoeddfa wleidyddol anffurfiol yng Nghymru heddiw a bod hyn yn tanseilio cyfreithusrwydd y drefn wleidyddol ddatganoledig, gan gefnogi’r ddadl yma gyda data (3). Mae rhan olaf yr erthygl yn gosod achos Cymru mewn cyd-destun ehangach, ac yn agor trafodaeth ar atebion posib (4). Awdur: Dafydd Huw Rees
Dulliau Ymchwil ac Ystadegau
E-werslyfr am gynllunio a gwneud ymchwil meintiol yw hwn. Mae'n gyflwyniad cyflawn a manwl i'r broses o gynllunio ymchwil, casglu data a dadansoddi ystadegau. Wedi'i anelu'n bennaf at israddedigion sy'n astudio Seicoleg, mae'r e-werslyfr yn mynd law yn llaw â modiwlau dulliau ymchwil a'r traethawd hir. Mae hefyd yn adnodd defnyddiol i israddedigion ac ôlraddedigion sy'n astudio dulliau ymchwil ac yn cynnal ymchwil meintiol mewn ystod eang o bynciau eraill. Yr awduron yw Dr Awel Vaughan-Evans, Dr Gwennant Evans-Jones ac Emma Hughes-Parry. Ymysg y pynciau a drafodir mae: Moeseg Cynllunio ymchwil meintiol Samplu, dilysrwydd a dibynadwyedd Cyflwyniad i ystadegau Dosraniadau a thebygolrwydd Ystadegau casgliadol Cydberthyniad Atchweliad llinol Y prawf t Dadansoddi atchweliad SPSS Dadansoddi cyfrannau a'r prawf chi sgwar Profion amharametrig amgen
Arferion Da o Ran Datblygu Darpariaeth Addysgol ac Addysgu mewn Iaith Leiafrifiedig mewn Prifysgolion: Enghrei...
Pwrpas y llyfryn yma yw rhannu arferion da o ran datblygu darpariaeth addysgol ac addysgu mewn iaith leiafrifiedig mewn prifysgolion. Mae’r arferion da sydd yn cael eu trafod yn y llyfryn hwn yn dod o grwpiau ffocws a gynhaliwyd gyda darlithwyr a myfyrwyr yn edrych ar eu profiadau o addysg gyfrwng Gymraeg a chyfrwng Wyddeleg mewn prifysgolion yng Nghymru ac Iwerddon. Mae'r llyfryn yn trafod: arferion da o ran annog myfyrwyr i astudio mewn iaith leiafrifiedig datblygu darpariaeth mewn iaith leiafrifiedig addysgu mewn iaith leiafrifiedig cefnogi myfyrwyr mewn iaith leiafrifiedig asesiadau mewn iaith leiafrifiedig normaleiddio defnydd o’r iaith leiafrifiedig ymysg myfyrwyr. Rydyn ni’n rhagweld bydd y llyfryn yma’n ddefnyddiol nid yn unig i ddarlithwyr a darparwyr addysg uwch yn y gwledydd yma, ond hefyd i ddarlithwyr, ddarparwyr addysg uwch a darparwyr mewn sectorau addysg eraill yn rhannau eraill o’r byd sy’n datblygu darpariaeth addysgol ac yn addysgu mewn iaith leiafrifiedig.
Sgwrs Adnoddau Cymdeithaseg
Adnoddau Cymdeithaseg Cymraeg ar-lein Sgwrs 20 munud yn cyflwyno adnoddau a grewyd gan ddarlithwyr Cymdeithaseg. Mae'r adnoddau sy'n cael eu cyflwyno yn ystod y sgwrs yn ddefnyddiol i athrawon, disgyblion, dysgwyr a darlithwyr i gefnogi eu dysgu ac addysgu. Mae'r adnoddau i gyd ar wefan Porth Adnoddau'r Coleg Cymraeg. Mae'r rhain yn cynnwys: Adnoddau 'PAAC' sydd ar themâu: Cyflwyniad i Gymdeithaseg, Addysg, Y Teulu, Sgiliau Ymchwil, ac Anghydraddoldeb Cymdeithasol. Modiwl Astudio Cymru Gyfoes Modiwl Theori Gymdeithasegol Esboniadur Gwyddorau Cymdeithasol.
Cynhyrchu cnydau yng Nghymru
Mae'r adnodd hwn yn edrych ar gynhyrchu cnydau yng Nghymru. Mae’n addas ar gyfer dysgwyr mewn addysg bellach ac uwch sy’n astudio rhaglenni o lefelau 2 i 6. Mae yna wyth uned, pob un yn cynnwys gwybodaeth am wahanol agweddau ar gynhyrchu cnydau. Mae'r rhain yn cynnwys agweddau ar drin, sefydlu, tyfu, gwrteithio, gwarchod, cynaeafu a storio cnydau. Mae'r adnodd yn cynnwys yr unedau canlynol: Cyflwyniad i gynhyrchu cnydau yng Nghymru Trin y tir Sefydlu cnwd Tyfiant a datblygiad cnydau Teilo cnwd Diogelu cnydau Cynaefu cnwd Storio cnydau Mae'r adnodd hwn wedi'i lwyfannu a'i gyhoeddi ar wefan HWB Llywodraeth Cymru.
“Un o fethiannau godidocaf” puryddiaeth ieithyddol? Dadansoddiad o batrymau geirfaol Cymraeg y Wladfa heddiw m...
Amcan yr erthygl hon yw dadansoddi agwedd ar dafodiaith Gymraeg y Wladfa a esgeuluswyd, sef ei phatrymau geirfaol cyfoes. Ar sail data a gafwyd o 134 holiadur, dangosir bod yr amrywio geirfaol sydd ar waith yn yr amrywiad hwn ar y Gymraeg wedi ei gyflyru i raddau helaeth gan yr amrywiaeth o gefndiroedd ieithyddol a welir heddiw ymhlith siaradwyr Cymraeg Talaith Chubut. Mae’r canlyniadau, felly, nid yn unig yn dangos sut y mae cydgyffyrddiad tafodieithol hanesyddol wedi chwarae rôl allweddol yn esblygiad tafodiaith draddodiadol y Wladfa, ond hefyd yn archwilio am y tro cyntaf i ba raddau y mae rhaglen addysgol benodol, sef ‘Cynllun yr Iaith Gymraeg’ y Cyngor Prydeinig, yn dylanwadu ar ddefnydd o nodweddion geirfaol ymysg dysgwyr Cymraeg yn y rhanbarth. Nod arall yw ystyried rhai o oblygiadau ehangach y canlyniadau, gan gynnwys perthnasedd ideolegau ieithyddol i batrymau geirfaol hanesyddol a chyfredol Cymraeg y Wladfa. Awdur: Iwan Wyn Rees
Am Iechyd
Cyfres o bodlediadau lle mae darlithwyr o Brifysgol Bangor a gweithwyr proffesiynol yn y maes iechyd yn dod at ei gilydd i drafod materion cyfoes o fewn y byd iechyd sy'n effeithio ar bob un ohonon ni. Mae podlediad 'Am Iechyd' yn cynnig platfform proffesiynol i weithwyr rheng flaen ac academyddion i drafod yn y Gymraeg. Mae'r gyfres yn trafod nifer o bynciau megis: Iechyd Meddwl Pobl Ifanc Modelau Genediaeth Byw Efo Dementia Beth yw ystyr gofalu? Y berthynas rhwng iechyd a gofal Bronfwydo Pa effaith gaiff sefydlu Ysgol Feddygol ym Mhrifysgol Banor ar iechyd pobl gogledd Cymru?
Gwefan Meddwl.org
Sefydlwyd gwefan meddwl.org fis Tachwedd 2016, a chaiff ei redeg gan grŵp bach o wirfoddolwyr, er mwyn ceisio mynd i’r afael â’r diffyg gwybodaeth cyfrwng Cymraeg sydd ar gael i helpu pobol sy’n byw gyda chyflwr iechyd meddwl, a’u teuluoedd a’u ffrindiau. Dyma’r wefan gyntaf o’i math sy’n cynnwys gwybodaeth ar faterion iechyd meddwl drwy gyfrwng y Gymraeg yn unig. Mae gan bawb iechyd meddwl. Mae meddwl.org yn lle i gael cefnogaeth a gwybodaeth, ac i ddarllen a rhannu profiadau iechyd meddwl – i gyd drwy gyfrwng y Gymraeg.
Sesiynau Holi 'Pa Yrfa?' Gradd Cyfraith neu Droseddeg
Recordiadau o ddau sesiwn ar-lein i ddisgyblion sydd yn ystyried astudio'r gyfraith neu droseddeg yn y brifysgol. Mae'n gyfle da i ddarpar-fyfyrwyr gael syniad o'r math o yrfa gall rhywun ddilyn gyda gradd yn y pynciau hynny. Gall hefyd apelio at fyfyrwyr prifysgol sy'n ystyried eu gyrfa a chamau nesaf wedi graddio. Yn y sesiwn gyntaf mae gennym siaradwyr sydd wedi graddio mewn Cyfraith neu Droseddeg ac sydd nawr yn gweithio yn y maes. Mae'r ail sesiwn yn cynnwys cyfranwyr sydd wedi graddio mewn Cyfraith neu Droseddeg ond aeth ymlaen i ddilyn gyrfa tu hwnt i'r pynciau hynny.
Llyfr Glas Nebo mewn 3 munud
Adnodd fideo newydd sy’n cyflwyno ac yn crynhoi prif gynnwys, themâu a chymeriadau’r nofel Llyfr Glas Nebo gan Manon Steffan Ros ar gyfer astudiaeth Uned 2 TGAU CBAC Llenyddiaeth Gymraeg. Pwrpas yr adnodd yw cyflwyno’r nofel mewn ffordd fachog a syml, gan sbarduno’r dysgwyr i fynd ati i astudio ymhellach. Dolen i'r fideo ar YouTube - gllir dewis isdeitlau (Cymraeg) ar y fideo yn YouTube. Ariannir gan Lywodraeth Cymru.

 
                 
                 
                 
                 
                 
                 
                 
                 
                