Gweithgareddau a sesiynau amrywiol ar-lein ar gyfer myfyrwyr blwyddyn 12 sy’n astudio Cymraeg Ail Iaith. Ymunwch â ni'n rhithiol fel dosbarth brynhawn dydd Iau, 8 Gorffennaf rhwng 12.45 - 3pm. Sesiynau'n cynnwys: Cwis creadigol yng nghwmni'r bardd Aneirin Karadog: Cwis creadigol lle does dim ateb cywir nac anghywir, dim ond yr ateb sy’n plesio’r beirniad, sef Aneirin! Cyfle i weithio fel timau ar dasgau sy’n herio eich gallu i odli, cymharu a disgleirio gyda chreadigrwydd yn eich iaith! Sesiwn Holi Byw yn Gymraeg yng nghwmni tri o bobl ifanc sy'n defnyddio'r iaith bob dydd mewn amrywiol ffyrdd - Bronwen Lewis, Nick Yeo a Francesca Sciarrillo Cân neu ddwy gan Bronwen Lewis, y gantores a'r gyfansoddwraig dalentog sydd wedi bod yn defnyddio llwyfan TikTok i rannu cyfieithiadau Cymraeg o ganeuon enwog dros y misoedd diwethaf Cyfle i baratoi ar gyfer Blwyddyn 13 mewn sesiwn ysgafn gan Dr Angharad Naylor, Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd Cyflwyniad byr i waith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol Mae dolen i'r ffurflen gofrestru isod. Am fwy o wybodaeth neu unrhyw ymholiad, cysylltwch â Ffion, Swyddog Hyrwyddo'r Gymraeg fel Pwnc y Coleg: ff.owen@colegcymraeg.ac.uk
Ysgol Haf Cymraeg Ail Iaith 2021 (Rhowch Gynnig Arni!)
Cynhadledd Wyddonol 2021
17 Mehefin 2021 (9:30-13:00) Cynhadledd yw hon sy’n rhoi llwyfan i wyddonwyr Cymraeg eu hiaith rannu ffrwyth eu hymchwil a, thrwy hynny, feithrin cymdeithas academaidd wyddonol cyfrwng Cymraeg. Mae’n gyfle i drin a thrafod amrywiol destunau o fewn y gwyddorau. Cynhelir y Gynhadledd yn y Gymraeg ac mae croeso cynnes i bawb sy’n diddori yn y gwyddorau i gofrestru i'r Gynhadledd, boed yn academyddion, fyfyrwyr, aelodau o'r cyhoedd neu ddysgwyr mewn ysgolion a cholegau addysg bellach.
Gŵyl MAP a'r Gynhadledd Theatr 2021
Aeth Gŵyl MAP a'r Gynhadledd Theatr AR-LEIN eleni! Roedd cyfle i ddangos a thrafod gwaith ymysg myfyrwyr theatr a pherfformio Cymru. Roedd hefyd cyfle i wrando ar actorion, dramodwyr a chyfarwyddwyr theatr yn trafod y flwyddyn ddiwethaf, a cyfle arbennig i edrych ar ddyfodol theatr. Cafodd ei gynnal ar Zoom, Dydd Mercher 21 Ebrill 2021 (10:00-16:00) Cewch wylio'r sesiwn banel o'r digwyddiad isod:
Cynhadledd Seicoleg Ar-lein
Cynhadledd a gynhaliwyd ar 28 Ebrill 2021 ar gyfer myfyrwyr Seicoleg israddedig ac ôl-raddedig a phynciau cysylltiedig megis iechyd ac addysg. Croesawyd dysgwyr 17-18 oed yn y Gynhadledd. Roedd cyflwyniadau'r bore yn dilyn themâu: Iechyd a Lles; Iaith, Datblygiad, ac Addysg Sylfeini Seicolegol Darllen, Dr Manon Jones, Prifysgol Bangor Ffactorau sy’n effeithio ar gaffael cyflawn o systemau gramadegol y Gymraeg, Dr Hanna Binks, Prifysgol Aberystwyth Iechyd meddwl rhieni sydd â phlentyn awtistig, Dr Ceri Ellis, Prifysgol Manceinion Dwyieithrwydd ac Anableddau Datblygiadol, Dr Rebecca Ward, Prifysgol Bangor Defnyddio technoleg i gefnogi iechyd a lles cleifion gwledig, Dr Rachel Rahman, Prifysgol Aberystwyth Yn y prynhawn, roedd Panel Gyrfaoedd gyda phobl yn cynrychioli’r gyrfaoedd canlynol: Seicolegydd Addysg Seicolegydd Clinigol Seicolegydd Dadansoddi Ymddygiad Cymhwysol Therapydd Iaith a Lleferydd Darlithydd Addysg Uwch Roedd hefyd cyfle i ofyn cwestiynau.
'Cefn Llwyfan’ Dilyn Gyrfa ym maes Celf a Dylunio (24 Mawrth 2021)
Ydych chi'n astudio Celf, Dylunio a Thechnoleg, neu ddiddordeb yn y maes? Beth am ddod i wylio sgwrs hynod ddiddorol yng nghwmni 4 artist Cymreig ifanc sy’n sefydlu ei hunain yn y byd Celf a Dylunio yng Nghymru a thu hwnt. Trefnir sgwrs zoom ‘Cefn Llwyfan’ Dilyn Gyrfa ym maes Celf a Dylunio mewn cydweithrediad â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Ysgol Gelf Coleg Sir Gâr, Coleg Celf Abertawe a Choleg Celf Caerdydd. Manylion y cyfranwyr: Y ffotograffydd Carys Huws Y grefftwraig Alis Knits Y dylunydd Llio Davies Yr arlunydd Tomos Sparnon
Cynhadledd Ymchwil Ar-lein 2021
Cynhadledd a gynhaliwyd ar 29 Mehefin 2021 ar gyfer pawb sydd yn cynnal ac sydd â diddordeb mewn ymchwil academaidd trwy gyfrwng y Gymraeg, beth bynnag yw’r maes a beth bynnag yw’r ddisgyblaeth. Gwahoddwyd gwyddonwyr, dyniaethwyr a chymdeithasegwyr o bob cwr o Gymru a thu hwnt i rannu ffrwyth eu hymchwil ac i gwrdd ag ymchwilwyr Cymraeg eraill o’r un anian. Bwriad y gynhadledd oedd rhoi cyfle i’r to nesaf o academyddion i dorri eu dannedd ar gyflwyno eu hymchwil gerbron cynulleidfa o gyfoedion. Roedd hefyd yn gyfle i rwydweithio ag ymchwilwyr Cymraeg eu hiaith ac i feithrin cymuned ehangach o academyddion sy'n hyrwyddo darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn ein prifysgolion. Cliciwch isod i weld recordiad o'r gynhadledd sy'n cynnwys sesiynau cwestiynau ac ateb ar y cyflwyniadau. Mae hefyd dolenni i weld y posteri ymchwil a gyflwynwyd.
Cynhadledd Hanes 2021: 'Menywod a'r Byd'
Cynhadledd ar gynhaliwyd ar 17 Mawrth 2021 ar gyfer myfyrwyr is-radd ac ôl-radd Hanes ond hefyd unrhyw un sydd â diddordeb mewn pobl ac hanes. Bydd y gynhadledd yn dilyn thema ‘Menywod a’r Byd’ gyda chyflwyniadau diddorol ar fywydau menywod yn y Canol Oesoedd. Menywod ym Mywgraffiadau Brenhinol y Canol Oeseodd - Dr Rebecca Thomas, Prifysgol Bangor Menywod a'r naratifau amdanynt yng Nghymru Oes y Chwyldro Ffrengig - Dr Marion Löffler, Prifysgol Caerdydd Llofruddiaeth mewn lleiandy: Voyeurs Americanaidd yn Quebec Gatholig - Dr Gareth Hallet Davis, Prifysgol Abertawe Portreadau o fenywod yn y Rhyfel Mawr - Dr Gethin Matthews, Prifysgol Abertawe Gwylich recordiadau'r gynhadledd isod:
Cynhadledd y Gyfraith a Throseddeg 2021
Cynhadledd ar-lein ar gyfer myfyrwyr is-raddedig ac ôl-raddedig, neu unrhyw un sydd â diddordeb yn y maes, a gynhaliwyd ar 4 Mawrth 2021. Roedd y gynhadledd yn trafod gwahanol agweddau o'r Gyfraith yng Nghymru heddiw. Cafwyd gair o groeso gan yr Arglwydd Lloyd-Jones, Ynad yng Ngoruchaf Lys y Deyrnas Unedig a chyflwyniad gyda sesiwn cwestiwn ac ateb gan Jeremy Miles AS, Cwnsler Cyffredinol Cymru. Yn ogystal â hyn, cafwyd panel galwedigaethol gan ddwy gyfreithwraig broffesiynol a hefyd trafodaeth lle gofynnwyd am farn myfyrwyr ar ddysgu'r Gyfraith a Throseddeg drwy gyfrwng y Gymraeg yn ein prifysgolion. Cliciwch isod i wylio recordiadau o'r gynhadledd:
Cynhadledd 'Llais y Plentyn'
Cynhadledd ar gyfer myfyrwyr addysg, gofal plant a gwasanaethau plant a phobl ifanc mewn prifysgolion a cholegau addysg bellach. Bydd y gynhadledd yn trafod bywyd plant Cymru gan gynnwys: effaith Covid-19 ar blant, hiliaeth, a'r system eiriolaeth. Ceir hefyd gyflwyniad gan Gomisiynydd Plant Cymru, Sally Holland. Cynhaliwyd y gynhadledd ar 24 Chwefror 2021. Cliciwch isod i wylio recordiadau o'r cyflwyniadau:
Cynhadledd Ymchwil Rithiol 2020
Croeso i Gynhadledd Ymchwil rithiol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Yma cewch fynediad i bopeth sy’n ymwneud a’r Gynhadledd: Mae dwy ran i’r gynhadledd: 1. Cyflwynir 4 papur byw ar 1 Gorffennaf (10:00-12:30) - bydd recordiadau'r gynhadledd yn cael eu hychwnegu isod yn fuan. 2. Yn ogystal â’r cyflwyniadau byw y byddwch chi’n eu gweld ar 1 Gorffennaf, mae 13 o fyfyrwyr ymchwil ac academyddion Cymraeg wedi mynd ati i recordio cyflwyniadau ymlaen llaw. Isod, cewch fynediad at y cyfan a gofynnwn i chi eu gwylio a’u mwynhau yn eich amser eich hun cyn y Gynhadledd. Ewch ati i baratoi cwestiynau os gwelwch yn dda! Bydd cyfle i chi holi eich cwestiwn rhwng 2 a 3:30 ar 1 Gorffennaf. Gofynnwn i chi gyflwyno eich cwestiynau ar Twitter trwy ddefnyddio #cynhadleddymchwil20 ac mae cyfrifon Twitter y cyfranwyr i’w gweld wrth i chi edrych ar y cyflwyniadau. Os nad ydych chi’n defnyddio Twitter, holwch eich cwestiynau yn y blwch perthnasol sydd i’w weld o dan bob cyflwyniad. Mwynhewch a chyfrannwch!
Cynhadledd Wyddonol 2019
Cynhaliwyd Cynhadledd Wyddonol 2019 yng Nghanolfan Medrus, Prifysgol Aberystwyth, ar 6 Mehefin 2019. Roedd y gynhadledd yn gyfle i gyflwyno'r ymchwil gwyddonol ddiweddaraf trwy gyfrwng y Gymraeg. Yma ceir casgliad o gyflwyniadau a fideos o'r gynhadledd.