Wyt ti eisiau dysgu sut i fachu sylw ar y cyfryngau cymdeithasol? Beth am greu cynnwys fydd yn cael ei rannu i bob cwr o'r ryngrwyd? Eisiau tips gan yr arbenigwyr? Mae Sbia ar Hwn yn gwrs digidol newydd i dy helpu i lwyddo ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae'r cwrs digidol hwn wedi'i ddylunio i helpu myfyrwyr a disgyblion ysgol i baratoi ar gyfer gweithio ym myd y cyfryngau cymdeithasol. Byddwn yn edrych ar sut i fachu a hoelio sylw, creu cynnwys gafaelgar, sut i gyflwyno straeon newyddion a defnyddio'r Gymraeg yn effeithiol i gyfathrebu â chynulleidfaoedd amrywiol.
Amserlen Fideo: Hanes yr Iaith
Adnodd fideo newydd sy’n dod â hanes yr iaith Gymraeg yn fyw mewn 4 munud. O’r Frythoneg, geni’r Gymraeg a’r fersiynau ysgrifenedig cynharaf yn Oes y Tywysogion drwy’r Deddfau Uno a’r Chwyldro Diwydiannol i sefydlu’r Urdd ac ysgolion cyfrwng Cymraeg yn yr ugeinfed ganrif, dyma fideo sy’n mynd o’r flwyddyn 40 i 2022, pan ddefnyddiwyd y Gymraeg am y tro cyntaf ar y llwyfan chwaraeon mwyaf un, sef yng Nghwpan pêl-droed y Byd. “Heddiw, mae dros hanner miliwn yn siarad yr iaith ac mae Llywodraeth Cymru am gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 fel bod y Gymraeg yn dod yn rhan annatod o fywyd bob dydd, mewn cymunedau, ysgolion, yn y gwaith a thechnoleg ddigidol.” Adnodd i’w ddefnyddio’n eang gyda dosbarthiadau Cymraeg o bob oed, ac yn benodol ar gyfer Cymraeg Ail Iaith Safon Uwch Uned 5 (Y Gymraeg yn y Gymdeithas.) Dolen i'r fideo ar YouTube - gllir dewis isdeitlau (Cymraeg) ar y fideo yn YouTube (bydd isdeitlau Saesneg ar gael yn fuan). Ariannir gan Lywodraeth Cymru.
Cynhadledd Technoleg a Dwyieithrwydd
Recordiadau o'r sesiynau a gynhaliwyd yn y Gynhadledd Technoleg a Dwyieithrywdd eleni. Roedd y gynhadledd yn ymdrin ag agweddau yn ymwneud â ddefnyddio technoleg i ddarparu’n ddwyieithog ac yn Gymraeg yn y sectorau addysg uwch, addysg bellach a phrentisiaethau.
Llawlyfr Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol – Egwyddorion a Chyd-destunau
Gweler ddolen at wefan Atebol isod er mwyn prynu'r llyfr Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Egwyddorion a Chyd-destunau gan Carol Bennett, Sara Jones, Rhiannon Salisbury a Philip Webber. Mae’r llyfr hwn yn addas ar gyfer cymhwyster Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a Chyd-destunau, sy’n rhan o’r gyfres o gymwysterau Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant yng Nghymru a ddarperir gan City & Guilds/CBAC. Mae’r cymhwyster a’r gyfrol hon wedi’u hanelu at ddysgwyr ôl-16 sy’n awyddus i ddysgu mwy am y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol. Yn addas ar gyfer Lefel 3 Tystysgrif, Diploma Sylfaen, Diploma neu’r Diploma Estynedig. Yn cynnig llwybr dilyniant addas ar gyfer dysgwyr sydd wedi astudio cymwysterau Lefel 2 ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant. Mae’r cymhwyster a’r gyfrol hon yn addas hefyd ar gyfer dysgwyr nad ydyn nhw wedi astudio Iechyd a Gofal Cymdeithasol o’r blaen. Adnodd penodol ar gyfer Unedau 4, 5 a 6 y cymhwyster. Bydd hefyd yn eich paratoi ar gyfer arholiadau allanol a’r asesiadau perthnasol. Yn cynnig arweiniad ar gyfer astudio’r gwahanol bynciau er mwyn gwneud yn siŵr y bydd gennych yr wybodaeth a’r sgiliau angenrheidiol sy’n sylfaen gadarn i lwyddiant yn y maes hwn. Cyfle i fyfyrio ar eich profiadau a chyfle hefyd i wneud gwaith ymchwil pellach i wella eich dealltwriaeth. Astudiaethau achos sy’n rhoi cyfle i chi osod yr hyn rydych chi wedi’i ddysgu o fewn cyd-destun yr hyn y byddwch yn ei wynebu yn eich gwaith o ofalu am eraill.
Llond Ceg - Bwyd Cymreig Cynaliadwy
Mae Llond Ceg yn cynnig adnodd hyblyg a hygyrch i unrhyw un sy'n dymuno deall a dysgu mwy am gynaliadwyedd. Mae’r wefan wedi ei chreu er mwyn cael ei defnyddio mewn ffordd hyblyg ar gyfer cychwyn sgyrsiau am fwyd Cymreig, am drefniant presennol y system fwyd, am wastraff bwyd ac yn fwyaf pwysig am sut mae nifer fawr o ffermwyr Cymru yn ceisio cynhyrchu bwyd drwy ddulliau cynaliadwy. Mae'r cynnwys yn cyflwyno a thrafod 10 rheswm pam fod bwyd lleol Cymreig yn fwy cynaliadwy o’i gymharu â bwyd a gynhyrchir dramor. Ceir hefyd cyfres o 3 podlediad sy'n cyflwyno gwahanol agweddau o'r gadwyn fwyd Cymreig. Mae'r adnodd yn addas ar gyfer y cyhoedd, grwpiau BACC ôl 16 a dysgwyr lefel gradd.
Celf a Dylunio ar y MAP 2024
Nod ‘Celf a Dylunio ar y Map’ yw cynnig cyfle unigryw i fyfyrwyr Celf a Dylunio cyfrwng Cymraeg ddod at ei gilydd mewn un lle i rannu a thrafod eu gwaith ac i elwa o brofiad artistiaid ac eraill sy’n gweithio yn y diwydiant. Mae'r myfyrwyr hefyd yn cymryd rhan mewn archwilio lleoliad penodol ac ymateb yn greadigol i'r lleoliad hwnnw ac i friff. Y lleoliad eleni oedd Abertawe a thema’r ŵyl oedd ‘Yr Hyll a’r Hyfryd’. Gwahoddwyd tri ymarferydd Celf i’r ŵyl eleni i rannu eu taith gelfyddydol, sef Kath Ashill, Rhian Jones a Vivien Roule. Mae’r fideos a ddarperir yma yn rhoi blas o’r ŵyl yn ogystal â rhoi cipolwg ar fenter ymarferwyr celfyddydol a’u teithiau yn y byd celf.
Prosiect Pūtahitanga: Cerddoriaeth, Iaith, a Hunaniaeth
Pūtahitanga: gair te reo Māori (yr iaith Māori) sy’n disgrifio cymuned yn dod at ei gilydd er mwyn cydweithio ar syniad, pwnc, neu her benodol. Mae’r gair yn ymgorffori ethos y prosiect ymchwil sy’n ei ddefnyddio fel teitl: Prosiect Pūtahitanga. Dyma brosiect sy’n archwilio cerddoriaeth boblogaidd, iaith a hunaniaeth yn y cyd-destun Cymreig a’r cyd-destun Māori. Fel rhan o’r prosiect, cafodd Dr Elen Ifan o Brifysgol Caerdydd Grant Arloesi gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i redeg gweithdai yn Aotearoa (Seland Newydd) a Chymru gyda cherddorion sy’n defnyddio’r iaith Māori a’r iaith Gymraeg yn eu gwaith. Mae’r adnodd hwn yn rhannu clipiau o’r gweithdy yng Nghaerdydd ac yn cynnwys gweithgareddau i’ch cynnwys chi yn ein ymchwil hefyd. Mae wedi’i gynllunio ar gyfer myfyrwyr addysg uwch yn bennaf, ond mae hefyd yn berthnasol i unrhyw un sy’n ymddiddori mewn cerddoriaeth boblogaidd Gymraeg ac mae’r daflen waith yn addas ar gyfer lefel UG a Safon Uwch hefyd. Bwriad y prosiect yn ei hanfod yw dod o hyd i bwyntiau cyswllt rhwng profiadau cerddorion sy’n defnyddio dwy iaith leiafrifol (y Gymraeg a te reo (yr iaith) Māori), gan geisio deall yr heriau amrywiol sy’n wynebu’r cymunedau cerddorol hyn, ond heb gymharu’n uniongyrchol. Mae’r prosiect yn defnyddio dulliau ymchwil creadigol ac yn cynnwys cynulleidfaoedd yn yr ymchwil. Mae’r adnodd hwn yn rhan o’r gwaith hwnnw. Mae’r ffeiliau fideo yn cynnwys cyflwyniad gan y prif ymchwilydd a chlipiau o weithdy a gynhaliwyd yng Nghaerdydd ym mis Tachwedd 2023. Mae’r daflen waith yn arwain y sawl sy'n defnyddio'r adnodd drwy'r gweithgareddau, eu hannog i ymwneud gyda themâu’r prosiect, meddwl am beth sy’n berthnasol neu’n bwysig iddyn nhw, ac yn gwahodd ymatebion creadigol i’r ymchwil.
Canllawiau Adolygu ar Gyfer y Cymhwyster Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Craidd
Canllawiau adolygu sydd wedi cael eu creu gan ACT ar gyfer unedau 1-5 yn y cymhwyster Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Craidd. Diolch i ACT am gytuno i rannu.
Sgwrs Adnoddau Cymdeithaseg
Adnoddau Cymdeithaseg Cymraeg ar-lein Sgwrs 20 munud yn cyflwyno adnoddau a grewyd gan ddarlithwyr Cymdeithaseg. Mae'r adnoddau sy'n cael eu cyflwyno yn ystod y sgwrs yn ddefnyddiol i athrawon, disgyblion, dysgwyr a darlithwyr i gefnogi eu dysgu ac addysgu. Mae'r adnoddau i gyd ar wefan Porth Adnoddau'r Coleg Cymraeg. Mae'r rhain yn cynnwys: Adnoddau 'PAAC' sydd ar themâu: Cyflwyniad i Gymdeithaseg, Addysg, Y Teulu, Sgiliau Ymchwil, ac Anghydraddoldeb Cymdeithasol. Modiwl Astudio Cymru Gyfoes Modiwl Theori Gymdeithasegol Esboniadur Gwyddorau Cymdeithasol.
Cynhyrchu cnydau yng Nghymru
Mae'r adnodd hwn yn edrych ar gynhyrchu cnydau yng Nghymru. Mae’n addas ar gyfer dysgwyr mewn addysg bellach ac uwch sy’n astudio rhaglenni o lefelau 2 i 6. Mae yna wyth uned, pob un yn cynnwys gwybodaeth am wahanol agweddau ar gynhyrchu cnydau. Mae'r rhain yn cynnwys agweddau ar drin, sefydlu, tyfu, gwrteithio, gwarchod, cynaeafu a storio cnydau. Mae'r adnodd yn cynnwys yr unedau canlynol: Cyflwyniad i gynhyrchu cnydau yng Nghymru Trin y tir Sefydlu cnwd Tyfiant a datblygiad cnydau Teilo cnwd Diogelu cnydau Cynaefu cnwd Storio cnydau Mae'r adnodd hwn wedi'i lwyfannu a'i gyhoeddi ar wefan HWB Llywodraeth Cymru.
Astudiaethau Busnes
Yn yr adnodd hwn byddwch yn cael y cyfle i ddatblygu eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth o fusnesau a’u marchnadoedd. Mae’r adnodd wedi ei rannu’n chwe uned: Archwilio Busnes Marchnata Cyllid Personol a Busnes Busnes Rhyngwladol Egwyddorion Rheolaeth Gwneud Penderfyniadau Busnes Yma cewch wybodaeth ynglŷn â busnesau a chwmnïau yng Nghymru y gallwch ei defnyddio i ymchwilio ymhellach neu er mwyn cwblhau aseiniadau. Byddwch hefyd yn dod ar draws ymarferion byr ac astudiaethau achos a fydd yn profi eich dealltwriaeth yn fras. Mae'r adnodd hwn yn targedu dysgwyr sy'n astudio cyrsiau busnes ar lefel 3.
Artistiaid o Gymru: Dehongli Celf
Strategaeth i helpu disgyblion o bob oedran ddehongli celf. Daw'r darnau yma o gasgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru a daw'r adnodd o wefan Hwb Llywodraeth Cymru.