Nod yr adnodd hwn yw cyflwyno ymwybyddiaeth iaith mewn iechyd a gofal i fyfyrwyr addysg uwch ac ymarferwyr proffesiynol. Ei brif amcan yw meithrin hyder myfyrwyr i ddefnyddio eu Cymraeg gyda chleifion a chydweithwyr yn y GIG. Datblygwyd yr adnodd hwn ar gyfer myfyrwyr addysg uwch (lefel 4+) sydd yn astudio unrhyw bwnc iechyd a gofal ac yn bwriadu mynd ymlaen i ddilyn gyrfa yn y maes. Mae hefyd yn addas ar gyfer ymarferwyr proffesiynol a gellir ei ddefnyddio fel rhan o ddatblygiad proffesiynol parhaus. Ac eithrio Uned 1, mae pob uned yn dilyn llwybr claf penodol er mwyn dangos sut mae gwahanol broffesiynau yn cydblethu ac yn cael effaith ar brofiad y claf neu ddefnyddiwr gwasanaeth. Gellir gweithio drwy’r pecyn cyfan yn ôl ei drefn neu ddewis a dethol unedau penodol. Mae modd addysgu’r unedau yn yr ystafell ddosbarth neu eu hastudio’n annibynnol. Mae rhan fwyaf o’r unedau yn cyflwyno geiriau, ymadroddion a therminoleg Cymraeg i’w defnyddio gyda chleifion a staff. Er y bydd yr eirfa hon yn gyfarwydd i fyfyrwyr sydd eisoes yn siarad Cymraeg, fe’u hanogir i ystyried sut i rannu a dysgu’r eirfa i’w cyfoedion. Yn sgil hyn, mae’r cynnwys hwn yn addas i bob myfyriwr, beth bynnag fo’u gallu Cymraeg.
Mwy na Geiriau: Cyfathrebu mewn Iechyd a Gofal
Astudiaethau Achos Gofal Plant: Cynnwys Pob Plentyn
Mae’r adnodd hwn wedi ei baratoi ar gyfer dysgwyr sy’n astudio ar gyfer cymhwyster Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu, a Datblygiad Plant: Ymarfer a Theori ac Uned 001 Egwyddorion a Gwerthoedd Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant (0-19 oed) yn benodol. Caiff rhai o’r egwyddorion mawr sy’n sail i Uned 001 eu cyflwyno drwy astudiaethau achos, hynny yw 4 stori am blant bach sy’n mynychu darpariaeth plentyndod cynnar, fel cylch meithrin neu feithrinfa. Dyma nhw: Deio sy’n 3 oed ac mae ganddo epilepsi. Hanna sy’n 4 oed ac mae ganddi diabetes. Eshaal sy’n 3 oed ac mae ganddi alergeddau. Caio sy’n dair a hanner oed ac mae ganddo awtistiaeth. Mae’r astudiaethau yn cynnig golwg ar y plant drwy lens themâu sy’n berthnasol i Deio, Hanna, Eshaal, a Caio – ac i bob plentyn mewn gwirionedd. Y themâu hyn – yr egwyddorion mawr - yw: Hawliau plant Cynhwysiant Cyfle cyfartal Y peth pwysicaf, wrth gwrs, mewn unrhyw ddarpariaeth yw sicrhau bod pob plentyn yn saff, ond ni ddylai cyflyrau’r plant amharu ar eu hawl i gael hwyl, i ddysgu, i fwynhau cwmni plant eraill, i anturio yn yr awyr agored... Caiff yr egwyddorion mawr hyn eu fframio mewn deddfwriaeth megis: Deddf Plant 1989 a 2004, Deddf Cydraddoldeb 2010, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Ac mae polisïau a chanllawiau megis Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn a Saith Nod Craidd Llywodraeth Cymru. Bydd rhain yn llinyn aur drwy’r 4 astudiaeth achos ac maen nhw’n berthnasol i Deio, Hanna, Eshaal, a Cai ac eto dyma bwysleisio, eu bod yn bwysig i bob plentyn.
Cynhadledd Wyddonol 2023
Bwriad y gynhadledd yw rhoi llwyfan i ymchwil wyddonol flaenllaw gan wyddonwyr Cymraeg. Mae rhoi’r cyfle i wyddonwyr drin a thrafod y Gwyddorau drwy gyfrwng y Gymraeg yn greiddiol i’r Coleg ers ei sefydlu ac mae’r gynhadledd yn mynd o nerth i nerth. O ddylunio cyffur newydd i drafod micro-blastig, mae’n gyfle i ni drin a thrafod amrywiol destunau o fewn y Gwyddorau. Eleni, mi fydd y gynhadledd yn un hybrid ac yn cael ei chynnal yn Ystafell y Cyngor, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ar Ddydd Iau 15fed Mehefin 2023. Cynhelir y gynhadledd yn y Gymraeg ac mi fydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gael. Mae croeso cynnes i bawb sy’n ymddiddori yn y gwyddorau i gofrestru ar gyfer y gynhadledd drwy ddilyn y ddolen isod. Bydd opsiwn i ddatgan a ydych am ymuno â ni wyneb yn wyneb neu ar-lein. Galwad i gyfrannu Gofynnir am bapurau o unrhyw ddisgyblaeth wyddonol (STEM). Croesawn gyflwyniadau gan fyfyrwyr ôl-radd, neu ymchwilwyr gyrfa gynnar, yn ogystal ag academyddion profiadol. Bydd y cyflwyniadau yn 20 munud o hyd gyda 10 munud o gwestiynau gan y gynulleidfa i ddilyn Yn ogystal, anogir cyfranwyr i gyflwyno erthygl i'w hystyried ar gyfer ei chyhoeddi yng nghyfnodolyn ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, sef Gwerddon (www.gwerddon.cymru). Gallwch weld enghreifftiau o gyflwyniadau’r gorffennol yma: https://www.porth.ac.uk/cy/collection/cynhadledd-wyddonol-2019 https://www.porth.ac.uk/cy/collection/cynhadledd-wyddonol-2021 Gofynnir i bawb sy’n dymuno cyflwyno yn y gynhadledd ddarparu teitl a chrynodeb o’u herthygl (nid mwy na 300 gair) at l.rees@colegcymraeg.ac.uk erbyn 24 Mawrth 2023. Yn ôl ein harfer, byddwn yn recordio’r cyflwyniadau a’u huwchlwytho i’r Porth Adnoddau. Cystadleuaeth Posteri Dylai’r poster fynegi syniad gwyddonol trwy gyfrwng y Gymraeg. Gellir defnyddio poster sydd eisoes wedi cael ei greu yn barod fel rhan o fodiwl. Bydd dwy gystadleuaeth poster; un i fyfyrwyr israddedig ac un i fyfyrwyr ôl-raddedig. Bydd gwobr o £50 yr un i enillwyr y ddau gategori.
Echelgais
Adnodd cyfrwng Cymraeg ar wefan HWB sy'n canolbwyntio ar 6 maes; Amaethyddiaeth, Busnes, Drama, Twristiaeth a Hamdden, Iechyd a Gofal a Blynyddoedd Cynnar a'r Cyfryngau.
Gwefan myf.cymru
Mae myf.cymru yn brosiect iechyd meddwl a llesiant trwy gyfrwng y Gymraeg i fyfyrwyr, sydd wedi creu gwefan o'r un enw. Mae'r adnoddau wedi eu creu mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor, Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Grŵp Llandrillo Menai. Ar y wefan, cewch gynnwys gwreiddiol gan fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith a hefyd adnoddau am iechyd meddwl sydd wedi'u hadolygu gan therapyddion Cymraeg eu hiaith. Mae myf.cymru wedi gweithio mewn partneriaeth gyda'r rhaglen MOIMR i gyfieithu eu ap i'r Gymraeg. Yn llawn adnoddau defnyddiol ac ymarferol i'ch cefnogi ar eich adferiad, a bydd o gymorth i unrhyw un lywio heriau bywyd o ddydd i ddydd. Yn ogystal, ceir podlediad o'r enw ‘Sgwrs?’ sydd yn trafod materion sydd yn effeithio ar fyfyrwyr heddiw.
Cynhadledd Undydd: 'Heddwch ac Iechyd'
Bydd Academi Heddwch Cymru’n cynnal cynhadledd undydd (ar-lein) ar y thema Heddwch ac Iechyd – Mawrth 31ain 2022. Mewn partneriaeth â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Phrifysgol Aberystwyth, mae’r alwad am bapurau wedi denu cyfraniadau sy’n archwilio heddwch ac iechyd o sawl cyfeiriad. Drwy gydol y dydd bydd paneli’n trafod heddwch ac iechyd yng nghyd-destun e.e.: cynllunio trefol cynllunio iaith peirianneg dŵr llesiant grwpiau sydd wedi eu gwthio i’r cyrion creadigrwydd Siaradwyr agoriadol: Yr Athro Rowan Williams, Cadeirydd Academi Heddwch Yr Athro Colin McInnes, Prifysgol Aberystwyth
Gwyddorau Chwaraeon: Iechyd a Lles
Mae’r adnoddau hyn yn edrych ar iechyd a lles mewn chwaraeon. Ymhlith y deunyddiau ceir unedau ar fuddion gweithgarwch corfforol, gwydnwch, penderfynyddion iechyd, datblygiad corfforol cyfannol neu holistig, ymlyniad, gordewdra ymhlith plant a phobl ifanc, rheoli straen, a pholisïau addysg ym maes iechyd a lles. Mae pob uned yn cynnwys: crynodeb darlith ar ffurf cyflwyniadau fideo cwestiynau seminar llyfryddiaeth Cyfranwyr y thema hon yw: Dylan Blain Dr Lowri Cerys Edwards Seren Evans Dr Anwen Jones Dr Carwyn Jones Dr Julian Owen Dione Rose Catrin Rowlands Mae'r holl unedau a restrir isod hefyd i’w cael yma mewn un pecyn. Cynhyrchwyd y deunyddiau hyn â chefnogaeth Cronfa Adfer a Buddsoddi Addysg Uwch Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.
Cynhadledd Wyddonol 2022
I gyd-fynd â dathliadau deng mlynedd y Coleg Cymraeg, mae’r Gynhadledd Wyddonol hefyd yn dathlu deng mlwyddiant eleni. Bwriad y gynhadledd yw rhoi llwyfan i ymchwil wyddonol flaenllaw gan wyddonwyr Cymraeg. Mae rhoi’r cyfle i wyddonwyr drin a thrafod y Gwyddorau drwy gyfrwng y Gymraeg yn greiddiol i’r Coleg ers ei sefydlu ac mae’r gynhadledd yn mynd o nerth i nerth. O beirianneg i bysgod ac o gelloedd tanwydd i gorona’r Haul, mae’n gyfle i ni drin a thrafod amrywiol destunau o fewn y Gwyddorau. Dewch i Ganolfan Gynadleddau MedRus, Prifysgol Aberystwyth, ddydd Mercher 15 Mehefin 2022 i glywed yr amrywiol gyflwyniadau. Cynhelir y Gynhadledd yn y Gymraeg. Nia Jones, Prifysgol Bangor - Modelu gwasgariad microblastig o amgylch arfordir gogledd Cymru Iwan Palmer, Prifysgol Caerdydd - Canfod ac Ynysu Microplastigion: O’r Labordy i’r Dosbarth Abigail Lowe, Gardd Fotaneg Genedlaethol a Phrifysgol Bangor - Garddio i beillwyr: Defnyddio DNA paill i ddarganfod â pha blanhigion mae peillwyr yn ymweld Ben Walkling, Prifysgol Abertawe - A yw Tomenni Glo Cymru yn Risg Newydd? Owain Beynon, Prifysgol Caerdydd - Mesur Effeithiau Anharmonig Mewn Catalyddion sy’n Creu Tanwyddau Adnewyddadwy Fergus Elliott, Prifysgol Bangor - Synhwyro Di-wifr mewn Amgylcheddau Diwydiannol Manon Owen, Prifysgol Leeds - Archwilio Mecanweithiau Metformin ar Dyfiant Ffetws ac Iechyd Hir-dymor Cardiometabolig Ffetws Mari Davies, Prifysgol Caerdydd - Datblygu triniaeth arloesol ar gyfer clefydau storio lysosomal
Tregyrfa
Adnodd digidol sy'n cynnwys gwybodaeth am swyddi a chyfleoedd yn y maes iechyd a gofal yng Nghymru. Datblygwyd gwefan Tregyrfa gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC). Bwriad Tregyrfa yw rhannu gwybodaeamth am y cyfoeth o gyfleoedd gwaith sydd ar gael o fewn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a'r maes gofal.
Barod ar gyfer Prifysgol
Mae Barod ar gyfer Prifysgol yn hwb sy'n hawdd ei ddefnyddio, p'un a ydych ar fin symud ymlaen i addysg lefel prifysgol, neu'n cefnogi rhywun sy'n gwneud hynny - efallai fel rhiant, athro, gofalwr neu gynghorydd. Gallwch chwilio yn ôl pwnc – fel sgiliau astudio, llesiant ac iechyd meddwl, neu fywyd myfyrwyr – yn ôl sefydliad, ac yn ôl maes pwnc, fel y gallwch fod yn siŵr o fynd yn syth i'r adnoddau sydd eu hangen arnoch.
Addysgeg Dysgu ac Addysgu Dwyieithog yn y Cyfnod Normal Newydd
Dyma gyfres o adnoddau e-ddysgu rhyngweithiol a ddatblygwyd i gefnogi tiwtoriaid i fewnosod y Gymraeg ac addysgu'n ddwyieithog mewn amgylchedd dysgu ar-lein. Mae dewis o chwe uned gwahanol, ac mae pob uned tua awr o hyd. Addysgeg dysgu ac addysgu dwyieithog yn y cyfnod normal newydd Addysgeg dysgu ac addysgu dwyieithog ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn y cyfnod normal newydd Addysgeg dysgu ac addysgu dwyieithog ym maes Gofal Plant yn y cyfnod normal newydd Addysgeg dysgu ac addysgu dwyieithog ym maes Gwasanaethau Cyhoeddus yn y cyfnod normal newydd Addysgeg dysgu ac addysgu dwyieithog ym maes y Gymraeg fel sgil ar gyfer byd gwaith yn y cyfnod normal newydd Addysgeg dysgu ac addysgu dwyieithog ym maes Dysgu Oedolion yn y cyfnod normal newydd.
Cyflwyno'r Gymraeg: Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd
Casgliad o adnoddau i gefnogi addysgwyr sy’n dymuno cyflwyno mwy o Gymraeg wrth addysgu'r cwrs Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd yw’r adnodd hwn. Mae'r casgliad wedi'i greu er mwyn cefnogi addysgwyr wrth iddynt gynllunio a gosod gweithgareddau gwaith dosbarth neu dystiolaeth yn seiliedig ar sgiliau Cymraeg y dysgwyr. Mae’r casgliad yn cynnwys: • canllaw er mwyn esbonio sut mae defnyddio’r adnodd. • dogfennau 'Mapio’r Cyfleoedd i gyflwyno’r Gymraeg' fesul uned craidd. • cyfres o dasgau sy’n cwrdd â gofynion rhai o feini prawf penodol y cwrs. Maent yn dangos sut mae modd cael pob dysgwr i gyflawni’r un dasg, wrth ddatblygu eu sgiliau Cymraeg ar lefelau unigol a phriodol. • posteri dwyieithog gyda thermau allweddol ar gyfer pob uned. • adnodd sy’n darparu syniadau i ddysgwyr er mwyn ddefnyddio’r Gymraeg ar leoliadau gwaith. Gellir agor y dogfennau unigol isod neu mae modd lawrlwytho'r dogfennau i gyd mewn un pecyn zip fan hyn.
