Gwefan Addysgwyr Cymru sy'n cynnwys manylion am y gwahanol yrfaoedd sydd ar gael mewn: Ysgolion Addysg Bellach Dysgu Seiliedig ar Waith Gwaith Ieuenctid Addysg Oedolion Hyrwyddwyr Addysg
Dylunio a datblygu eich ymarfer dysgu cyfunol
Mae’r rhestr chwarae yma yn cynnwys 5 cwrs ar-lein ar gyfer ymarferwyr addysgu ôl-16 i archwilio’r defnydd o fodelau a damcaniaethau technoleg dysgu i’w helpu i ddatblygu eu dulliau dysgu cyfunol. Mae’r cyrsiau byr hyn wedi’u cynllunio mewn modd hyblyg i’ch galluogi i ‘blymio i mewn ac allan’. Mae’r cyrsiau wedi’u datblygu gan arbenigwyr Jisc, yn dilyn argymhellion gan Estyn, ac wedi’u hariannu gan Lywodraeth Cymru.
Pecyn Cefnogi Tiwtoriaid Addysg Bellach
Cynlluniwyd yr adnoddau hyn i gynorthwyo tiwtoriaid i feithrin eu sgiliau addysgu dwyieithog a chynyddu eu hymwybyddiaeth o Gofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR) a’r set ddata LA26. Defnyddir y set ddata i gofnodi darpariaeth Gymraeg a dwyieithog yn y sector addysg ôl-16 yng Nghymru. Nod yr adnoddau yw rhoi hyder i diwtoriaid yn y ffordd y cofnodir gweithgarwch a gwblhawyd yn y Gymraeg neu’n ddwyieithog ar y LLWR, a’u helpu i ganfod ble mae eu darpariaeth ar hyn o bryd. Fe’u cynlluniwyd hefyd i roi cyngor ymarferol i diwtoriaid ar sut i symud eu haddysgu i fyny’r continwwm dwyieithrwydd. Mae’r pecyn yn cynnwys: Llawlyfr - dogfen waith y gellir ei defnyddio i gyfeirio ati, yn ogystal ag i sefydlu targedau personol penodol ar gyfer cynyddu’r ddarpariaeth Gymraeg/dwyieithog. Cwrs e-ddysgu ar-lein - Deall Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR). Mae’r modiwl dysgu ar-lein rhyngweithiol hwn yn rhoi trosolwg o Gofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR) a sut y caiff ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru i gofnodi darpariaeth Gymraeg a dwyieithog yn y sector addysg ôl-16 yng Nghymru. Ap geirfa ddwyieithog Sgiliaith - ‘Ap Adborth Sgiliaith’ - Yn yr ap hwn ceir ystod eang o eiriau ac ymadroddion cyffredinol y gall tiwtoriaid eu defnyddio i roi adborth a phrofiadau Cymraeg/ dwyieithog i ddysgwyr. Mae dolenni i'r adnoddau ar gael isod ac maent hefyd ar gael ar wefan Sgiliaith sgiliaith@gllm.ac.uk
Adnoddau E-Ddysgu Consortiwm Addysg Ôl-16 Gwynedd ac Ynys Môn
Cyfres o adnoddau rhyngweithiol dwyieithog e-ddysgu ar y pynciau isod: Manteision astudio Gofal Plant trwy’r Gymraeg neu’n Ddwyieithog Manteision astudio Adeiladwaith trwy’r Gymraeg neu’n Ddwyieithog Manteision astudio Busnes trwy’r Gymraeg neu’n Ddwyieithog Manteision astudio Arlwyaeth trwy’r Gymraeg neu’n Ddwyieithog Ailsefyll Mathemateg TGAU Ailsefyll Cymraeg TGAU Peirianneg Lefel 3 Cerddoriaeth Lefel A Ffrangeg Lefel A TGCh Lefel AS
Dyfrffyrdd a Bywyd Gwyllt: Rheoli ein hamgylchedd naturiol
Adnodd ar wefan Hwb ar gyfer gwirfoddolwyr a gweithwyr proffesiynol sydd â diddordeb mewn rheolaeth amgylcheddol yw hwn. Gan ddefnyddio erthyglau nodwedd a gwybodaeth allweddol am gamlesi Cymru a thu hwnt, mae’r llawlyfr hwn yn gyflwyniad i gynefinoedd a bywyd gwyllt glan dŵr.
Peiriannau Fferm
Mae’r adnodd hwn, o wefan Hwb, yn addas ar gyfer dysgwyr ôl 16 Amaethyddiaeth, garddwriaeth a gofalu am anifeiliaid, yn amlygu pwysigrwydd deddfwriaeth peiriannau ar y fferm. Mae’n dangos egwyddorion gweithio a pharatoi peiriannau, yn edrych ar eu heffaith amgylcheddol, ac yn rhoi enghreifftiau o ddulliau o ofalu am beiriannau ar ôl gweithio gyda nhw fel nad ydyn nhw’n dirywio.
Gwyddor Anifeiliaid
Mae’r adnodd hwn o wefan Hwb, yn addas ar gyfer dysgwyr Amaethyddiaeth, garddwriaeth a gofalu am anifeiliaid, yn dangos strwythur a swyddogaethau organau anifeiliaid fferm. Mae’n amlygu pwysigrwydd eu systemau biolegol a’r gwahanol ddulliau bridio a thechnolegau atgenhedlu ar y fferm.
Echelgais
Adnodd cyfrwng Cymraeg ar wefan HWB sy'n canolbwyntio ar 6 maes; Amaethyddiaeth, Busnes, Drama, Twristiaeth a Hamdden, Iechyd a Gofal a Blynyddoedd Cynnar a'r Cyfryngau.
Cynhyrchiant Cig Eidion
Mae'r adnodd rhyngweithiol hwn wedi ei gynllunio i roi gwybodaeth am gynhyrchiant cig eidion ar draws y byd. Mae'r cynnwys wedi eu rannu mewn i wahanol unedau sy'n canolbwyntio ar agweddau gwahanol o gynhyrchiant cig eidion. Mae'r unedau'n cynnwys nodiadau myfyrwyr, nodiadau i athrawon, gweithgareddau a fideos.
Sesiynau Adolygu Carlam Cymru
Recordiadau o sesiynau adolygu mewn gwahanol feysydd a gomisiynwyd gan e-sgol ar gyfer myfyrwyr TGAU, Uwch Gyfrannol a Safon Uwch yn ystod 2021. Ceir sesiynau adolygu TGAU ar y pynciau: Mathemateg Cymraeg Cymraeg Ail Iaith Bioleg Ffiseg Cemeg Hanes Daearyddiaeth Ceir sesiynau adolygu UG ar y pynciau: Mathemateg Cymraeg Bioleg Ffiseg Cemeg Hanes Daearyddiaeth Ceir sesiynau adolygu safon uwch ar y pynciau: Mathemateg Cymraeg Bioleg Cemeg Hanes Daearyddiaeth Seicoleg
Fideos Rhannu Arfer Dda
Dyma gyfres o fideos o ddarlithwyr addysg bellach a darparwyr prentisiaethau yn rhannu arfer dda ynglŷn â hyfforddi, addysgu ac asesu trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn ddwyieithog beth bynnag fo'ch sgiliau iaith Gymraeg.
Ffocws ar Ddiwydiant: Adeiladu
Mae’r casgliad hwn yn cynnwys sgyrsiau a recordiwyd â chyflogwyr adeiladwaith amlwg yng Nghymru. Mae’r sgyrsiau yn cynnwys cyflwyniadau i’r sector adeiladu a’r dulliau amrywiol a ddefnyddir wrth ddatblygu strwythurau newydd a diogelu hen adeiladau. Nod y casgliad hwn yw cefnogi ysgolion a cholegau a fydd yn addysgu cymwysterau TGAU a Sylfaen newydd mewn adeiladu, a fydd ar gael i’w haddysgu o fis Medi 2022. Mae’r gweminarau oddeutu 20 munud o hyd yn dilyn cynnwys y ddau gymhwyster adeiladwaith newydd. Rhennir gwybodaeth dechnegol am y maes a chyflwynir y diwydiant adeiladu’n fyw yn yr Ystafell ddosbarth neu’r coleg drwy gyfeirio at brosiectau go iawn sydd ar y gweill neu wedi’u cwblhau’n ddiweddar. Paratowyd y gweminarau hyn mewn cydweithrediad â CITB Cymru.