Mae’r adnodd hwn o wefan Hwb, yn addas ar gyfer dysgwyr Amaethyddiaeth, garddwriaeth a gofalu am anifeiliaid, yn dangos strwythur a swyddogaethau organau anifeiliaid fferm. Mae’n amlygu pwysigrwydd eu systemau biolegol a’r gwahanol ddulliau bridio a thechnolegau atgenhedlu ar y fferm.
Gwyddor Anifeiliaid
Cynhadledd Antur
Cynhadledd Antur (Cynhaliwyd 18/02/2022) Bwriad y gynhadledd undydd “Antur” yw cau'r bwlch rhwng y diwydiant a myfyrwyr gyda’r ffocws ar gynnwys o faes campau awyr agored. Wedi ei gynnal yng Nghanolfan S4C Yr Egin yng Nghaerfyrddin ac wedi ei lunio ar y cyd rhwng prifysgolion y Drindod Dewi Sant, Aberystwyth, Bangor ac Abertawe bydd myfyrwyr ffilm a chyrsiau awyr agored yn mynychu’r gynhadledd yn Yr Egin ac arlein. Mae tri siaradwr gwadd anhygoel am rannu o’u profiadau helaeth gan ysbrydoli’r myfyrwyr. Y tri siaradwr gwadd yw : Lowri Morgan - Y darlledwr, anturiaethwr ac awdur sydd wedi ennill BAFTA a chydnabyddiaeth ryngwladol Rhodri ap Dyfrig - Comisiynydd Cynnwys Ar-lein S4C gyda chyfrifoldeb golygyddol a strategol am Hansh Llion Iwan - Rheolwr Gyfarwyddwr Cwmni Da, sydd hefyd wedi treulio deng mlynedd gyda’r BBC, yn gynhyrchydd a cyfarwyddwr dogfennau ar gyfer BBC 1, 2, 4 a BBC Cymru.
Echelgais
Adnodd cyfrwng Cymraeg ar wefan HWB sy'n canolbwyntio ar 6 maes; Amaethyddiaeth, Busnes, Drama, Twristiaeth a Hamdden, Iechyd a Gofal a Blynyddoedd Cynnar a'r Cyfryngau.
Sesiynau Adolygu Carlam Cymru
Recordiadau o sesiynau adolygu mewn gwahanol feysydd a gomisiynwyd gan e-sgol ar gyfer myfyrwyr TGAU, Uwch Gyfrannol a Safon Uwch yn ystod 2021. Ceir sesiynau adolygu TGAU ar y pynciau: Mathemateg Cymraeg Cymraeg Ail Iaith Bioleg Ffiseg Cemeg Hanes Daearyddiaeth Ceir sesiynau adolygu UG ar y pynciau: Mathemateg Cymraeg Bioleg Ffiseg Cemeg Hanes Daearyddiaeth Ceir sesiynau adolygu safon uwch ar y pynciau: Mathemateg Cymraeg Bioleg Cemeg Hanes Daearyddiaeth Seicoleg
Seicoleg: Dulliau Ymchwil
Nod y gyfres hon o adnoddau yw cyflwyno gwybodaeth am rai o'r prif egwyddorion a thechnegau sy’n cael eu defnyddio wrth gynnal ymchwil ym maes seicoleg. Mae pob uned yn cynnwys: crynodeb darlith ar ffurf cyflwyniadau fideo cwis aml-ddewis cwestiynau seminar llyfryddiaeth Mae’r holl unedau a restrir isod i’w cael yma mewn un pecyn. Cyfranwyr y thema hon yw: Emma Hughes-Parry Dr Mirain Rhys Dr Hanna Binks Dr Kyle Jones Dr Gwennant Evans Dr Rachel Rahman. Cynhyrchwyd y deunyddiau hyn â chefnogaeth Cronfa Adfer a Buddsoddi Addysg Uwch Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.
Gweithdy Cymdeithaseg a'r Fagloriaeth Gymraeg ar ddulliau ymchwil
Gweithdy sgiliau ymchwil myfyrwyr Cymdeithaseg a’r Fagloriaeth ar gyfer Lefel A ac Uwch-Gyfrannol. Cyflwyniad ar brif elfennau gwaith ymchwil – dadansoddi data cynradd a data eilaidd. Cyflwyniadau gan Dr Rhian Hodges, Prifysgol Bangor (Data Cynradd) a Dr Siôn Llewelyn Jones, Prifysgol Caerdydd (Data Eilaidd).
Llunio Hanes: Hanesyddiaeth a Chrefft yr Hanesydd
Mae’r gyfrol hon yn cynnwys casgliad o benodau gan nifer o haneswyr ac ysgolheigion sydd yn cyflwyno rhai o brif themâu a chysyniadau hanes. Mae wedi ei anelu at fyfyrwyr israddedig sy'n astudio Hanes, mae'n gyflwyniad i hanesyddiaeth – yr astudiaeth o ysgrifennu hanes. Mae’r awduron yn tywys y darllenydd ar hyd llinyn amser, gan dynnu ar agweddau Ewropeaidd a thu hwnt er mwyn olrhain datblygiad hanes fel disgyblaeth proffesiynol. Penawdau'r gyfrol yw: Beth yw Hanes - Meilyr Powel O'r 'Gwleidyddol' i'r 'Cymdeithasol': Syrffio ar donnau Hanes dros y Degawdau - Gethin Matthews Hanes Cenedlaethol - Huw Pryce Hanes Marcsaidd - Douglas Jones Hanes o'r Gwaelod: Y Werin, Y Gweithwyr, Menywod, a'r Darostyngol - Arddun H. Arwyn Hanes ac Anthropoleg - Huw Morus Ôl-strwythuraeth a'r Tro Diwylliannol: Rhywedd, Dwyrainoldeb, ac Ôl-drefedigaethedd - Marion Löffler Epilog; Dyfodol Hanes - Meilyr Powel Mae’r e-lyfr hwn yn cynnwys casgliad o benodau gan nifer o haneswyr ac ysgolheigion sydd yn cyflwyno rhai o brif themâu a chysyniadau hanes. Fe'i golygwyd gan Dr Meilir Powel a Dr Gethin Matthews.
Cwrs Biocemeg Cymraeg
Cwrs Biocemeg Ar-lein Astudio Bioleg neu Gemeg Safon Uwch/UG? Dere i gymryd rhan yn y cwrs Biocemeg Cymraeg ar-lein cyntaf am ddim sydd wedi cael ei ddatblygu gan Brifysgol Abertawe a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol Dechrau ar dy daith drwy’r byd Biocemeg gydag Elin Rhys a chriw Prifysgol Abertawe Mae hwn yn gwrs Biocemeg ar-lein cyfrwng Cymraeg wedi’i anelu at fyfyrwyr 16-18 oed sy’n astudio Safon Uwch/UG mewn Bioleg neu Gemeg. Datblygwyd yr adnodd gan Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Gellir ei ddefnyddio fel adnodd i gyfoethogi dysgu manyleb Bioleg a Chemeg CBAC. Yn arwain ni drwy’r cwrs y mae Elin Rhys. Mae’n cynnwys fideos a chartwnau addysgiadol, cwisiau, tudalennau gwybodaeth a chyfweliadau gyda gwyddonwyr sy’n arwain y ffordd yn eu meysydd ymchwil. Gwybodaeth bellach: Dr Alwena Morgan a.h.morgan@colegcymraeg.ac.uk
Gwyddorau Chwaraeon: Hyfforddi
Nod y gyfres o adnoddau a gyflwynir yma yw rhoi gwybodaeth am rai o'r pynciau damcaniaethol ac ymchwil allweddol sy'n ymwneud â hyfforddi o ansawdd uchel mewn cyd-destun chwaraeon. Mae pob uned yn cynnwys: crynodeb darlith ar ffurf cyflwyniadau fideo cwestiynau seminar llyfryddiaeth Mae’r holl unedau a restrir isod i’w cael yma mewn un pecyn. Cyfranwyr y thema hon yw: Dr Julian Owen Seren Evans Dylan Blain Sara Hilton Rhiannon Wade Dr Carwyn Jones Cynhyrchwyd y deunyddiau hyn â chefnogaeth Cronfa Adfer a Buddsoddi Addysg Uwch Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.
Gwyddorau Chwaraeon: Iechyd a Lles
Mae’r adnoddau hyn yn edrych ar iechyd a lles mewn chwaraeon. Ymhlith y deunyddiau ceir unedau ar fuddion gweithgarwch corfforol, gwydnwch, penderfynyddion iechyd, datblygiad corfforol cyfannol neu holistig, ymlyniad, gordewdra ymhlith plant a phobl ifanc, rheoli straen, a pholisïau addysg ym maes iechyd a lles. Mae pob uned yn cynnwys: crynodeb darlith ar ffurf cyflwyniadau fideo cwestiynau seminar llyfryddiaeth Cyfranwyr y thema hon yw: Dylan Blain Dr Lowri Cerys Edwards Seren Evans Dr Anwen Jones Dr Carwyn Jones Dr Julian Owen Dione Rose Catrin Rowlands Mae'r holl unedau a restrir isod hefyd i’w cael yma mewn un pecyn. Cynhyrchwyd y deunyddiau hyn â chefnogaeth Cronfa Adfer a Buddsoddi Addysg Uwch Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.
Astudiaethau Busnes: Economi Cymru
Nod yr unedau hyn yw cyflwyno gwahanol agweddau ar economi Cymru, ddoe a heddiw. Mae pob uned yn cynnwys: crynodeb darlith ar ffurf cyflwyniadau fideo cwis aml-ddewis cwestiynau seminar llyfryddiaeth Mae’r holl unedau a restrir isod i’w cael yma mewn un pecyn. Cyfranwyr y thema hon yw: Guto Ifan Dr Rhys ap Gwilym Dr Edward Jones Elen Bonner Sam Parry Cynhyrchwyd y deunyddiau hyn â chefnogaeth Cronfa Adfer a Buddsoddi Addysg Uwch Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.
Cynhadledd Wyddonol 2022
I gyd-fynd â dathliadau deng mlynedd y Coleg Cymraeg, mae’r Gynhadledd Wyddonol hefyd yn dathlu deng mlwyddiant eleni. Bwriad y gynhadledd yw rhoi llwyfan i ymchwil wyddonol flaenllaw gan wyddonwyr Cymraeg. Mae rhoi’r cyfle i wyddonwyr drin a thrafod y Gwyddorau drwy gyfrwng y Gymraeg yn greiddiol i’r Coleg ers ei sefydlu ac mae’r gynhadledd yn mynd o nerth i nerth. O beirianneg i bysgod ac o gelloedd tanwydd i gorona’r Haul, mae’n gyfle i ni drin a thrafod amrywiol destunau o fewn y Gwyddorau. Dewch i Ganolfan Gynadleddau MedRus, Prifysgol Aberystwyth, ddydd Mercher 15 Mehefin 2022 i glywed yr amrywiol gyflwyniadau. Cynhelir y Gynhadledd yn y Gymraeg. Nia Jones, Prifysgol Bangor - Modelu gwasgariad microblastig o amgylch arfordir gogledd Cymru Iwan Palmer, Prifysgol Caerdydd - Canfod ac Ynysu Microplastigion: O’r Labordy i’r Dosbarth Abigail Lowe, Gardd Fotaneg Genedlaethol a Phrifysgol Bangor - Garddio i beillwyr: Defnyddio DNA paill i ddarganfod â pha blanhigion mae peillwyr yn ymweld Ben Walkling, Prifysgol Abertawe - A yw Tomenni Glo Cymru yn Risg Newydd? Owain Beynon, Prifysgol Caerdydd - Mesur Effeithiau Anharmonig Mewn Catalyddion sy’n Creu Tanwyddau Adnewyddadwy Fergus Elliott, Prifysgol Bangor - Synhwyro Di-wifr mewn Amgylcheddau Diwydiannol Manon Owen, Prifysgol Leeds - Archwilio Mecanweithiau Metformin ar Dyfiant Ffetws ac Iechyd Hir-dymor Cardiometabolig Ffetws Mari Davies, Prifysgol Caerdydd - Datblygu triniaeth arloesol ar gyfer clefydau storio lysosomal