Defnyddir lloerennau Cluster er mwyn ymchwilio i wynt yr Haul, a chan y ceir pedair lloeren, gellir mesur strwythur 3-D gwynt yr Haul. Gan fod tyrfedd yn ffenomen 3-D, y mae Cluster yn ddelfrydol ar gyfer ymchwilio i dyrfedd. Dengys yr arsylwadau hyn y goruchafir tyrfedd yng ngwynt yr Haul ar feintiau radiws cylchdroi protonau gan donnau Alfvén Cinetig yn ogystal â fortecsau magnetig. Y mae'r ymchwil hon yn atgyfnerthu'r dybiaeth o fodolaeth tonnau Alfvén Cinetig yng ngwynt yr Haul ac yn awgrymu am y tro cyntaf y gall tonnau a fortecsau magnetig gydfodoli yng ngwynt yr Haul. Owen Wyn Roberts, Xing Li, a Bo Li, 'Tyrfedd yng ngwynt yr Haul', Gwerddon, 19, Ebril 2015, 45-58.
Owen Wyn Roberts et al., 'Tyrfedd yng ngwynt yr Haul' (2015)
Carwyn Jones, 'Ffenomenoleg Dibyniaeth: profiad cyn-chwaraewr pêl-droed' (2015)
Y mae'r erthygl hon yn olrhain hanes cyn-chwaraewr pêl-droed proffesiynol sy'n gwella o gyflwr alcoholiaeth. Nod yr erthygl yw cryfhau ein dealltwriaeth o natur dibyniaeth ac effaith dibyniaeth ar fywyd a gyrfa'r chwaraewr. Defnyddir syniadau ffenomenoleg dibyniaeth Flanagan (2011) er mwyn dadansoddi'r profiadau a'r emosiynau sy'n sail i'r anhrefn a'r dryswch – ac yn bwydo'r nodweddion hynny – yn hanes y cyn-chwaraewr hwnnw. Carwyn Jones, 'Ffenomenoleg Dibyniaeth: profiad cyn-chwaraewr pêl-droed', Gwerddon, 19, Ebril 2015, 28-44.