Awydd astudio Mathemateg yn y brifysgol? Eisiau cael blas ar fywyd myfyriwr Mathemateg a darganfod at ba yrfa y gallai gradd Mathemateg arwain? Dyma’ch cyfle i gael ragor o wybodaeth, cael blas ar fodiwlau a holi’ch cwestiynau i ddarlithwyr a chyn-fyfyrwyr! Fel rhan o’r gyfres bydd tri gweithdy byw ar-lein. Bydd y ddau gyntaf yn cael eu harwain gan ddarlithwyr Mathemateg o brifysgolion Aberystwyth a Chaerdydd ac fe’u cefnogir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Yn ystod y gweithdai hyn, bydd cyfle i chi gael blas ar fodiwl prifysgol; cyfarfod a dod i adnabod darlithwyr cyfrwng Cymraeg; gael rhagflas o'r hyn y mae'r brifysgol yn ei gynnig i fyfyrwyr sy'n astudio Mathemateg yn Gymraeg (e.e. dewis o fodiwlau, y math o gyrsiau sydd ar gael – anrhydedd sengl, cyfun); holi unrhyw gwestiynau. Cyflogadwyedd fydd ffocws y gweithdai olaf. O gyfrifydd i beiriannydd meddalwedd i feteorolegydd, mae gradd mewn Mathemateg yn agor llu o ddrysau. Bydd graddedigion Mathemateg sydd bellach yn y byd gwaith yn rhannu eu profiadau o fuddion gradd mewn Mathemateg, sut mae’r radd wedi eu helpu yn eu gyrfa ac yn rhoi rhagflas o’i gwaith. Y GWEITHDAI: Nos Iau 9 Mawrth 2023, 7pm – Prifysgol Aberystwyth Dr Tudur Davies a Dr Gwion Evans fydd yn arwain y gweithdy hwn, a ‘Geometreg arwynebau minimol’ fydd thema’r modiwl y byddwch yn cael blas arno. Bydd cyfle i chi holi eich cwestiynau. Nos Iau 16 Mawrth 2023, 7pm – Prifysgol Caerdydd Dr Dafydd Evans, Dr Mathew Pugh a Dr Geraint Palmer fydd yn arwain y gweithdy hwn, a ‘Hapgerddediadau’ fydd thema’r modiwl y byddwch yn cael blas arno. Bydd cyfle i chi holi eich cwestiynau. Dydd Llun 19 Mehefin 2023, 9:30yb, Cyflogadwyedd Dewch i glywed am yr ystod eang o yrfaoedd sydd modd i chi eu hystyried ar ôl astudio gradd Mathemateg a chlywed profiadau graddedigion. Bydd cyfle i chi holi eich cwestiynau. Siaradwyr i’w cadarnhau. Os oes gennych unrhyw gwestiwn cysylltwch â l.rees@colegcymraeg.ac.uk.
Gweithdai Mathemateg 2023
Cynhadledd Ymchwil 2023
Cynhelir y Gynhadledd hon ar ffurf hybrid eleni eto, ar 30 Mehefin, gyda chynulleidfa wyneb yn wyneb yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth, ac fe’i darlledir yn fyw i gynulleidfa rithiol. Mae rhagor o wybodaeth am y Gynhadledd yn y calendr digwyddiadau ar wefan y Coleg Cymraeg.
Gwobrau 2023
Mae’r Coleg yn dyfarnu nifer o wobrau i unigolion disglair yn ystod y flwyddyn, unai am waith, cyflawniad neu gyfraniad rhagorol mewn colegau addysg bellach, prifysgolion a phrentisiaethau. Hoffech chi enwebu rhywun/rhywrai sydd wedi gwneud gwahaniaeth yn eich sefydliad? Mae'r Noson Wobrau yn cynnig cyfle gwych i gydnabod eu gwaith a’u cyfraniad. Mae panel o swyddogion y Coleg ac aelodau allanol yn dyfarnu’r gwobrau hyn, a byddant yn cael eu cyflwyno i’r enillwyr yn Noson Wobrau’r Coleg ym Mehefin 2023. Mae’r cyfle i enwebu unigolion ar gyfer y gwobrau hyn nawr AR AGOR! Gallwch gyflwyno eich enwebiadau gan ddefnyddio’r ffurflen enwebu isod. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno enwebiadau yw hanner dydd, 10 Mawrth 2023. Dyma’r Gwobrau y gallwch enwebu unigolion ar eu cyfer eleni: Gwobrau Addysg Bellach a Phrenisiaethau: Gwobr Cynllun Gwreiddio - Addysgwr Arloesol Gwobr Cynllun Gwreiddio - Cyfraniad arbennig Gwobr Cynllun Gwreiddio - Cyfoethogi profiad y dysgwr/prentis Gwobr Addysg Bellach William Salesbury Gwobr Talent Newydd er cof am Gareth Pierce Gwobrau Addysg Uwch Gwobr Merêd Gwobr Eilir Hedd Morgan Gwobr Meddygaeth William Salesbury Gwobr Darlithwyr Cysylltiol - Adnodd cyfrwng Cymraeg rhagorol Gwobr Darlithwyr Cysylltiol - Gwobr y myfyrwyr Gwobr Darlithwyr Cysylltiol - Cyfraniad Eithriadol i addysg cyfrwng Cymraeg
Panel Trafod: Yr Hengerdd a Dafydd ap Gwilym
Dyma gyfle gwerthfawr i glywed panel o arbenigwyr yn trafod Yr Hengerdd a cherddi Dafydd ap Gwilym. Yn ystod y sesiwn, ceir trafodaeth ar waith Aneirin, Talieisin a Dafydd ap Gwilym gan arbenigwyr ar yr hengerdd a'r cywyddau, sef Yr Athro Jerry Hunter, Dr Aled Llion Jones a'r Athro Peredur Lynch, y tri o Adran y Gymraeg, Prifysgol Bangor. Addas yn benodol ar gyfer disgyblion blwyddyn 13 sy'n astudio ar gyfer arholiad Cymraeg (Uned 5) ond o ddiddordeb yn ehangach hefyd i unrhyw un sydd â diddordeb yng ngwaith y beirdd hyn. Sesiwn a recordiwyd yn Pontio, Bangor, yn ystod mis Mai 2023, mewn cydweithrediad rhwng Adran y Gymraeg Prifysgol Bangor a Pontio. Noddir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Chwilio am fwy o adnoddau adolygu? Gwyliwch ein sesiynau adolygu Ar-lên sydd ar gael yma neu yma.
Am Iechyd
Cyfres o bodlediadau lle mae darlithwyr o Brifysgol Bangor a gweithwyr proffesiynol yn y maes iechyd yn dod at ei gilydd i drafod materion cyfoes o fewn y byd iechyd sy'n effeithio ar bob un ohonon ni. Mae podlediad 'Am Iechyd' yn cynnig platfform proffesiynol i weithwyr rheng flaen ac academyddion i drafod yn y Gymraeg. Mae'r gyfres yn trafod nifer o bynciau megis: Iechyd Meddwl Pobl Ifanc Modelau Genediaeth Byw Efo Dementia Beth yw ystyr gofalu? Y berthynas rhwng iechyd a gofal Bronfwydo Pa effaith gaiff sefydlu Ysgol Feddygol ym Mhrifysgol Banor ar iechyd pobl gogledd Cymru?
Panel Trafod: Branwen
Dyma gyfle gwerthfawr i glywed panel o arbenigwyr yn trafod y chwedl, Branwen, ferch Llŷr. Yn ystod y sesiwn, ceir trafodaeth ar amrywiol agweddau o’r chwedl gan arbenigwyr ar ryddiaith yr Oesoedd Canol, sef Yr Athro Jerry Hunter a Dr Aled Llion Jones, Prifysgol Bangor, a Dr Rhiannon Ifans. Addas yn benodol ar gyfer disgyblion blwyddyn 13 sy'n astudio'r chwedl ar gyfer arholiad Cymraeg (Uned 5) ond o ddiddordeb yn ehangach hefyd i unrhyw un sydd â diddordeb yn rhyddiaith yr Oesoedd Canol. Sesiwn a recordiwyd yn Pontio, Bangor, yn ystod mis Ebrill 2023, mewn cydweithrediad rhwng Adran y Gymraeg Prifysgol Bangor a Pontio. Noddir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Chwilio am fwy o adnoddau ar Branwen? Gwyliwch ein sesiynau adolygu Ar-lên sydd ar gael yma.
Tasgau Asesu a Datblygu Sgiliau Iaith Athrawon
Dyma gasgliad o dasgau sy’n gallu cael eu defnyddio i ddatblygu ac asesu sgiliau iaith ymarferwyr addysg yn erbyn y Fframwaith Cymwyseddau Iaith i Ymarferwyr Addysg. Mae’r casgliad yn cynnwys tasgau ar gyfer pob sgil a phob lefel yn y Fframwaith. Mae'r llyfrynnau PDF sy'n cynnwys holl dasgau'r lefel dan sylw, ar gael ar gyfer bob lefel o'r Framwaith. Yn ogystal, mae'r tasgau ar gael i'w lawrlwytho yn unigol ar ffurf dogfennau Word. Os na fydd y dolenni yn agor y ddogfen mewn tab newydd, yna bydd y ddogfen wedi ei lawrlwytho (edrychwch yn y ffolder lawrlwythiadau ar eich cyfrifiadur).
Credoau am werth cynhenid a pherthynol byd natur: sut maent yn cydberthyn ag ymddygiad cynaliadwy yn y Deyrnas...
Mae negeseuon cyhoeddus yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau i annog ymddygiad cynaliadwy (h.y. ymddygiad o blaid yr amgylchedd), gan gynnwys pwysleisio gwerth cynhenid natur (gwerth natur y tu hwnt i’w defnyddioldeb i bobl) a gwerth perthynol natur (gwerth perthynas pobl â natur). Yn yr astudiaeth hon, rydym yn cyflwyno canlyniadau arolwg o oedolion yn y Deyrnas Unedig (n = 499) a gwblhaodd holiaduron a oedd yn adlewyrchu gwerth cynhenid natur (credoau gwerth cynhenid a gwerthoedd biosfferig) a dau a oedd yn adlewyrchu gwerth perthynol natur (cysylltedd â natur ac empathi tuag at natur). Adroddodd y sampl eu bod yn cyflawni ymddygiad cost isel yn aml iawn (e.e. cymryd cawodydd byr), ymddygiad treuliant (consumption behaviour) yn llai aml (e.e. prynu cynnyrch gyda llai o ddeunydd pecynnu), ac ymddygiad ymrwymedig yn anaml iawn (e.e. cymryd rhan mewn gwaith cadwraeth). Nid oedd unrhyw newidyn yn darogan ymddygiadau cost isel. Canfuwyd bod gwerthoedd biosfferig a chysylltedd â natur yn darogan ymddygiadau treuliant. Dim ond y credoau gwerth perthynol (cysylltedd ac empathi) a oedd yn darogan ymddygiad ymrwymedig. Mae goblygiadau i’r canlyniadau ar gyfer cyflwyno negeseuon amgylcheddol o safbwynt gwerth cynhenid a pherthynol natur. Gwneir argymhellion ar gyfer gwaith yn y dyfodol yn y maes hwn.
Canllawiau Adolygu Mathemateg TGAU
Canllawiau adolygu a ddarparwyd yn garedig iawn gan Goleg Gwent i gynorthwyo myfyrwyr a dysgwyr sy'n eistedd arholiad TGAU Mathemateg. Ceir pecyn ar gyfer yr haen sylfaenol a phecyn ar gyfer yr haen ganolradd. Diolch i Goleg Gwent am rannu'r pecynnau.
Dewisa Lefel A Cymraeg: Ymgyrch ac adnoddau
Ymgyrch a ariennir gan Lywodraeth Cymru yw Dewisa Lefel A Cymraeg sy'n ceisio annog rhagor o ddysgwyr ifanc i astudio Lefel A Cymraeg drwy ddarparu adnoddau hyrwyddo i godi ymwybyddiaeth o’r manteision di-ben-draw sydd gan yr iaith i fywyd academaidd, gwaith a chyfleoedd diwylliannol. Mae gan yr ymgyrch, a lansiwyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru, gynnwys y gall athrawon ac ysgolion ei ddefnyddio fel ffordd o ennyn diddordeb dysgwyr, rhieni a gofalwyr yn y Gymraeg drwy’r canlynol: Tynnu sylw at y ffaith bod Lefel A Cymraeg yn agor drysau i gyfoeth o lwybrau prifysgol Pwysleisio’r amrywiaeth o yrfaoedd a diwydiannau lle mae’r Gymraeg yn sgil gwerthfawr iawn Rhoi cipolwg ar ehangder ac amrywiaeth cwricwlwm Lefel A Cymraeg Arddangos Lefel A Cymraeg fel pwnc modern, creadigol a pherthnasol Gwahodd dysgwyr i ymuno â chymuned lewyrchus o siaradwyr Cymraeg sy’n angerddol am eu diwylliant, eu treftadaeth a’r iaith Mae'r adnoddau yn cynnwys: Cynnwys gweledol: instazines, cardiau proffil, dyfyniadau, negeseuon holi ac ateb, negeseuon chwilio Fideos Posteri amrywiol Asedau cyfryngau cymdeithasol (GIFs) Pecyn cymorth athrawon Gellir defnyddio a rhannu'r adnoddau yn ddigidol neu mewn print, ar y cyfryngau cymdeithasol neu drwy eu hymgorffori mewn cyflwyniadau a phrospectws. Mae'r holl gynnwys ar gael yn ddwyieithog i'w lawrlwytho drwy'r ddolen Dropbox isod. I gael rhagor o wybodaeth am yr ymgyrch neu am y Gymraeg fel pwnc yn gyffredinol, cysylltwch â Dr Ffion Eluned Owen, Swyddog Hyrwyddo’r Gymraeg fel Pwnc y Coleg: ff.owen@colegcymraeg.ac.uk.
Astudiaethau Achos JISC: Cydweithio Digidol yn y Sector Ôl-16
Mae Jisc yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru i yrru Digidol 2030 ymlaen, sy'n ceisio gweld darparwyr dysgu yng Nghymru yn harneisio potensial technoleg ddigidol wedi'i seilio ar egwyddorion arloesi, cydweithio, cydgynhyrchu a phartneriaeth gymdeithasol. I gefnogi hyn, mae Jisc wedi dod o hyd i chwe enghraifft o fentrau cydweithredol llwyddiannus gan ddefnyddio offer a thechnoleg ddigidol mewn dysgu ac addysgu ôl-16 yng Nghymru. Amlinellwyd y ffactorau llwyddiant allweddol ar gyfer yr astudiaethau achos hyn a dangos lle gellid cynyddu pob dull cydweithredol neu ei fod yn fuddiol mynd i'r afael â materion neu bynciau penodol. Yn gyffredinol, mae'r astudiaethau achos hyn yn cynnig cipolwg ar y posibiliadau cyffrous a agorir trwy gydweithio o fewn ac ar draws sectorau, wedi'u galluogi gan dechnoleg ddigidol, pan fydd partneriaid mewn cydweithrediad yn rhannu gweledigaeth gyffredin a dull cynaliadwy. Themâu allweddol sy'n cefnogi uchelgeisiau digidol Cymru Gellir ystyried yr astudiaethau achos fel enghreifftiau o'r pedair blaenoriaeth genedlaethol allweddol a amlinellir yng ngalwad Llywodraeth Cymru i weithredu ar gyfer sefydliadau AB ym mis Rhagfyr 2022: Gweithio ar y cyd i ehangu mynediad at gyfleoedd dysgu Datblygu galluoedd digidol dysgwyr a staff a hyder ar gyfer dysgu, bywyd a gwaith Manteisio i'r eithaf ar botensial technoleg i rymuso, ennyn brwdfrydedd ac ysbrydoli dysgwyr Ymgorffori dulliau ystwyth, gwydn a chynaliadwy o gyflawni Astudiaethau achos Mae'r chwe astudiaeth achos yn cwmpasu colegau ledled Cymru a chydweithrediadau ar draws AB a chyda chweched dosbarth, AU, dysgu seiliedig ar waith a dysgu cymunedol (gweler Atodiad 1). Mae'r offer a'r dechnoleg ddigidol a ddefnyddir yn amrywio o ystafelloedd dosbarth rhithwir a thechnoleg realiti rhithwir i apiau a llwyfannau cydweithredu fel Microsoft Teams. Yn gryno, mae'r astudiaethau achos yn cynnwys: Diemwntau Digidol: cymuned ymarfer yng Nghymru sy'n helpu ymarferwyr a rheolwyr i ddarparu Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW) ar draws addysg a hyfforddiant ôl-16. Educ8 a CEMET (Prifysgol De Cymru): datblygu adnoddau realiti rhithwir ar gyfer dysgu seiliedig ar waith drwy ddull cydweithredol gydag AU a chyflogwyr. Growing Comms: Gosod mannau dysgu gweithredol cysylltiedig mewn Addysg Uwch ac AB trwy gydweithredu traws-sector, gydag effeithiau cadarnhaol cryf ar ddysgwyr. St David's WeConnect: cydweithio rhwng y chweched dosbarth i ddarparu cwricwlwm ehangach drwy ystafelloedd dosbarth rhithwir. Target Tracker: colegau yn cydweithio i ddatblygu offer digidol i gefnogi dysgwyr ag anghenion ychwanegol. Urdd Gobaith Cymru a Chynllun Gwreiddio (Coleg Cymraeg Cenedlaethol): datblygu sgiliau Cymraeg drwy ddysgu ar y cyd i brentisiaid a staff addysgu.
Stori Fer: Pwy Fyth a Fyddai'n Fetel? (Adnoddau)
Adnoddau adolygu'r stori fer 'Pwy Fyth a Fyddai'n Fetel?' gan Mihangel Morgan (o'r gyfrol Saith Pechod Marwol), sef un o'r straeon byrion ar fanyleb Cymraeg Ail Iaith UG/Safon Uwch (U2 Uned 6: Defnyddio Iaith a'r Stori Fer). Adnoddau yn cynnwys: Animeiddiad fideo o'r stori (gyda a heb isdeitlau) Darlith Fideo a chyflwyniad PowerPoint gan Yr Athro Tudur Hallam yn trafod y stori 'Pwy Fyth a Fyddai'n Fetel?' Darlith Fideo a chyflwyniad PowerPoint gan Yr Athro Tudur Hallam yn sôn am eirfa ac ymadroddion defnyddiol i'w defnyddio wrth drafod y stori fer Adnoddau wedi eu creu gan Adran y Gymraeg, Prifysgol Abertawe, o dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
