Mae'r adnodd rhyngweithiol hwn wedi ei gynllunio i roi gwybodaeth am gynhyrchiant cig eidion ar draws y byd. Mae'r cynnwys wedi eu rannu mewn i wahanol unedau sy'n canolbwyntio ar agweddau gwahanol o gynhyrchiant cig eidion. Mae'r unedau'n cynnwys nodiadau myfyrwyr, nodiadau i athrawon, gweithgareddau a fideos.
Cynhyrchiant Cig Eidion
Barod ar gyfer Prifysgol
Mae Barod ar gyfer Prifysgol yn hwb sy'n hawdd ei ddefnyddio, p'un a ydych ar fin symud ymlaen i addysg lefel prifysgol, neu'n cefnogi rhywun sy'n gwneud hynny - efallai fel rhiant, athro, gofalwr neu gynghorydd.
Gallwch chwilio yn ôl pwnc – fel sgiliau astudio, llesiant ac iechyd meddwl, neu fywyd myfyrwyr – yn ôl sefydliad, ac yn ôl maes pwnc, fel y gallwch fod yn siŵr o fynd yn syth i'r adnoddau sydd eu hangen arnoch.
Prentis-iaith: Cwis Adnabod Lefel
Prentis Iaith Lefel Ymwybyddiaeth neu Prentis Iaith Dealltwriaeth?
Cwblhewch y cwis isod i ddarganfod pa un sy'n addas ar eich cyfer chi.
Prentis-iaith Lefel Dealltwriaeth
Mae'r cyrsiau byr hyn ar gyfer prentisiaid sydd eisoes â pheth dealltwriaeth o'r Gymraeg ac sydd am ehangu'u dealltwriaeth o sut y gellir defnyddio'u Cymraeg yn y gweithle. Maent yn galluogi'r prentisiaid i gwblhau rhywfaint o'u cwrs yn y Gymraeg.
SUT I DDEFNYDDIO'R ADNODDAU?
Mae'r pum uned gyntaf yn cyflwyno pwysigrwydd yr iaith Gymraeg fel sgìl ar gyfer y gweithle tra bod cynnwys unedau 6 wedi’i deilwra ar gyfer gwahanol feysydd. Hynny yw felly, bydd pawb yn cwblhau Uned 1-5 Cyffredinol ac yna'n dewis y fersiwn sy'n addas iddyn nhw ar gyfer Uned 6.
Dyma’r pump llwybr galwedigaethol penodol y mae uned 6 wedi’i deilwra ar ei gyfer:
- Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Gofal Plant
- Gwasanaethau Cyhoeddus
- Amaethyddiaeth
- Adeiladwaith
Os nad ydych yn dilyn un o'r llwybrau uchod, yna byddwch yn gallu cwblhau Uned 6 (Cyffredinol).
PA LEFEL SY'N ADDAS?
Mae Prentis-iaith ar gael ar ddwy lefel:
- Prentis- iaith: Lefel Ymwybyddiaeth (ar gyfer prentisiais sydd ond gyda rhywfaint neu ddim sgiliau iaith Gymraeg)
- Prentis-iaith: Lefel Dealltwiraeth (ar gael ar gyfer prentisiaid sydd eisoes â pheth dealltwriaeth o'r Gymraeg)
Os nad ydych chi’n siŵr pa adnodd sy’n addas ar eich cyfer, defnyddiwch y Cwis Adnabod Lefel
DARPARWYR A CHOLEGAU
Mae'r cyrsiau hyn hefyd ar gael drwy byrth dysgu y prif ddarparwyr prentisiaethau yng Nghymru ac mae modd i ddarparwyr lawr lwytho'r cynnwys fel ffolder zip i fedru gwneud hyn (gweler y ddolen isod).
Mae modd argraffu tystysgrif yn awtomatig ar ôl cwblhau yr unedau unigol ond gellir hefyd lawr-lwytho tystysgrifau i gyd fynd â'r unedau isod.
Adnodd Gofal Anifeiliaid
Mae’r adnodd rhyngweithiol hwn wedi ei gynllunio i roi gwybodaeth am y sgiliau sylfaenol a gwybodaeth sydd eu hangen er mwyn gofalu’n briodol am amrywiaeth eang o anifeiliaid.
Mae'r cynnwys wedi ei rannu i gyfres o unedau sy'n canolbwyntio ar grwpiau gwahanol o anifeiliaid. Mae'r unedau yn pwysleisio anghenion rhywogaethau o fewn amrediad o gategorïau. Fel cyfanwaith, mae’r cwrs byr hwn yn cyflwyno agweddau allweddol ar sut i ofalu am anifail, ac yn dangos sut i ddefnyddio’r sgiliau a gwybodaeth angenrheidiol er mwyn cynnal iechyd a lles yr anifail.
Iechyd Anifeiliaid Fferm
Datblygwyd yr adnodd hwn i gyflwyno gwahanol bynciau sy'n ymwneud â iechyd anifeiliaid fferm. Mae'r cynnwys yn gasgliad o fideos, gweithgareddau rhyngweithiol a chwyflwyniadau ar ffurf Pdf/Word. Mae nodiadau athro i gyd-fynd gyda'r pynciau gwahanol. Cyflwynir drso 20 o bynciau gwahanol yn cynnwys:
- Achosion afiechyd mewn anifeiliaid
- Cynllunio iechyd a bioddiogelwch ar fferm
- Cloffni mewn gwartheg a defaid
- Rhoi pigiadau
- Niwmonia mewn gwartheg a defaid
- Dosio
- Ysbaddiad
Sgiliaith: Posteri Dysgu Dwyieithog
Dyma gyfres o bosteri gan gwmni Sgiliaith ar gyfer tiwtoriaid mewn colegau ac aseswyr dysgu’n y gweithle. Maen nhw’n cynnig syniadau ar sut i ddechrau defnyddio a chyflwyno’r Gymraeg yn eich gwersi. Yn y gyfres mae posteri ar y canlynol:
- Taflen Cyfarchion
- Taflen Adborth
- Taflen Cwestiynau Syml
- Geirfa Dwyieithog i Diwtoriaid ac Aseswyr Dysgu’n y Gweithle
- Manteision Dwyieithrwydd
- Creu ethos dwyieithog yn y dosbarth
- Poster Adnoddau Defnyddiol
- Poster Dechrau Dwyieithogi Gwers
Symudiad i mewn ac allan o gelloedd
Cafodd yr adnodd ei greu ar gyfer myfyrwyr Gwyddorau Meddygol Lefel 3 ond mae’r wybodaeth yn berthnasol i unrhyw fyfyriwr sy’n astudio bioleg ar lefel 3 megis Iechyd a Gofal neu Safon Uwch. Mae’n canolbwyntio ar rannau’r gelliben a sut mae elfennau yn symud i mewn ac allan o gelloedd. O fewn y cyflwyniad mae gweithgareddau i wirio eich dysgu.
Addaswyd yr adnodd gan Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Diolch i Goleg Sir Gâr am rannu'r cynnwys gwreiddiol.
Amaeth Amdani
Profiad Gwaith yn y Diwydiant Amaeth
Adnodd i gynorthwyo myfyrwyr amaeth i adnabod y sgiliau sydd eu hangen arnynt wrth adnabod a chymryd rhan mewn cyfnod o brofiad gwaith perthnasol i’r diwydiant.
Mae’r adnodd yn yn cynorthwyo dysgwyr sydd yn paratoi am gyflogaeth o fewn y sector amaethyddol drwy;
- adnabod cyfleoedd cyflogaeth o fewn y diwydiant amaethyddol
- egluro’r broses o ymgeisio am swydd.
- egluro sgiliau rhyngbersonol da sydd yn angenrheidiol o fewn y diwydiant.
Adran 1 - yn cynnwys cyfres o glipiau fidio sy’n adnabod cyfleoedd gwaith o fewn y sector amaethyddol.
Adran 2 - yn cynnwys cyflwyniad sydd yn disgrifio’r broses o ymgeisio am swydd gan gynnwys sut mae darganfod swyddi gwag, creu CV, ysgrifennu llythyr cais.
Adran 3 - yn cynnwys clip fidio gan gyflogwr yn egluro y sgiliau rhyngbersonol da sydd yn angenrheidiol ac yn ddisgwyliedig o fewn gweithle.
Mae’r adnodd hwn wedi cael ei greu neu ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru ac mae ar gael wefan HWB.
Llygredd a gwastraff mewn amaeth
Mae’r adnodd hwn yn cefnogi uned 316 sef ‘Pollution and waste control management’ o’r cymhwyster City and Guilds: ‘Advanced Technical Extended Diploma’ in Agriculture (Lefel 3). Bydd yn gwella dealltwriaeth y dysgwyr am y llygredd mae’r diwydiant amaethyddol yn ei greu a sut mae modd rheoli gwastraff yn effeithiol ac ymarferol.
Mae’r deunydd yn dangos sut i ddelio gyda gwastraff amaethyddol, mae’n helpu myfyrwyr i ddeall beth yw ystyr gwastraff organig ac anorganig, ac mae’n helpu myfyrwyr i adnabod y deddfwriaethau a’r cod ymarfer perthnasol ar gyfer rheoli gwastraff amaethyddol.
Mae’r adnodd hwn wedi cael ei greu neu ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru.
Iechyd a diogelwch ar y fferm
O fewn fframwaith City & Guilds mae’n hanfodol i fyfyrwyr astudio’r uned ‘Principles of health and safety’. Pwrpas yr adnodd yma galluogi’r myfyrwyr i ddeall egwyddorion iechyd a diogelwch a sut y medrir gweithredu safonau iechyd a diogelwch o fewn y sector amaeth.
Mae’r adnodd yn tanlinellu’n glir ac yn weledol bwysigrwydd iechyd a diogelwch ar y fferm trwy gyflwyno ystadegau a deddfwriaethau iechyd a diogelwch sy’n berthnasol i’r diwydiant amaeth, gwerthuso goblygiadau damweiniau ar y fferm a dangos enghreifftiau o arfer dda er mwyn lleihau nifer o ddamweiniau.
Mae’r adnodd hwn wedi cael ei greu neu ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru.
Prosiect Ymchwil Llyngyr
Nod y prosiect hwn oedd deall gwasgariad y parasit llyngyr y rwmen yng Nghymru. Gweithiodd gwyddonwyr o IBERS, Prifysgol Aberystwyth, gydag aelodau CFfI ar draws Cymru i ddarganfod ym mha ffermydd yr oedd llyngyr y rwmen yn bresennol.