Wrth gyhoeddi ei Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg yn Ebrill 2010, nododd Llywodraeth Cynulliad Cymru bod y system addysg Gymraeg wedi chwarae rôl arweiniol ym maes addysg ddwyieithog ledled Ewrop a'r byd yn ystod yr hanner can mlynedd diwethaf. Wrth i'r gyfundrefn ddatblygu yn sgil y cynnydd yn niferoedd y disgyblion sy'n dymuno addysg ddwyieithog yng Nghymru, pwysleisir ei bod yn hanfodol i ni gadw golwg ar y patrymau a'r modelau sydd ar gael mewn cymunedau dwyieithog eraill sy'n llwyddo i integreiddio dwyieithrwydd neu amlieithrwydd yn eu darpariaeth er mwyn i ni ddeall eu perthnasedd i'n sefyllfa benodol ni yng Nghymru. Mae'r erthygl hon yn bwrw golwg dros y datblygiadau diweddaraf ym maes addysg ddwyieithog ar y llwyfan rhyngwladol gan ystyried beth yw'r prif negeseuon sy'n eu hamlygu eu hunain wrth i addysg o'r fath barhau i ddatblygu i ateb anghenion disgyblion mewn cymunedau dwyieithog ac amlieithog ledled y byd yn yr unfed ganrif ar hugain. W. Gwyn Lewis, 'Addysg ddwyieithog yn yr unfed ganrif ar hugain: Adolygu'r cyd-destun rhyngwladol', Gwerddon, 7, Ionawr 2011, 66-88.
W. Gwyn Lewis, 'Addysg ddwyieithog yn yr unfed ganrif ar hugain: Adolygu'r cyd-destun rhyngwladol' (2011)
Phylip Brake, 'Amrywio ieithyddol ymhlith siaradwyr Cymraeg Treorci ar ddiwedd y saithdegau'
Mae'r papur hwn yn ceisio rhoi cyfrif am yr amrywio ieithyddol ymhlith siaradwyr Cymraeg ardal Treorci yng nghwm Rhondda Fawr ar ddiwedd yr 1970au. Gwneir hyn drwy ddefnyddio ac addasu dulliau sosioieithyddol a ddatblygwyd gan arloeswyr yn y maes, yn enwedig William Labov. Dechreuir drwy roi disgrifiad ffonolegol clasurol o Gymraeg y siaradwyr brodorol a recordiwyd. Ond wedyn eir ymlaen i archwilio'r berthynas rhwng yr amrywio 'rhydd' a nodwyd yn iaith y siaradwyr, a hyn drwy gysyniad y newidyn ieithyddol a'r rhwydwaith cymdeithasol. Ceir dadansoddiad manwl o'r data – yn feintiol ac yn ansoddol – sy'n ychwanegu at ein gwybodaeth o dafodieithoedd y Gymraeg, ynghyd â'n helpu i ddeall sut y mae ffactorau cymdeithasol yn dylanwadu ar ddewis iaith siaradwyr unigol. Phylip Brake, 'Amrywio ieithyddol ymhlith siaradwyr Cymraeg Treorci ar ddiwedd y saithdegau', Gwerddon, 7, Ionawr 2011, 9-44.
Anwen Elias, 'Pleidiau cenedlaetholgar lleiafrifol ac ymaddasu i ddatganoli: Astudiaeth gymharol o Blaid Cymru...
Mewn nifer o fannau, mae datganoli wedi creu cyfleoedd newydd i bleidiau cenedlaetholgar lleiafrifol sicrhau lefelau newydd o gefnogaeth etholiadol, tra bod nifer hefyd wedi'u sefydlu eu hunain fel pleidiau llywodraethol. Fodd bynnag, ychydig iawn o sylw ysgolheigaidd sydd wedi ei roi i'r modd y bydd pleidiau cenedlaetholgar lleiafrifol yn ymaddasu i fod yn actorion canolog ar y lefel ranbarthol. Cyflwyna'r erthygl hon ddwy astudiaeth achos – Plaid Cymru a'r Bloque Nacionalista Galego yng Ngalisia – er mwyn astudio sut y bu iddynt ymaddasu i ennill cynrychiolaeth, perthnasedd, a statws plaid lywodraethol ar y lefel ranbarthol. Dadleuir fod profiadau'r pleidiau hyn ymhell o fod yn unigryw. Yn hytrach, maent yn adlewyrchu'r sialensau a wynebir gan unrhyw blaid wrth iddi ddatblygu o fod yn blaid protest, i fod yn blaid mewn grym. Anwen Elias, 'Pleidiau cenedlaetholgar lleiafrifol ac ymaddasu i ddatganoli: Astudiaeth gymharol o Blaid Cymru a'r Bloque Nacionalista Galego', Gwerddon, 7, Ionawr 2011, 45-65.