Cynhelir y Gynhadledd hon ar ffurf hybrid eleni eto, ar 30 Mehefin, gyda chynulleidfa wyneb yn wyneb yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth, ac fe’i darlledir yn fyw i gynulleidfa rithiol. Mae rhagor o wybodaeth am y Gynhadledd yn y calendr digwyddiadau ar wefan y Coleg Cymraeg.
Cynhadledd Ymchwil 2023
Gyrfaeoedd Portffolio yn y Celfyddydau Gweledol
Adnodd o wefan Hwb am yrfaoedd i ddysgwyr yng Nghyfnod Allweddol 3 ac ymlaen sy'n tynnu sylw at yr hyn y mae'n ei olygu i gael gyrfa bortffolio yn y celfyddydau gweledol. Mae'r adnodd yn cynnwys 15 fideo sy'n dangos cyfleoedd yn y celfyddydau gweledol, gan gynnwys celf mewn gofal iechyd, addysg, celf gyhoeddus, arddangos a gweithio mewn orielau.
Panel Trafod: Yr Hengerdd a Dafydd ap Gwilym
Dyma gyfle gwerthfawr i glywed panel o arbenigwyr yn trafod Yr Hengerdd a cherddi Dafydd ap Gwilym. Yn ystod y sesiwn, ceir trafodaeth ar waith Aneirin, Talieisin a Dafydd ap Gwilym gan arbenigwyr ar yr hengerdd a'r cywyddau, sef Yr Athro Jerry Hunter, Dr Aled Llion Jones a'r Athro Peredur Lynch, y tri o Adran y Gymraeg, Prifysgol Bangor. Addas yn benodol ar gyfer disgyblion blwyddyn 13 sy'n astudio ar gyfer arholiad Cymraeg (Uned 5) ond o ddiddordeb yn ehangach hefyd i unrhyw un sydd â diddordeb yng ngwaith y beirdd hyn. Sesiwn a recordiwyd yn Pontio, Bangor, yn ystod mis Mai 2023, mewn cydweithrediad rhwng Adran y Gymraeg Prifysgol Bangor a Pontio. Noddir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Chwilio am fwy o adnoddau adolygu? Gwyliwch ein sesiynau adolygu Ar-lên sydd ar gael yma neu yma.
Panel Trafod: Branwen
Dyma gyfle gwerthfawr i glywed panel o arbenigwyr yn trafod y chwedl, Branwen, ferch Llŷr. Yn ystod y sesiwn, ceir trafodaeth ar amrywiol agweddau o’r chwedl gan arbenigwyr ar ryddiaith yr Oesoedd Canol, sef Yr Athro Jerry Hunter a Dr Aled Llion Jones, Prifysgol Bangor, a Dr Rhiannon Ifans. Addas yn benodol ar gyfer disgyblion blwyddyn 13 sy'n astudio'r chwedl ar gyfer arholiad Cymraeg (Uned 5) ond o ddiddordeb yn ehangach hefyd i unrhyw un sydd â diddordeb yn rhyddiaith yr Oesoedd Canol. Sesiwn a recordiwyd yn Pontio, Bangor, yn ystod mis Ebrill 2023, mewn cydweithrediad rhwng Adran y Gymraeg Prifysgol Bangor a Pontio. Noddir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Chwilio am fwy o adnoddau ar Branwen? Gwyliwch ein sesiynau adolygu Ar-lên sydd ar gael yma.
Canllawiau Adolygu Mathemateg TGAU
Canllawiau adolygu a ddarparwyd yn garedig iawn gan Goleg Gwent i gynorthwyo myfyrwyr a dysgwyr sy'n eistedd arholiad TGAU Mathemateg. Ceir pecyn ar gyfer yr haen sylfaenol a phecyn ar gyfer yr haen ganolradd. Diolch i Goleg Gwent am rannu'r pecynnau.
Ar-lên 2023: Sesiynau Adolygu UG/Safon Uwch
Mae'r gweminarau adolygu byw hyn yn cael eu trefnu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gyfer myfyrwyr blwyddyn 12 a 13 sy'n astudio Cymraeg Iaith Gyntaf UG/Safon Uwch. Bydd y sesiynau'n cael eu cynnal gan ddarlithwyr o adrannau Cymraeg prifysgolion Bangor, Aberystwyth, Abertawe a Chaerdydd, a llenorion ac academyddion blaenllaw eraill, gyda'r bwriad o gyfoethogi eich dealltwriaeth o rai o'r testunau llenyddiaeth yr ydych yn eu hastudio yn y dosbarth. Bydd y sesiynau'n cael eu cynnal yn Gymraeg drwy Zoom rhwng 4.30-5.30pm ar brynhawniau Mercher, gyda'r sesiwn gyntaf ar bnawn Mercher 1 Mawrth 2023. Amserlen: 1 Mawrth 2023: Dan Gadarn Goncrit (Mihangel Morgan), Dr Miriam Elin Jones, Prifysgol Abertawe (Bl.13) 8 Mawrth 2023: Mis Mai a Mis Tachwedd (Dafydd ap Gwilym), Iestyn Tyne (Bl.13) 15 Mawrth 2023: Blasu (Manon Steffan Ros), Dr Manon Wynn Davies (Bl.13) 23 Mawrth 2023: Un Nos Ola Leuad (Caradog Pritchard), Dr Siwan Rosser, Prifysgol Caerdydd (Bl.13) *Dydd Iau* 29 Mawrth 2023: Y Gymraeg mewn cyd-destun, Gruffydd Rhys Davies, Prifysgol Aberystwyth (Bl.13) 19 Ebrill 2023: 'Aneirin' (Iwan Llwyd), Dr Elis Dafydd, Prifysgol Bangor (Bl.12) 26 Ebrill 2023: 'Preseli' (Waldo Williams), Dr Elan Grug Muse (Bl.12) 3 Mai 2023: Ymarfer Papur Gramadeg, Yr Athro Peredur Lynch, Prifysgol Bangor (Bl.12) Bydd y ddolen ar gyfer y digwyddiad yn cael ei hanfon atoch ar e-bost ar y diwrnod neu'r diwrnod cynt. Croeso i ddisgyblion, myfyrwyr, athrawon ac athrawon dan hyfforddiant. Ni fyddwn yn gallu eich gweld, ond bydd modd defnyddio'r botwm sgwrsio i gyfrannu neu ofyn cwestiwn. Cofiwch ddilyn cyfrif Twitter @CymraegCCC a chyfrif Instagram @instagymraeg am fwy o wybodaeth a newyddion am y Gymraeg fel Pwnc. I gofrestru, cliciwch ar y ddolen ffurflen gofrestru isod:
Panel Trafod: Dod â Siwan yn Fyw
Cyfle gwerthfawr i glywed panel o arbenigwyr ac wynebau cyfarwydd ym myd y ddrama Gymraeg yn trafod y ddrama Siwan gan Saunders Lewis. Panel yn cynnwys Dr Manon Wyn Williams, Prifysgol Bangor, Dr Llio Mai, a'r actorion Ffion Dafis a Dyfan Roberts. Yn ystod y sesiwn, ceir trafodaeth ar amrywiol agweddau o’r ddrama gan gynnwys ei hiaith, ei themâu, ei strwythur a’i chymeriadau gan hefyd ystyried ei chyfraniad o fewn cyd-destun y ddrama Gymraeg. Addas yn benodol ar gyfer disgyblion blwyddyn 12 sy'n astudio'r ddrama ar gyfer arholiad llafar Cymraeg UG (Uned 1), ond o ddiddordeb yn ehangach hefyd i unrhyw un sydd â diddordeb mewn drama. Sesiwn a recordiwyd yn Pontio, Bangor, yn ystod mis Mawrth 2023, mewn cydweithrediad rhwng Adran y Gymraeg Prifysgol Bangor a Pontio. Noddir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Chwilio am fwy o adnoddau ar Siwan? Gwyliwch ein sesiwn adolygu Ar-lên sydd ar gael yma.
Dwyieithrwydd ar gyfer y gweithle: Sgiliau proffesiynol
Pwrpas yr adnodd hwn yw helpu datblygu hyder i weithio'n ddwyieithog. Twy gyfres o ymarferion bydd cyfle i ymarfer nifer o sgiliau perthnasol ar gyfer defnyddio'r Gymraeg yn y gweithle gan gynnwys: drafftio e-bost paratoi CV gwneud cyflwyniad yn Gymraeg. Datblygwyd yr adnodd hwn gan Goleg Sir Benfro.
Cyfres Beirdd yr Uchelwyr
Mae Cyfres Beirdd yr Uchelwyr yn cyflwyno golygiadau safonol o farddoniaeth y beirdd a ganai yng Nghymru rhwng 1282 a chanol yr unfed ganrif ar bymtheg. Mae’r Gyfres wedi ei hanelu at unrhyw un sydd am ddysgu mwy am farddoniaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol – myfyrwyr ac ymchwilwyr Prifysgol, a hefyd unrhyw un sydd am ddysgu mwy am hanes ein traddodiad barddol, neu am hanes ryw ardal benodol ers talwm. Os am ddysgu mwy am un bardd yn benodol, gellid dechrau drwy ddarllen y Rhagymadrodd i’w waith, cyn troi at y cerddi eu hunain. Mae digon o gymorth mewn aralleiriadau a nodiadau i helpu gyda’r dehongli. Cyflwynir y cerddi yn orgraff heddiw a cheir nodiadau manwl ar bob cerdd sy'n esbonio unrhyw anawsterau yn y testun a hefyd y cyfeiriadau at bobl, lleoedd a chymeriadau hanesyddol a chwedlonol. O flaen gwaith pob bardd, ceir rhagymadrodd yn trafod bywyd y bardd, ei ddyddiadau, ei noddwyr a natur ei farddoniaeth. Ar ddiwedd pob cyfrol ceir mynegeion a rhestrau llawn o’r llawysgrifau a ddefnyddiwyd yn sail i’r golygiad. Mae'r gwaith yn ffrwyth prosiect ymchwil a gynhaliwyd yn y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn Aberystwyth gan dîm o ymchwilwyr dan nawdd Prifysgol Cymru, yr AHRC ac eraill.
Stori Fer: Pwy Fyth a Fyddai'n Fetel? (Adnoddau)
Adnoddau adolygu'r stori fer 'Pwy Fyth a Fyddai'n Fetel?' gan Mihangel Morgan (o'r gyfrol Saith Pechod Marwol), sef un o'r straeon byrion ar fanyleb Cymraeg Ail Iaith UG/Safon Uwch (U2 Uned 6: Defnyddio Iaith a'r Stori Fer). Adnoddau yn cynnwys: Animeiddiad fideo o'r stori (gyda a heb isdeitlau) Darlith Fideo a chyflwyniad PowerPoint gan Yr Athro Tudur Hallam yn trafod y stori 'Pwy Fyth a Fyddai'n Fetel?' Darlith Fideo a chyflwyniad PowerPoint gan Yr Athro Tudur Hallam yn sôn am eirfa ac ymadroddion defnyddiol i'w defnyddio wrth drafod y stori fer Adnoddau wedi eu creu gan Adran y Gymraeg, Prifysgol Abertawe, o dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Dewisa Lefel A Cymraeg: Ymgyrch ac adnoddau
Ymgyrch a ariennir gan Lywodraeth Cymru yw Dewisa Lefel A Cymraeg sy'n ceisio annog rhagor o ddysgwyr ifanc i astudio Lefel A Cymraeg drwy ddarparu adnoddau hyrwyddo i godi ymwybyddiaeth o’r manteision di-ben-draw sydd gan yr iaith i fywyd academaidd, gwaith a chyfleoedd diwylliannol. Mae gan yr ymgyrch, a lansiwyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru, gynnwys y gall athrawon ac ysgolion ei ddefnyddio fel ffordd o ennyn diddordeb dysgwyr, rhieni a gofalwyr yn y Gymraeg drwy’r canlynol: Tynnu sylw at y ffaith bod Lefel A Cymraeg yn agor drysau i gyfoeth o lwybrau prifysgol Pwysleisio’r amrywiaeth o yrfaoedd a diwydiannau lle mae’r Gymraeg yn sgil gwerthfawr iawn Rhoi cipolwg ar ehangder ac amrywiaeth cwricwlwm Lefel A Cymraeg Arddangos Lefel A Cymraeg fel pwnc modern, creadigol a pherthnasol Gwahodd dysgwyr i ymuno â chymuned lewyrchus o siaradwyr Cymraeg sy’n angerddol am eu diwylliant, eu treftadaeth a’r iaith Mae'r adnoddau yn cynnwys: Cynnwys gweledol: instazines, cardiau proffil, dyfyniadau, negeseuon holi ac ateb, negeseuon chwilio Fideos Posteri amrywiol Asedau cyfryngau cymdeithasol (GIFs) Pecyn cymorth athrawon Gellir defnyddio a rhannu'r adnoddau yn ddigidol neu mewn print, ar y cyfryngau cymdeithasol neu drwy eu hymgorffori mewn cyflwyniadau a phrospectws. Mae'r holl gynnwys ar gael yn ddwyieithog i'w lawrlwytho drwy'r ddolen Dropbox isod. I gael rhagor o wybodaeth am yr ymgyrch neu am y Gymraeg fel pwnc yn gyffredinol, cysylltwch â Dr Ffion Eluned Owen, Swyddog Hyrwyddo’r Gymraeg fel Pwnc y Coleg: ff.owen@colegcymraeg.ac.uk.
Panel Trafod: Hedd Wyn
Dyma gyfle gwerthfawr i glywed panel o arbenigwyr yn trafod y ffilm arobryn, Hedd Wyn, a sgriptiwyd gan Alan Llwyd ac a gyfarwyddwyd gan Paul Turner. Yn ystod y sesiwn, geir trafodaeth ar amrywiol agweddau o’r ffilm gan gynnwys y cyd-destun hanesyddol a diwylliannol, y themâu yr ymdrinnir â hwy, y portread o’r cymeriadau a’r berthynas rhyngddynt yn ogystal â’r defnydd o symbolaethau o fewn y ffilm. Ystyrir hefyd bwysigrwydd a chyfraniad y ffilm o fewn cyd-destun Cymreig a rhyngwladol. Panel yn cynnwys Dr Manon Wyn Williams a'r Athro Gerwyn Wiliams, Prifysgol Bangor, yr actor Huw Garmon a Naomi Jones, Pennaeth Treftadaeth yr Ysgwrn. Addas yn benodol ar gyfer disgyblion blwyddyn 12 sy'n astudio'r ffilm ar gyfer arholiad llafar Cymraeg UG (Uned 1), ond o ddiddordeb yn ehangach hefyd i unrhyw un sydd â diddordeb yn yr hanes. Sesiwn a recordiwyd yn Pontio, Bangor, yn ystod mis Mawrth 2023, mewn cydweithrediad rhwng Adran y Gymraeg Prifysgol Bangor a Pontio. Noddir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Chwilio am fwy o adnoddau ar Hedd Wyn? Gwyliwch ein sesiwn adolygu Ar-lên sydd ar gael yma.
