Dyma bodlediad yn y Gymraeg sydd ychydig yn wahanol i’r arfer, a sydd – fel mae’r teitl yn ei awgrymu – yn mynd i’r afael â rhai o gwestiynau mawr bywyd. Ariennir y podlediad gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a chyflwynir y gyfres gan Dr Huw Williams, darllenydd mewn Athroniaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, sydd yn cynnal sgyrsiau bywiog a ffraeth â chyfeillion amrywiol, gan gynnwys arbenigwyr a rhai academyddion blaenllaw Cymraeg. Rhagdybiaeth y gyfres yw bod pob un ohonom yn hel meddyliau ar faterion dwys sy’n rhan o fywyd pob dydd, ac mae trafod a myfyrio ar y themâu hyn yn beth iach a phwysig. Mae’r sgyrsiau yn cyflwyno’r trafodaethau drwy gyfrwng iaith bob dydd mewn ffordd hygyrch; dylai apelio at ddysgwyr y 6ed dosbarth, myfyrwyr prifysgol, ac oedolion eraill nad oes ganddynt wybodaeth flaenorol o’r pynciau dan sylw. Felly ymunwch â ni (a pharatowch hefyd am daith fach i Roswell!) Cynhyrchir y gyfres, gyda cherddoriaeth wreiddiol, gan Osian Gwynedd.
Beth yw ystyr bywyd? ... a chwestiynau mawr eraill
Fideos Rhannu Arfer Dda – Cynllun Mentora TAR AHO
Ydych chi’n arwain neu’n darlithio ar y cwrs TAR AHO (Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg, Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol)? Oes gennych chi fyfyrwyr sy’n siarad Cymraeg ac sy’n awyddus i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol? Os felly, mae’r adnodd hwn wedi’i gynllunio i’ch cefnogi chi. Mae’r gyfres yn cynnwys chwe fideo sy’n cynnwys aelodau staff sy’n addysgu’n ddwyieithog yn y sector addysg bellach a phrentisiaethau, ac sydd wedi cwblhau’r cwrs TAR AHO yn ddiweddar. Mae’r fideos hyn yn cynnig mewnwelediadau gwerthfawr i’w profiadau, ynghyd â chynghorion ymarferol ac enghreifftiau o arfer da y gellir eu rhannu gyda’ch myfyrwyr wrth iddynt baratoi i fynd i weithio yn y sector. Mae yna hefyd Becyn Rhannu Arfer Da, sy'n cynnig arfer da ac arloesol i chi annog a chefnogi myfyrwyr TAR i ddefnyddio eu sgiliau iaith Gymraeg.
Cit Chwaraeon
Casgliad o adnoddau e-ddysgu Chwaraeon wedi'u teilwra ar gyfer dysgwyr ar Lefel 2. Ceir gwybodaeth ymarferol am sut i gynllunio a rhedeg sesiwn, y gwahanol swyddi a chyfrifoldebau yn y byd chwaraeon, cyngor defnyddiol a chip ar fywyd bob dydd amrywiaeth o bobl broffesiynol yn y maes. Mae'r adnodd wedi'i rannu yn dair uned: Cynllunio a Chyflawni Sesiwn Chwaraeon Rolau a chyfrifoldebau Staff Chwaraeon a Hamdden Gweithio yn y Diwydiant Chwaraeon
Sgwrs Adnoddau Cymdeithaseg
Adnoddau Cymdeithaseg Cymraeg ar-lein Sgwrs 20 munud yn cyflwyno adnoddau a grewyd gan ddarlithwyr Cymdeithaseg. Mae'r adnoddau sy'n cael eu cyflwyno yn ystod y sgwrs yn ddefnyddiol i athrawon, disgyblion, dysgwyr a darlithwyr i gefnogi eu dysgu ac addysgu. Mae'r adnoddau i gyd ar wefan Porth Adnoddau'r Coleg Cymraeg. Mae'r rhain yn cynnwys: Adnoddau 'PAAC' sydd ar themâu: Cyflwyniad i Gymdeithaseg, Addysg, Y Teulu, Sgiliau Ymchwil, ac Anghydraddoldeb Cymdeithasol. Modiwl Astudio Cymru Gyfoes Modiwl Theori Gymdeithasegol Esboniadur Gwyddorau Cymdeithasol.
Cynhyrchu cnydau yng Nghymru
Mae'r adnodd hwn yn edrych ar gynhyrchu cnydau yng Nghymru. Mae’n addas ar gyfer dysgwyr mewn addysg bellach ac uwch sy’n astudio rhaglenni o lefelau 2 i 6. Mae yna wyth uned, pob un yn cynnwys gwybodaeth am wahanol agweddau ar gynhyrchu cnydau. Mae'r rhain yn cynnwys agweddau ar drin, sefydlu, tyfu, gwrteithio, gwarchod, cynaeafu a storio cnydau. Mae'r adnodd yn cynnwys yr unedau canlynol: Cyflwyniad i gynhyrchu cnydau yng Nghymru Trin y tir Sefydlu cnwd Tyfiant a datblygiad cnydau Teilo cnwd Diogelu cnydau Cynaefu cnwd Storio cnydau Mae'r adnodd hwn wedi'i lwyfannu a'i gyhoeddi ar wefan HWB Llywodraeth Cymru.
Gweithdai Adolygu Cymdeithaseg
Dau weithdy ar-lein ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio Lefel A neu arholiadau Lefel 2 neu 3 mewn Cymdeithaseg. Mae'r Gweithdy gyntaf ar thema 'Sgiliau Ymchwil' a'r ail weithdy ar thema 'Anghyfartaledd'. Arweinir y Gweithdai gan ddarlithwyr o brifysgolion Bangor a Chaerdydd.
Prosiect Pūtahitanga: Cerddoriaeth, Iaith, a Hunaniaeth
Pūtahitanga: gair te reo Māori (yr iaith Māori) sy’n disgrifio cymuned yn dod at ei gilydd er mwyn cydweithio ar syniad, pwnc, neu her benodol. Mae’r gair yn ymgorffori ethos y prosiect ymchwil sy’n ei ddefnyddio fel teitl: Prosiect Pūtahitanga. Dyma brosiect sy’n archwilio cerddoriaeth boblogaidd, iaith a hunaniaeth yn y cyd-destun Cymreig a’r cyd-destun Māori. Fel rhan o’r prosiect, cafodd Dr Elen Ifan o Brifysgol Caerdydd Grant Arloesi gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i redeg gweithdai yn Aotearoa (Seland Newydd) a Chymru gyda cherddorion sy’n defnyddio’r iaith Māori a’r iaith Gymraeg yn eu gwaith. Mae’r adnodd hwn yn rhannu clipiau o’r gweithdy yng Nghaerdydd ac yn cynnwys gweithgareddau i’ch cynnwys chi yn ein ymchwil hefyd. Mae wedi’i gynllunio ar gyfer myfyrwyr addysg uwch yn bennaf, ond mae hefyd yn berthnasol i unrhyw un sy’n ymddiddori mewn cerddoriaeth boblogaidd Gymraeg ac mae’r daflen waith yn addas ar gyfer lefel UG a Safon Uwch hefyd. Bwriad y prosiect yn ei hanfod yw dod o hyd i bwyntiau cyswllt rhwng profiadau cerddorion sy’n defnyddio dwy iaith leiafrifol (y Gymraeg a te reo (yr iaith) Māori), gan geisio deall yr heriau amrywiol sy’n wynebu’r cymunedau cerddorol hyn, ond heb gymharu’n uniongyrchol. Mae’r prosiect yn defnyddio dulliau ymchwil creadigol ac yn cynnwys cynulleidfaoedd yn yr ymchwil. Mae’r adnodd hwn yn rhan o’r gwaith hwnnw. Mae’r ffeiliau fideo yn cynnwys cyflwyniad gan y prif ymchwilydd a chlipiau o weithdy a gynhaliwyd yng Nghaerdydd ym mis Tachwedd 2023. Mae’r daflen waith yn arwain y sawl sy'n defnyddio'r adnodd drwy'r gweithgareddau, eu hannog i ymwneud gyda themâu’r prosiect, meddwl am beth sy’n berthnasol neu’n bwysig iddyn nhw, ac yn gwahodd ymatebion creadigol i’r ymchwil.
BLC Unedau Chwaraeon Lefel 3 (B)
25 o sesiynau dysgu cyfunol ychwanegol ar gyfer dysgwyr sy’n astudio cwrs Chwaraeon (lefel 3). Mae modd gweld y sesiynau yn eich porwr drwy ddilyn y dolenni isod. Mae hefyd modd i golegau lawrlwytho'r cynnwys er mwyn eu gosod o fewn eu llwyfannau dysgu lleol. Mae ffeil zip yma yn cynnwys y ffeiliau SCORM ar gyfer yr holl unedau. Mae cynnwys y sesiynau hyn yn ddwyieithog, ond dim ond yn Gymraeg mae modd ateb y cwestiynau. Hawlfraint Heart of Worcestershire College ar ran The Blended Learning Consortium a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae’r adnoddau hyn i gael eu defnyddio mewn sefydliadau addysgiadol yn unig ac ni ddylid eu haddasu na’u hailwerthu.
Unedau Diwydiannau Creadigol
Mae'r casgliad hwn yn cynnwys chwech pecyn e-ddysgu ar y meysydd canlynol: Busnes o fewn y Diwydiannau Creadigol Celf a Dylunio o fewn y Diwydiannau Creadigol Cyfathrebu ac ymchwil ym maes y Cyfryngau Creadigol Archwilio’r Celfyddydau Perfformio ac Ymarfer Proffesiynol Llwybrau Gyrfa a chyfleoedd o fewn y Diwydiannau Creadigol yng Nghymru Y diwydiant cerddoriaeth ac ymarfer proffesiynol Mae'r pecynnau yn addas ar gyfer dysgwyr sy'n astudio'r cymwysterau perthnasol ar lefelau 2 a 3 mewn colegau addysg bellach.
Astudiaethau Busnes
Yn yr adnodd hwn byddwch yn cael y cyfle i ddatblygu eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth o fusnesau a’u marchnadoedd. Mae’r adnodd wedi ei rannu’n chwe uned: Archwilio Busnes Marchnata Cyllid Personol a Busnes Busnes Rhyngwladol Egwyddorion Rheolaeth Gwneud Penderfyniadau Busnes Yma cewch wybodaeth ynglŷn â busnesau a chwmnïau yng Nghymru y gallwch ei defnyddio i ymchwilio ymhellach neu er mwyn cwblhau aseiniadau. Byddwch hefyd yn dod ar draws ymarferion byr ac astudiaethau achos a fydd yn profi eich dealltwriaeth yn fras. Mae'r adnodd hwn yn targedu dysgwyr sy'n astudio cyrsiau busnes ar lefel 3.
Sbia ar hwn
Wyt ti eisiau dysgu sut i fachu sylw ar y cyfryngau cymdeithasol? Beth am greu cynnwys fydd yn cael ei rannu i bob cwr o'r ryngrwyd? Eisiau tips gan yr arbenigwyr? Mae Sbia ar Hwn yn gwrs digidol newydd i dy helpu i lwyddo ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae'r cwrs digidol hwn wedi'i ddylunio i helpu myfyrwyr a disgyblion ysgol i baratoi ar gyfer gweithio ym myd y cyfryngau cymdeithasol. Byddwn yn edrych ar sut i fachu a hoelio sylw, creu cynnwys gafaelgar, sut i gyflwyno straeon newyddion a defnyddio'r Gymraeg yn effeithiol i gyfathrebu â chynulleidfaoedd amrywiol.
Cynhadledd Technoleg a Dwyieithrwydd
Recordiadau o'r sesiynau a gynhaliwyd yn y Gynhadledd Technoleg a Dwyieithrywdd eleni. Roedd y gynhadledd yn ymdrin ag agweddau yn ymwneud â ddefnyddio technoleg i ddarparu’n ddwyieithog ac yn Gymraeg yn y sectorau addysg uwch, addysg bellach a phrentisiaethau.
