Mae lle arbennig i wasanaethau iechyd fel gofod i ddiffinio perthynas priodol y dinesydd â'r wladwriaeth fodern. Bu disgwyliad i unigolion ddewis ym maes iechyd yng Nghymru a Lloegr ers yr 1980au. Yn ddiweddar cyflwynwyd brechlyn newydd i ferched sy'n amddiffyn yn erbyn rhai mathau o gancr ceg y groth. Disgwylir i rieni gydsynio dros eu merched. Mae'r papur hwn yn adrodd canlyniadau'r astudiaeth ymchwil ansoddol fwyaf yn y byd ar y pwnc. Mae'n darlunio agweddau at ddewisiadau iechyd a thrafod profiadau rhieni wrth ddod i benderfynu i gydsynio ai peidio. Dadansoddir strategaethau rhieni wrth benderfynu, er eu hansicrwydd. Myfanwy Davies, 'Dewis a'r dinesydd? Penderfyniadau iechyd a'u goblygiadau ar gyfer datblygu dinasyddiaeth Gymreig', Gwerddon, 10/11, Awst 2012, 40-63.
Myfanwy Davies, 'Dewis a'r dinesydd? Penderfyniadau iechyd a'u goblygiadau ar gyfer datblygu dinasyddiaeth Gym...
Gwawr Ifan, 'Un Llef Pedwar Llais': Dylanwad canu corawl ar iechyd a lles yng Nghymru' (2012)'
Ers y bedwaredd ganrif ar bymtheg, mae canu corawl wedi chwarae rhan flaenllaw yn y diwylliant a'r gymdeithas Gymreig. Yn ail hanner yr ugeinfed ganrif, bu galw cynyddol i ystyried dylanwad lles a safon byw ar iechyd. Yn sgil hyn, mae llawer o ymchwil yn ystyried y celfyddydau cymunedol, a chanu corawl yn benodol, fel enghraifft o gyfalaf cymdeithasol, a'r modd y gall hyn ddylanwadu ar iechyd a lles personol a chymdeithasol. O ganlyniad i'r gydnabyddiaeth hon, canolbwyntia'r erthygl hon ar ymchwil i'r berthynas rhwng canu corawl – fel digwyddiad cerddorol a chymdeithasol – ac iechyd a lles cyffredinol ymhlith cantorion amatur yng Nghymru. Gwawr Ifan, ''Un Llef Pedwar Llais': Dylanwad canu corawl ar iechyd a lles yng Nghymru', Gwerddon, 10/11, Awst 2012, 15-39.
Huw Dylan Owen a Steve Morris, 'Effaith iaith ar adsefydlu corfforol: Astudiaeth o ddylanwad iaith ar effeithi...
Mewn rhan o Gymru lle mae dros 50 y cant o'r boblogaeth yn ddwyieithog, nid oedd unrhyw therapyddion Cymraeg gan un gwasanaeth adsefydlu corfforol cymunedol. Asesodd mesur deilliannau a gydnabyddir yn rhyngwladol effeithiolrwydd yr adsefydlu. Yr oedd gan gleifion Cymraeg eu hiaith ganlyniadau yn sgil yr adsefydlu oedd yn sylweddol is na siaradwyr di- Gymraeg (p<0.05). Nid oedd gwahaniaeth arwyddocaol mewn ardal arall lle'r oedd y therapyddion yn ddwyieithog. Awgryma'r canfyddiadau fod gallu therapyddion i siarad iaith gyntaf cleifion yn dylanwadu ar effeithiolrwydd therapi. Cymharwyd canran yr unigolion a gyfeiriwyd (gan weithwyr proffesiynol gofal iechyd neu gymdeithasol) ac a fedrai'r Gymraeg â'r ganran o siaradwyr Cymraeg y rhagwelid eu cyfeirio ar sail nifer y siaradwyr Cymraeg yn y boblogaeth yn gyffredinol. Cafodd nifer sylweddol lai o siaradwyr Cymraeg eu cyfeirio at y gwasanaeth adsefydlu na'r canran a ragwelid (p<0.001). Er bod hyn yn awgrymu y medr y ffaith na all gweithwyr proffesiynol siarad Cymraeg effeithio'n negyddol ar siaradwyr Cymraeg sy'n cyrchu gwasanaethau, fe all fod rhesymau seico-gymdeithasol amlffactoraidd eraill i'w hystyried. Huw Dylan Owen a Steve Morris, 'Effaith iaith ar adsefydlu corfforol: Astudiaeth o ddylanwad iaith ar effeithiolrwydd therapi mewn cymuned Gymraeg', Gwerddon, 10/11, Awst 2012, 83-112.
Huw Morgan, 'Corona'r haul: Astudiaeth o strwythur atmosffer yr haul' (2012)
Mae'r gwybodaeth sydd gennym o gorona'r haul yn seiliedig ar arsylwadau a wneir o bell. Mae'n amhosib, felly, i ddyfalu strwythur tri-dimensiwn y corona yn uniongyrchol. Mae'r erthygl hon yn crynhoi hanes ac yn rhoi braslun o astudio'r corona yng nghyswllt ei strwythur, ac yn disgrifio technegau newydd sydd am y tro cyntaf yn ein galluogi i wybod strwythur y corona mewn manylder. Rhoddir disgrifiad o'r newid yn y strwythur dros gylchred bywiogrwydd yr haul, gwybodaeth newydd am y cyswllt rhwng y maes magnetic a'r dwysedd coronaidd, a chanlyniadau newydd ar raddfeydd cylchdroi'r corona. Mae'r canlyniadau yn dangos fod modd cynnyddu'n gwybodaeth o'r corona yn fawr trwy gymhwyso'r technegau tomograffi newydd, gan alluogi ac ysgogi astudiaethau pellach o'r corona yn y blynyddoedd nesaf. Huw Morgan, 'Corona'r haul: Astudiaeth o strwythur atmosffer yr haul', Gwerddon, 10/11, Awst 2012, 64-82.
Jessica J. Clapham, 'Dadansoddiad o ddefnydd athrawon dan hyfforddiant o gyfnewid cod mewn dosbarth uwchradd d...
Mae'r llenyddiaeth yn cynnwys sawl astudiaeth ar gyfnewid cod. Mae'r dull cymdeithasol-ddiwylliannol o astudio rhyngweithio yn y dosbarth fel y'i disgrifir gan Mercer (2000) yn seiliedig ar ddadansoddiad manwl o ddisgwrs dosbarthiadau iaith. Nododd Mercer nifer o dechnegau iaith a ddefnyddir gan athrawon. Mae'r erthygl hon yn dadansoddi safbwyntiau athrawon dan hyfforddiant ar gyfnewid cod fel ymarfer yn yr ystafell ddosbarth. Yn yr astudiaeth, cynhaliwyd archwiliad o ymarfer dosbarth dwy athrawes dan hyfforddiant oedd yn ddwyieithog mewn Cymraeg a Saesneg. Arsylwyd y ddwy a chofnodwyd eu haddysgu. Hefyd cynhaliwyd cyfweliadau gyda'r athrawon dan hyfforddiant er mwyn eu holi am eu hagweddau at y defnydd o'r iaith gyntaf mewn dosbarth uwchradd lle mae'r Saesneg yn ail iaith. Dadansoddir y data a gasglwyd gan ddefnyddio dulliau dadansoddi disgwrs beirniadol. Ystyrir yn benodol i ba raddau yr oedd yr athrawon dan hyfforddiant yn llwyddo i ddysgu mewn modd oedd o fewn cyrraedd y disgyblion dwyieithog o dan eu gofal. Roedd yr achlysuron pan oedd yr athrawon yn newid o'r Saesneg i'r Gymraeg am funud i weld yn cyfateb i'r swyddogaethau cyfnewid cod a nodwyd gan Camilleri. Mae'r cyfnewid cod yn awgrymu ffordd gyfreithlon o ddefnyddio adnoddau iaith cyffredin i sgaffaldio dysgu disgyblion. Jessica J. Clapham, 'Dadansoddiad o ddefnydd athrawon dan hyfforddiant o gyfnewid cod mewn dosbarth uwchradd dwyieithog: Achos o Gymru', Gwerddon, 10/11, Awst 2012, 158-95.
Gethin Matthews, 'Sŵn yr ymladd ar ein clyw': Cyflwyno'r Rhyfel Mawr yn y Gymraeg' (2012)'
Y Rhyfel Mawr oedd un o'r digwyddiadau pwysicaf yn hanes Cymru gan fod goblygiadau'r Rhyfel wedi effeithio'n drwm ar gymdeithas a diwylliant y wlad am ddegawdau. Fodd bynnag, mae hanes y blynyddoedd o ymladd yn aml wedi cael ei gyflwyno i gynulleidfa Gymraeg mewn modd gor-syml, sy'n pwysleisio erchyllderau'r Rhyfel heb ystyried y cyd- destun. Mae'r astudiaeth hon yn olrhain yn fras sut mae'r ffordd yr edrychid ar y Rhyfel wedi datblygu ym Mhrydain dros y degawdau, cyn ystyried yn fanwl rhai o'r problemau â'r cyflwyniad o'r lladdfa a gafwyd mewn rhaglenni nodwedd Cymraeg. Gethin Matthews, ''Sŵn yr ymladd ar ein clyw”: Cyflwyno'r Rhyfel Mawr yn y Gymraeg', Gwerddon, 10/11, Awst 2012, 132-57.
Nia Davies Williams, 'Y Golau a Ddychwel': Cerddoriaeth a dementia yng Nghymru' (2012)'
Diben yr erthygl hon yw edrych ar foddau o ddefnyddio cerddoriaeth fel dull o gyfathrebu gyda chleifion sydd yn dioddef o ddementia, a hynny o fewn y cyd-destun Cymreig. Mae'r gwaith ymchwil yn seiliedig ar brofiadau'r awdur wrth ganu i gyfeiliant y delyn Geltaidd mewn uned asesu dementia a chartrefi henoed yn ardal Pen LlÅ·n yn ystod haf 2010, a'r rhyfeddod o weld cleifion oedd yn dioddef o ddementia yn cofio geiriau i ganeuon cyfarwydd pan nad oedd synnwyr i gael wrth sgwrsio â hwy. O ganlyniad, dyma fynd ati i astudio sut roedd cerddoriaeth yn medru bod o fudd i gleifion oedd yn dioddef o'r cyflwr hwn. Mae'r erthygl yn datgelu a dadansoddi'r canlyniadau hyn. Nia Davies Williams, ''Y Golau a Ddychwel': Cerddoriaeth a dementia yng Nghymru', Gwerddon, 10/11, Awst 2012, 113-31.