Cyflwynir y gweithdy gan Dr Ifan Morgan Jones a Dr Cynog Prys. Bydd y gweithdy hwn o ddiddordeb i unrhyw un sydd am ddefnyddio rhwydweithiau cymdeithasol er mwyn ategu eu haddysgu a’u gwaith ymchwil. Mae'r adnodd yn cynnwys tri chyflwyniad: · Cyflwyniad 1 - Facebook · Cyflwyniad 2 - Instagram, Snapchat a Tik Tok · Cyflwyniad 3 - Twitter a YouTube Ceir gwybodaeth bellach am y cyflwynwyr ynghyd a disgrifiad llawn o’r adnodd yma.
Gwefannau cymdeithasol ar gyfer addysgu: Facebook, Instagram, Snapchat, Tik Tok, Twitter a YouTube
Ymchwil a’r REF (Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil)
Bwriedir yr hyfforddiant hwn ar gyfer academyddion gyrfa gynnar a myfyrwyr ymchwil. Bydd yr adnodd yn cynnig trosolwg llawn o’r REF (Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil) mewn cyd-destun Cymreig. Cyflwynir yr adnodd gan yr Athro Delyth James. Cyfeirir yn benodol at REF 2021, a bydd y 6 gweithdy sy’n rhan o’r adnodd yn mynd i’r afael â’r isod: Beth yw REF? – Trosolwg Pa academyddion a gynhwysir yn y REF? Unedau Asesu Allbynnau Ymchwil (ansawdd a nifer) Achosion Effaith (Impact Cases) Datganiad Amgylchedd Sut mae REF yn ymwneud â myfyrwyr PhD ac ymchwilwyr gyrfa cynnar? Crynodeb o'r goblygiadau i ymchwilwyr yn y Gymraeg
Gwobr Adnodd Cyfrwng Cymraeg 2020
Dyfernir y wobr hon er mwyn cydnabod unigolyn neu unigolion sydd wedi arwain ar greu adnodd cyfrwng Cymraeg sy’n rhagorol ac o ansawdd uchel sy’n cefnogi’r myfyrwyr yn eu hastudiaethau. Enillwyr: Dr Anwen Jones a Dr Hywel Griffiths, Prifysgol Aberystwyth - Gwerddon Fach Dr Marie Busfield, Dr Hywel Griffiths, Dr Cerys Jones, Yr Athro Rhys Jones a Dr Rhys Dafydd Jones, Prifysgol Aberystwyth - Gwerslyfr Daearyddiaeth Rhestr Fer: Rhian Jardine, Prifysgol Caerdydd - Adnoddau Newyddiadurol Dr Anwen Jones a Dr Hywel Griffiths, Prifysgol Aberystwyth - Gwerddon Fach Dr Marie Busfield, Dr Hywel Griffiths, Dr Cerys Jones, Yr Athro Rhys Jones a Dr Rhys Dafydd Jones, Prifysgol Aberystwyth - Gwerslyfr Daearyddiaeth Dyfernir gwobrau ar gyfer y darlithwyr cysylltiol yn flynyddol gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae’r gwobrau yn cydnabod cyfraniad a rhagoriaeth y darlithwyr cysylltiol mewn Addysg Uwch ac Addysg Bellach cyfrwng Cymraeg. Ar gyfer 2020, mae'r Coleg wedi gwahodd enwebiadau ar gyfer 3 gwobr sef: Arloesi ar draws ffiniau Adnodd cyfrwng Cymraeg Hwyluso addysg cyfrwng Cymraeg Am fwy o wybodaeth am y gwobrau, ewch i'r adran newyddion ar wefan y Coleg Cymraeg Cendlaethol.
Adnoddau Adolygu Seicoleg Lefel A
Ar y dudalen we hon ceir adnoddau ar gyfer adolygu Seicoleg Lefel A. Mae'r adnoddau'n cynnwys posteri sy’n crynhoi astudiaethau a phecynnau adolygu dulliau ymchwil. Datblygwyd yr adnoddau gan Ysgol Seicoleg, Prifysgol Bangor.
Gohebu ar ..... Y Newyddion
Dyma wefan rhyngweithiol sy'n gyflwyniad i ysgrifennu newyddiadurol. Mae'r adnodd ar gyfer myfyrwyr newyddiaduraeth ac unrhyw un sydd â diddordeb mewn ysgrifennu stori dda. Mae yma ganllaw ar sut i ysgrifennu ar gyfer papurau newydd, radio, teledu, ar-lein ac ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol yn ogystal â chyflwyniad i'r hyn sy'n dylanwadu ar benderfyniadau golygyddol newyddiadurwyr a'u golygyddion. Mae'n cynnwys fideos, cwis ac ymarferion ar-lein. Mae'r adnodd yma yn un o dri a chyrhaeddodd y rhestr fer yn 2020 ar gyfer gwobrau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am greu Adnodd Cyfrwng Cymraeg.
Porth Adnoddau: Beth yw e? Sut i ychwanegu adnodd newydd?
Mae gwefan y Porth Adnoddau yn cynnig un lle canolog i rannu ystod eang o adnoddau cyfrwng Cymraeg ar gyfer y sectorau Ôl-16 a Galwedigaethol ac Addysg Uwch. Isod, ceir fideos yn cyflwyno beth yw'r Porth a sut i'w ddefnyddio. Ceir hefyd ddolen i ffurflen ar gyfer ychwanegu adnodd newydd i'r Porth a chanllawiau manwl ar sut i'w llenwi.
Mathemateg â Swigod
Mae’r wefan yma’n cynnwys cyflwyniad ar sut y gellir defnyddio swigod er mwyn datrys problem fathemategol mewn optimeiddiaeth, a adnabyddir fel Problem Steiner. Yn y broblem hon, y nod yw ceisio darganfod y ffordd byrraf o gysylltu n pwynt (all ddynodi dinasoedd neu drefi er enghraifft) ar y plân gyda’i gilydd. Er mwyn datrys y broblem yma, byddwn yn gwneud cysylltiadau â’r broblem o ddarganfod arwynebau minimol (e.e. gan ddefnyddio swigod). Mae’r wefan yn cynnwys dau set o ymarferion, y naill wedi’i anelu at ddysgwyr ym mlynyddoedd 10-11 a’r llall yn addas ar gyfer dysgwyr ym mlynyddoedd 12-13. Mae’r set cyntaf o ymarferion yn cynnwys cyfrifiadau geometreg (ac yn bennaf trigonometreg), tra bod yr ail set hefyd yn cynnwys problemau sy’n ymwneud â darganfod terfannau a differu.
Tiwtorial recordio Powerpoint â throslais
Dyma weithdy byr sy’n dangos sut mae mynd ati i ddefnyddio PowerPoint i recordio troslais a llun fideo ar gyfer cyflwyniadau a sesiynau hyfforddi.
Cynhadledd Ymchwil Rithiol 2020
Croeso i Gynhadledd Ymchwil rithiol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Yma cewch fynediad i bopeth sy’n ymwneud a’r Gynhadledd: Mae dwy ran i’r gynhadledd: 1. Cyflwynir 4 papur byw ar 1 Gorffennaf (10:00-12:30) - bydd recordiadau'r gynhadledd yn cael eu hychwnegu isod yn fuan. 2. Yn ogystal â’r cyflwyniadau byw y byddwch chi’n eu gweld ar 1 Gorffennaf, mae 13 o fyfyrwyr ymchwil ac academyddion Cymraeg wedi mynd ati i recordio cyflwyniadau ymlaen llaw. Isod, cewch fynediad at y cyfan a gofynnwn i chi eu gwylio a’u mwynhau yn eich amser eich hun cyn y Gynhadledd. Ewch ati i baratoi cwestiynau os gwelwch yn dda! Bydd cyfle i chi holi eich cwestiwn rhwng 2 a 3:30 ar 1 Gorffennaf. Gofynnwn i chi gyflwyno eich cwestiynau ar Twitter trwy ddefnyddio #cynhadleddymchwil20 ac mae cyfrifon Twitter y cyfranwyr i’w gweld wrth i chi edrych ar y cyflwyniadau. Os nad ydych chi’n defnyddio Twitter, holwch eich cwestiynau yn y blwch perthnasol sydd i’w weld o dan bob cyflwyniad. Mwynhewch a chyfrannwch!
Yr Almaen 1945-1970
Dyma gyflwyniad i hanes yr Almaen 1945-1970. Mae'n cynnwys naw o ddarlithoedd, amlinelliad tair seminar, cwestiynau traethawd a llyfryddiaeth fanwl. Lluniwyd yr adnodd gan Dr Arddun Arwyn, Darlithydd Hanes Modern (cyfrwng Cymraeg) ym Mhrifysgol Aberystwyth, gyda chymorth Grant Bach gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Darlithoedd: Darlithoedd Diwedd y Drydedd Reich Gorchfygiad, Alltudiaeth a Meddiannaeth, 1945-8 Datnatsieiddio a Gwleidyddiaeth y Feddiannaeth Sefydlu’r ddwy Almaen Gweriniaeth Ffederal yr Almaen (GFfA): Adenauer, y Wirtschaftswunder a Westbindung (gweler Cyfryngau Cysylltiedig uchod) Gweriniaeth Ddemocrataidd yr Almaen (GDdA): Yr Undeb Sofietaidd ar yr Elbe Argyfwng Wal Berlin, 1958-1962 1960au: Cydgyfnerthiad y system o ddwy wladwriaeth Almaenig Brandt ac Ostpolitik: Dwy wladwriaeth, Un Genedl (gweler Cyfryngau Cysylltiedig uchod) Seminarau Sefydlu’r Ddwy Wladwriaeth Ailadeiladu, chydgyfnerthu a’r Almaen yn y Rhyfel Oer Y Wladwriaeth a Chymdeithas yn y Weriniaeth Ffedral
Yr Argyfwng Gwacter Ystyr – J. R. Jones
J. R. Jones yn ymateb i argyfyngau dynol y ceir sôn amdanynt yn y Beibl. Cyhoeddwyd hefyd fel rhan o gyfrol Ac Onide
Yr Athro J. R. Jones (Llên y Llenor) – E. R. Lloyd-Jones
Cyfrol deyrnged i'r athronydd, pregethwr, heddychwr a'r cenedlaetholwr, J. R. Jones. Er mai cyfrol yng nghyfres Llên y Llenor yw hon, nid astudiaeth o arddull a mynegiant a geir yma, ond yn hytrach edrychir ar gynnwys gweithiau J. R. Jones.