Dyma ddolen i adran benodol ar wefan Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru sy’n cynnwys adnoddau i gynorthwyo unigolion sy’n dymuno datblygu eu sgiliau Cymraeg. Mae pob rôl o fewn Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn gofyn am lefel o sgil Cymraeg. Fel rhan o’r broses ymgeisio, bydd unigolion yn cael eu hasesu ar eu gallu Cymraeg llafar. Mae’r adnoddau ar y wefan yn cynorthwyo unigolion i baratoi am yr asesiad. Mae’r adnoddau yma’n berthnasol i unigolion sydd â diddordeb mewn cychwyn gyrfa yn y Gwasanaeth Tân ac Achub.
Adnoddau Ymwybyddiaeth Iaith Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru
Adnoddau Dysgu ar wefan Gofal Cymdeithasol Cymru
Isod ceir ddolen i'r adran adnoddau ar wefan Gofal Cymdeithasol Cymru. Mae'r adnoddau yma'n berthnasol ar gyfer addysgwyr a dysgwyr yn y meysydd Iechyd a Gofal Plant. Yn ogystal, mae dolen i ddogfen sy'n nodi'r adnoddau ar wefan Gofal Cymdeithasol Cymru sy’n berthnasol ar gyfer unedau penodol o fewn y cyrsiau Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant Lefel 2 a 3.
Cennydd Owen Jones, 'Adolygiad o Ffynonellau AmgylcheddolTwbercwlosis Buchol (Mycobacterium bovis)' (2021)
Mae twbercwlosis buchol (bovine tuberculosis; bTB) yn un o brif heriau iechyd a lles anifeiliaid yng Nghymru, a bu’n gyfrifol am ddifa 10,974 o wartheg rhwng Mehefin 2019 a Mai 2020 (DEFRA, 2020). Amcangyfrifir cost flynyddol i’r trethdalwr o £15 miliwn yng Nghymru yn unig i reoli’r clefyd sydd yn cynnwys costau milfeddygol, iawndal i’r ffermwyr, costau gweinyddol, ac ati. Yn ogystal â hyn, mae delio â’r clefyd yn cael effaith ar iechyd meddwl yr holl unigolion sydd ynghlwm ag ef. Mae’r cyswllt rhwng bywyd gwyllt a thwbercwlosis buchol yn amlwg yn bwnc llosg parhaol, ond beth am y rôl y mae’r amgylchedd yn ei chwarae o ran meithrin a lledaenu’r clefyd hwn? Mae rhai gwyddonwyr wedi ymchwilio i’r cwestiwn hwn gan lwyddo i brofi ar lefel labordy bod yr amodau sydd yn bresennol yn amgylchedd y fuwch yn rhai ffafriol i M. bovis. Serch hynny, prin yw’r ymchwil ar lefel fferm, yn enwedig mewn ardaloedd sydd yn dioddef achosion cronig o dwbercwlosis buchol. Diben yr adolygiad llenyddiaeth hwn yw amlygu’r sefyllfa bresennol yng Nghymru a’r wyddoniaeth sydd yn bodoli ar hyn o bryd parthed TB buchol amgylcheddol.
Jerry Hunter, 'Perthnasedd Poen ac Undonedd: Kate Roberts a Ffuglen y 1930au' (2021)
Mae’r erthygl hon yn ystyried datblygiad ffuglen Gymraeg yn y 1930au, a hynny trwy archwilio gwahanol syniadau ynglŷn â natur realaeth. Mae craffu ar ohebiaeth Saunders Lewis a Kate Roberts yn fodd i ddadansoddi’r modd y syniai’r ddau lenor am hanfodion estheteg realaidd. Trafodir ymateb Saunders Lewis i ddrafft cyntaf y nofel Traed mewn Cyffion ac awgrym Kate Roberts wrth amddiffyn hanfod y gwaith fod ‘poen ac undonedd’ yn berthnasol yn y 1930au ac yn themâu llenyddol dilys. Awgrymir bod apêl Kate at waith y nofelydd Gwyddelig, Peadar O’Donnell, yn bwysig er mwyn deall ei hestheteg hi. Edrychir wedyn ar y berthynas rhwng Traed mewn Cyffion ac un o nofelau O’Donnell, Islanders.
Charlotte Greenway ac Alison Rees Edwards, 'Agweddau Athrawon tuag at ADCG: Adolygiad ac Argymhellion ar gyfer...
Gwelwyd cynnydd sylweddol yn y cyfraddau Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADCG) mewn dosbarthiadau yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mewn llenyddiaeth, cydnabyddir arwyddocâd agweddau athrawon tuag at ADCG wrth iddynt wneud penderfyniadau am atgyfeirio ac ymyrraeth (Anderson et al., 2012) a sut y mae eu hagweddau’n effeithio ar ymddygiad a chanlyniadau disgyblion (Rush a Harrison 2008). Mae angen i athrawon ddarparu cefnogaeth i’r plant hyn ond, yn aml, maent yn teimlo’n amwys tuag at ADCG oherwydd diffyg gwybodaeth ddigonol (Alkahtani 2013), gwybodaeth anghyson ynghylch yr anhwylder (Dryer, Kiernan a Tyson 2013), gwahanol ddisgwyliadau diwylliannol (Moon 2012) a systemau addysgol (Timimi a Radcliffe 2005). Mae’r papur hwn yn darparu adolygiad o’r llenyddiaeth ynghylch agweddau athrawon tuag at ADCG, yn archwilio’r cyfyngiadau yn y llenyddiaeth gyfredol a’r pryderon ynghylch mesur agweddau athrawon tuag at ADCG. Mae’r papur yn gorffen gydag argymhellion ar gyfer y dyfodol.
Einion Dafydd, 'Yr Eglwys Gatholig Rufeinig a’r Undeb Ewropeaidd: Crefydd a Llywodraethiant yn yr Unfed Ganrif...
Mae’r astudiaeth hon yn ystyried sut y mae’r Eglwys Gatholig Rufeinig a’r gymuned Gatholig ehangach yn ymwneud â’r Undeb Ewropeaidd (UE). Amlinella ffurf sefydliadol a threfniadaethol y prif gyrff Catholig sy’n weithredol ym Mrwsel, a dengys sut y maent yn ymwneud â phrosesau polisi’r UE. Seilir y gwaith dadansoddi ar gorff o gyfweliadau gwreiddiol a gynhaliwyd ag ymarferwyr. Dengys fod y berthynas rhwng y gymuned Gatholig a’r UE yn gweithredu ar dair lefel – lefel ddiplomyddol, lefel led ffurfiol a sefydliadol, a lefel anffurfiol – a bod yn rhaid cadw golwg ar y tair lefel er mwyn cael darlun clir o’r modd y gweithreda’r gymuned Gatholig mewn perthynas â’r UE. Cyflwynir tair set o oblygiadau sy’n datblygu dealltwriaeth o rôl crefydd mewn llywodraethiant cyfoes.
Datblygu gweithlu a chymunedau dwyieithog y dyfodol
Cynhaliwyd digwyddiad ar y cyd â ColegauCymru ar ffurf weminar Zoom, gyda gwleidyddion o’r dair prif blaid yng Nghymru i drafod cyfraniad y sector ôl-16 at y nod o greu gweithlu a chymunedau dwyieithog a miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Roedd y digwyddiad yn rhoi cyfle i glywed yr hyn y mae’r pleidiau yn ymrwymo i wneud er mwyn symud y gwaith o ran datblygu dwyieithrwydd y sector ôl-16 yn ei blaen yn ystod tymor nesaf y Senedd yn ogystal â blaenoriaethau’r Coleg Cymraeg a ColegauCymru. Gallwch wylio'r sesiwn wrth glicio ar y ddolen isod:
Posteri Geirfa Dwyieithog Gwasanaethau Cyhoeddus
Mae'r casgliad hwn yn cynnwys cyfres o bosteri sy'n cynnwys geirfa allweddol ddwyieithog gyffredinol i fyfyrwyr Gwasanaethau Cyhoeddus. Datblygwyd y gyfres hon o bosteri gan Coleg Sir Gâr. Mae'r gyfres yn cynnwys 9 pdf y gellir eu lawr lwytho a'u hargraffu i gefnogi cyflwyno'r Gymraeg yn y maes gwasanaethau cyhoeddus. Gall y posteri gael eu rhoi ar wal y dosbarth. Mae'r casgliad hefyd yn cynnwys cyfres o bosteri sy’n cynnwys geirfa allweddol benodol ar gyfer unedau Cwrs Lefel 3 Gwasanaethau Amddiffyn sydd â Gwisg Swyddogol. Mae poster geirfa allweddol ar gael ar gyfer y 7 uned sef: Uned 1: Dinasyddiaeth ac Amrywiaeth Uned 2: Ymddygiad a Disgyblaeth yn y Gwasanaethau Amddiffyn sydd â Gwisg Swyddogol Uned 3: Materion Byd-eang, y Cyfryngau a’r Gwasanaethau Amddiffyn sydd â Gwisg Swyddogol Uned 4: Paratoad Corfforol, Iechyd a Llesiant Uned 5: Gwaith Tîm, Arweinyddiaeth a Chyfathrebu yn y Gwasanaethau Amddiffyn sydd â Gwisg Swyddogol Uned 6: Y Llywodraeth a’r Gwasanaethau Amddiffyn Uned 7: Cynllunio ar gyfer Digwyddiadau Brys ac Ymateb iddynt Noder bod fersiynau hygyrch Word ar gael ar gyfer y ddau adnodd ar wahân.
'Cefn Llwyfan’ Dilyn Gyrfa ym maes Celf a Dylunio (24 Mawrth 2021)
Ydych chi'n astudio Celf, Dylunio a Thechnoleg, neu ddiddordeb yn y maes? Beth am ddod i wylio sgwrs hynod ddiddorol yng nghwmni 4 artist Cymreig ifanc sy’n sefydlu ei hunain yn y byd Celf a Dylunio yng Nghymru a thu hwnt. Trefnir sgwrs zoom ‘Cefn Llwyfan’ Dilyn Gyrfa ym maes Celf a Dylunio mewn cydweithrediad â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Ysgol Gelf Coleg Sir Gâr, Coleg Celf Abertawe a Choleg Celf Caerdydd. Manylion y cyfranwyr: Y ffotograffydd Carys Huws Y grefftwraig Alis Knits Y dylunydd Llio Davies Yr arlunydd Tomos Sparnon
Arddangosfa Golwg ar Gelf
Arddangosfa arbrofol yw 'Golwg ar Gelf' sy'n gyfle i fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg, sydd yn astudio ar draws meysydd Celf a Dylunio, rannu eu gwaith yn rithiol.
Recordiadau Ar-lên (Sesiynau Adolygu Llenyddiaeth UG/Safon Uwch) Mawrth - Mai 2021
Trefnwyd y gweminarau adolygu hyn gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gyfer myfyrwyr blwyddyn 12 a 13 sy'n astudio Cymraeg UG/Safon Uwch. Mae'r sesiynau'n cael eu cynnal gan ddarlithwyr o adrannau Cymraeg prifysgolion Bangor, Aberystwyth, Abertawe a Chaerdydd, gyda'r bwriad o gyfoethogi eich dealltwriaeth o rai o'r testunau llenyddiaeth yr ydych yn eu hastudio yn y dosbarth. Cofiwch ddilyn cyfrif Twitter @CymraegCCC a chyfrif Instagram @instagymraeg am fwy o wybodaeth a newyddion am y Gymraeg fel Pwnc. PWYSIG: Mae sesiynau newydd Ar-lên 2021-22 yn cael eu cynnal rhwng 1 Rhagfyr 2021 a 16 Mawrth 2022. Cliciwch yma i weld yr amserlen ac i gofrestru.
Adnoddau Iaith Gymraeg Heddlu Gogledd Cymru
Dyma ddolen i adran benodol ar wefan Heddlu Gogledd Cymru sy’n cynnwys adnoddau i gynorthwyo unigolion sy’n dymuno datblygu eu sgiliau Cymraeg. Mae pob rôl o fewn HGC yn gofyn am lefel o sgil Cymraeg. Fel rhan o’r broses ymgeisio, bydd unigolion yn cael eu hasesu ar eu gallu Cymraeg llafar. Mae’r adnoddau ar y wefan yn cynorthwyo unigolion i baratoi am yr asesiad. Mae’r adnoddau yma’n berthnasol i unigolion sydd â diddordeb mewn cychwyn gyrfa gyda’r Heddlu.