Cynlluniwyd yr adnoddau hyn i gynorthwyo tiwtoriaid i feithrin eu sgiliau addysgu dwyieithog a chynyddu eu hymwybyddiaeth o Gofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR) a’r set ddata LA26. Defnyddir y set ddata i gofnodi darpariaeth Gymraeg a dwyieithog yn y sector addysg ôl-16 yng Nghymru. Nod yr adnoddau yw rhoi hyder i diwtoriaid yn y ffordd y cofnodir gweithgarwch a gwblhawyd yn y Gymraeg neu’n ddwyieithog ar y LLWR, a’u helpu i ganfod ble mae eu darpariaeth ar hyn o bryd. Fe’u cynlluniwyd hefyd i roi cyngor ymarferol i diwtoriaid ar sut i symud eu haddysgu i fyny’r continwwm dwyieithrwydd. Mae’r pecyn yn cynnwys: Llawlyfr - dogfen waith y gellir ei defnyddio i gyfeirio ati, yn ogystal ag i sefydlu targedau personol penodol ar gyfer cynyddu’r ddarpariaeth Gymraeg/dwyieithog. Cwrs e-ddysgu ar-lein - Deall Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR). Mae’r modiwl dysgu ar-lein rhyngweithiol hwn yn rhoi trosolwg o Gofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR) a sut y caiff ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru i gofnodi darpariaeth Gymraeg a dwyieithog yn y sector addysg ôl-16 yng Nghymru. Ap geirfa ddwyieithog Sgiliaith - ‘Ap Adborth Sgiliaith’ - Yn yr ap hwn ceir ystod eang o eiriau ac ymadroddion cyffredinol y gall tiwtoriaid eu defnyddio i roi adborth a phrofiadau Cymraeg/ dwyieithog i ddysgwyr. Mae dolenni i'r adnoddau ar gael isod ac maent hefyd ar gael ar wefan Sgiliaith sgiliaith@gllm.ac.uk
Pecyn Cefnogi Tiwtoriaid Addysg Bellach
Am Blant - podlediad
Podlediad sy’n trin a thrafod pynciau sy'n effeithio ar blant a phobl ifanc yng Nghymru heddiw yn ogystal a chael gwybod barn plant a phobl ifanc Podlediad #1: Beth yw Plentyndod? Yn y podlediad cyntaf hwn mae Dr Nia Young, Dr Sian Wyn Siencyn, Rowena Hughes Jones a Ceryl Davies yn trafod beth ydy ystyr plentyndod, beth mae'n olygu i fod yn blentyn yng Nghymru heddiw ac a ydy cymdeithas yn gwrando ar lais y plentyn. Podlediad #2: Beth yw ieuenctid? Yn y bennod yma Dr Nia Young, Dr Sian Wyn Siencyn, Owain Gethin Davies, a Ceryl Davies yn trafod beth yw ieuenctid? Sut beth ydy bod yn berson ifanc yng Nghymru heddiw? Podlediad #3: Beth sydd ei angen ar blentyn...? Beth sydd ei angen ar blentyn er mwyn tyfu, datblygu a ffynnu? Yn y podlediad hwn mae Ian Keith Jones (Pennaeth Ysgol San Sior, Llandudno) yn ymuno efo Dr Nia Young, Dr Siwan Roberts, Dr Margiad William a Rowena Hughes Jones o Ysgol Gwyddorau Addysg, Prifysgol Bangor i drafod beth sydd ei angen ar blentyn i ddatblygu a ffynnu. Pa mor bwysig ydy modelau rol, cysondeb a sefydlogrwydd? Beth ydy bod yn riant da? Podlediad #4: Hawliau Plant Yn y podlediad yma mae Rowena Hughes Jones, Dr Ceryl Davies, Gwenan Prysor, Arwyn Roberts a Chomisiynydd Plant Cymru, Yr Athro Sally Holland, yn ymuno efo Rhian Tomos i drafod hawliau plant a phobol ifanc. Ydy plant yn gwybod pa hawliau sydd ganddyn nhw? A oes angen ychwanegu at yr hawliau yng ngoleuni Cofid 19? Podlediad #5: Llais Rhieni A ydy agweddau cymdeithas wedi newid tuag at blant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu neu anableddau corfforol a sut mae'r cyfnod Cofid wedi effeithio arnyn nhw? Ydan ni'n gwrando digon ar y rhieni a'r gofalwyr? I gael gwybod mwy gwrandewch ar Elin Llwyd Morgan (mam Joel sydd ag awtistiaeth), Siôn Meredith, tad Huw (sydd a Syndrom Down), Dr Nia Young (darlithydd ym Mhrifysgol Bangor), Bethan Morris Jones, (Pennaeth Ysgol Pendalar, Caernarfon) a Lora Glynwen Williams, Swyddog Ansawdd, Gwasanaeth ADYaCH Gwynedd a Môn. Podlediad #6: Beth ydy chwarae? Beth ydy chwarae? Pa bryd rydan ni'n rhoi'r gorau i chwarae? Beth ydy pwrpas chwarae? Gwrandewch ar y 6ed podlediad yn y gyfres o bodlediadau AM BLANT i glywed y drafodaeth gan aelodau'r panel a sylwadau pobl ifanc am eu profiadau nhw o chwarae. Podlediad #7: Sut mae cerddoriaeth, celf a drama yn cyfrannu at ddatblygiad plentyn? Podlediad wedi recordio’n fyw ar faes Eisteddfod Tregaron gyda Dr Gwenllian Lansdown Davies, Cerys Edwards, Elen ap Robert, Dr Mair Edwards a Dr Nia Young.
Dylunio a datblygu eich ymarfer dysgu cyfunol
Mae’r rhestr chwarae yma yn cynnwys 5 cwrs ar-lein ar gyfer ymarferwyr addysgu ôl-16 i archwilio’r defnydd o fodelau a damcaniaethau technoleg dysgu i’w helpu i ddatblygu eu dulliau dysgu cyfunol. Mae’r cyrsiau byr hyn wedi’u cynllunio mewn modd hyblyg i’ch galluogi i ‘blymio i mewn ac allan’. Mae’r cyrsiau wedi’u datblygu gan arbenigwyr Jisc, yn dilyn argymhellion gan Estyn, ac wedi’u hariannu gan Lywodraeth Cymru.
Gwyddor Anifeiliaid
Mae’r adnodd hwn o wefan Hwb, yn addas ar gyfer dysgwyr Amaethyddiaeth, garddwriaeth a gofalu am anifeiliaid, yn dangos strwythur a swyddogaethau organau anifeiliaid fferm. Mae’n amlygu pwysigrwydd eu systemau biolegol a’r gwahanol ddulliau bridio a thechnolegau atgenhedlu ar y fferm.
Cynhadledd Llenyddiaeth Gymraeg: Llwybrau Newydd
Cynhadledd Llenyddiaeth Gymraeg: Llwybrau Newydd 9 Mehefin 2022, Siambr y Cyngor, Prif Adeilad Prifysgol Caerdydd, Plas y Parc, Caerdydd, CF10 3AT 9.45yb - 17.15yp Cynhadledd wyneb yn wyneb yn cael ei threfnu gan Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd o dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Rhaglen lawn o bapurau difyr, gyda'r ddarlith gyweirnod yn cael ei thraddodi gan Yr Athro Mererid Hopwood. Rhaglen: Llenyddiaeth Fodern (10-11.30) Dr Siwan Rosser, ‘Llenydda dan Amodau: Llyfrau i Blant a Phobl Ifanc’ Sara Borda Green, 'Rôl Patagonia yn y dychymyg Cymreig - rhai agweddau o Un o ble wyt ti? gan Ioan Kidd (2011)' Dr Ffion Eluned Owen, ‘ “Brwydr fawr ein bryd ar fyw”: Trosolwg o’r Ymateb Barddonol i Argyfwng y Gymraeg yng Nghymunedau Gwledig Cymru (1991-2021)’ Y Ddarlith Gyweirnod (12.00-13.00) Yr Athro Mererid Hopwood, ‘ “Nid yw hon ar fap …”: chwilio’r hewl sydd yn rhywle rhwng ieithoedd’ Yr Oesoedd Canol (13.45-15.15) Dr Rebecca Thomas, ‘Amlieithrwydd Canoloesol mewn Rhyddiaith Ddiweddar’ Dr David Callander, ‘Canu Myrddin: Heriau a Chyfleon’ Dr Ben Guy, ‘O Achaws Nyth yr Ehedydd? Enwau Lleoedd a Chwedl Myrddin’ O'r Cyfnod Modern Cynnar i'r 20fed Ganrif (15.45-17.15) Manon Gwynant, ‘Shylock a Sieiloc: gelyn neu ddioddefwr? Archwiliad o gyfieithiad Cymraeg J. T. Jones, Marsiandwr Fenis, ac effaith trosi Shylock yn Sieiloc' Dewi Alter, ‘Pwy yw’r Cymry? Cof diwylliannol a’r Ffydd Ddi-ffuant gan Charles Edwards (1677)’ Dr Gareth Evans-Jones, ‘Llythyr Un o Drigolion y Lleuad at Drigolion y Ddaear: Gwrth-gaethwasiaeth a Llenyddiaeth Ffuglen Wyddonol y 19eg Ganrif’ Cliciwch isod i weld y rhaglen yn llawn. Mynediad a lluniaeth am ddim. Cofrestrwch i fynychu. Croeso i bawb. Mae'r gynhadledd yn y Gymraeg - does dim cyfieithu ar y pryd. Dilynwch y ddolen isod i gofrestru. Mae croeso ichi gysylltu â'r trefnwyr gydag unrhyw ymholiad: Dr Rhiannon Marks (MarksR@caerdydd.ac.uk) a Dr David Callander (CallanderD@caerdydd.ac.uk)
Pam fod Llafur yn ennill eto, ac eto, ac eto?
Cyflwyniad Yr Athro Richard Wyn Jones, wedi'i recordio ar y Maes, Eisteddfod Tregaron 2022. Mae Richard yn trafod hanes o lwyddiant etholiadol Llafur Cymru dros y ganrif ddiwethaf, trwy'r prism o hunaniaethau byd olwg Cymreig.
Celf a Dylunio ar y Map - 2022
MAP - Myfyrwyr, Arloesi, Perfformio Gŵyl rithiol i fyfyrwyr Celf a Dylunio cyfrwng Cymraeg. Nod ‘Gŵyl Celf a Dylunio ar y MAP’ yw cynnig cyfle unigryw i fyfyrwyr Celf a Dylunio cyfrwng Cymraeg i ddod ynghyd mewn un man i rannu a thrafod eu gwaith ac i elwa ar brofiad artistiaid ac eraill sy’n gweithio yn y diwydiant. Cynhaliwyd yr ŵyl ar-lein eto eleni, gyda thair sesiwn yn ystod misoedd Chwefror a Mai. Wythnos 1: Cyflwyniadau gan yr artistiaid Luned Rhys Parri a Meinir Mathias Wythnos 2: Cyflwyniad gan y dylunydd graffeg Guto Evans Wythnos 3: Lansiad arddangosfa gelf rithiol Golwg ar Gelf
E-lyfrau Cyfieithu
Dyma adnoddau newydd ym maes cyfieithu proffesiynol sef cyfres o e-lyfrau unigryw: E-lyfr Cyfieithu Ysgrifenedig (Golygyddion: Mandi Morse, Lowri Lloyd, Lynwen Davies) E-lyfr Cyfieithu Ar Y Pryd (Golygyddion: Mandi Morse, Lowri Lloyd, Lynwen Davies) Pecyn Ymarfer Cyfieithu gan Heini Gruffudd Ceir cyfraniadau a chyngor gan arbenigwyr ym maes cyfieithu testun a chyfieithu ar y pryd yng Nghymru. Bwriad yr e-lyfrau felly yw sbarduno diddordeb, cynnig cyngor a chefnogi cyfieithwyr wrth iddynt ddatblygu sgiliau a magu profiad. O ganlyniad, dyma adnoddau arbennig i gefnogi myfyrwyr a phawb sy’n gweithio yn y diwydiant cyfieithu proffesiynol yng Nghymru.
Cwrs Codi Hyder i Aseswyr
Diben y cwrs hunanastudio ar-lein hwn yw rhoi’r adnoddau a’r wybodaeth i aseswyr weithio yn ddwyieithog yn hyderus gyda’u dysgwyr. Mae'r cwrs yn ystyried rhai o’r buddion a'r heriau o weithio'n ddwyieithog ac mae'n cyflwyno gwybodaeth, adnoddau a chymhelliant i allu datblygu darpariaeth a gweithio yn hyderus trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r cwrs yn ddwyieithog, ac wedi ei anelu at godi hyder aseswyr wrth iddynt ddarparu eu hyfforddiant trwy gyfrwng y Gymraeg.
Gwyddorau Chwaraeon: Hyfforddi
Nod y gyfres o adnoddau a gyflwynir yma yw rhoi gwybodaeth am rai o'r pynciau damcaniaethol ac ymchwil allweddol sy'n ymwneud â hyfforddi o ansawdd uchel mewn cyd-destun chwaraeon. Mae pob uned yn cynnwys: crynodeb darlith ar ffurf cyflwyniadau fideo cwestiynau seminar llyfryddiaeth Mae’r holl unedau a restrir isod i’w cael yma mewn un pecyn. Cyfranwyr y thema hon yw: Dr Julian Owen Seren Evans Dylan Blain Sara Hilton Rhiannon Wade Dr Carwyn Jones Cynhyrchwyd y deunyddiau hyn â chefnogaeth Cronfa Adfer a Buddsoddi Addysg Uwch Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.
Seicoleg: Dulliau Ymchwil
Nod y gyfres hon o adnoddau yw cyflwyno gwybodaeth am rai o'r prif egwyddorion a thechnegau sy’n cael eu defnyddio wrth gynnal ymchwil ym maes seicoleg. Mae pob uned yn cynnwys: crynodeb darlith ar ffurf cyflwyniadau fideo cwis aml-ddewis cwestiynau seminar llyfryddiaeth Mae’r holl unedau a restrir isod i’w cael yma mewn un pecyn. Cyfranwyr y thema hon yw: Emma Hughes-Parry Dr Mirain Rhys Dr Hanna Binks Dr Kyle Jones Dr Gwennant Evans Dr Rachel Rahman. Cynhyrchwyd y deunyddiau hyn â chefnogaeth Cronfa Adfer a Buddsoddi Addysg Uwch Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.
Adnoddau E-Ddysgu Consortiwm Addysg Ôl-16 Gwynedd ac Ynys Môn
Cyfres o adnoddau rhyngweithiol dwyieithog e-ddysgu ar y pynciau isod: Manteision astudio Gofal Plant trwy’r Gymraeg neu’n Ddwyieithog Manteision astudio Adeiladwaith trwy’r Gymraeg neu’n Ddwyieithog Manteision astudio Busnes trwy’r Gymraeg neu’n Ddwyieithog Manteision astudio Arlwyaeth trwy’r Gymraeg neu’n Ddwyieithog Ailsefyll Mathemateg TGAU Ailsefyll Cymraeg TGAU Peirianneg Lefel 3 Cerddoriaeth Lefel A Ffrangeg Lefel A TGCh Lefel AS