Dywedir yn aml fod sefydliadau gwleidyddol datganoledig Cymru’n dioddef o ‘ddiffyg democrataidd’, sydd yn gysylltiedig â ‘diffyg cyfryngau’. Mae’r erthygl yma’n defnyddio athroniaeth wleidyddol Jürgen Habermas i ddadansoddi’r honiadau hyn. Dechreuir trwy drafod y broblem ganolog a chymhwyso damcaniaeth Habermas ynghylch cyfreithusrwydd ati (1), cyn troi at gysyniad allweddol y ddamcaniaeth, sef y gyhoeddfa (2). Mae rhan 3 yn dadlau bod diffyg cyhoeddfa wleidyddol anffurfiol yng Nghymru heddiw a bod hyn yn tanseilio cyfreithusrwydd y drefn wleidyddol ddatganoledig, gan gefnogi’r ddadl yma gyda data (3). Mae rhan olaf yr erthygl yn gosod achos Cymru mewn cyd-destun ehangach, ac yn agor trafodaeth ar atebion posib (4). Awdur: Dafydd Huw Rees
Cyfreithusrwydd Gwleidyddol a’r Gyhoeddfa Gymreig: Dadansoddiad Habermasaidd
Coel Gwrach
Ni fu erlid gwrachod yng Nghymru. Nifer syfrdanol fychan o ‘wrachod’ a gafodd eu canfod yn euog a’u crogi yng Nghymru. Dim ond pump, o’i gymharu â mwy na 200,000 o fenywod a’u crogwyd neu eu llosgi yng ngorllewin Ewrop ar ôl cael eu cyhuddo o ‘witchcraft’ rhwng 1484 a 1750. Mae sawl ‘coel gwrach’ neu ofergoel am wrachod lle mae’r profiad Cymreig yn cael ei gyfuno ar gam neu ei ddrysu gan lên a hanes Saesneg neu Brydeinig. Ymgais yw prosiect Coel Gwrach i sicrhau fod Gwen, Rhydderch, Lowri, Agnes a Margaret yn cael eu lle mewn hanes drwy gyfrwng y Gymraeg, eu hiaith hwythau yn hytrach nag iaith y llys, ond hefyd bod eu straeon yn cael ail-gyfle i’w clywed mewn cymdeithas.
Arferion Da o Ran Datblygu Darpariaeth Addysgol ac Addysgu mewn Iaith Leiafrifiedig mewn Prifysgolion: Enghrei...
Pwrpas y llyfryn yma yw rhannu arferion da o ran datblygu darpariaeth addysgol ac addysgu mewn iaith leiafrifiedig mewn prifysgolion. Mae’r arferion da sydd yn cael eu trafod yn y llyfryn hwn yn dod o grwpiau ffocws a gynhaliwyd gyda darlithwyr a myfyrwyr yn edrych ar eu profiadau o addysg gyfrwng Gymraeg a chyfrwng Wyddeleg mewn prifysgolion yng Nghymru ac Iwerddon. Mae'r llyfryn yn trafod: arferion da o ran annog myfyrwyr i astudio mewn iaith leiafrifiedig datblygu darpariaeth mewn iaith leiafrifiedig addysgu mewn iaith leiafrifiedig cefnogi myfyrwyr mewn iaith leiafrifiedig asesiadau mewn iaith leiafrifiedig normaleiddio defnydd o’r iaith leiafrifiedig ymysg myfyrwyr. Rydyn ni’n rhagweld bydd y llyfryn yma’n ddefnyddiol nid yn unig i ddarlithwyr a darparwyr addysg uwch yn y gwledydd yma, ond hefyd i ddarlithwyr, ddarparwyr addysg uwch a darparwyr mewn sectorau addysg eraill yn rhannau eraill o’r byd sy’n datblygu darpariaeth addysgol ac yn addysgu mewn iaith leiafrifiedig. Ceir crynodeb o'r adnodd yn yr iaith Wyddeleg. Diolch i Dr Dorothy Ní Uigín o Brifysgol Gaillimhe am ei chydweithrediad.
BLC Unedau Chwaraeon Lefel 3 (B)
25 o sesiynau dysgu cyfunol ychwanegol ar gyfer dysgwyr sy’n astudio cwrs Chwaraeon (lefel 3). Mae modd gweld y sesiynau yn eich porwr drwy ddilyn y dolenni isod. Mae hefyd modd i golegau lawrlwytho'r cynnwys er mwyn eu gosod o fewn eu llwyfannau dysgu lleol. Mae ffeil zip yma yn cynnwys y ffeiliau SCORM ar gyfer yr holl unedau. Mae cynnwys y sesiynau hyn yn ddwyieithog, ond dim ond yn Gymraeg mae modd ateb y cwestiynau. Hawlfraint Heart of Worcestershire College ar ran The Blended Learning Consortium a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae’r adnoddau hyn i gael eu defnyddio mewn sefydliadau addysgiadol yn unig ac ni ddylid eu haddasu na’u hailwerthu.
Cynhyrchu cnydau yng Nghymru
Mae'r adnodd hwn yn edrych ar gynhyrchu cnydau yng Nghymru. Mae’n addas ar gyfer dysgwyr mewn addysg bellach ac uwch sy’n astudio rhaglenni o lefelau 2 i 6. Mae yna wyth uned, pob un yn cynnwys gwybodaeth am wahanol agweddau ar gynhyrchu cnydau. Mae'r rhain yn cynnwys agweddau ar drin, sefydlu, tyfu, gwrteithio, gwarchod, cynaeafu a storio cnydau. Mae'r adnodd yn cynnwys yr unedau canlynol: Cyflwyniad i gynhyrchu cnydau yng Nghymru Trin y tir Sefydlu cnwd Tyfiant a datblygiad cnydau Teilo cnwd Diogelu cnydau Cynaefu cnwd Storio cnydau Mae'r adnodd hwn wedi'i lwyfannu a'i gyhoeddi ar wefan HWB Llywodraeth Cymru.
Celf a Dylunio ar y MAP 2024
Nod ‘Celf a Dylunio ar y Map’ yw cynnig cyfle unigryw i fyfyrwyr Celf a Dylunio cyfrwng Cymraeg ddod at ei gilydd mewn un lle i rannu a thrafod eu gwaith ac i elwa o brofiad artistiaid ac eraill sy’n gweithio yn y diwydiant. Mae'r myfyrwyr hefyd yn cymryd rhan mewn archwilio lleoliad penodol ac ymateb yn greadigol i'r lleoliad hwnnw ac i friff. Y lleoliad eleni oedd Abertawe a thema’r ŵyl oedd ‘Yr Hyll a’r Hyfryd’. Gwahoddwyd tri ymarferydd Celf i’r ŵyl eleni i rannu eu taith gelfyddydol, sef Kath Ashill, Rhian Jones a Vivien Roule. Mae’r fideos a ddarperir yma yn rhoi blas o’r ŵyl yn ogystal â rhoi cipolwg ar fenter ymarferwyr celfyddydol a’u teithiau yn y byd celf.
Heb ei fai, heb ei eni: ‘Disgwrs’ a Moeseg y Wladfa
Nodweddir y drafodaeth gyhoeddus ar-lein ddiweddar ynghylch y Wladfa gan duedd i gollfarnu’r gwladfawyr Cymreig ar sail foesol. Â’r erthygl hon i’r afael â’r tueddiad hwn gan bwyso a mesur sut, ac i ba raddau, y mae modd inni osod y Wladfa a’i phobl yn y fantol foesol. Rhoddir sylw manwl i ymdriniaethau Geraldine Lublin a Lucy Taylor â’r hanes, fel enghreifftiau o ddadansoddi ystyrlon, amlhaenog sy’n llwyddo i gyfleu cymhlethdod a drysni’r sefyllfa. Wedi cynnig y braslun hwn, cymhwysir fframwaith moesegol Iris Marion Young i’r hanes, er mwyn amlygu ystyriaethau moesegol allweddol, sy’n dilyn ymgais Catherine Lu i gymhwyso’r un model ‘cysylltiadau cymdeithasol’ i hanes trefedigaethol Siapan. Cynigir rhai casgliadau cychwynnol ynghylch yr hyn a amlygir. Awdur: Huw L. Williams
Fideos sgiliau clinigol cyfrwng Cymraeg
Cyfres o fideos wedi eu creu gan Ysgol Feddygaeth Pifysgol Abertawe er mwyn atgyfnerthu sgiliau clinigol myfyrwyr meddygol a myfyrwyr o gyrsiau iechyd eraill. Mae'r casgliad yn cynnwys cyfres o fideos clinigol at ddefnydd myfyrwyr meddygol sy'n engreifftio sut mae mynd ati i gynnal gwahanol archwiliadau ac asesiadau ymarferol. Engreifftiau yw'r hyn a welir yn y fideos ac annogir chi i wirio gofynion penodol eich cwrs os yn defnyddio rhain wrth adolygu i arholiadau penodol.
Darllen ac ysgrifennu gorffennol y Wladfa: dadleuon am hanes a chof yn ymsefydliad Cymreig Chubut
Bwriad yr erthygl hon yw dadansoddi’r gwahanol ddarlleniadau a gafwyd o hanes y Wladfa o fewn naratifau swyddogol o orffennol talaith Chubut yn yr Ariannin. Cynhwysa hyn gynnyrch y wladwriaeth daleithiol, ond hefyd eiddo actorion eraill yng nghymdeithas Chubut, gan gynnwys y gymuned Gymreig ei hun. Er mwyn gwneud hyn, canolbwyntir ar y deongliadau a gynhyrchwyd dros dri chyfnod: yn gyntaf, rhwng y 1930au a 1955, pan oedd Chubut yn diriogaeth genedlaethol; yn ail, cyfran o flynyddoedd cyntaf bodolaeth talaith Chubut rhwng 1958 a 1975; ac yn olaf, rhwng y 1980au a’r presennol, gyda ffocws ar ddathliadau’r canmlwyddiant a hanner (ers glaniad y gwladfawyr cyntaf) yn 2015. Ystyrir hefyd y newidiadau a welwyd rhwng naratifau hanesyddol gwahanol, yn ogystal â’r elfennau o barhad rhyngddynt. Trwy gydol y tri chyfnod hyn, dangosir bod naratifauswyddogol o orffennol Chubut wedi gosod hanes y gwladychu Cymreig yn gonglfaen ar gyfer sefydlu’r dalaith, gan roi rôl hegemonaidd i’r hanes hwn. Awdur: Guillermo Williams
Dŵr a Phŵer yn Nyffryn Camwy: heriau a gwrthdaro ynghylch sefydlu a rheoli system ddyfrhau
Bwriad yr erthygl hon yw llunio hanes y system ddyfrhau yn Nyffryn Camwy a grëwyd gan y gwladfawyr Cymreig a gyrhaeddodd Batagonia (yn yr Ariannin) ym 1865, gan gymhlethu’r berthynas a oedd yn bodoli rhwng y seilwaith hwn a’r fframwaith cymdeithasol-wleidyddol newidiol. Bydd hyn yn cynnwys rhoi sylw i’r sefydliadau a grëwyd gan y gwladfawyr eu hunain ac i’r gwrthdaro a fu rhyngddynt a gwladwriaeth yr Ariannin a ddaeth yn gyfrifol am y weinyddiaeth ddyfrhau ym 1943. Rhoddir pwys ar alluedd (agency) dŵr o fewn y broses a arweiniodd at atgyfnerthu ac ehangu’r seilwaith dyfrhau, a rhoddir sylw hefyd i ddimensiwn symbolaidd y gwrthrychau sy’n rhan o’r seilwaith hwnnw gan fyfyrio ar eu hystyr newidiol. Awdur: Fernando Williams
UK Parliament: Dysgu
Gwefan gan Senedd y DU sy’n cynnig adnoddau addysgu dwyieithog ar-lein ar gyfer dysgwyr o 5 oed i ôl-16 a thu hwnt. Mae’r adnoddau yn cyflwyno ac yn ymdrîn â phynciau ar draws cwricwla’r DU; gan gynnwys etholiadau, dadlau, Gwerthoedd Prydeinig a gwaith a rôl Senedd y DU yn ein democratiaeth. Yn yr adran i ddysgwyr Ôl-16, ceir pecynnau fel: Sut mae'n Gweithio: Y Senedd, Llywodraeth Democratiaeth a Chi Systemau pleidleisio Eich Stori, Ein Hanes: Deddfwriaeth anabledd Eich Stori, Ein Hanes: Deddfwriaeth cysylltiadau hiliol Eich Stori, Ein Hanes: Deddfwriaeth Pobl Lesbaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol (LGBT)
Tsieina Thomas Pennant
Yma, cyflwynir adroddiad gan y naturiaethwr a'r teithiwr Thomas Pennant (1726 – 98) ar Tsieina, sy'n rhan o'i lawysgrif amlgyfrol, 'Outlines of the Globe', a gedwir yn yr Amgueddfa Forwrol Genedlaethol. Ceir tair adran i'r adnodd: ysgrif yn trafod ymdriniaeth Pennant â Tsieina; atodiad yn cynnwys delweddau o'r llawysgrif wreiddiol ynghyd â thrafodaeth yn eu gosod yn eu cyd-destun; a map rhyngweithiol yn dangos y lleoliadau a enwir yn yr adroddiad gan ganolbwyntio ar bum taith hanesyddol allweddol i Tsieina, ynghyd â thaith ddychmygol Pennant ar hyd arfordir y wlad. Mae'r adnoddau'n addas ar gyfer myfyrwyr, ysgolheigion, ac unrhyw un sydd â diddordeb yn Tsieina ac ym meysydd Astudiaethau Crefyddol, Celf, Daearyddiaeth, Economeg, Gwyddorau Amgylcheddol ac Eigion, a Hanes. Cedwir yr holl adnoddau gyda'i gilydd ar wefan Teithwyr Chwilfrydig (https://curioustravellers.ac.uk/tsieina/). Yno, gellir lawrlwytho'r ysgrif a'r atodiad yn uniongyrchol, a gellir dilyn dolen i'r map rhyngweithiol. Ceir cyfarwyddiadau manwl ar sut i drin y map o fewn yr adnodd ei hun, o dan 'Canllaw i'r defnyddiwr', sydd wedi'i leoli o dan 'Gwybodaeth bellach' ar y ddewislen ar y bar llorweddol ar frig y dudalen.
