Nod yr ap hwn yw cefnogi dysgwyr, prentisiaid a gweithwyr sydd angen cefnogaeth i allu defnyddio’r Gymraeg yn hyderus mewn sefyllfaoedd proffesiynol sy’n ymwneud â Chwaraeon. Mae'r ap wedi'i rannu mewn i'r unedau canlynol: Geirfa ac ymadroddion cyffredinol Sgwrsio Chwaraeon Y Corff Y System Sgerbydol Cymalau Ffitrwydd Cymorth Cyntaf Hyfforddi
Ap Chwaraeon trwy'r Gymraeg
Gwobrau 2023
Mae’r Coleg yn dyfarnu nifer o wobrau i unigolion disglair yn ystod y flwyddyn, unai am waith, cyflawniad neu gyfraniad rhagorol mewn colegau addysg bellach, prifysgolion a phrentisiaethau. Hoffech chi enwebu rhywun/rhywrai sydd wedi gwneud gwahaniaeth yn eich sefydliad? Mae'r Noson Wobrau yn cynnig cyfle gwych i gydnabod eu gwaith a’u cyfraniad. Mae panel o swyddogion y Coleg ac aelodau allanol yn dyfarnu’r gwobrau hyn, a byddant yn cael eu cyflwyno i’r enillwyr yn Noson Wobrau’r Coleg ym Mehefin 2023. Mae’r cyfle i enwebu unigolion ar gyfer y gwobrau hyn nawr AR AGOR! Gallwch gyflwyno eich enwebiadau gan ddefnyddio’r ffurflen enwebu isod. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno enwebiadau yw hanner dydd, 10 Mawrth 2023. Dyma’r Gwobrau y gallwch enwebu unigolion ar eu cyfer eleni: Gwobrau Addysg Bellach a Phrenisiaethau: Gwobr Cynllun Gwreiddio - Addysgwr Arloesol Gwobr Cynllun Gwreiddio - Cyfraniad arbennig Gwobr Cynllun Gwreiddio - Cyfoethogi profiad y dysgwr/prentis Gwobr Addysg Bellach William Salesbury Gwobr Talent Newydd er cof am Gareth Pierce Gwobrau Addysg Uwch Gwobr Merêd Gwobr Eilir Hedd Morgan Gwobr Meddygaeth William Salesbury Gwobr Darlithwyr Cysylltiol - Adnodd cyfrwng Cymraeg rhagorol Gwobr Darlithwyr Cysylltiol - Gwobr y myfyrwyr Gwobr Darlithwyr Cysylltiol - Cyfraniad Eithriadol i addysg cyfrwng Cymraeg
Cynhadledd Wyddonol 2023
Bwriad y gynhadledd yw rhoi llwyfan i ymchwil wyddonol flaenllaw gan wyddonwyr Cymraeg. Mae rhoi’r cyfle i wyddonwyr drin a thrafod y Gwyddorau drwy gyfrwng y Gymraeg yn greiddiol i’r Coleg ers ei sefydlu ac mae’r gynhadledd yn mynd o nerth i nerth. O ddylunio cyffur newydd i drafod micro-blastig, mae’n gyfle i ni drin a thrafod amrywiol destunau o fewn y Gwyddorau. Eleni, mi fydd y gynhadledd yn un hybrid ac yn cael ei chynnal yn Ystafell y Cyngor, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ar Ddydd Iau 15fed Mehefin 2023. Cynhelir y gynhadledd yn y Gymraeg ac mi fydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gael. Mae croeso cynnes i bawb sy’n ymddiddori yn y gwyddorau i gofrestru ar gyfer y gynhadledd drwy ddilyn y ddolen isod. Bydd opsiwn i ddatgan a ydych am ymuno â ni wyneb yn wyneb neu ar-lein. Galwad i gyfrannu Gofynnir am bapurau o unrhyw ddisgyblaeth wyddonol (STEM). Croesawn gyflwyniadau gan fyfyrwyr ôl-radd, neu ymchwilwyr gyrfa gynnar, yn ogystal ag academyddion profiadol. Bydd y cyflwyniadau yn 20 munud o hyd gyda 10 munud o gwestiynau gan y gynulleidfa i ddilyn Yn ogystal, anogir cyfranwyr i gyflwyno erthygl i'w hystyried ar gyfer ei chyhoeddi yng nghyfnodolyn ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, sef Gwerddon (www.gwerddon.cymru). Gallwch weld enghreifftiau o gyflwyniadau’r gorffennol yma: https://www.porth.ac.uk/cy/collection/cynhadledd-wyddonol-2019 https://www.porth.ac.uk/cy/collection/cynhadledd-wyddonol-2021 Gofynnir i bawb sy’n dymuno cyflwyno yn y gynhadledd ddarparu teitl a chrynodeb o’u herthygl (nid mwy na 300 gair) at l.rees@colegcymraeg.ac.uk erbyn 24 Mawrth 2023. Yn ôl ein harfer, byddwn yn recordio’r cyflwyniadau a’u huwchlwytho i’r Porth Adnoddau. Cystadleuaeth Posteri Dylai’r poster fynegi syniad gwyddonol trwy gyfrwng y Gymraeg. Gellir defnyddio poster sydd eisoes wedi cael ei greu yn barod fel rhan o fodiwl. Bydd dwy gystadleuaeth poster; un i fyfyrwyr israddedig ac un i fyfyrwyr ôl-raddedig. Bydd gwobr o £50 yr un i enillwyr y ddau gategori.
Gweminarau Diwydiannau Creadigol i Ddysgwyr mewn Colegau Addysg Bellach (Tymor y Gwanwyn 2023)
Cyfres o weminarau i roi cyfle i ddysgwyr drafod eu pwnc trwy gyfrwng y Gymraeg. Daeth y siaradwyr gwadd canlynol i siarad gyda'r dysgwyr: 11.01.23 - Iwan England Pennaeth Di - Sgript S4C 18.01.23 - Naomi Hughes Arbenigwr Dylunio a Thechnoleg 25.01.23 - Izzy Rabey - Cyfarwyddwr Theatr a Cherddor 01.02.23 - Llio James - Dylunydd tecstiliau 08.02.23 - Rhuannedd Richards – Cyfarwyddwr BBC Cymru 15.02.23 - Huw Aaron -Awdur a Dylunydd 01.03.23 - Elan Elidyr - Dawnswraig 08.03.23 - Steffan Dafydd - Dylunydd a Cherddor 15.03.23 - Efa Blosse Mason - Animeiddiwr 22.03.23 – Taith Ceir dolenni i wylio'r sesiynau â recordiwyd isod.
Pecyn Adnoddau Amaethyddiaeth
Mae'r adnodd hwn yn cynnwys yr unedau isod: Iechyd a Diogelwch mewn Amaethyddiaeth Ffisioleg Anifeiliaid Cynhyrchu Cnydau Systemau Sylweddol a Chydrannau Allweddol y Tractor Crëwyd yr adnodd hwn gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar sail Deunyddiau Dysgu Amaeth, adnodd a grëwyd yn wreiddiol gan Sgiliaith (2002). Awduron yr adnodd gwreiddiol oedd Lowri Evans, Ian Harries, Mary Richards a Rhys Williams, ac fe’i golygwyd gan Penri James.
Gweminar Astudio Cymraeg yn y brifysgol (2022)
Ym mlwyddyn 12 neu 13? Eisiau gwybod mwy am astudio Cymraeg fel pwnc yn y brifysgol? Dewch i gael mwy o wybodaeth am yr hyn sydd ar gael, ac i glywed barn ein llysgenhadon sy'n astudio'r pwnc am eu cyrsiau a'u bywyd fel myfyrwyr y Gymraeg. Cyflwyniad a recordiwyd ym mis Tachwedd 2022. Mae'n cynnwys: Cyflwyniad am astudio Cymraeg yn y brifysgol (hyd at 29 munud) e.e. Lle mae modd astudio? Beth sydd modd ei astudio - o ran cyrsiau a modiwlau? Pa gymorth ariannol sydd ar gael? Sgwrs rhwng ein interniaid (Aled a Hari) â'n llysgenhadon cyfredol am astudio Cymraeg yn y brifysgol (19 munud ymlaen) Cyflwyniad cyfrwng Cymraeg yng nghwmni Aled (Prifysgol Bangor); Hari a Deio (Prifysgol Caerdydd); Elain (Prifysgol Aberystwyth); a Cara ac Elen (Prifysgol Abertawe).
Cyffro Cyfryngau
Mae’r fideos ‘Cyffro Cyfryngau’ yn dangos profiad chwe pherson sy’n gweithio o fewn y diwydiant teledu. Mae’r fideos yn canolbwyntio ar raglenni darlledu byw gan ddangos yr unigolion yn gweithio yn eu meysydd gwahanol sef colur, camera, cynhyrchu, cyfarwyddo, golygu a chyflwyno. Cawn glywed am ei angerdd at y proffesiwn a’r pleser maent yn cael allan o’r gwaith; mae pwyslais ar eu balchder o weithio yng Nghymru a gweithredu yn Gymraeg. Os ydych chi'n dilyn cyrsiau Drama, Cyfryngau, Asudiaethau Theatr, Celfyddydau Perfformio yna byddwch yn dysgu pam mor werthfawr ydi'r sgil o ddefnyddio'r Gymraeg yn y maes yma yng Nghymru.
Antur Arlwyo
Mae'r fideos 'Antur Arlwyo' yn dangos profiad chwe pherson sy'n gweithio yn y sector arlwyo a lletygarwch. Mae'r fideos yn canolbwyntio ar wahanol adrannau yng ngweithle’r diwydiant bwyd gan ddangos yr unigolion yn gweithio yn eu hadran arbenigol. Cawn glywed am ei angerdd at y proffesiwn a’r pleser maent yn cael allan o’r gwaith; mae pwyslais ar eu balchder o weithio yng Nghymru a gweithredu yn ddwyieithog. Mae chwe fideo yn y gyfres: Alun Evans, Pizza Llan Bryn Williams, Bryn Williams at Porth Eirias Cadi Ellis: Siwgr a Sbeis Helen Hollans, Môn ar Lwy Liza , Halen Môn Megan: Ffika Coffee Os ydych chi'n dilyn cyrsiau Arlwyo a Lletygarwch yna byddwch yn dysgu pam mor werthfawr ydi'r sgil o ddefnyddio'r Gymraeg yn y maes yma yng Nghymru.
Banc Brawddegau
Mae'r Banc Brawddegau yn adnodd ar gyfer unrhyw un sy'n ysgrifennu yn academaidd drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'n cynnig enghreifftiau o frawddegau y gallwch eu defnyddio wrth ysgrifennu, wedi'u trefnu yn ôl prif adrannau traethawd neu bapur academaidd. Datblygwyd gan yr Athro Enlli Thomas a Bethan Wyn Jones, Prifysgol Bangor, ar sail Academic Phrasebank (https://www.phrasebank.manchester.ac.uk).
Am Blant - podlediad
Podlediad sy’n trin a thrafod pynciau sy'n effeithio ar blant a phobl ifanc yng Nghymru heddiw yn ogystal a chael gwybod barn plant a phobl ifanc Podlediad #1: Beth yw Plentyndod? Yn y podlediad cyntaf hwn mae Dr Nia Young, Dr Sian Wyn Siencyn, Rowena Hughes Jones a Ceryl Davies yn trafod beth ydy ystyr plentyndod, beth mae'n olygu i fod yn blentyn yng Nghymru heddiw ac a ydy cymdeithas yn gwrando ar lais y plentyn. Podlediad #2: Beth yw ieuenctid? Yn y bennod yma Dr Nia Young, Dr Sian Wyn Siencyn, Owain Gethin Davies, a Ceryl Davies yn trafod beth yw ieuenctid? Sut beth ydy bod yn berson ifanc yng Nghymru heddiw? Podlediad #3: Beth sydd ei angen ar blentyn...? Beth sydd ei angen ar blentyn er mwyn tyfu, datblygu a ffynnu? Yn y podlediad hwn mae Ian Keith Jones (Pennaeth Ysgol San Sior, Llandudno) yn ymuno efo Dr Nia Young, Dr Siwan Roberts, Dr Margiad William a Rowena Hughes Jones o Ysgol Gwyddorau Addysg, Prifysgol Bangor i drafod beth sydd ei angen ar blentyn i ddatblygu a ffynnu. Pa mor bwysig ydy modelau rol, cysondeb a sefydlogrwydd? Beth ydy bod yn riant da? Podlediad #4: Hawliau Plant Yn y podlediad yma mae Rowena Hughes Jones, Dr Ceryl Davies, Gwenan Prysor, Arwyn Roberts a Chomisiynydd Plant Cymru, Yr Athro Sally Holland, yn ymuno efo Rhian Tomos i drafod hawliau plant a phobol ifanc. Ydy plant yn gwybod pa hawliau sydd ganddyn nhw? A oes angen ychwanegu at yr hawliau yng ngoleuni Cofid 19? Podlediad #5: Llais Rhieni A ydy agweddau cymdeithas wedi newid tuag at blant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu neu anableddau corfforol a sut mae'r cyfnod Cofid wedi effeithio arnyn nhw? Ydan ni'n gwrando digon ar y rhieni a'r gofalwyr? I gael gwybod mwy gwrandewch ar Elin Llwyd Morgan (mam Joel sydd ag awtistiaeth), Siôn Meredith, tad Huw (sydd a Syndrom Down), Dr Nia Young (darlithydd ym Mhrifysgol Bangor), Bethan Morris Jones, (Pennaeth Ysgol Pendalar, Caernarfon) a Lora Glynwen Williams, Swyddog Ansawdd, Gwasanaeth ADYaCH Gwynedd a Môn. Podlediad #6: Beth ydy chwarae? Beth ydy chwarae? Pa bryd rydan ni'n rhoi'r gorau i chwarae? Beth ydy pwrpas chwarae? Gwrandewch ar y 6ed podlediad yn y gyfres o bodlediadau AM BLANT i glywed y drafodaeth gan aelodau'r panel a sylwadau pobl ifanc am eu profiadau nhw o chwarae. Podlediad #7: Sut mae cerddoriaeth, celf a drama yn cyfrannu at ddatblygiad plentyn? Podlediad wedi recordio’n fyw ar faes Eisteddfod Tregaron gyda Dr Gwenllian Lansdown Davies, Cerys Edwards, Elen ap Robert, Dr Mair Edwards a Dr Nia Young.
Hunaniaethau: Cymreictod
Mae ‘Hunaniaethau: Cymreictod’ yn gyfres o chwe sgwrs gyhoeddus a fydd yn archwilio'r hyn a olygir wrth ‘Gymreictod’ heddiw, a hynny o safbwyntiau amrywiol. Bydd y sesiynau yn edrych ar Gymreictod o safbwynt cyfranwyr o leiafrifoedd ethnig, o’r gymuned LHDTC+, ac o safbwynt pobl o wahanol grefyddau. Bydd y sgyrsiau yn adlewyrchu pa mor amlweddog yw ‘Cymreictod’ yn y cyfnod modern ac yn ysgogi trafodaethau newydd pwysig a pherthnasol. Gall unrhyw un ymuno ar-lein i wylio’r sgyrsiau ac i gymryd rhan yn y trafodaethau. Mae'r sesiynau i gyd yn y Gymraeg. Trefnir y digwyddiadau ar y cyd rhwng y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Phrifysgol Bangor. Sesiwn #1: 13 Hydref 2022 (i gyd-fynd â Mis Hanes Pobl Ddu) 'Mae yn fy DNA' - Natalie Jones, athrawes sy'n trafod ei gwaith a'i hunaniaeth GWYLIWCH Y RECORDIAD Sesiwn #2: 10 Tachwedd 2022 (18:00) 'Cymrieg (Lluosog) - Welsh (Plural)' - Sgwrs a chyflwyniadau gan gyfranwyr i lyfr, Welsh Plural – Iestyn Tyne, Grug Muse, Hanan Issa (Bardd Cenedlaethol Cymru), Darren Chetty. Bydd cyfieithu ar y pryd. GWYLIWCH Y RECORDIAD Sesiwn #3: 15 Rhagfyr (18:00) Sgwrs gyda Joseph Gnagbo. Mae Joseph yn gyn-ffoadur o'r Arfordir Ifori. Yn ogystal â siarad Ffrangeg, a Saesneg, mae wedi dysgu Cymraeg ers iddo ddod i Gymru yn 2019 ac mae bellach yn dysgu Cymraeg i eraill. Yn anffodus ni fydd cyfieithu ar y pryd ar gyfer y sesiwn hon. GWYLIWCH Y RECORDIAD Sesiwn #4: 19 Ionawr 2023 (18:00) Rhyng-grefyddoldeb yng Nghymru - trafodaeth gydag aelodau o gymunedau ffydd Cymru. Ceir cyfraniadau gan aelodau o wahanol gymunedau ffydd Cymru: y Mwslim, Laura Jones, sy’n gobeithio cyfieithu testunau’r Coran i’r Gymraeg; Kris Hughes sy’n Dderwydd, Yr Athro Nathan Abrams sy’n Iddew, a Sudha Bhatt o Gyngor Hindŵ Cymru. Bydd cyfieithu ar y pryd. Sesiwn #5: 15 Chwefror (18:00) Chwaraeon i Bawb - yr Athro Laura McAllister, darlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd cyn Cadeirydd 'Chwaraeon Cymru', a chyn-bêl-droediwr fydd yn trafod chwaraeon, chwaraeon i ferched a rhywioldeb. Yn gwmni iddi fydd Lloyd Lewis, chwaraewr rygbi proffesiynol a rapiwr y gân 'Pwy sy'n Galw'. Noder bod y digwyddiad ar nos Fercher, nid y nos Iau arferol. Bydd cyfieithu ar y pryd ar gael Sesiwn #6: 20 Ebrill (18:00) Eisteddfod i Bawb? Sut mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn mynd ati i ddenu ac adlewyrchu Cymru gyfoes? Trafodaeth gydag Ashok Ahir (Cadeirydd yr Eisteddfod), Betsan Moses (Prif Weithredwr), Katie Hall (sy’n Swyddog Cymunedol ac yn aelod o’r grŵp Chroma), Elin Haf Gruffydd Jones (o Mas ar y Maes), a Joe Healy (enillydd Dysgwr y Flwyddyn 2022). Trafodaeth yn y Gymraeg. DOLEN ZOOM I YMUNO Â'R SESIWN: https://bangor-ac-uk.zoom.us/j/96665711977?pwd=NE8rRVFJV3daMndJUUt6RGZPVVdzQT09 ID y cyfarfod: 966 6571 1977 Cyfrinair: 878559
Gweminarau Busnes i Ddysgwyr Mewn Colegau Addysg Bellach (Tymor yr Hydref 2022)
Cyfres o weminarau i roi cyfle i ddysgwyr drafod eu pwnc trwy gyfrwng y Gymraeg. Trafodwyd y canlynol gan unigolion o nifer o fusnesau a sefydliadau. Sefydlu Busnes Bach Brandio Masnach Ar-lein Moeseg/Amgylchedd Defnyddio'r Gymraeg Ariannu Busnes Busnes B2B Cyfundrefn 'cyhoeddus' Busnes Cymdeithasol Mae modd gwylio'r sesiynau â recordiwyd isod.